Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

Yr Eisteddfod Genedlaetljol

News
Cite
Share

Yr Eisteddfod Genedlaetljol YN NGHASNEWYDD. (GAN EIN GOHEBYDD NEILLDUOL). YR ORSEDD BORE DDYDD MAWRTH. Ni chyfarfu y beirdd, yr ofyddion, a'r datgeiniaid erioed yn Nghorsedd dan amgylchiadau mwy dy- munol na boreu heddyw yn Mharc Belle Vue. Agorwyd hi yn ngwyneb haul-llygad goleuni," a bron nad oedd peiydrau tanbaid yr huan yn rhy angerddol i ami un. Am naw o'r gloch-yr awr anterth—yr oedd rhai canoedd wedi ymgynull o gylch y meini cysegredig. Ac am naw cyrhaeddodd gorymdaith y beirdd, gyda seindorf y dref yn blaenori. Wedi cymeryd eu safleoedd yn y cylch cyfrin, esgynodd Hwfa yn ei wisg dderwyddol a choron o ddail derw am ei ben i'r Maen L!og, a chyda byr eiiiau agorodd yr Orsedd. Ar ol i Ap Myrddin chwythu'r corn gwlad, dadweiniwvd y clpdd, a chyhoeddwyd heddwch. Gweddiodd Cyn- onfardd Weddi'r Orsedd heb ei darllen, a hyny gyda theimlad na cheir yn ami mewn Gorsedd Farddol. Yna. galwyd am y delyn, a chanwyd pen. illion gan Eos Dar. Ar ol cyflwyno Arglwydd Tredegar, Mr Goscombe John, ac eraill, i'r Archdderwydd, cafwyd anerch- iad croesawol i'r Orsedd gan Arglwydd Tredegar, aearllwyswyd cawod o eriglyniou gan nifer o'r beirdd. Cyflwynodd Arglwydd Tredegar (Ifor Hael) arwyddlun o Gorn Hirlas y bwriada ei oiphen a'i gyflwyno'n anrheg i'r Orsedd y flwyddyn nesaf. Diolchwyd iddo am ei garedigrwydd, a chauwyd yr Orsedd. Prysurodd yr orymdaith wed'yn tua phabell yr Eisteddfod. Ymddangosodd adroddiad o'r buddugwyr a'r cys- tadleuon yn ein rhifyn diweddaf. CYNGHERDD Nos FAWRTH Daeth cynulleidfa fawr i'r cyngherdd nos Fawrth i wrandaw perfformiad o'r Elijah. Gwasanaethwvd gan gor rhagorol a 500 o leisiau a cherddorfa o 100 o offerynwyr. Y prif ddatgeiniaid oeddynt- Soprano Madame Medora Henson a Miss Marion Evans. Contralto Miss Clara Butt a Miss Cein- wen Jones. Tenor Mri Ben Dclvies a Gwilym Richards. Bass Mri Ffrangcon Davies a David Hughes. Organydd: Madame Rose Evans. Ar- weinydd, Mr E. Beinard Newman. Nis gellid dymuno gwellperfformiad o'r gantawd gampus hon nag a gafwyd heno. Yr oedd y cor a'r gerddorfa yn dda, ac 61 ymarferiad caled a meistr- oigar arnynt. Ood yr oedd y datgeiniaid yn well na hwy eu hunain o'r bron. Gwnaeth Ffrar;gcon Davies ei ran yn rhagorol, ac nid oes ball ar y can- moiiaeth a roddir iddo. Mr Ben Davies hefyd yn llanw ein disgwyliadau, er mai ychydig oedd ei ran yn y ganhwd o'i gymharu a Ffrangcon. Bu y per- fformiad yn llwyddiant yn mhob ystyr, a phawb wedi eu llwyr foddloni. Y cadeirydd ydoedd yr Archddiacon Bruce. DYDD MERCHER. Yn union am ddeg o'r gloch, tarawyd y don agor- iadol gan seindorf y dref, a dyma Mabon yn galw ar y llywydd, y Mil. F. C. Morgan, A.S., i draddodi ei anerchiad i gynulliad bychan. Siaradodd yn lied faith, yn dra afrosgo, ac heb nemawr newydd-deb. Yn dilyn, caed anerchiadau barddonol gan Bryn- fab, Onfel, Trebor Aled, a dyma Mabon yn bloeddio A oes eto