Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Nodion o Fon ac Arfon.

--:0:— Ar Ffnion y Ddyfrdwy.

[No title]

Tom Ellis a'r Esgob eto.

--0--Cohebiaethau.j

[No title]

- Colofn Dirwest.

Ficer y Rhos yn owyno.

News
Cite
Share

Ficer y Rhos yn owyno. YN nghyfarfod Cymdeithasau Esgobaeth Llanelwy, gynaliwyd y dydd o'r blaen, gofynodd y Parch T. Pritchard, ficer Rhosllanerchrugog, am iddynt roddi iddo ddau gurad yn lie un fe! yn awr. Gwrthodwyd y cais am nad oedd y gronfa yn can- iatau, meddir. Wrth sylwi ar hyn, dywed y ficer :0 glerigwyr, un sydd, ac un yn unig sydd wedi bod yn ystod y pedwar mis diweddaf, ac yn 01 pob ihagolwg rhaid boddloni ar yr un hwnw am chwech wythnos arall. Pwy sy'n malio fod ganddo ei ddeg gwasanaetb bob wythnos, ysgolion, a phlwyf enfawr o 8,000 o boblogaeth gyda'u han- hawsderau amrywiol a lluosog. neu fod Sul rhydd a seibiant clerigwr yn bethau hollol ddyeithr iddo? Fe ddichon y caiff gurad yn y man, ond y mae codi cri am ail gurad fel codi cri am y lleuad. Druan o'r Rhos Yn y cyfamser, bydd iddo barhau i wneud a all dros yr Eglwys a'r plwyf, a mwynhau gwyn. fydedd y rhai nad ydynt yn disgwyl dim." Heddyw (dydd Iau) agorir cyngres flynyddol y Gymdeithas Hynafiaethol Brvdeinig yn Nghonwy, a pharha am wythnos. Bydd y Maer a'r Gorphor. aeth yn croesawu'r aelodau, ac yn yr hwyr cynelir ymgomwest gyda hwy yn y Plas Mawr. j Gwerthwyd tafarndy'r Rainbow, Wyddgrug, yn nghyda'r tir cysylltiol g ef, yr wythnos ddiwedd- af i Mri W. a J. Jones, Gwrecsam, am 1,410p. Rhaid i gatrawd o filwyr dalu 20p am wersyllu ar Forfa Oonwv. Penderfynwyd hyn yn nghyfar- fod diweddaf Cynghor y dref. Cigau gwir Gymreig o bob math. i'w cael yn ddyddiol am brisiau rhesymol yn Siop OOED Y BRAIN, 17 Deane Street, gyferbyn a. Marchnad St. I John.

Advertising