Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Cwlad yr Aur.
Cwlad yr Aur. [Can R.J., Oakland.] MAF darganfyddiad aur yn Alaska oer yn un o rai pwysicaf yr oes-yn rhoi rhai Awstralia a dyddiau '49 yn Califfornia yn y cysgod, ac mae yma gyffro nas gallaf ei ddesgrifio. Mae'r agerfadau yn dech- reu dod i lawr o'r Gogledd-daeth y cyntaf i lawr yr wythnos ddiweddaf gyda saith gant o filoedd mewn aur un arall ddoe 200,009p mewn aur a dywedir fod tros bedair miliwn y¡:o'n disgwyl ager- fadau era-ill i lawr. Daeth 65 o fwnwyr gyda'r gyctaf, a deuai y rhai tlotaf a 15,000p mewn llwch ac aur bras gyda hwy. Mae yma helynt mawr am fyn'd yno, ond mae'n wlad wahanol i Awstralia a Chaliffomia. Mae tua 4,000 ofilldiroedd oddiyma, a chyfandir fel o New York yma i'w groesi, yn or- chuddiedig a rhew ac eira. Ac er ei bod yn oer ddvchrynllyd yma. yn y wlad ogleddol bydd yr hiii fesurydd yn 60 a 70. Gwelodd y dychweledig- ion amser a thywydd garw. Mae'r cloddfeydd lie bu'r darganfyddiadau diweddaf ar diriogaeth Brydeinig, sef yn Canada-yn Klondyke, ar yr afon Yukon. Mae'n auaf caled am ragor nag wyth mis yno, ac ni ellir gweithio ond ycbydig yn y cyf. nod hwnw. Placer mining ydyw'r dull, am mai ar wyneb y ddaear y caed y rhan fwyaf o'r m&n gwerthfawr, er i rai gloddio 15 troedfedd i lawr. Mae'r rhan fwyaf a ddaethant a ffortun yn ol yn hollol ddibrofiad a dyna sy'n peri cymaint o ysfa yn yr hen fwnwyr yma i fyn'd yno yn awr. Yr oedd pob agerfad sy'n myn'd i Juneaeo, tuhwnt i Sitka—1,600 o filldiroedd o San Francisco, a chyrchfan y rhai ant dros y mynyddoedd-wedi eu sicrhau cyn pen tri diwrnod ar ol i'r aur ddod i lawr. Ffurfir llu o gwmniau, a phawb yn credu fod yno aur. Ond antur ddychrynllyd yw myned ato, gan fod y tywydd mor eitbafol, y pellder gy- maint, a'r ffaith mai ychydig, os dim, o bobl wyn- ion fu yn y wlar1, cyn hyn. Nid "fake," ys dywed yr Ianci, yw Klondyke, ond ffaith, Mawr yw'r dyfalu yma beth ddaw o'r blaid ariataidd barodd, gymaint eyffro yn y wlad hon adeg yr etholiad y llynedd, gan y disgwylir y fath doraeth o aur o hyn i ben y flwyddyn. O'm rhan fy hun, a llawer eraili, mae'r wlad, er cyfoethoced yw, yn ddigon prin o aur cylchredol, fel y bydd aur Alaska yn hynod dderbyniol os gwneir ag ef fei yn yr hen amser gynt, sef ei wario; a rhai garw ydyw'r hen fwnwyr am hyn. Ciywais am un a ddaetb i lawr a chanddo werth dros 200,000p mewn aur. Yr oedd golwg fel tramp arno pan yn dod oddiar y llong ond yn mhen y ddwy awr, yr oedd wedi ymwisgo fel gwr boneddig ac wedi gwario ffortun bychan arno ei hun. Yr oedd ei aur ef mewn gwrthban a chydau blawd, ac yr oedd golwg ddifrifol arno ef a'i bartner yn plygu o dan eu liwythau wrth ei gario o'r llong i'r porthladd. Gobeithiaf na fydd i'r ysfa aur yma ymaflyd yn neh o ddarllenwyr y Cpmro i beri iddynt ruthro yno heb ystyriaeth ddifrifol; ac os teimla un ar ei galon fyn'd yno, fe ddylai fod yn feddian- 01 ar ddigon o arian, ac hefyd iechyd da, a bod yn gynefin ig oerni mawr-ac yna fe all lwyddo. Oakland, ger San Francisco, California, Gorph 22.
