Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

NODYN I'R BONEDDIGESAU.

Advertising

DARWIN.

News
Cite
Share

DARWIN. ERBYN hyn y mae Darwin wedi dod yn enw ffasiynol. Sylwer yr oedd esgob yn cymeryd rhan yn nadorchuddiad ei gof- golofn yn Mwythig ddydd Mawrth. Esgob Italaidd, mae'n wir, sef esgob y Mwythig. Ond cafodd Darwin fedydd esgob Angli- canaidd Sefydledig yn y Gyngres Eglwysig, yn y Mwythig fyth, gan esgob Hereford. 4 Un o geidwaid drysau teml fawr y byd- ysawd oedd Darwin," meddai Dr. Percival yr adeg hono, "yn dangos i ni olygfeydd newydd, pob un ohonynt yn arwain i fynu at yr Orsedd Wen Fawr." Dyna fedydd esgob gwerth ei gael. Bu amser pan nad ysgydwai esgob na chiwrad law a Darwin. Posibl iawn fod ambell un o ddarllenwyr y Cymro yn cofio ymosodiadau dirmygus yr Esgob Wilberforce arno. Nid oedd Darwin yn enwog yr amser hono, nid oedd yn y ffasiwn. Dyogel i glerigwr oedd ei ffonodio, a bu Wilberforce yn saethu ato gyda'i wn clats. Creadur dir- mygus oedd u Soapy Sam," neu "Sam y Sebon." Gofynwyd iddo unwaith paham y'i gelwid yn "Soapy Sam." "Am fy mod yn gyffredin mewn dwfr poeth," meddai, ac yn cadw fy nwylaw yn lan." Yr oedd mwy o ddonioldeb yn yr atebiad hwn nag oedd o onestrwydd yn ei ymos- odiadau ar Darwin. Ond nid oedd Darwin, meddwn, yn y ffasiwn yr adeg hono, a'r unig beth allai esgob wneud ag ef oedd ei wawdio. Darwin yw'r gwyddonydd mwyaf welodd y wlad hon er dyddiau Newton. Mewn un peth y mae tebygrwydd nodedig rhyng- ddynt. Deddf dysgyrchiant oedd dar- ganfyddiad fawr Newton, a deddf dadblygiad I oedd dargantyddiad Darwin. Nis gall neb brofi bodolaeth y naill na'r Hall. Y cwbl eliir I wneud yw profi eu bod yn esbonio'r ffeith- iau. Nid Darwin oedd y cyntaf i ddargan- fod y syniad am ddadblygiad. Ond efe oedd y cyntaf i weithio'r syniad allan yn gyfundrefn ddealladwy, ac i awgrymu y llinellau ar ba rai yr oedd y dadblygiad wedi cymeryd lie. Hynod mor gyfyng i ni erbyn hyn yr ymddengys maes ei lafur. Cyfyngodd ei sylw i deyrnas bywyd. Ni cheisiodd rychwantu'r gagendor rhwng mater marw a bywyd. Tybiodd fodolaeth yr hedyn cyntaf o fywyd, a dilynodd dyfiant hwnw hyd nes cyrhaedd pinacl anrhydedd mewn dyn, arglwydd y gread- igaeth. Cymhwysir yr athroniaeth hon yn awr at bob adran o wybodaeth. Gwelir dad- blygiad mewn arferion cymdeithasol, egwy- ddorion gwleidyddol, nodweddion llenydd- ol, teithi barddoniaeth, a chyfundrefnau crefyddol. Darllener llyfrau Frazer, Mc- Lennan, ac F. B. Jevons, ac fe welir fel y mae ymsyniadaeth foesol, er engraipht, wedi dadblygu o hen arferion y "taboo," neu fel y mae y ddogma am aberth a sacra- ment wedi tyfu o syniadau a ffynant yn mysg llwythau anwaraidd mewn gwahanol ranau o'r ddaear. Nid gormod dweyd fod damcaniaeth Darwin wedi creu chwyldroad trwy holl gyrau byd y