Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
-0-CWRS Y BYD
-0- CWRS Y BYD Eisteddfod Cas Newydd. TREF fawr, fordwyol, a'i thrigolion yn rhifo dros driugain mil, a ddewiswyd eleni i gynal yr Eisteddfod. Cas Newydd ydyw prif dref Mynwy. Ychydig cyn ei chyrhaedd, yr oedd- ym yn myned trwy orsaf Caer Lleon, cartref Arthur, fel y dywed y Mabinogion. Yma yr oedd ei lys, ac yma, yn ol y rhamant, y dig- wyddodd prif amgylchiadau ei fywyd—Caer- Ileon ar Wysg y gelwid y dref. Y mae'r lie hwn, cystal ag amryw fanau eraill yn Ngwent-dyna henenw y rhanbarth byfryd hon o'r wlad—yn fyw o ddyddordeb eto, pa nifer o'r miloedd gyrch- odd i Eisteddfod Cas Newydd ydynt ddim elw- ach o fod am ddyddiau yn eisteddfoda yn eu canol? Dychwelasant o'u taith mor anwybodus yn eu cylcb a phan gychwynasant. Yr ydym lawer gwaith wedi galw sylw at y bwlch hwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gyda threfn ac arweinyddiaeth ddeheuig, byddai haner dydd yn hen ddigon buan i ddechreu cyfarfod y bore o leiaf ddau o'r pedwar diwrnod, a dylid defn- yddio y boreuau hyny beth bynag i ymweled a manau o ddyddordeb hanesyddol yn y dref neu'r ardal. Fel y mae pethau yn bresenol, ?huthrir i'r Orsedd ac o'r Orsedd i'r Eisteddfod ac o'r Eisteddfod i'r Cyngherdd, fel mai prin y caiff dyn hamdden i dori ei newyn na gwlychu ei lwnc. Yn (JaB Newydd y cyflawnodd y Siartiaid rai o'u gweithredoedd mwyaf difrifol, ond ycbydig o Eisteddfodwyr gafodd yspeidyn bychan i fyned cyn belled a Westgate i syllu ar 01 eu gwrhydri. Y Babell oedd y fwyaf a welais erioed. Yr oedd hi wedi el chodi ar gwr o'r farchnadfa. Yr oeddych fel Pe buasech yn nghanol cae mawr o'i mewn ei Wwyfan yn nnig yn gymaint a llawer pabell Eisheddfodol. Fe gyst yr adeilad yn unig tua 2,500p. Dywedid y daliai bymtheg mil o bobl, a bod agos i hyny o'i mewn ddydd Mercher, yn gwrando ar y brif gystadleuaeth gorawl. Dyna, r hycy, yr unig dro y bu'r adeilad enfawr agos orlawn a buasai pabell i ddal mil yn j}6*! ddigon at yr holl gyfarfodydd eraill. Tybed *°d yn werth gwario saith neu wyth cant o bunau ar un cyfarfod folly ? Onid gwell fuasai gorfod gwrthod derbyniad rhai miloedd i un cYfarfod na bod y cyfarfodydd eraill rai mil- oedd yn rhy fychain i lanw'r lie ? Yr Orsedd. ^yNALI\VYD hi mewn llecyn bron cyn hardded d r_PWrQ Dedwydd yr oedd hi ynddo yn Llan- e? y Hynedd. Yr oedd y Goraeddwyr yn ary.