-ioi-Dyffryn Clwyd.
ioi Dyffryn Clwyd. ARDDANGOSFA AMAETHYDDOL. YN Llanelwy ddydd Gwener, cynaliwyd ar- ddangosfa flynyddol Cymdeitbas Amaethyddol Siroedd Dinbych a Fflint, ac ni bu erioed ar- ddangosfa fwy lwyddianus gan y Gymdeithas. Yr oedd ynddi 1,300 o anifeiliaid yn cael eu dangos a chan fod y tywydd mor ddymunol daeth torfeydd mawrion i'w gweled. Y llywydd Pleni oedd Mr R. Williams Wynn, gyda Mr J. Briscoe a Mr Griffiths, Gwernigron, yn is- lywyddion. Enillwyd y prif wobrau gan Mri T. J. Dutton, Saltney Capten Conway, Bod- rhyddan Mri P. P. Pratt,R. Blezard, J. King, W. Conway Bell, Mil. Sandbach, Mr P. E Story, Mr Frank Allard (Gwrecsam), a Mri J. Jones a'i Feib., Llandudno Mawr edmygid gwartheg byrgorn Capten Rowley Conway a Mr P. P. Pratt, ac yr oedd ceffylau ysgeifn Mri John Jones a'i Feib. yn tynu cryn sylw. Saeson gan mwyaf oedd y beirniaid. Ai tybed nad oes gan 'owyllgor yr Arddangosfa fawr ym- ddired yn nghymwysder a gonestrwydd Cymry i'r gwaith hwn ? Fodd bynag, o ran rhif ac ansawdd yr anifeillaid ni fu yn Nghymru nem- awr arddangosfa well a diau fod ei chynal yn flynyddol yn foddion i roddi egni a chefnog- aeth i ffermwyr fagu anifeiliaid da. CROESAWU. Bu miri mawr yn Llanfwrog, Rhuthyn, ddydd Iau, wrth groesawu Mr a Mrs Gregson Ellis adref o'u mis mgl. Chwyfiai llu o faneri, cod- wyd bwiiu, a byrlymai hyawdledd lluaws. Cyf- lwynwyd anerchiadau, blodeuglym, a llestri arian i'r p&r dedwydd. Talodd y gwr ieuanc ddi- olch cynhes am danynt. Yn yr hwyr goleawyd ugeiniau o hud-lusernan, ties gwneud i'r nos wenu croesaw hefyd. FFARWEL. Cynaliwyd cyfarfod yn Ninbych nos Fawrth i ffarwelio &'r Parch Benjamin Williams (B), yr hwn sydd yn myned i fugeilio eglwys Llwyn- hendy yn y Da. Traddodwyd amryw areithiau yn datgan y gofid o'i golli ac yn dymuno'n dda iddo gan weinidogion lleol ac eraill, ac anrheg- wyd ef ag awrlais, pwrs o aur, a darlun hardd. DYN TARAWIADOL. Ei enw yw Stephen Jones, ond Stephen y Criwr y gelwir ef yn Rhuthin, ac er ei fod agos yn 80 mlwydd teimla fawr foddhad wrth arfer ei ddyrnau. Ddydd Llun, Gwyl y Banc, cafodd gryn hwyl wrth ddyrnu hen wraig o'r enw Jemima Jones, a cherbron yr ynadon ddydd Llun cyhuddwyd y dyn tarawiadol hwn o'r trosedd. Fe'i dirwywyd ef i 103 a'r costau, neu bythefnos o garchar. Tybiai Stephen y gallai fwynhau wythnos yn y carchar, ond ofnai y blinai pe caethiwid ef am bythefnos, ac apel- iodd am iddynt drugarhau wrtho. Gan ystyried ei oed, fe gydsyniodd yr ynadon i roddi wythnos iddo, ac wedi diolch iddynt aeth Stephen i'w gell yn llawen. CLYWEDOG.
