Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Nodion o Fon ac Arfon.

News
Cite
Share

Nodion o Fon ac Arfon. YR oedd arddangosfa anifeiliaid fawreddog yn Nghaergybi ddydd Mawrth. Trodd yr hin yn anftafriol yn y prydnawn, er hyny daeth pobl lawer i'r dref. Yr oedd cyfaill o lenor yn Nghaernarfon wedi cael arian gan ei fam y dydd o'r blaen i fyned i dalu'r cigydd ond rhoddodd yr arian gydag eraill yn y llythyrdy heb feddwl, a dyma fel y canodd y cigydd pan ddeallodd Glywsoch chwi am y cyfaill hwnw A ddanfonwyd gan ei fam Gyda'r degwm angenrheidiol Oedd i dalu am yr ham? Ond annghofio Humphra'r cigydd, Trwy rhyw aflwydd wnaeth y llanc, Yn ddifeddwl rhoes y ewbl Heb ddim trwbl yn y Banc. Beth, tybed, ydwyf wedi wneud i'r dyn hwnw ddywedai y dydd o'r blaen ar un o heolydd y dref mai hen Bero ydyw Obadiah Davies"? Cymerwch ofal, John Jones, rhag ofn y bydd i mi dynu tipyn o'r aur oddiarnoch. Nos Fercher, bu'r Parch John Pugh yn pre- gethu ar y Maes i dorf fawr, a nos Iau yr oedd y Parch John Wiilia.ms, Caer, yn pregethu yn Tan'rallt, a nos Wener yn Moriah pregetbai y Parch J. W. Morris, Slatington. Mae'n debyg mai i'r cyhoeddiadau pell y mae diolch am gyfle i glywed y doniau hyn. Pe bu- asai'r Apostol Paul yn dod ar daith trwy Fon ac Arfon, y mae'n amheus gJnyf a gawsai bregethu ar y Sul, gan fod pob Sabboth wedi eu llenwi am flynyddau yn y mwyafrif o'r teithiau. Testyn Mr Morris yn Moriah ydoedd, "Na ddywedwch yn ddrwg am eich gilydd, frodyr." Testyn amserol, a phregeth lem iawn. Wedi ei gwrando, yr oeddwn yn gwbl argyhoeddedig nad yw'r pregethwr hwn yn bwriadu aroa yma'n hir. Gobeithiaf y ca lawer cyfle i'w phregethu cyn ei ddychweliad i'r Gorllewin. Mae'n ddrwg genyf am yr annghydwelediad yn ngweithfa De Winton a'i Gyf. Gwelais un o arweinwyr y dynion heddyw, a dywedai fod dir- prwyaeth yo ymweled a'r goruchwyliwr ddydd Llun. Hyderat y terfynir yr helynt yn fuan a boddhaol i'r gweithwyr. Mae'n anhawdd gwybod beth i ddweyd am helynt y Penrhyn. Sibrydid yn galonog y dyddiau diweddaf fod gohebiaeth gyfrinachol rhwng y pleidiau, ond dywed un newyddiadur heddyw nad oes y sail leiaf i hyn. Drwg genyf feddwl fod hwn yn gwadu, oblegyd fel mater o ffaitb gwn oddiar awdurdod da fod telerau hedd- wch wedi eu tynu allan. Beth fydd y canlyn- iad wn i ddim, Gobeitbiaf y goreu. Dichon y bydd esboniad cyn daw'r rhifyn hwn allan. Y dydd o'r blaen yr oeddwn yn siarad a dyn ieuanc o Fethesda, a dywedai, Gwyddoch nad chwarelwr ydwyf, ond gweitbiai fy nhad yn y chwarel, a fy nghyflog i sy'n cadw'r teulu er's misoedd, a byddai'n well genyf eu eadw eto am x fisoedd na'u gweled yn myned yn ol heb enill rhywbeth," Dyna i chwi ysbryd ardderchog. Nid yw Mr Young mor bell oddicartref ag y tybid-gwelais ef ar ei olwynfarch heddyw yn Nghaernarfon. Cefais air boreu heddyw yn fy hysbysu am farwolaeth Mr Win. Williams, Tanyfron, Pant, Bethesda. Yr oedd yn ddiacon parchus yn Salem (A). Cydymdeimlir yn gyffredinol i'r weddw a'r teulu, gan eu bod wedi cyfarfod a phrofedigaethau ami yn ddiweddar. Mae nifer o lenorion a beirdd Llanberis yn garedig wedi ymgymeryd a. chasglu tuag at gael cofgolofn ar feddrod y bardd tlws Glan Padarn. Hyderaf y ceir cefnogaeth deilwng. Os dy- muna rhai o ddarllenwyr Y Cymro eu cynorth- wyo, bydd yn dda gan Alafon dderbyn y rhodd leiaf. Dipyn yn annymunol yw'r teimladau yn y dref ar ddewisiad yr ynadon newydd. Dywed- ir fod rhai o aelodau mwyaf blaenllaw y Clwb Ceidwadol yn chwerw iawn. Ofnir na wna'r un o'r pleidiau gydnabod un ohonynt. Tybiaf os na fydd yn perthyn i unrhywblaid y bydd hyny yn gymhwysder neillduol yn Mr Hughes fel ynad. Nos Sadwrn. OBADIAH DAVIES.

--:0:— Ar Ffnion y Ddyfrdwy.

[No title]

Tom Ellis a'r Esgob eto.

--0--Cohebiaethau.j

[No title]

- Colofn Dirwest.

Ficer y Rhos yn owyno.

Advertising