°h yn well nag y gwelwyd hwy o'r blaen— cael dillad newydd eto, glas cryf o eiliw ysach na dim fu ganddyDt o'r blaen. Edrych- .r 'Peirch derwyddol yn dda iawn, gwyn a ° ynddo, a stwff da oedd y deun- „ ol yr olwg arno. Ond yr achlod i'r tiw Ofyddol. Edrychai rhai o'r dynion yndd g°ly§us yn yr h°ll orymdaith yn ofnadwy hi a -vw g^as y beirdd ac yntau yn ly n^l0j~y mae'r naill yn hylln y llall. Gan °'r urdd am addurniadau,gresyn eu bod yn a<A°lur Uygad. x A dal yr Eisteddfod ? MAE yn anhawdd gweled pa fodd y gall y Pwyllgor ysgoi colled. Rhuthrasant yn mlaen, gan benderfynu cynyg uwch gwobrau nag a fu mewn unrhyw Eisteddfod o'r blaen ac antur- iasant, yn enwedig yn yr adran gerddorol, yn rhyfygus, i ymrwymiadau y buasai ycbydig brofiad yn eu cadw ohonynt. Fel hyn y mae hi, o flwyddyn i flwyddyn, ac fel hyn y bydd hi tan yr oruchwyliaeth bresenol o'r pwyllgorau lleol dibrofiad yn ymgymeryd a'r holl waith. Gorsaf fawr berfedd nos." UN o Stations mwyaf y deyrnas, os nid y byd, ydyw Crewe ac efallai mai yr olwg brysuraf geid arni yn ystod y gwres mawr diweddar ydoedd ganol nos. Dan arweiniad fy nghyd- Eisteddfodwr ffyddlawn Mr Llew Wynne, treuliais ran o ganol nosau Mercher a Iau cyntaf o Awst yn y gyrchfa boblog hon. Gan mor luosog y trenau sydd yn cyfarfod yno o bob cwr o'r wlad ar y ffordd i ac o'r Brifddinas, i ac o Ogleddbarth Lloegr, i ac o Ganolbarth Lloegr, i ac o Ogledd a Dehau Cymru, y mae yno wibio a rhuthro bron yn ddibaid ac yn ddi- daw o'r naill ben o'r flwyddyn i'r Ilall ond yr wythnos ddiweddaf, prin y gallasech roi eich troed i lawr gan bobl a pharseli pyagod—y naill a'r llall, mae'n debyg, yn trafaelu yn oerni'r nos rhag cael eu dyfetha gan wres y dydd. Gellid tybied fod o leiaf gymaint deirgwaith o drafnidiaeth yn Crewe rhagor sydd yn ngor- saf Caer. Eto Caer ydyw'r lie mwyaf an- nhrefnus ac ymarhous o'r haner. Fedrwch chwi byth fyn'd o Lerpwl i Ogledd Cymru trwy y trap hwnw heb iddynt drethu eich amser o chwarter i haner awr. Mae trenau yn rbedeg trwodd o Lundain, Birmingham, Manchester, a manau eraill, ond byth bron yr un o Lerpwl ar gyfundrefn y L. & N.W. Galwyd sylw yn Nghynghor Caer y diwrnod o'r blaen at yr an- mhrydlondeb ar y reilffyrdd, a dywedai un ael- od na fyddai ef un amser pan yn myn'd ar daith gyda'r trgn yn ymgynghori a'r time-table, ond yn cymeryd ei siawns, ac yn cail mai dyna'r ffordd oreu. "Marian Williams." UGAIN mlynedd yn ol, nid oedd ond dwy neu dair gantores mwy poblogaidd yn Nghymru na Marian Williams. Ymgynullai tyrfaoedd anferth i'w gwrando hi a'i chyfnither, Miss Mary Davies. Aeth Miss Davies yn mlaen i'w gyrfa lwyddianus ond yn mhen yspaid daeth cwmwl tros Miss Williams, yr hwn a dduodd ac a ddnodd, nes y gollyngwyd hi ohono gan angau, nos Lun, Awst 2il, yn Llundain, lie yr oedd hi yn preswylio er's rhai