ddaw i'r lan I roi ergyd i'r brawd Morgan ? Atebwyd yr alwad gan Bryfdir. Canwyd Can yr Eisteddfod gan Miss Maggie Davies. Can Eidalaeg oedd hon, ac mewn atebiad i gais y dorf rhoes ddatganiad swynol o'r Deryn Pur." Darllenwyd beirniadaeth y Proff Silas Morris a Proff J. Young Evans ar gyfieithiad i'r Saesneg o'r Enaid gan Islwyn, 5p. Ymgeisiodd 16, rhai ohonynt yn rhagorol. Barnwyd eiddo Morfudd Eryri a'r Parch Edmund O. Jones, ficer Llanidloes, yn gydfuddugol. Mr E. H. Thomas, Caerdydd, gafodd y 40p am yr olew-ddarlun goreu, ae aeth yr ail wobr o lOp i Miss Edwards. Plat mewn unrhyw fetel, 5p. "Knock" yn oreu ond ni atebodd i'r enw. Penddelw (oddiwrtb natur) mewn bathiad plastr, 15p. Goreu, Mr H. Price, Kensington, a rhoed ail wobr arbenig i Fred. Thomas, Cheltenham. Addurn pen-colofn mewn clai i le tan, 5p. Goreu, Mr H. W. Shelhand, Caerdydd. Cadair farddol o dderw cerfiedjg, i fod yn eiddo'r pwyllgor 15p a bathodyn arian. Goreu, Thomas Humphreys, Caernarfon. Trychiant gerfiedig o fantell simnai, lOp. Mrs J. White, Abertawe, yn oreu. Caed cystadleuaeth ragorol ar yr unawd bass, 5p 5s. (a) Rage, thou angry storm (Syr J. Benedict); (b) 0, fy hen Gymraeg (D. Emlyn Evan.s). Dyfarnwyd Mr David Chubbs, Ponty- pridd, yn oreu ar ol gornest galed. Cystadleuaeth unawd mezzo-soprano, 5p 5s. (a) My heart is weary" (A. Goring Thomas); (b) "The Silent Singer" (Dr. R. Rogen). Dyfarnwyd Miss Maggie Morris, Tonyrefail, yn fuddugol. Y Coroni. Y gwaith nesaf oedd myned trwy ddefod y coroni. Ymgynullodd yr holl dderwvddon, beirdd ac ofyddion i'r llwyfan yn eu gwisgoedd swyddogol, ac yr oedd yn olygfa yn dra dyddorol. Galwodd Eifionydd ar y beirniaid-Dyfed, Ceulanydd, ac Elfed yn mlaen i ddarllen eu beirniadaeth ar yr arwrgerdd (heb fod dros 1000 o linellau) "Arthur y Ford Gron." Gwobr, £ 25 a Choron Arian gwerth £15. Darllenwyd y feirniadaeth ar y naw cyf- ansoddiad gan Dyfed, ac wele grynhodeb ohoni Melynfryn.—Cerdd ystrydebol a dôf; yr iaith yn w alius, a llediaith Seiamg poenus ar bob tudalen. Yr oedd yn syn, fod bardd o allu "Melynfryn" wedi an- turio i dir mor beryglus. Nodweddid y gerdd gan fanylwch bywgraphiad, a cheid yr un syniadau yn cael eu gwisgo eilwaith mewn diwyg newydd. Troubadour.—Rhanau blaenaf y gerdd yn gymysg- lvd. a'r rhanau olaf yn werinaidd a di-urddas. Y gerdd oil yn rhedeg vn farwaidd fel camlas. Erwrys. Y bennod gyntaf yn gref, ond yn gwasan- aethn fel rhagarweiniad i'r gerdd yn unig. Un nod- wedd amlwg yn y gerdd oedd fod gormod o banes ynddi. Ceicl ynddi swn brwydr, ond brwydr er mwyn effaith ydoedd yn unig. Oivain ap Uricn.-Yr oedd cryn laweronewydd-deb yn y gerdd hon, :t mwy na hyny o fanylwch. Cloffai v bardd ei iaith yn fa,wr, a cheid rhai brawddegau yn d lirdynol. Ceid ynddi lawer o feddwl, ond meddwl yn via) 111 ar wallgofrwydd ydoedd. Perygl y bardd ■oe !d peidio cadw ei ddychymyg dan reolaetb. Geraint ap E?-biit.