Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Nodion o Fon ac Arfon.

--:0:— Ar Ffnion y Ddyfrdwy.

[No title]

Tom Ellis a'r Esgob eto.

--0--Cohebiaethau.j

News
Cite
Share

--0-- Cohebiaethau. CYNLLUN YSGOL HOWELL. SVR,-Ma.e'r ohebiaeth rhwng Mr Thomas Ellis ac Esgob Llanelwy parth Ysgol Howell yn dra dyddorol, ond ymddengys dull ei Arglwyddiaeth o ymresymu braidd yn wrthun, yn gymaint a bod un o'i brif resymau yn erbyn y cynllun yn gor- phwys ar y mynegiad mai Ysgol Undodaidd yw Ysgol y Merched yn Nolgellau, yn unig am fod y cronfeydd wedi eu cyflenwi gan ymddiriedolwyr Dr Williams, y rhai y tybia ef ydynt Undodiaid. A fydd i'r Esgob ddweyd mai Ysgol BAbyddol yw Ysgol Ram&degol Rhuthin, oherwydd fod y cronfeydd sydd yn awr (trwy ladrad) at alwad rheolwyr yr ysgol i'w chynal, wedi eu gadael gan Babydd, Dr Godfrey Goodman, perchenog etifedd- iaethau Llanberis, i fechgyn tlodion Hhuthin, a'r hwn a fu farw lonawr 19, 1655, gan wneud proves gyhoeddus o Babvddiaeth? neu a wna'r Esgob ddweyd mai sefydliad perthynol i'r Methodistiaid Calfinaidd yw Ysgol Ramadegol Rhuthin oherwydd fod Mr Ezra Roberts (Maer presenol Rhiithin) a Dr Medwyn Hughes, y naill a'r llall yn Fetbodist- iaid Calfinaidd, yn aelodau o'r Bwrdd Llywodr- aethol ? Honaf fod un o'r ddau awgrym hyn yn cyfateb i'w ymresymiad ef mai Ysgol Undodaidd yw ysgol Dolgellau ond y mae'r Esgob wedi dat- gan mai ysgol yn perthyn i'r Eglwys ydyw Ysgol Ramadegol Rhuthin, er yn gwybod fod llwydd arianol yr ysgol yn y dyfodol yn dibynu ar yr eiddo adawyd gan y Pabydd, Dr Godfrey Goodman. Mae'n bawdd i bobl Cymru weled drwy'r fath ymresymiad, J. WATKIN LUMXEY. Haul/re, Rhuthin, Aqvgt 12, 1897. YR ESGOB A'R OFFEIRIAID. SYR,—Fel offeiriad yn un o ddwy esgobaeth Gogledd Cymru, yr wyf yn protestio yn erbyn y llythyr oedd yn y Cymro diweddaf yn galw arnom ni, offeiriaid, i farnu ymddygiad Esgob Llanelwy yn nghylch y modd goreu i weinyddu cymunrodd Howell. Gallaf ddweyd hyn, modd bynag, fel hen ddarllenydd i'ch papyr-ar gyfrif ei deilyngdod llenyddol uchel ac nid ei bolitics- nad oes gan yr un o'r sectau adwaen i gareg i'w thaflu at yr Esgob. Pe cawsent hwy rbyw elusen i'w dwylaw, nid ar chwareu bach y cawsech chwí, hi oddiyno nac y buasent ychwaith yn gadael i neb arall ymyraeth a'r cyfryw elusen. Dyma, o leiaf, opiniwn yr eiddoch, CARNF ALDWYN. ARALL. SYR,-Blinder mawr i mi yw'r crafangu yma am fydol bethau yn yr Eglwys Lan Gatholig. Yr ydym yn son llawer, ac y mae genym rhyw reswm tros hyny, ein bod yn ddilynwyr yr Apostolion Sanctaidd. Ond ar faterion elusen- ol, yr wyf yn ofni mai bychan ydyw ol yr olyn- iaeth arnom. Hyd y gwelaf i, mae'r Undodwyr yn mhell iawn o'n blaenau. Wrtb eu ffrwyth- au yr adnabyddwch hwynt," meddai'r Gair Bendigedig a bwriwch pe baem ni yn cym- hwyso'r adnod yna at elusenau ac addysg yn Nghymru y dyddiau hyn. Gan nad wyf yn arfer ysgrifenu Cymraeg i'r wasg, a fyddwch chwi mor fwyn a chywiro hwn. Nid oes arnaf ofn i'm henw ymddangos, ond oherwydd flaith neu ddwy, waeth i chwi fy ngalw yn OFFEIRIAD DINOD. ARALL. Syp.Mae yn y plwyf sydd genyf fi tan fy ngofal dri elusen bychan, gwerth llai na phum' punt yn y flwyddyn, ac y maent yn achosi mwy o annghydfod yn y plwyf yma na phobpeth arall gyda'u gilydd. Yr wyf yn argyhoeddedig er's blynyddau mai melldith y mae dyn yn ei adael ar ei ol yn y byd ydyw elusenau—ysporicn cybyddion ydynt, ac nid oes ond aflwydd i'w canlyn. A dyna yn arbenig ydyw Elusen Howell; ar yr un pryd, fynwn i ddweyd dim yn erbyn Esgob Llanelwy. Nid yr un egwydd- orion sy'n ysgogi ac yn llywodraethu pawb ohonom. Yr eiddoch, RHYDYCHEITWR.

[No title]

- Colofn Dirwest.

Ficer y Rhos yn owyno.

Advertising