Hide Articles List

10 articles on this Page

CWRS Y BYD.

News
Cite
Share

CWRS Y BYD. Marwolaeth Esgob. 'YR oedd cysylltiadan lied agos rhwng Dr. Wal- sham How, esgob Wakefield, yr hwn a fu farw wythnos i ddydd Mawrth, si, Chymru. Gwasan- aethodd fel rheithor yn y Dre Wen (Whitting ton), yn esgobaeth Llanelwy, o 1851 hyd 1879 ac yn mynwent y plwyf hwnw, yn gyfochrog a'i wraig a'i ferch, y rhoddwyd ef i orphwys wyth- nos i heddyw. Yn y cyfr-od hwnw efe oedd Deon Gwledig Croesoswalit, a llanwai gadair Llannefydd yn y Brifeglwys, Canghellydd Llanelwy, ac Archwiliwr Ysgolion Eglwysaidd yr Esgobaeth. Dyrcbafwyd ef oddiyma yn Esgob Bedford, ac felly daefch rhanau dwyrein- iota thylotaf Llundain o dan ei ofal. Cyflawn- odd waith yn y cwr hwnw a'i dyrchafodd yn marn y cyhoedd i fod yn un o'r esgobion goreu ar y faioc ac ar ffurfiad esgobaeth newydd Wakefield, penodwyd Dr. How i'r swydd er boddbad cyffredinol. Ganwyd ef yn Amwyth- ig yn 1823. Cyfansoddodd Esgob How iyfrau gwerthfawr, a bydd yr emynau a gyfaosoddodd fyw am oes- au lawer, megys y rhai canlynol sydd eisoes mor adnabyddus, ac i'w cael bron yn mhob ,casgliad diweddar o emynau Seisnig :— 0 Jesu, Thou art standing." This day at Thy creating word." Summer's suns are glowing." "The year is swiftly waning." Winter reigneth o'er thland." We give Thee but Thy own." God of mercy and of love." Lord, Thy children guide and keep." Canodd emyn tlws hefyd ar y Jiwbili diweddar, yr hwn a ddodwyd ar gau gan Syr Arthur Sullivan, a chanwyd Hawer arnynt. Tra yn ymdrochi lawer o flynyddau yn ol yn y Bermo, j bu agos iawn iddo foddi; ac y mae can yn ei waith yn desgrifio'r amgylchiad, tan y teitl The last bathe." Bedd Maesyplwm. YCHYDIG ddyddiau'n ol, yr oeddwn yn myned heibio bedd awdwr yr emyn, Mae'n llon'd y nefoedd, llon'd y byd, Llon'd uffera hefyd yw. Mae yno golofn hardd wedi ei chodi gan Ed- ward H, Jones of Liverpool," fel y dywedir a r waelod y wyneb Se-isoig. Mae hi'n sefyll yn ymyl gwal myiwent plwyf Llanrbaiadr yn Cimeirch, ac ar fi y llwybr. Os digwydd i ra, o'm (iarllenwyr lwybro trwy'r ardal hyfryd yn ystod yr wythnosau dyfodol o wyliau, a chrwydro, trowch o'r ffordd i dalu gwarogaeth i un nad oes odid addoldy Cymr..eg yn y byd heb fod rhai o'i hymnau yn cael eu canu ynddo yn awr ac eilwaith. Er mwyn y rhai na chant y fraint hono, dyma sy'n gerfiedig ar ochr Gymraeg y golofn :— Aneddle lonydd yr hyn oedd farwol o EDWARD JONES, x Bardd Maesyplwm. Ganwyd ef yn Nhanywatm, Prion. Mawrth 19, 1761. Bu farw yn Nghilcen, Rhagfyr 27, 1836, yn 7ry oed. A dilynir gan ddau onglyn o waith "John Owen, Lerpwl." Gwlad Newydd yr Aur. ac Emynau. SON am Emynau ac Emynwyr, mae hi braidd yn anffodus nad eHir gwneud fawr os dim defnydd mewn emynau o enw gwlad newydd yr aur- Klondike. Bu Peru o wasanaeth mawr i Mr W. Williams a'i gyd-emynwyr, canys y mae'n odli gyda byw, clyw, criw, dnw, gwyw, gwiw, rhyw, rhiw, syw, ac amryw eraill. Yr oedd yn hollol naturiol dweyd- Mwy gwerthfawr im' yw Na chyfoeth Peru, &c, Ond beth fedr hyd yn nod bardd wneud o Klon- dyke heb ei dori yn ddau mal hyn :— Mwy gwerthfawr na Klon- Dyke ydyw hon, &c. Dywed y dysgedigion mai mewn un version yn unig o'r Testament Newydd y digwydd y gair "Calvaria" neu "Calvary," a beth ddaethai o Emynwyr Cymru pe na. ddigwyddasai yn hwnw. Ymladd Duel. YN blygeiniol iawn bore Sul, bu dan uchelwr yn ymladd diwel yn