-CAn goeth, feddylgar, a hynod lan o'r dechreu i'w diwedd. Ond yr oedd yn fwy o folawd i Arthur nag o arwrgerdd. Ceid ynddi ddigon o feddwl hefyd, ond meddwl oer yn apelio yn fwy at y pen na'r galon ydoedd. Prin y gellid ei gosod yn nosbarth yr arwrgerddi am mai pryddest ydoedd. Arthuriad.— Llawer o ryw fath o feddwl yn hon hefyd, ond nid oedd yr arweiniad i mewn amgen ymgom werinaidd. Pan ddaeth y bardd o hyd i'w destyn, canodd yn rhagorol. Meddai gyfoeth o iaith a Chymraeg ardderchog. Ni cheid yn y gerdd ddim mursendod, and yr oedd yn annghyflawn. -Canai y bardd hwn yn y mesur diodl, ac yn ddibris o reolau barddoniaeth, Rhaid condemnio'r gerdd oherwydd ei phenrhyddid; er hyny, canai'r awdwr gydag arddeliad wrth fyned yn mlaen. Caraclog ap Bran.-Dirn llawer o newydd-deb. Cerddai'r awdwr yr un tir o'r dechreu i'r diwedd. Yr oedd y bardd hwn yn feistr ar saerniaeth ei gerdd ond fel cyfanwaith yr oedd y gerdd yn ddiffygiol. Glan yr Wysg.—Nid oedd yr un blotyn arwrol yn y gerdd hon, ond nid oedd yr arweiniad i mewn iddi yn dda. Llwyddodd y bardd i roddi addurn ar bethau oedd yn ymdebygu'n fawr i ryddiaeth. Wedi sylwi ar bob cerdd, aeth Dyfed yn mlaen i hysbysu fod y beirniaid wedi methu cytuno ar y gerdd oreu, er eu bod yn ymyl cydolygu. Er hyn yr oedd dau yn unfryd unfarn, a chan mai barn y mwyafrif sydd derfynol, yr oeddynt hwy eu dau- Dyfed ac Elfed—yn dyfarnu eiddo Glan yr Wysg" yn oreu ae yn deilwng o'r wobr. Dyma ddystaw- rwydd mawr. a'r Archdderwydd yn galw ar y buddugwr i sefyll, a dacw'r Parch T. Mafonwy Davies, Blaenafon, ar ei draed, a chynhwrf drwy'r babell. Arweiniwyd ef i'r llwyfan gan Cadvan a Watcyn Wyn yn nghanol cymeradwyaeth, ac aed trwy'r ddefod o'i goroni dan arweiniad yr Arch- dderwydd. Canwyd Can y Coroniad, Cymru, gwlad y gan," gan Miss Ceinwen Jones, ac anerch- wyd yr arwr gan Brynfab, Bryfdir, loan Myrddin, Athron, Ben Davies, Watcyn Wyn, Cadfan, a gof- ynodd Hwfa am gael dweyd penill bychan pedair lein," a dygwyd y ddefod i derfyn. Cystadleuaeth ar y berdoneg, i rai dan 16 oed, 3p 3s; 2, Ip Is. Goreu, Wm. John Watkins, Dow- lais 2il, Miss J. Ellen Brown, Casnewydd. Ni ymgeisiodd yr un parti o 16 ar ddarllen cerdd- oriaeth ar yr olwg gyntaf, er fod 5p i'r goreu. Nid oedd yr un o'r tri ymgeisydd yn deilwng o'r 5p am draithawd Cymraeg ar Y mauteision deill- iedig oddiwrth addysg mewn Celf a Gwyddor i'r dosbarth gweithiol yn Nghymru," 5p. Beirniad, Proff. Tyssil Evans, Caerdydd. Cystadleuaeth pedwarawd llinynol, "Mczut in G. major, no. 19," 5p 5s. Parti Miss Daisy White, Casnewydd, yn oreu. Cystadleuaeth ar y delyn droedawl, "Autumn (J. Thomas), lOp. Goreu, Mr James Williams, Abergafenni. Yn y cyfwng yma cyflwynodd Mabon ail lywydd y dydd, sef Dr Rhys, Rhydychen, i'r cyfarfod, a cheisiodd-anerch, ond lIawn cystal fuasai iddo geisio ehedeg. Gan fod y babell yn orlawn wedi ymgynull ar gyfer y brif gystad,euaeth gorawl, yr hin yn boeth, a Dr Rhys yn siarad yn isel ac mewn iaith estronol, methodd a myned yn ei flaen gan swn a bloeddiadau'r dorf. Felly