[No title]
Although Flour is much dearer, the prices or Cornubia Sslf-Raising Flour have not been fraised.
Tom Ellis yn pwyolr Esgob…
Tom Ellis yn pwyolr Esgob eto. PERY'R drafodaeth rhwng Mr T. E. Ellis, A.S., ag Esgob Llanelwy parth Elusen Howell. Dyma grynhodeb o lythyr diweddaf yr A.S. dros Feirion ar ymddygiad yr Esgob Fel dyn ar foddi gafaela Esgob Llanelwy mewn gwelltyn, ond nid yw'r gwelltyn o un budd iddo. Yn ei lythyr diweddaf, sudda'n ddyfnach fyth i gamdystiolaethau a geudeb. Nid oes gwr yn y deyrnas erbyn hyn a chanddo brofiad mor chwerw o'r annoethineb o ddibynu ar Esgob Llanelwy nag Archesgob Caergaint. Nis gall yr Archesgob ddarllen ei araith yn Nhy'r Arglwyddi pan gynyg- iodd fod cynllun Howell i gael ei wrthod heb grynu'n barhaus. Oblegyd dyma dri mynegiad anwireddus wnaed ganddo :— 1.—" Fod ysgol y genethod yn Nolgellau wedi ei sefydlu gan ymddiriedolwyr un Dr Williams, clerigwr Presbyteraidd, yn 1711." Fel mater o ffaith, sefydlwyd yr ysgol dan Gynllun Ysgolion Gwaddolog yn 1875 gan gorph llywodraethol lleol a ffurfiwyd i'r amcan neillduol hwn. Codwyd yr ysgol trwy danysgrifiadau lleol a 200p a gaed o ymddiriedolaeth Dr Williams. Nid oes a wnelo'r ymddiriedolwyr o gwbl &'r modd y gwerir yr arian. 2.-Dywedodd yr Archesgob ar awdurdod Esgob Llanelwy fod holl reolaeth yr ysgol yn nwylaw Undodiaid. Profwyd fod deg allan o'r deuddeg rheolwyr yn Eglwyswyr, Annibynwyr, Bedyddwyr, a Methodistiaid. 3.—Cynwys holl gam-haeriadau'r Archesgob yw fod yr ysgol yn un Undodaidd hollol." Profwyd nad oes yr un o'r dysgyblion na'r athrawon yn Undodaidd. Nis gallaf ond tybio fod yr Archesgob yn gofid- io'n chwerw iddo roddi mynegiad twyllodrus Esgob Llanelwy mewn cylchrediad, a balch wyf fod genyf ran yn y gwaith o hoelio'r cam haeriadau ar y cownter. Dywed yr Esgob "na ddarfu iddo erioed honi na chlywed yr honiad mai sefydliad yn perthyn i Eglwys Loegr ydyw Ysgol Howell yn Ninbych." Fe gydnabyddwyd hyn gan Iarll Powys yn ei araith yn Nhy'r Arglwyddi; rhoed y wedd hon ar yr ysgol gan yr Esgob yn holl gwrs ei ymresymiad, a gwrandawodd gyda gwen foddhaus ar ei wyneb ar eraill yn h6ni ac yn awgrymu mai sefydliad eglwysig ydoedd yr ysgol hon. Honodd Arglwydd Salisbury fod cais yn cael ei wneud yn y cynlluI1 i ladrata gwaddoliadau un corph a'i roi i gorph crefyddol arall." Gwrandaw- odd yr Esgob ar hyn nid yn unig heb wrthdystio ond gyda chydsyniad boddhaus. Yn awr, os yw'r ysgol yn sefydliad sy'n perthyn i Eglwys Loegr, paham na fuasai'r Esgob yn apelio at Bwyllgor Barnol y Cyfrin Gynghor ? Os nad yw'r ysgol yn sefydlhd felly, paham y ffurf. iodd ymgyrch i wrthod cynllun i'w diwygio, fel y gallai ef barhau i lywyddu ar y corph llywodraeth. ol o Eglwyswyr sy'n rheoli yr ysgol er budd Eglwys Loegr, pan, mewn gwirionedd, y mae Elusen Howell yn fydol ac anenwadol ? ^4^ 7, 1897. THOMAS ELLIS.