Paris. Nai i frenin Itali oedd un, a Count Turin wrth ei enw a'r llall oedd y Tywysog Henry, wyr i frenin diweddaf Ffrainc, Louise Phillip. Arhos y cweryl ydoedd i'r olaf, yr hwn sydd yn drafaeliwr mawr ac yn ysgrifenu banes ei deithiau, ddifrïo byddin Itali yn Abys- sinia. yn un o'r ysgrifeniadau hyny. Gan na thynai ei eiriau yn ol, acnad ymddiheurai, mynai y Count Italaidd iddo ei gyfarfod ef mewn brwydr lawlaw-gl edd yn nghledd-yn ol yr hen ddull barbaraidd o benderfynu cwerylon sydd 1Iedi ei darostwng o drugaredd yn y wlad hon, ond yn parhau mewn bri yn llawer o wledydd y "Cyfandir. Cyfarfu'r ddau ynfyttyn ucheldras am dri o'r gloch boreu SuI; gyda'u cefnogwyr a buont yn ceisio cymeryd bywyd y naill y llall am yn agos i haner awr. Plygodd cleddyf y Tywysog Henry, ond rhoddwyd iddo un arall yn ebrwydd. Bu yno bum' round o gwbl; ac yn yr olaf, plan- odd y Count flaen ei gledd yn palfais ei wrth. ^lynebydd, a phe buasai wedi ei wthio drwch dimai yn mhellacb, buasai wedi ei ladd. Syrth- lodd y Tywysog ar lawr, ac oddiyno gofynodd 1 w wrtbwynebydd ysgwyd Haw ag ef, yr,hyn a Wnaeth yn union. Nid yw allan o berygl eto. Yr holl niwed gafodd y Hall ydoedd ysgryffinio cefn ei law. Dau grancwn ydynt, ac nid oes yr Un o'r ddau yn ben llathen ar faterion cyffredin, pen dyna'r farn am danynt. Mae eu hyraddyg- lad wedi pari llawer o ysgafnder yn mysg holl newyddiaduron y byd gwareiddiedig. Fe ddylid ?uF°P^lau y ddau yn eu gilydd ond rhaid ini eidio bod yn rhy Iawdrwm arnynt, nid oes rhyw awer o flynyddau er pan oedd hyn yn oddefadwy -yn y wlad hon. Dydd o Wyth Awr. MAE hi'n frwydr ddifrifol yn Lloegr rhwng cyf- alaf a llafur ar y cwestiwn hwn. Y peirianwyj (engineers) sydd yn awr yn yr ymdrech. Mae rhai o'r meistriaid wedi caniatau cais y dynioa mae eraill yn gwrtbod yn bendant tra y cau- odd eraill ohonynt eu gweithfeydd i fynu. Cyf- rifa y Mail fod yn awr 45,000 o ddfnion yn segur a dosrana bwy fel y canlyn :—Peirian- wyr, 17,500; yn effeithio ar 10,000 o gelfydd- vd wyr eraill heb fod yn perthyn i'r Undeb 7,500 llafurwyr difedr, 10,000. Fel rhyfel- oedd o natur arall, nid yr achos houedig ydyw gwir achos y gynen. Mae anfoddogrwydd yn ffynu rhwng y pleidiau er's cryn amser ac yn tueddbena at y frwydr a dywed y ddwyblaid mewn ffordd o siarad, "W aetb i ni ei chael hi allan yn awr na rhyw dro eto." Talwyd i'r dynion sydd eisoes naill ai yn sefyll allan neu wedi eu cloi allan y swm o 27,000p, ac yr oedd hyny y pedwerydd taliad er pan ddechreuodd y cythryfwl. Chwarel y Penrhyn. MAE rhyw gath yn nghwpwrdd pawb." Nid yw symudiad yr wyth awr wedi cynbyrfu neb yn Nghymru hyd y gwelais ond dal y mae an- nghydfod y Penrhyn mor gyndyn ag erioed. Taenwyd yr banes yr wythnos hon gan un o'r papyrau Saesneg sydd yn proffesu gwybod pob- peth a thipyn dros ben fod y pleidiau ar fin heddychu, a choeliodd amryw y chwedl. Ond y mae wedi ei wadu a'i ail ddweyd er hyny. Nid oes ond ceisio gobeithio fod hyny yn wir ond a barnu oddiwrth ymddygiad Argl. Pen- rhyn yn y misoedd aetb beibio, mae yn ao- hawdd credn yr egyr ef byth mo'r chwarel ond trwy orfod, neu ar y telerau a gynygiodd eisoes. Fe wnaethai ei arglwyddiaetb bost llidiart rhagorol.

-___ Cymro ar y Crogbren yn…

[No title]

Advertising

-__------_--Llythyr Watcyn…

.0:----Marwolaeth ofidus .March…

[No title]

Birkenhead.

Sefyllfa Llafur ■ yn ligogtecid…

Cwibnodion o Ddyffryn Maelor.