gofynwyd i bawb ganu Crugybar ar y geiriau 0 fryniau Caersalem," dan arweiniad Mabon, a dyblwyd a threblwyd yr hen don gyda hwyl Gymreig wirioneddol. Erbyn hyn, gorlenwid pob corig), oblegyd dyma ddydd y cantorion, a dyma ni wedi cyrhaedd y Brif Gystadleuaeth Gorawl, i gorau rhwng 150 a 200 o leisiau, agored i'r byd— (a) "Now all gives way together" (Dvorak); (b) "The Mariners" (D. Jenkins). Prif wobr (gyda bathodyn aur -i'r arweinydd), £ 200 ail wobr (gyda gwerth 3p o lyfrau cerddorol gan Mri Novello, LlundaiD), £ 50. Beirniaid-Syr A. C. Mackenzie, D. Emlyn Evans, a Proffeswr Macfarren. Yr oedd wyth o gorau wedi anfon eu henwau i mewn, ond dylid sylwi mai un yn unig oedd wedi anturio o'r Gogledd, sef cor sir Fon. Allan o'r wyth trodd chwech i fynu, a chanasant yn y drefn ganlynol Corau. A rweimvyr. Llanelly Choral Society Mr J. Thomas. Rhymney United Choir Mr J. Price. Abersycban |Pontypool Choral j Mr w> Prothero_ Merthyi Choral Society Mr Dan Davies. Builth and District Harmonic T i t> m Society Llew Buallt. Anglesey Harmonic Society Mr W. S. Owen. Yr oedd yr holl gorau i gymeryd cerddorfa'r Eis- teddfod i gyfeilio, yr hyn sydd welliant amlwg ac yn rhoddi mwy o urddas a mawredd ar y canu oorawl. Wrth gwrs, rhoddid cymeradwyaeth brwd i bob cor ar ei ddyfodiad i'r llwyfan ac ar ddiwedd pob datganiad. Yr oedd y babell yn llawn trydan, a theimladau cefnogwyr y gwahanol gorau yn angerddol. Ar ol i'r chwe' cor ganu, cafwyd can gan Mrs J. Thdmas, Llanelli, sef Llain y Cariad- au," a chafodd dderbyniad gwresog. Ar ol cael dyfarniadau ar nifer o gystadleuon gwyddonol, a neb yu ateb i'w henwau, gofynwyd i'r gynulleidfa ganu Aberystwyth ar gais Amer- icanwr, a dacw Mabon a'i arweinffon, a'r holl gyn- ulleidfa yn codi (neu cor mawr Mabon fel y dywedai rbywun), a chanwyd Beth sydd i mi yn y byd," yn hynod effeithiol. Cafwyd beirniadaeth Marie Trevelyan a Mr D. Lleufer Thomas ar y ffugohwedl yn desgrigo bywyd Cymreig, 30p 2, 20p. Ymgeisiodd lU, ond nid oedd yr un ohonynt yn deilwng o'r gwobrau nng o'r Eisteddfod; ond er cefnogaeth rhoddent lOp i'r goreu a 5p i'r ail. Mr M. A. Williams, Porthycawl, oedd y goreu, a Miss Sioned Price, Ficerdy Golden Grove, yn ail. Cystadleuaeth unawd i feibion ar y delyn, "Morfa Rhuddlan (yr ymgeiswyr i gyfeilio eu hunain ar y i delyn), 5p 5s. Mr Watkin Rhys, Treherbert, yn I oreu. Dyfarniad y Brif Gystadleuaeth. Ar ol hir ddisgwyl galwyd am y feirniadaeth ar y brif gystadleuaeth gorawl, a dyma'r tri beirniad ar y llwyfan yn nghanel brwdfryiedd y dorf. Yn nghanol dystawrwydd cedd bron yn llethol, tra- ddododd Syr A Mackenzie y feirniadaeth yn fyr. Sylwodd fod rhai o'i gyfeillion yn dweyd wrtho fod y foment nid yn unig yn beryglus, ond ei fod yntau yn sefyll mewn safle beryglus. Nid oedd ef, er hyny, yn ofnus, oblegyd canfyddai yn eu llygaid nad oedd y rheswm lleiaf iddo ofni, a chredai y cytunent a'r hyn oil a ddywedai. Nid oedd angen iddo ddweyd ei fod ef a'i gydfeirniaid yn teimlo