blynyddau. Diangenrhaid dweyd fod ei chyfeillion wedi gwneud llawer cais i dori ei chadwynau bydd- ent yn llwyddianus am dymhor, ond ail asiai y gadwen drachefn. Er pan briododd gyda Mr Henry Jones tua deng mlynedd yn ol, anaml y clywid ei llais mwyn a melodaidd ar y llwyfan gyhoeddus, oddieithr i helpu rhyw achos elusen- 01 neu gilydd. Nid oedd hi ond dwy a deugain oed. Gadawodd i'w galaru, heblaw ei phriod, ddau o blant, a'i mham oedranus. Druan oedd hi Not worth powder and shot," YR oedd y diweddar Barch Dafydd Dafis, Pen- machno y pryd hwnw, Bermo wed'yn, yn myued ar gefn ei geffyl o'r Bala i Lanuwchllyn yn lied hwyr ar y nos, ac mewn rhan o'r ffordd sydd yn ymylu ar y Llyn, dyma leidr penflordd yn gafael yn mhen ei geffyl, gan beri i'r pre- gethwr ddod i lawr, neu gwae iddo. "Na ddof," ebe'r marchogwr. "Rhaid i chwi ddwad," ebe'r lleidr. "Ddo'iddim." "Miwna i chi ddwad." "Wneididdim." "Be ydech chi, prygethwr ? Dowch i lawr." "Ie, prygethwr, ac os do'i lawr, mi dy drocha i di'n y Llyn 'na." Prygethwr Batist, myn cebyst i ebe'r lleidr, gan ollwng pen y ceffyl, ac aeth y pre- gethwr a'r lleidr bob un i'w ffoidd. Darluniau annarluniol. MAE Dr John Rhys wedi dyoddef mwy oddiar law arlunwyr nag odid Gymro y gwn am dano Weithiau bydd y prifathraw trylen yn debyg i frawd iddo ei hun, bryd arall i gefnder, yna i ewythr, ond yn un o bapyrau y Deheubarth yr wythnos ddiweddaf, yr oedd ei enw tan ddarlun nad oedd modd ei fod yn agosach perthynas 10'. na chyfyrder i'r gwrtbrych tybiedig. Onibai am ei enw, fuasai undyn byth yn meddwl am y Prifathraw John Rhys.
Ffarmwr yn cael ei gornio…
Ffarmwr yn cael ei gornio i farwolaeth. CYNALIWYD trengholiad yn Llandrygaro, Mon, ddydd Gwener, ar gorph John Williams, Cae- gwyn. Ymddengys ei fod yn myned a, gwartheg i'w dyfrio i'l' afon pan yr ymosodwyd arno gan darw flyrnig, eiddo ei gymydoges, Mrs. Ed- wards. Cododd y tarw ef ar ei gyrn, a thaflodd ef i'r afon. Yno ymosododd arno drachefn. Trwy wroldeb morwyn, gallwyd trci'r tarw ym aith, a llusgwyd Williams i'r lan. Cludwyd ef adref, ond ni bu fyw ond dwy awr. Dychwel- wyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol," a gorchymynwyd caethiwo'r tarw neu ei ladd.
[No title]
o Cig Defaid, Wyn, Bustych, Lloi, o'r fath oreu, wedi'u pesgi a'u lladd yn Nghymru,i'w gael bob dydd am y pris mwyaf rhesymol yn Siop COED Y BRAIN 17 Deane Street, gyferbyn S. Marchnad St. John.
Advertising
GOFYNWCH A MYNWCH GAEL "BARKER AND DOBSON'S BUTTERSCOTCH." MEWN PECYNATJ |c., 3c., a 6cl». Gwerthir gan yr holl Ancwywyr, Grosers, ac mewn ystorfeydd parchus.
Nodion o Fon ac Arfon.