--0-Cohebiaethau.
--0- Cohebiaethau. YSGOL HOWELL. SYR,—Goddefwch i mi gyhoeddi hyd glyw pob Cymro gwladgarol nad yw corph gweinidogion yr Eglwys Gymreig yn cymeradwyo actau Esgob Llanelwy yn nglyn fig Ysgol Howell. Ystyriwn y owrs a gymerodd yn gymaint dyrnod i'r Eglwys ag yw i'r genedl A ganiattewch ffafr fach er profi hyn ? Gwahoddwch glerigwyr y Gogledd i amlygu eu teimladau ar y mater mewn brawddeg neu ddwy drwy gyfrwng Y Cymro. Rhoddwch y gwahodd- iad mewn llythyrenau breision yn Y Cymro, ac ar ei hysbyaleni, a siornir fi OS Da ddol taran o gon- demniad ar y cam gwrs esgobol. Yr eiddoch MOEL FAMAU.
Marchnadoedd
Marchnadoedd Oaer-Awst 7. Gwsnith gwyn, 48 10c y 75 pwya eto coch, 4s 6c i 4s 9c ceirch, 2s 4e i 28 10c y 46 pwys ffa, 4s 9c y 80 pwys indrawn, 8s 6c hen, 8s 9c i 9s y 240 pwys. Amwythig.—Awst 7. Gwenith gwyn, 4s 8c i 4s 10c y 75 pwys coch eto, 4s 6c i 4s 9c ceirch, 14a 6c i 15s 60 y 225 pwys ffa, 14s 6c i 15s y 240 pwys. Lerpwl. Awst 9. Biff, 4!e i 6c; molltgig Ysgotig, 7c i 8c eto Gwyddelig, 6e i 7c cig oen, 7c i 8c y pwys. Bangor, Awst 6. Ymenyn ffres, Is Ic y pwys wyau, 14 am Is ieir, 3s 6c i 4s 6c y cwpl; biff, 6c i 9c y pwys molltgig, 10c; cig oen 10c i lie cig lloi, 7c i 9c. Caernarfon, Awst 7. Ymenyn ffres, Is 4c y pwys wyau, 12 i 15 am Is cig oen, 8c i 10c biff, 50 i 8c molltgig, 6c i 9c ieir, 3s 6c i 4s y cwpl; hwyaid, 5s 6c i 6s perchyll, 14s i 16s y pen. Dinbych, Awst 4. Ieir, 3s 6c i 4s 6e y cwpl; hwyaid, 3s 6c i 4s 60. Ymenyn ffres, Is 5c i Is 6c y pwys llestri bach, Is i Is Oic eto mawr, 111-c i Is; wyau, 12 am Is. 2 Llangefni, Awst 5. Ymenyn ffres, Is 2c y pwys wyau 18 i 20 am Is ieir, 3s 6c i 4s 60 hwyaid, 4s i 4s 6c perchyll, 18s i 23s y pen moch tewion, 3!0 y pwys ceirch 2 du, 15s 6c i 16 y peg. Bhuthin—Awst 3. Gwenith, 9s i 9s 60 yr hobed ceirch, 6s i 7s ymenyn ffres, Is lc i Is 3c y pwys ieir, 3s 6c i 4s 6c y cwpl; hwyaid, 4s i 5s wyau, 14 i 15 am Is. Lerpwl. Awst 10. Gwenith-Chili, 35s 6c y chwarter Califfornia, 35s 3o; Walla Walla, 33s 9c; Indrawn wedi gostwng fc y cental.