meddwl. Anhawdd enwi cymaint ag un wyddor nad yw'r gyf- undrefn Ddarwinaidd, i ryw raddau, wedi dylanwadu arni, Yn y Mwythig y ganwyd Darwin, Chwefror 12, 1809. Merch i Josiah Wedg- wood oedd ei fam. Addysgwyd ef yn y Mwythig, Edinburgh, a Chaergrawnt. Ond clogwyni coleg anian wnaethant ryfedd athrofa iddo ef. Yn Nghaergrawnt daeth i gyfarfyddiad a'r llysieuydd enwog Hens- low. Aeth allan i fordwyo yn y Beagle, un o longau rhyfel y wlad. Parhaodd y fordaith am bum' mlynedd, a chyhoeddodd Darwin lyfr o'i hanes. Dyma'r unig was- anaeth gwir fawr wnaeth llynges Prydain i'r byd. Cyhoeddodd ei Origin of Species yn 1859, a'i Descent of Man yn 1871. Dyna'i ddau brif waith. Digwyddodd peth lied ryfedd yn nglyn a'r cyntaf. Buasai Darwin er's blynyddoedd yn gweithio'n galed ar ei ddamcaniaeth, yn gwneyd ar- brawfiawdau, ac yn casglu ffeithiau, Yn 1844 tynodd allan amlinelliad o'i ddamcan- iaeth at ei wasanaeth ei hun. Oedai gy- hoeddi y naill flwyddyn ar ol y llall, oblegyd awydd i gasglu rhagor o ffeithiau. Ond yn 1858 derbyniodd draithawd oddi- wrth ei gyfaill Wallace, oedd yn gwyddona yn y Malay Archipelago, i'w ddarllen i'r Gymdeithas Linnseaidd. Er ei syndod, canfyddai fod Wallace yn awgrymu yr un ddamcaniaeth yn gymhwys ag yntau. Parodd hyn iddo gasglu ei nodiadau yn nghyd ar ffurf traethawd, yr hwn a ddar- llenwyd yn gyfamserol a'r eiddo Wallace i'r gymdeithas a nodwyd. Yr oedd Wal- lace yn y Malay Archipdago, a Darwin yn Lloegr, trwy efrydu'n ddiwyd a dyfal chwilio, wedi syrthio ar yr un eglurhad ar dyfiant bywyd a tharddiad rhywogaethau. Dyma un o'r cyd-ddigwyddiadau rhyfeddaf yn hanes ymchwil y meddwl dynol. Pan yn cair ar ddeg ar hugain oed (sylwed ein cyfeillion ieuainc ar hyn) ym- sefydlodd Darwin yn Down, sir Kent, ac ymroes,i efrydu. A beth feddyliech chwi oedd un o'r pynciau gymerodd mewn Haw? Dyma fe effaith pryfetach ar bridd. Cychwynodd gyfres o arbrawfiadau a sylw- adau. Gwyddai wrth gychwyn ei fod yn cydio mewn gorchwyl nas gallai ei gwbl- hau mewn llai na deugain mknedd o amser. Daliadd ati yn ddiwyd a dystaw, mis ar ol mis, a blwyddyn ar ol blwyddyn. Y tuallan yr oedd Sam y Sebon a mil- oedd o glepgwn cyffelyb yn cyfarth, a theirw Basan heb rifedi yn rhuo. Dim gwahaniaeth yn y byd. Yn mlaen mewn dystawrwydd yr elai Darwin gyda'i bridd a'i bryfaid genwair ac yn 1881 cyhoedd- odd ei Formation of Vegetable Mo uld through the Action of Worms, un o'r llyfr- au mwyaf dyddorol ysgrifenwyd erioed. Bu farw yn mhen ychydig fisoedd ar ol hyn, a chladdwyd ef yn Mynachlog West- minster. Ni phriddwyd erioed gymeriad prydferthach. Cododd o ddinodedd, ac ymladdodd ei ffordd trwy for o wawd ac anfri, ac anmharch, i deml anrhydedd ac anfarwoldeb, ac edrychir ar Charles Darwin heddyw fel un o wyddonwyr blaenaf y byd. o:

[No title]

Advertising