Nodion o Fon ac Arfon. TESTYKAU llawenydd lawer sydd genyf y waith hon. Yn gyntaf oil, yr wyf n llawenhau am lwyddiant cantorion Mon ac Arfon yn Eistedd- fod Casnewydd ac nid rhyfedd i'w barweinydd ffyddlon a galluog, Gwilym Cybi, gael ei gario trwy heolydd Caergybi nos Iau. Blaenorid yr orymdaitb frwdfrydig gan seindorf y dref. Un selog a ffyddlon ydyw ysgrifenydd y c6r, sef yr adroddwr Tom Roberts. Efe sydd wedi ei ethol o lu o ymgeiswyr i gasglu Treth yr Incwm yn y dref. Buasai'n dda genyf gael talu treth i Tom, ond-- Llawenhaf hefyd am lwyddiant Morfudd Eryri, R. A. Griffith (E'phin), ac yn neillduol y cyfaill Bryfdir. Credaf fod dydd yn ei aros pan y coronir ef ag anrhydedd Eisteddfod Genedl- aethol. Buan y delo. Dyna Gwili hefyd wedi enill cadair ac anrhyd- edd Eisteddfod Corwen. Da iawn. Ewch rhagoch, fechgyn. Mae i chwi ddymuniadau goreu calon cyfaill. Llawenhaf fod y Cynghorydd J. R. Hughes wedi ei ddyrchafu i'r fainc ynadol. Daeth y newydd hwn yn hynod annisgwyliadwy, ac am- rywiol yw'r esboniadau a roddir. Fodd bynag, credaf y gwna Mr. Hughes ynad teg a gonest. Derbyniodd longyfarchiadau lu. Fel mae'n hysbys, nid yw wedi bod yn hollol mewn cyng- hanedd a'r blaid Ryddfrydol, ond gobeithiaf y bydd heddwch. Cefais gyfle ddoe i wrando un o bregethwyr mwyaf poblogaidd Y Oymro, set Elfed. Yr oedd ef a'r Parch Rhys J, Huws, Bethel, yn cadw cyfarfod pregethu yn Bethania, Bethesda. Caed cynulliadau lluosog. Dyweder a fyner, mae'r beirdd-bregethwyr yma'n gallu llwyddo i gael dylanwad neillduol ar y tyrfaoedd. Nid yn fuan yr annghofir pregethau y ddau frawd yn y cyfarfod hwn. Mae'n amheus genyf a oes yn unman gystal canu ag yn Bethania, a chym- eryd rbif y gynulleidfa i ystyriaeth. Arweinydd y gan yma yw Mr D. Pennant Evans. Nid yw yn syn fod yma ganu da. Onid yw Pennant yn arweinydd cadeiriol ? Ydyw, debyg iawn. Chwareuid yr offeryn yn chwaethus gan Mr. R. D. Williams, Tanybryn. Brawd ieuanc ffyddiog ydyw'r gweinidog (y Parch T. Griffiths). Yn fuan wedi ei sefydliad yn weinidog ar yr eglwys, torodd yr annghyd- tod allan yn Chwarel y Cae, ac er nad oes rhag- olygon gobeithiol am derfyniad hyny, anturiodd Mr Griffiths gymeryd gwraig a da genyf ddeall fod yr eglwys yn parotoi i gyflwyno anrheg iddo ef a'i briod. Pan ddaw pethau i drefn yn yr ardal, credaf y bydd llwyddiant mawr ar yr achos yn Bethania. Nos Sadwrn. OBADIAH DAVIES. o
Cardd y Cerddor.
Cardd y Cerddor. PRIODAS CERDDOR ADNABYDDUS. DYDD Sadwrn,yn nghapel y M. C. Chatham Street, trwy weinyddiad y Parch W. 0, Jones, B.A., unwyd mewn glan briodas Mr Humphrey Lloyd a Miss Lizzie Jones. Brodor o Borthmadog ydyw Mr Lloyd, a'r wraig ieuanc yn enedigol o Rhyl. Y gwas a'r forwyn oeddynt Mr Lewis Jones, Bedford Street, a Miss E. Jones, Madelaine" Street. Mae Mr Lloyd yn adnabyddus er's blynyddau yn ein dinas fel cerddor; ond odid na saif yn mhell ar y blaen fel un sydd wedi rhoddi ei wasananaeth yn rhad fel unawdwr a beirniad oerddorol i wahanol enwadau crefyddol y ddinas