—Cymysg Americanaidd, 14s 6c i 15s. Ceirch yn sefydlog, ac ni newidiodd y prisiau, Felly hefyd ffa a blawd ceirch. Salford, Awst 10. Biff, 5c i 6|c molltgig, 6c i 81e cig oen, 7c i Sic cig lloi, 5c i 6c. Birmingham, Awst 10. Biff, 5c i 7c molltgig, 6c i 8c cig oen 7ic i 8c. Moch tewion, 88 i 8s 9c perchyll, 9s i 9s lc hvchod, 6s 4c i 6s 6c y scor. 10 I Os mynwch gael CIG OEN GWIR GYMREIG, blasus a danteithiol, y mae i'w gael yn ddyddiol yn Sior COED Y BRAIN, 17 Deane Street, gyferbyn March- | nad St. John. Treiwch ef. Ni'ch siomir. ■- v
Advertising
LLVFiR NEWYDD 0 DDYDDORDEB NEILLDUOL I Fiz awr yn barod. 384 tudal. Crown 8vo. Prts 3s. 6ch. COFIANT A PHREGETHAU y Parch. DAVID DAVIES, Bermo, Tan olygiad y Parch. WILLIAM JONES (David Street), LERPWL. I'w gael gan y Llyfrwerthwyr neu drwy y post ar dderbyniad ei werth, gan ISAAC FOULKES, 8, PARADISE STREET, LIVERPOOL.
Angladd y diweddar Barch H.…
Angladd y diweddar Barch H. Pritchard CYMERODD aogladd y gwr da uchod le ddydd Gwener, Awst 6ed. Cynaliwyd gwasanaeth yn 53, Berkley Street, cyn cychwyn gan y Parchn E. Humphreys a Thomas Hughes. Aed i orsaf Lime Street erbyn y tren 8-15. Yno yr oedd y Parchn Hugh Jones, Birkenhead; 0. Lloyd Davies, E. Humphreys, Thomas Hughes, D. G. Jones, a J. Hughes (Olanystwyth), yn nghyda nifer o ber- thynasau a chyfeillion Wesleyaidd yn Lerpwl. Ym- adawyd gyda'r trên 8 15 am Abertawe. Pan gyr- haeddwyd Llandrindod, yr oedd yr orsaf yn llawn o ymwelwyr wedi dyfod i dalu parch i'r ymadaw- edig. Safodd y gerbydres yno tra canwyd Bydd myrdd o ryfeddodau," gyda dwysder neillduol. Wedi cyr haedd Abertawe, yr oedd yr orsaf yn llawn o alarwyr, a bron holl weinidogion Wesleyaidd Cymreig y De yn bresenol, yn nghyda cherbydau amryw o wyr blaenaf y dref. Gweinyddwyd yn nghapel y gladdfa gan y Parchn J. Roberts, Aber- tawe T. J. Pritchard, Treorci, a J. M. Owen, Ferndale; a thraddodwyd anerchiadau gan y Parchn J. Evans (Eglwysbach), J. Hughes (Clan. ystwyth), T. Manuel, D. 0. Jones, a R. Owen. Gweinyddwyd ar lan y bedd gan y Parch T. Jones, Llanelli. Yr oedd yr ymadawedig yn nodedig o barchus yn y De, a gwnaed galar mawr am dano.