eu cyfrifoldeb a phwysigrwydd eu safle, oblegyd dyma gystadleuaeth gerddorol bwysicaf yr Eisteddfod ac yr oeddynt hwy wedi myned i mewn i'r materion. nid yn unig yn ofalus, ond wedi rhoi y corau o dan chvvydd-wydrau. Yr oedd yn llawenydd o'r mwyaf ganddo ef gael y fraint o wrandaw y fath ganu rhagorol ac uwchraddol. Carai wneud sylwadau helaeth, ond yr oeddynt wedi cael eu cadw yn faith eisoes, a'r awyr mor boeth felly rhoddai ychydig resymau dros eu dyfarniad. Nid oeddynt yn myned i gymeryd eu cario ymaith gan Berth a chryfder yn unig—hyny yw, nid oedd maint swn yn unig yn ddigon. Mewn gair, carasai i rai o'r corau fod wedi cymedroli ychydig ar eu grym--buasent felly'n fwy effeithiol. Yr oedd rhai wedi gadael i'r brwdfryd- edd eu cario ymaith, ac felly wedi gorwneud y darnau. Rhoddent yr ail wobr i'r c6r oedd wedi rhoi darlleniad rhagorol o'r darnau-darlleniad o'r mwyaf cerddorol. Nid oedd yn grâs, eto yr oedd yn gryf; a rhaid iddo ddweyd ei fod yn un o'r dat- ganiadau lleisiawl prydferthaf a glanaf a ddymunai glywed. Elai yr ail wobr i'r cor a ganodd olaf (cor sir Fon). Derbyniwyd hyn gyda chymeradwyaeth uchel. "Bellach," meddai, "mae y gweddill yn hawdd. Gallwch farnu oddiwrth hynyna ein bod yn caru yn hytrach roddi ein dyfarniad o blaid cein- der na nerth corphorol, Y mae un cor heddyw wedi ein llwyr foddloni yn mhob cyfeiriad. Yr oedd ganddo yr holl ddefnyddiau angenrheidiol i wneud c6r o'r radd flaenaf. Meddai nerth, ac yr oedd y lights and shades yn ardderchog-mewn gair, yr oedd y lliwiau roddai ar y darnau yn ddiguro. Swynwyd ni ganddo, ac ni adawyd dim i'w ddy- muno. Y cor hwnw ywj trydydd a ganodd (Aber- sychan a Pontypw))." g 0 Derbyniwyd y dyfarniad gyda theimladau cym- ysglyd-pawb wedi eu synu, ac nid oedd y rhyfeddu yn llai nag yn Llandudno y llynedd pan y cyhoedd- wyd Buallt yn fuddugol. Yr oedd y gynulleidfa, mae'n amlwg, yn credu mai rhwng Merthyr a Llan- elli y byddai'r dorch. Wedi arwisgo arweinyddion y corau buddugol, dygwyd y cyfarfod i ben. Hysbysir na welwyd cynulleidfa luosocach erioed mewn Eisteddfod nag yn ystod y brif gystadleuaeth gorawl. Y mae'n deilwng o sylw hefyd fod bechgyn y Deheudir wedi rhoddi croesaw a derbyniad cynes- galon i hogia Mon mam Cymru. CYNGHERDD Nos FERCHER. Cyngherdd amrywiaethol gafwyd nos Fercher, dan lywyddiaeth Dr Garrod Thomas. Gweddol oedd y cynulliad, ond cafwyd cyngherdd rhagorol. Y datgeiniaid oeddynt-Miss Maggie Davies, Miss Ceinwen Jones, Miss Olive Grey, Mr Gwilym Richards, Mr Ffrangcon Davies, a Mr David Hughes. Telynor, Mr John Thomas. Organ, Madame Rose Evans. DYDD IAU. Yr oedd heolydd y dref yn 11awn yn gynar heddyw. Dyma ddhvrnod mawr y beirdd, ac y mae pob bardd yn Nghymru wedi ceisio cyrhaedd yma. Gan i weithrediadau'r Orsedd fod mor faith, yr oedd bron yn 11 o'r gloch cyn i'r beirdd gyrhaedd pabell y cyfarfod, ac aed ar unwaith at waith y dydd. Gymerwyd y gadair gan Faer Casnewydd, a'r arweinyddiaeth gan Mabon a Chynonfardd. I