a'r cylch. Ar hyn o bryd deil y swyddi o arweinydd y gan yn y capel uchod, cadeirydd Pwyllgor Eisteddfod y Temlwyr Da, cadeirydd C6r Meibion y Cymric, &c. Nid rhyfedd, fod dyddordeb dwfn yn cael ei gymeryd yn ei (symudiadau, yn enwedig yn yr achlysur hwn o'i briodas. Lluosog a gwerthfawr ydyw y rhoddion a'r arwyddion o ddymuniadau da a dder- byniodd y par ieuanc yn ystod y dyddiau diwedd- af. Daeth nifer luosog yn nghyd i'r gwasanaeth dyddorol o rwymo y ddau yn un, a chwareuwyd y darnau canlynol ar yr organ gan Mr J. H. Roberts, Mus. Bac., sef y "Bridal March" (Wagner) a'r Wedding March (Mendelssohn). Llawen oes yn Hawn o hwyl Eiddunaf i'r ddau anwyl; Gwir uniad grea hanes Di-siomiant llwyddiant a lies Saif yn glod i'w priodas, A theg rym, fendith a gras. Enwog wrid anllygradwy Yw'm cred am eu cariad hwy Di-ddadl eu dull cariadlawn. A'u gloew serch sy'n glws iawn. I'r ddau fhd boed rhwyddaf hynt Heddyw ddymunaf iddynt; A chaffed y par dedwydd Dawel oes, a byd o lwydd; Bywyd teg heb wybod t6n Awel ysig na loesion Dyfyr fo'u cartref hefyd, A'u hanian yn ghn. i gyd Sai'r aelwyd a'i siriolodd Tra deil can drwyadl ac hedd. I'w meddiant doed pob moddion 0 well had i'w gwneud yn lion Ië. a phlant hoff lan'd tjr, A Duw'r Ion gyda'r rhemy; A bywiol ysbrydoledd Gwyn wawr y gan ar eu gwedd Wedi'u cael yn dýaiel cu G wynion, daliant i ganu, Nes cyrhaeddydd, sicr haddef, Had ddi-nos y drydedd nef, I ddiwall chwyddo allan Y fythol dragwyddol gan. 0 yr hwyl oreu erioed—a fynwn I'r fenyw ysgafndroed Ymdaith lawen hyd henoed, A phur lwydd i Humphrey Lloyd. Hir ddyddiau i'r ddau addien,—a Duw Yn dwr rhag pob angen Inch, dda. ymgyrch ddiamgen A'u holl oes yn linell wen. STRADELI,A. -0:
[No title]
Coed y Brain, Nannerch, sir Fflint.-Mae ten- antiaid y- tfarm eang hoa yn magu a phesgi llu mawr o anifeiliaid eu hunain, yn eu lladd yn y lladd-dv sydd yno, ao yn eu gwerthu yn Stop Coed y Brain, 17 Deane Street, gyferbyn a Marchnad St. John, Liverpool.
Advertising
Yn awr yn barod. 384 tudal. Groion 8vc. Pris 3s 6ch. r COFIANT A PHREGETHAU T Parc DAVID DAVIES, Bermo, TAN OLYGIAETH PARCH WILLIAM JONES (David Street) LERPWL. I'w cael gan y Llyfrwerthwyr neu drwy y post ar dderbyniad ei werth, gan ISAAC FOULKES, 8, Paradise Street, Liverpool
Cwibnodion o Ddyffryn Maelor.
Cwibnodion o Ddyffryn Maelor. VVYTHNOS yr Eisteddfod oedd hon, ac nid oedd awydd ynof i feddwl am ddim arall. Tebyg hefyd mai son am yr Eisteddfod ddisgwyliwch i mi wneud, achos gwyddoch erbyn hyn fy mod yn Eisteddfodwr i'r earn. Dymunaf eich hysbysu na fu Maelor heb ei chynrycbioli yno, er gwaethaf y corau yma yn ofni anturio i'r Deheudir. Daeth Cissie Prit- chard oddiyno, ond nid yn waglaw allan o lu o sopranos, dewiswyd hi yn ail, a derbyniodd ddwy gini o wobr, a David Ellis yr un modd. Da iawn. Carasem, wrth gwrs, eich gweled yn enill yr anrhydedd uchaf, ond rhaid bodd- loni ar fod yn ail y tro hwn, a dymunaf eich llongyfarch am hyny, gan obeithio mai uwch yr ewch y tro nesaf. Ni