-0--PWLPUDAU CYMREIG, Awst…
-0-- PWLPUDAU CYMREIG, Awst 15. LERPWL. Y METHODISTIAID CALFINAIDD Princes rd-Am 10, R Williams, Llanllechid, am 6, T Evans. David street-Am 10, T Evans. am 6, R Williams. Fitzclarence st-10, H Jones, D.D., am 6, W 0 Jones, B.A. Netherfield rd-Am 10, W 0 Jones, am 6, H Jones. Chatham street-Am 10 a 6, W M Jones. Crosshall street-AM 10 a 6. 0 J Owen, M.A. A nfield road-Am 10 a 6. J J Roberts, Porthmadog. Newsham park-Am 10 a 6, H R Williams, Bettws, BootIO-AM 10 a 6, R Humphreys, Bontnewydd. Birkenhead-Am 10.30 a 6, D Jones. Seacombe-Am 10 a 6, D Williams, Penmorfa. Garston-AM 10 a 6, 0 Owens. Rock Ferry-AM 10 a 6, T Gray. Walton park-AM 10 a 6, E J Evans WaterloO-Am 10 a 6, L Williams, Waenfawr. Buy ton Quarry-AM 10 a 6, W Roberts. Peel road—Am 10 a 0. E O Davies, B.Sc. Bolt road—Am 10.30 a 6, T Jones. Webster road-Am 10 a 6, W Henry, New Urighton-Am 10 a 6, J H Hughes. West Kirby-Am 10 a 6, T R Jones. Yates street-Am 6 16, J Evans. Brassey street, Birkenhead—Am 6, W P Jones. Market street, Birkenhead-Am 6, T J Williams. St. Helens -Am 10-30 a 6, J Evans. Siloh Whiston-Am 10 30 a 6, W Hughes. Everton brow (Saesneg)-Am 10.45, a 6.30, W Wynn Davies. Oakfieid rd (gaesneg)-Am 10.45 a 0.30, T G Owen, M.A. YR ANNIBYNWYR. TabernacZ-Am 10-30, J Charles, Dinbych, am 6, 0 L Roberts Grove st-Am 10.30, T Thomas, Groeswen, am 6, J Charles. Park road-Am 10-30, P Price, am 6, D M Jenkins. Gt. Mersey st-1030, D M Jenkins, am 6, P Price, Kensington -Am40.30, am 6. J 0 Williams. Trinity ra, Bootle-Am 10.30, J 0 Williams, am 6, Marsk Lane -(YD yr Ysgoldy N ewydd, Malta Road, Marsh Lane)—Am 10.30 a 6, G Evans. Clifton rd, B'head—10 80, 0 L Roberts, 6.15, T Thomas. Seacombe-A,m 10.30 a 6. 8 Roberts. Vittoria st, B'head-10-30, a 6 15, W Jones, Llanelwy. Y BEDYDDWYR. Ev rton Villa,ge- A m 10.30 a 6. D Powell. Windsor st-Am 10.30 a 6, W Samuel. Kdije Laiie-Am 2.30 a 6, W Jones, Rhiwabon. Capel -jcion, Bousfield st-Am 10 a 6, T Jones, Manceinion. Brasenose Road, Bootle-Am 10 a 6, P Williams. Knowsle'r'ROfl.d, Bootle-Am 10.30 a 6, L W Lewis. Woodlands, B'head-1(1,30 a 6.15, J Davies. Y WESLEYAID. Shaw st-A m 10.30, am 6, T Hughes. Boundary st-Am 10 30, E Humphreys, am 6, 0 LI Davies. Trinity Rd, Bootle-Am 10.30, T Hughes, am 6, Edge Hill, Piimsoll st-10.30, 0 LI Davies, 6, E Humphreys. .Knowsley Road-230, T Hughes, am 6, Brodyr o Bootle. Mynudd Seion-Am 10-30 a 0, H Jones, Clauqhton rd, B'head-Am 10-30 a 6, D G Jones. Price st, BirTrenhead-Am 2.30, am 6, E Hughes. Widnes -Am 10.30 a 6, J Hughes. Garston-Am 2.30. H Jones, am 6, J Pierce. Eartstowot-Am 10.30. G Evans,am 5.80. Brodyr o Hermon, Hermon-Am 10 30, W Jones, am 5, G Evans. Golborne-Am 2 a 5.30, W Jones. Seacombe-Am 2.30 a 6, W Jones. Rock Ferry-Am 2 30, D G Jones, am 6. H Tudor. Wigan-Am 10.30 a 6, J Jones. Leigh—Am 10.30 a 6, 0 Hughes. St Helens Am 10 30 a 6, Darwen-Am 10.30 a 6, E T Hughes. Tyldesley—Am 2.30. 0 Hughes, am 6, Thato Heath-Am 10,30 a 6, 0 C Evans. YR EGLWY8 SEFYDLEDIG. Sant Dewi-Am 10.30 a 6, J Davies. MA. Sant Asaph-Am 10.30 a 6.30, E Williams. Sant Nathaniel Am 10.30, Ysgol, am 6.80, W D Jones. St. Winifred, Birkenhead-Am 10.45 a 6.30, R Edwards.