gychwyn, caed detholiad gaa y seindorf, yna anerchiad gan y llywydd ac ar ei ol yntau, can- wyd Can yr Eisteddfod gan Miss Clara Butt, a bu raid iddi ail ganu. Canu gyda'r tanau (dull y Gogledd), 2p 2s, Eos Dar yn beirniadu. Buddugol, John Devonald, Aberdar. Beirniadaeth y Prifathraw Morris, M.A., a Proff Young Evans, M.A., ar gyfieithu Herve Riel (Browning), 5p Parch J. Machreth Rees, LInn. dain, yn oreu allan o 10. Cadwen o 12 o Englynion, 0 Fon i Fynwy," 3p. Nathan Wyn, Ystrad Rhondda, yn oreu o 10 o ymgeiswyr. Unawd tenor (a) 11 Walther's Preislied ( Wag- ner) (b) O peidiwch tori'r biodau" (John Henry), laf 5p 5s, ail 2p 2s. Cystadleuaeth rag- orol Richard Thomas, Gilfach, yn oreu, a David Ellis, Cefn Mawr, yn ail. Yma galwyd ar Llawdden i draddodi anerchiad. Cafodd dderbyniad tywysogaidd a gwrandawiad astud. Dyma'r anerchiad mwyaf hyawdl a than- 11yd a gaed drwy'r holl Eisteddfod. A phwy ond Llawdden allai gael sylw mor astud mewn pabell orlawn pan oedd yr hin mor boeth a phawb yn dy- heu am y canu ? Cystadleuaeth ar y delyn deir-res, Pen rhaw," 5p 5s T. G. Page, Gilfach, yn oreu. Triawd i'r crwth, soddgrwth, a'r berdoneg, 4p is buddugol, Maggie Griffith a'i chyfeillion o Gaerdydd. Wedi hyn croesawyd dirprwyaeth oddiwrth y Feis Cceil "-Yr Eisteddfod Wyddelig, a chaed amser difyr a doniol gyda'n cefnderwyr o'r Ynys Werdd. Uuawd contralto, (a) "The Lord is risen" (Sullivan); (b) Da i ni ddysgu (Cambria, Dr. I Parry), 5p 5s. Caed datganiadau rhagorol, y wobr yn cael ei rhanu rhwng Rachel Thomas, Mountain Ash, a Nellie Davies, Merthyr. Dyma ni bellach v. edi cyrhaedd at brif waith y dydd, sef Awdl y Gadatr, heb fod dros 600 Ilinell, ar Brawdoliaeth Gyff- redinol." Beirniaid, Dafydd Morganwg, Tafolog, a Pedrog; 25p a chadair dderw gerfiedig o werth 15p. Esgynodd y beirdd i'r llwyfan yn eu hurddwisg- oedd prydferth, gan ymffurfio'n haner cylch. Darllenwyd y Feirniadaeth (yr hon a ymddengys yn llawn yn ein rhifyn nesaf) gan Pedrog, yn ochr yr hwn y safai ei gydfeirniad Dafydd Morganwg. Oherwydd afiechyd, nid oedd Tafolog, y beirniad arali, yn breaenol. Gorchymynodd Hwfa i Hiraeth godi ar ei draed ac aros yno nes deuai Dyfed a Twm Gwyn- edd i'w arwain i'r llwyfan. Wele bob llygad o'r 8,000 cynulleidfa yn gwylied pwy a godai, a dys- tawrwydd yn tej- rnasu ac wele wr gwelw yn codi wrth yr ail seddau, nid amgen y Parch J. T. Job (M.G.), Aberdar. Tra cyrchid ef i'r llwyfan, chwareuai'r seindorf See the conquering hero comes," a'r dyrfa'a codi ar eu traed i'w groesawu. Wedi gweinio'r cledd a chael "Heddwch," dvma gawod o longyfarchiadau awenyddol gan y beirdd, a chanwyd CSn y Cadeirio gan Miss Marian Evans. YJa. cyhc-eddwyd y Parch John Thomas Job yn Brif-fardd Cadeiriol Cymru am 1897 mewn llais y gellid ei glywed yn Nghaerdydd, a rhoed tair hwre i'r gwron. Wedi gorphen gyda'r hen ddefod, yr hon ni chyfiUwnwyd eleni gyda'r hwyl a'r urddas arferol, canwyd gyda'r tivaau gan Eos Dar. Cyflwynwyd yr ail lywydd, Syr