raid i ni yma gywilyddio un amser o achos ein cantorion. Tom Armon Jones hefyd a ddaeth allan yn gydradd oreu ar y bariton, gyda chanmoliaeth uchel y beirniaid, er iddo syrthio tipyn ar ol ar y bass. Daeth gwobr deilwng i Maelor hefyd yn ad- ran celf. Mrs Roberts, Gwrecsam, yn cael 15s am bar o sane." Gwyddoch mai gwaith celf- ydd iawn yw gwau sane Bellach gwyr bech- gyn Maelor lie i ymorol am sane Cymreig. Gwelwch felly na fuom yn hollol ar ol yn yr wyl fawr eleni, er ini ddisgwyl y buasai rhai o'r corau yma yn myned yno i eni I clod ychwan- egol i ni. Boddlon oeddwn i er hyny ar gael bod yn bresenol yn Eisteddfod enwog Corwen ddydd Llun, ac yr oedd holl Faelor braidd wedi codi'n fore i fyned yno, a chawsom wledd amheuthyn. Ni chafwyd cystal Gorsedd erioed yno, a hwyl digyffelvb fu. Chwareu teg i'r beirdd, gwelais hwy'n ffolach lawer gwaitb. Llanwyd y babell yn rhagorol yn y tri chyfarfod, a Llifon yn rhag- ori arno'i hun fel arweinydd. Yr oedd yno ddau lywydd i'r dim—dau ag y mae eu gwladgarwch wedi eu tanio lawer tro, sef Tom Ellis a Lloyd George, Yn ei araith y bore, cyfeiriai Cynlas at ein dewrion a roddasant eu bywyd yn ebyrth byw tros Gymru, ac nad oes gymaint a chareg arw a dwy lythyren i goffa am y man y cwympas- ant; a rhoddai hi'n ballt i. ni fel Cymry am adael dynion fel Owain Glyndwr heb gofgolofn ar ei ol. Lloyd George drachefn, yn y prydnawn, yn Ilawn gwefr, ac yn siarad i bwrpas. Cafodd y ddau dderbyniad cynes a brawdol. Ond yr oedd yn peri i mi gofio yr hyn a glywais Dr. Edwards y Bala yn ddweyd unwaith, am y gwahaniaeth cydrhwng Gladstone a John Bright. Bright yw y melusaf i wrando arno," ebai. ond Gladstone i adael dylanwad ar ei ol." Wedi i Bright ddarfod siarad, dyna yr araith wedi darfod hefyd ond wedi i Gladstone ddarfod siarad, yr oedd yr araith o "hyd yn aros. Felly yn union gyda'r ddau hyn—bachgen Criccieth ydyw ein Bright ni, ond Cynlas ein Gladstone. O'r hyn lleiaf, dyna fel yr oeddwn i yn teimlo dydd Llun. Dipyn yn llawdrwm oedd Watcyn Wyn ar y beirdd, a rhyfedd ei fod yn gallu canmol tipyn ar Gwili. Tybed fod rhai o rigymwyr Maelor yma yn ceisio am gadair; Yr oedd Eilir Aled yn bur siomedig yr olwg arno, a "gwg yn nghil ei lygad. Gwobrwywyd Meurig Cybi am yr englyn, er i'r beirniad ddweyd mai truenus o wael ydoedd. Feirdd, rhaid i chwi dorchi llewis. Cystadleuon canu rhagorol iawn. Ni chlywais gor mawr y Cefn yn canu gystal erioed o'r blaen, a theilwng iawn oeddynt o'r wobr, er clod mawr i'r arweinydd hynaws, G. W. Y cor bychan hefyd dan arweiniad John Wright, yn dda iawn, ond pa le yr oedd y cor mawr-y Cor Peryglus ? Tybed mai teimlo yr oeddynt mai peryglus fuasai iddynt dynu'r dorch a Chor y Rhos yma? Canodd ein cor ni, dan arweiniad Wilfrid Jones, yn rhagorol, yn ol barn y beirniaid a phawb arall.' Dyma'r tro cyntaf i'r cor fod mewn cystadleuaeth er pan mae Wilfrid wedi ymaflyd ynddo, a dyma'r canlyniad—enill dan ganu. Arweiniai Wilfrid yn dda iawn, ond fod tuedd ynddo i golli ei hun ar