Hide Articles List

9 articles on this Page

Nodion o Fon ac Arfon.

--:0:— Ar Ffnion y Ddyfrdwy.

[No title]

Tom Ellis a'r Esgob eto.

--0--Cohebiaethau.j

[No title]

- Colofn Dirwest.

News
Cite
Share

Colofn Dirwest. Yr ydych yn camgymeryd, Cyfarwyad, ddweyd yn y Gwreichion diweddaf mai dyn yw'r unig greadur sy'n myn'd ar ei spri." Y mae gan rai o'r anifeiliaid llai rhesymol (nid di-reswm) awch enbyd am y ddiod feddwol. Ami i geffyl, er eng- raipht, yn y wlad nad aiff byth heibio tafrrn neill- duol heb fwydo'i gorn yr un fath a chyda'r un ddiod a'i feistr. Ceir ambell gi, wedi gwybod ei flas gan hurtyn creulon oedd eisiau cael testyn chwerthin, yn myn'd i'w gyt cyn feddwed a'i ar. glwydd. Y mae cockroaches a thrychfilod tebyg yn rhemp am dano, a miloedd ohonynt yn syrthio'n ebyrth ac yn meirw'n feddwon bob blwyddyn. Anwybodaeth a diffyg dyfais ydyw'r unig reswm fod yr anifeiliaid cyatal dirwestwyr. Ein hunig ddyogelwch ni a'a perthynasau ydyw peidio gwy- bod am hudoliaeth ei flas. Y mae Temlyddiaeth Dda wedi gwneud cynydd dirfawr yn Ysgotland y blynyddau diweddaf. Ac mae gofyn iddynt oblegyd gresyn gweled cynifer o genedl y ceirch yn dyfetha eu nerth a'u hoywder gyda ffrwyth yr heidden. Y mae Canon Hicks, un o bleidwyr galluog dir. 'west yn yr Eglwys Sefydledig, yn ysgrifenu'n gryf i'r newyddiaduron ar ddamaedigaebh plant trwy'r diodydd meddwol. Rhydd engreiphtiau o'r dull llechwraidd arferir gan dafarnwyr i hudo'r rhai bychain i'w tai. Y Sul diweddaf, meddai, gwel- wyd plant yn dod allan o dafarnau gan gnoi mel- usion roddasid iddynt gan y tafarnwr neu ei was, Ac nid yw hyn ond peth cyffredin yn yr holl drefi mawrion. Rhoddir y melusion, pethau chwareu, &c., i'w oynwys i gario diod i'w cartrefi. Ac y mae'r ddyfais yn Ilwyddianus ofnadwy. Yn Cheet- ham, Manchester, brydnawn Sul, gwelwyd 180 o blant o 7 i 11 oed yn dod allan o ddwy dafarn rhwng 12 30 a 2.30. Yn Ancoats, drachefn, y Sul cynt, rhwng 6.15 a 10 o'r gloch, aeth cynifer a 275 o blant tan 12 oed i mewn i un dafarn. Dyma.'r wedd hacraf ar fywyd yn y trefi mawr- ion ydyw plgnt a rhieni yn heigio fewn ac allan o'r tafarnau. 'Docs ryfedd weled ambell ddiwyg- iwr tanllyd yn colli ei hunanfeddiitnt ac yn ei dweyd yn haHt am Senedd ac Eglwys gan mor gy. surus a difraw y maent yn gallu bod yn ngwyneb pethau fel hyn. Y mae Pwyllgor Gwyliadwriaethol Manchester wedi cyfarwyddo'r prif-gwnstabl i chwilio a dwyn adroddiad iddynt pa mor helaeth y mae'r arferiad hon o ddenu plant yn ffynu yn y ddinas. Y mae tystiolaeth Mr Donald Maclean, cyfreith- iwr o Gaerdydd, gerbron y Ddirprwyaeth Drwydd- edol yn werth sylw, gan mor wahanol ydyw i I dvstiolaeth Mr Laseelles Carr, gol. y Western Mail, am effeithiau Mesur Cau Tafarnau ar y Sul yn Nghymru. Yr oedd dylanwad cyffredinol y Mesur, ebai Mr I Maclean, yn ddaionus. Yr oedd meddwdod wedi lleihau. Yr oedd yr heddweis wedi rhoddi lawr felldith v ffug glybiau hefyd. Yr aahawsder mawr oedd gyda'r shebeens. Yn 1892, erlynodd Prif- gwnstabl Caerdydd 360 o'r lleoedd hyn, ac euog- fa,rnwyd 340. Oherwydd gwyliadwriaeth fanylach yr heddgeidwaid, lleihaodd yr euogfarniadau cyn ised erbyn hyn a 85. Ffynai shebeening mewn rhan neillduol o'r dref, lle'r oadd y boblotjaeth o'r dosbarth isaf, Yr oedd barn gyffredin trigolion Caerdydd o blaid parhau y Ddeddf, gyda mwy o fanylwch nag o'r blaen. Gadawodd Mr James Parrott, Blackpool, 500p yn ei ewyllys at waith yr United Kingdom Alli- ance.

Ficer y Rhos yn owyno.

Advertising