--:0:--Rhagolwg Cysurus.
:0: Rhagolwg Cysurus. Os yw Boneddwyr neu Foneddigesan dan 40 oed yn teimlo angen am ddarpariaeth hollol a sicr at y dyfodol trwy dderbyn awm a nodir ar eu llaw, neu yn niffyg hyny inewin gwarantedig am eu hoes, ar ol cyrhaedd oedran neillduol 50, 55, neu 60, dylent apelio at Oruchwyl iwr y ROYAL EXCHANGE ASSURANCE, 5, Dale Street, Lerpwl, am fanylion Yswir- ebau Buddsoddol gwerthfawr y Cwmni hwn.
.Y CARTREF
Y CARTREF a'r SWYDDF A GOFRESTRU GYMREIG 2, HOPE PLACE, LERPWL. A s. c. Symian a gydnabyddwyd eisoes 54 12 6 Alfred L. Jones, Y.H, 10 10 0 Mr a Mrs David Hughes 10 0 0 Mrs Salmon Evans 1 1 0 T. K. Cope 1 1 0 J R. Jones, Walton 1 1 0 I Owen Evans 1 1 0 Mrs G. Thomas 0 2 6
Lleol.
Lleol. DDYDD Mawrth, ymddangosai ein cydwladwr, dysgedig, y Parch Hartwell Jones o Nutfield, mewn cymeriad newydtl, sef fel gwas priodas i'w gyfaill y Parch Grey Edwards, yr hwn, yn Eglwys, St Mair, Kirkdale, oedd yn priodi Miss Lester, merch ieuengaf Canon Lester, cadeirydd Bwrdd Yagol Lerpwl. Mab ydyw'r priodfab i'r diweddar Barch Henry Grey-Edwards, rheithor Llanfachreth, Mon. Bu api beth amser yn gaplan neu gurad yn yr Eglwys Gymraeg, Cierlleon ac y mae yn awr yn cynrychioli Cymdeithas Genhadol yr Eglwys yn Neheudir Cymru.