adegau—braidd yn gyffrous, efallai: ddim wedi arfer a chystadlu fel hyn er's blynyddau. Eithaf naturiol ran hyny. ( Dan Thomas yn edrych yn ddiflas iawn ar ol i J T. Rees eistedd arno ef ac eraill am roi eu bys- edd yn mrowes pobl eraill. Cymered Carrie wers hefyd erbyn y tro nesaf, a pheidied a chanu ond yr hyn sydd mewn print. Gofaled y pwyllgor hefyd i osgoi pethau fel hyn rhagllaw. Yr oedd tipyn o fai arnynt hwy. Er hyny, peidied Carrie a digio. achos mi gafodd ei churo yn deg ar wahan i'r B flat." Yohwacea: o fywyd ao asbri, Carrie. Beaten, but not disgraced Jacob Edwards yma enillodd ar y baritone gyda chanmoliaeth. Tom ac Emlyn oedd yn myn'd a hi bob cynyg y yn y cyngherdd y nos, ac nid oedd diwedd ar yr encorio. Mae Tom wedi gwella liawer vn ddi- weddar, vn enwedig mewn geirio. Pe bae ond yn gweithio tipyn," 'does dim dadl na ddeuai yn fdan yn un o'u pen cantorion. Liongyfarchaf Bwyllgor Eisteddfod Corwen ar y llwyddiant digymysg a gawsant eleni eto, a mawr ganmohaeth i'r ysgrifenydd egniol Ap Rhudrlfryu, JVox Sadwrn. SAMWEL JONES.
LLOFRUDDIAETH PRIFWEINIDOC…
yn penwan arall ond pan gymer wein- yddiad cosb troseddwyr ei gyfraith yn ei law ei hun, hyd yn nod er iddo fod yn foddlon i dalu am hyny, fel y gwna bron bob amser, a'i fywyd ei hun, y mae'n dyfod yn adyn peryglus i'w gyd-greaduriaid, ac mae'n bryd i'w ddyfetha rhag iddo ef eu dy- fetha hwy, neu y sawl ohonynt y tyb efsy'n haeddu eu dyfetha. Hyd i bwynt neill- duol, fel y dywedir, nid oes fawr i'wddweyd yn erbyn y gredo Anarchaidd. Feldamcan- iaeth, ni a allwn gredu mai bendith i ddyn- oliaeth fyddai symudiad ambell ormesydd creulawn, ac ystyried yr hwn a'i symudo yn gymwynasydd i'w gyd-ddynion. Ond erfyn peryglus, nid yn unig l'r perchenog ond i bawb yn ei gyrhaedd, ydyw "dagr y bradwr." Nid pawb fedr ei drin fel Brutus, er iddo gostio yn ddrud iddo yntau ac yr oedd trywanu Iwl Cesar yn ddigon i fell- digo pob erfyn brad am byth. 0 drugar- edd, ni chynyrchodd Cymru, er amled. y tymhestloedd politicaidd fu'n chwythu trosti, yr un Brutus, Orsini, na Golli am y rheswm, mae'n debyg, na chynyrchodd hi ychwaith yr un gorthrymydd, er gwaethed rhai ohonynt, a haeddai farwol- aeth trwy ddwylaw Ilofruddiog. Cenedl- oedd Deheubarth Ewrob ac Asia fu ffrwythlonaf o'r math yma o anghenfilod- y gorthrymydd, a'i ddilynydd naturiol y bradlofrudd. Nid oedd cenedl Israel heb- "dd yLt ac o ddodi hanes cenedl y Cymry a'i hanes hithau ochr yn ochr, ni raid i'r Cymry ostwng pen, er fod ein prif-fardd -telynegol wedi ein lliwio braidd yn ddu mewn can i Garnfradwyr ein Gwlad," pan y dywed Pa beth yw hanes ein hanwyl wlad, Ond brad a dichell, a dichell a brad ? Ond nid oes son yn ein hanes ni am Sehon yr Amoriad nac Og brenin Basan, ac eraill y bu raid eu symud i wneud ffordd i dru- garedd. A'r modd i gadw yr yspryd Anarchaidd o bob gwlad ydyw parhau i docio gwinedd ei llywodraethwyr. Tybed nad ydynt wedi cael cyfleusdra rhagorol i dyfu er pan yw y Llywodraeth bresenol mewn awdurdod ?