Wm. Harcourt, A.S., i'r cyfarfod a chafodd dderbyniad calonog a theilwng. Traddododd anerchiad dyddorol, a chaf- odd wrandawiad astud. Unawd ar y soddgrwth, "No.3, Andacht" (Papper), iaf, 4p 4s, W. Joskey, Caerdydd ail, lp Is, Beatrice Jones, Crughywe!. Bellach deuwyd at Gystadleuaeth y Corau Merched. I gbr o 25 i 30 o leisiau a gano (a) The Fairies Song" (Bishop); (b) "Good Night" (Wurm), laf, 25p a thlws aur i'r arweinydd ail, lOp. Beirn- iaid, Syr A. C. Mackenzie, Proff Macfarren, a Mr D. Emlyn Evans. Ymddangosodd pedwar o'r wyth c6r anfonasent eu henwau i'r gystadleuaeth, a chanasant yn y drefn a ganlyn Rhondda Female Musical Society Pontypridd Ladies Choir (ar- weinydd, Miss Delany Williams) Swansea Ladies Choir (Miss M. A. Jones); Treherbert Ladies Choir (Miss S. J. Charles). Traddodwyd y feirn- iadaeth gan Syr A C. Mackenzie. Nid oedd yr un c6r wedi rhoi datganiad boddhaol iawn, ond barnwyd Pontypridd yn nghyntaf ac A bertawe yn ail. Darllenodd Cynonfardd feirniadaeth y Proff J. Rhys a Mr O. M. Edwards ar y prif draithawd— (a) Astudiaeth o unrhyw gyfnod mewn Hanesiaeth Gymreig cyn y flwyddyn 1300, gyda chyfeiriadau at fywyd y genedl, &c. neu (b) Casgliad detbol- edig o Farddoniaeth Gymreig y ganrif bresenol, gyda nodion bywgraphyddol a beirniadol; neu (c) Cenedl y Cymry yn yr amser gynt, yn bresenol, ac yn y dyfodol. Gwobr, lOOp. Pump wedi ytn- geisio, ond rhanwyd y wobr rhwng Paul Barbier (Llydawr o genedl, ac Athraw Ffrancaeg yn Nghaerdydd), a'r Parch G. Griffith (Penar), Pentre Estyll Y fuddugol ar y Gosgordd o dri symudiad i Gerddorfa fechan," 15p, oedd Miss Llewela Davies, Caerdydd. Rhanwyd y wobr o 5p am draithawd ar Ffyn- onau Meddyginiaethol Cymru rhwng T. R. Ro- berts, Caernarfon, a Wm. Davies, Talybont, Aber- teifi. Beirniad, Syr J. Williams, Bar., M.D., Llundain. Can, "Hoff wlad fy ngenedigaeth," gan Miss Edith Edwards. Y buddugwr allan o dri am draithawd ar "Hanes Canghen-Ieithoedd Gwent a Morganwg," &c., 21p, oedd y Parch D. G. Williams (A ), Ferndale. Beirniaid, Mr T. Darlington a'r Barnwr Gwilym Williams, CSn gan Mr Gwilym Richards, a gorfu iddo ail ganu. Cafwyd dyfarniad ar nifer mawr o gystadleuon Celf a Gwyddor, ond ni chafwyd enwau'r buddug- wyr. Terfynwyd y cyfarfod trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau." Cyngherdd. Cyngherdd rhagorol gaed heno. Cantata, "The Dream of Jubal" (Syr A. O. Mackenzie) oedd y rhan gyntaf, tan arweiniad yr awdwr y rhan olaf yn amrywiaethol. Cantorion Miss Maggie Da- vies, Miss Clara Butt, Mr Ben Davies, a Mr David Hughes; adroddwr, Mr Ffrangcon Davies; yn nghyda Chor yr Eisteddfod a'r Gerddorfa. DYDD GWENER. Tua deg o'r gloch, dechreuodd y gwlaw ddiagyn, a chaed amryw gawodydd yn ystod y dydd. Pan gyrhaeddodd pobl yr Orsedd y tabernacl, tua 10.30, yr oedd y babell brpn yn annghyfanedd, ac araf iawn y deuai'r bobl i mewn, er y disgwylid llu mawr i wrando'r corau meibion. Llywyddion y dydd oeddynt Arglwydd Kenyon a Mr