Advertising
"GORETT ARF-ARF DYSG." IESU, NA'D GAMWAITH." DUW A PHOB DAIONI." EISTEDDFOD GADEiRIOL CWYR IEUAINC BWLCHCWYN, Dydd Mercher, Mehefin 22, 1898. PRIF DESTYNAU. I'r Cor Cymysg (heb fod dan 50 na thros 60 mewn nifer) a gano oreu "Gorphenwyd" (Thomas Jones, Canrhawdfardd). Gwobr £12. I'r Cor o Feibion (heb fod dan 30 na thros 40 mewn nifer) a gano oreu Milwyr y Groes (D. Protheroe,, Mus. Bac.) Gwobr 28. Testyn y Gadair.-Pryddest, heb fod dros 400 o lin- ellau-" Williams o'r Wern." Gwobr, Cadair Dderw gwerth £4. Marwnad, heb fod dros 100 llinell, "Tudno. Gwobr, 93 3s. Am y Gadair Dderw Eisteddfodol, yr oreu i fod yn eiddo'r Pwyllgor. Gwobr S4. Cystadleuaeth i Seindyrf, "Gems of Cambria." Gwobr £ 18. BEIRNIAID Barddoniaeth-HWF A MON. Cerddoriaeth-D. HOPKIN THOMAS, Mus. Bac, Tredegar. Seindyrf-L. CORFIELD, YdW., Professor of Music, Birmingham. Rhestr gytiawn o'r testynau, beirniaid, amodau, See. pris Ie, drwy y post lkc, i'w cael gan yr Ysgrifenydd, 2 ALUN ROBERTS, Peniei, Bwlchgwyn, Gwrecsam. Telephone No. 2308. W. BOOTE. 120, Paddington. Jams, Marmalade, Bottled Fruit and Candied- Peel Factory- 61, Mason St., and Brydges St. Pickle, Sauce, &c., Factory- 64, Mason Street. Mineral Water Company- Back Mason Street, Tea Blending Rooms- 122a, Paddington. Coffee Roasting Warehouse- 122, Paddington. Teas, Is. 4d,, 7s. 8d. and 2s per lb; Prynwch y Te Cymreig he a ffaniwn. I'w gael yn unig yn y lIeoedd canlynol Branch. Establishments; 124, Paddington, 285, Breck Road, 119, Brunswick Road, 115, Kensington, 121, Prescot Road, Fai) field, 69, Breckfield Road, N". 407, Smitbdown Road, 32, Smithdown Road, 135, Upper Warwick Street, 66, Lodge Lane, 4, St. James' Place, 93, Byrom Street LIVERPOOL.
Family Notices
GENEDIGAETHAU, PRIODASAIT MARWOLAETHAU. JONES—Awst 3, yn 109, Needham Road, priod Mor- gan R. Jones, ar ferch. f>rtoOaeau JONES—DAVIES—Gorph. 28, yn Utica, U.D.A., Owen D. Jones, Utica, diweddar o Harlech, ag Ellen Davies, merch Richard Davies, Bootle. JONES-WILLIAMS-Awst 4, yn nghapel Ebenezer (W.), Claughton Road, Birkenhead, gan y Parch. John Hughes (Glanystivyth), yn cael ei gynorfchwyo gan y Parch T. Gray, Philip H. Jones, jf.I.C., S Gaynor (Gay), trydedd ferch Wm. Williams, Hemingford Street, Birkenbead. flbarwolaetbau. DAVIES-Awst 6, yn Plas Darland, Gwrecsam, yn ddisyfyd, Edward Davies, M.D., M.R.C.S, Y,H., HUGHEs-Awst 8, yn 76, Aubrey Street, wedi maith gvstudd, Grace, anwyl briod Owen Hughes. HUGHICS-YN 12, Union Street, Bangor, yn 79 oed, Elizabeth, priod Pierce Hughes, Bangor a Dinbych. JONES-Awst 7, yn 25, Castle Street, Conwy, Robert Jones, meddyg. JONES-Awst 4, yn mhreswyl ei merch, 50, Copeland Street, Margaret Ellen Jones. JONES-Awst 5, yn Glenhyrst, Hale Road, Liscard, yn 8 mis oed, Dilys Lester, anwyl ferch Hugh a'r ddiweddar Margaret Lester Jones. THOMAS—Gorph. 29, yn 40, High Street, Llanerchy medd, wedi hir a phoenus gystudd, yn 71 oed, Jas. Thomas. Printed and Published by ISAAC FOULKES at his Printing Establishment, 8, Paradise Street in the Parish of Liverpool, in the Count Y of Lancaster.