D. A. Thomas, A. S. Agorwyd y cyfarfod eto gyda detholiad gan y seindorf ac yna cyflwynwyd y llywydd cyntaf i'r cyfarfod gan Cynonfardd. Cafodd Argl. Kenyon dderbyniad teilwng, a thraddododd yntau araith fer ac i'r iawn gyfeiriad. Yn dilyn, caed anerchiadau barddonol,—un yn cael ei ddarllen gan Cynonfardd o waith Miss Orien M. Williams, geneth ieuanc o Scranton, America. Yna daeth Cadfan, Dyfed, &c., yn mlaen gydag anerchiadau brwd. Can yr Eisteddfod gan Mr Gwilym Richards, all bu raid iddo ail ganu. Beirniadaeth Dafydd Morganwg, Tafolog, a Pedrog ar Hir-a-Thoddaid Er cof am Daniel Owen," ac addas i'w osod ar ei gofgolofn. Gwobr, 2p. Buddugol, Parch E. Nicholson Jones, Caer- dydd, allan o 34. Deuddeg penill, Glanau'r Wysg," 2p, goreu,. Brynfab. Duchangerdd, Addoliaeth y Bêl Droed," 2p. Ap lonawr yn oreu. Y beirniaid yn y ddau olaf oeddynt Dyfed, Ceulanydd, ac Elfed. Can gan Miss Mary Owen, gwraig Mr E. J. Griffith, A.S. Dyma'r tro cyntaf iddi ymddangoa- ar y llwyfan cerddorol er's tua wyth mlynedd, a da gan ganoedd oedd clywed ei llais swynol unwaith, eto. Cafodd dderbyniad brwdfrydig, ac nid"yw wedi collidim o'r ysprydiaeth a'i nodweddai. j-Bu raid iddi ail ganu. SES2 Cystadleuaeth i gerddorfa o 25 i 40 o offerynwyr, Beethven s Symphony in C No. 1, Andante and Finale,' 50p a bathodyn aur i'r arweinydd ail, lOp. Beirniaid, Syr A. C. Mackenzie, Proff Mac- farren, a Dr Rogers. Ymgeisiodd tri allan o bump anfonasent eu henwau yn y drefn ganlynol Caer- dydd, Llanelli, a Chasnewydd. Rhoddwyd y wobr flaenaf i Gasnewydd, a rhanwyd yr ail rhwng Caer- dydd a Llanelli. Caed cystadleuaeth ragorol ar yr unawd bariton -(a) "Prologue Pagliacci" (Leoncavallo); (b Brad Dynrafon (D. Pughe Evans), 5p 5a. Gal wyd tri i'r llwyfan, ac ar ol cystadleuaeth galed rhanwyd y wobr rhweg T. Armon Jones, Lianar- mon-yn-Ifil, a David Chubb, Pontypridd. Enillydd y lOp am draithawd ar Chwareu- gerddi Crefyddoi Cymru," dan feirniadaeth Llaw- dden a Dewi Mon, ydoedd D. Lleufer Thomas, Llundain, Traithawd ar Y rnoddioa goreu i gadw ac i ddysgu yr iaith Gymraeg i blant y Cymry mewn parthau Seisnig," rhaawyd y wobr o 5p rliwaf J, E. South* Cisnewydd a'r Parch W, Willfams (G. ab Gwilym L/eyn), Tryddyn. Deuawd tenor a bass, If I pray (Faust, Gou- nod), 4p 4s. Goreu, Wm. Rees, Kynffyg Hill, a Geo. Thomas, Port Talbot. Nid oedd yr un o'r ddau ymgeisydd yn deilwng o'r wobr o 15p. yn ol beirniadaeth Dr Rogers, Mri D. Jenkins ac Ernlyu. Evans, ar y tri o gyfansodd- iadau i leisiau benywsddd (s.s.c.), gyda chyfeiliant i'r berdoneg. Un o'r pethau mwyaf dyddorol oedd y gystadl- euaeth canu peoiiti. n gyda'r delyn (dull y De), 2p 2s..Beirniad, Eos Dilr. Goreu, John Devonald, Aberdar. Yma cyflwynwyd yr ail lywydd i'r cyfarfod, sef Mr D. A. Thomas, A.S., a chaed anerchiad byr ganddo. Rhoed nifer o ddyfarniadau yn adran Celf, ond heddyw eto ni atehai r buddugwyr i'w henwau. Unawd ar y Ci'wth (i rai dan 16eg oed), An dante et Ronde Rasse (G. de Benot), laf, 4p 4s r