Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

-0-CWRS Y BYD

News
Cite
Share

-0- CWRS Y BYD Eisteddfod Cas Newydd. TREF fawr, fordwyol, a'i thrigolion yn rhifo dros driugain mil, a ddewiswyd eleni i gynal yr Eisteddfod. Cas Newydd ydyw prif dref Mynwy. Ychydig cyn ei chyrhaedd, yr oedd- ym yn myned trwy orsaf Caer Lleon, cartref Arthur, fel y dywed y Mabinogion. Yma yr oedd ei lys, ac yma, yn ol y rhamant, y dig- wyddodd prif amgylchiadau ei fywyd—Caer- Ileon ar Wysg y gelwid y dref. Y mae'r lie hwn, cystal ag amryw fanau eraill yn Ngwent-dyna henenw y rhanbarth byfryd hon o'r wlad—yn fyw o ddyddordeb eto, pa nifer o'r miloedd gyrch- odd i Eisteddfod Cas Newydd ydynt ddim elw- ach o fod am ddyddiau yn eisteddfoda yn eu canol? Dychwelasant o'u taith mor anwybodus yn eu cylcb a phan gychwynasant. Yr ydym lawer gwaith wedi galw sylw at y bwlch hwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gyda threfn ac arweinyddiaeth ddeheuig, byddai haner dydd yn hen ddigon buan i ddechreu cyfarfod y bore o leiaf ddau o'r pedwar diwrnod, a dylid defn- yddio y boreuau hyny beth bynag i ymweled a manau o ddyddordeb hanesyddol yn y dref neu'r ardal. Fel y mae pethau yn bresenol, ?huthrir i'r Orsedd ac o'r Orsedd i'r Eisteddfod ac o'r Eisteddfod i'r Cyngherdd, fel mai prin y caiff dyn hamdden i dori ei newyn na gwlychu ei lwnc. Yn (JaB Newydd y cyflawnodd y Siartiaid rai o'u gweithredoedd mwyaf difrifol, ond ycbydig o Eisteddfodwyr gafodd yspeidyn bychan i fyned cyn belled a Westgate i syllu ar 01 eu gwrhydri. Y Babell oedd y fwyaf a welais erioed. Yr oedd hi wedi el chodi ar gwr o'r farchnadfa. Yr oeddych fel Pe buasech yn nghanol cae mawr o'i mewn ei Wwyfan yn nnig yn gymaint a llawer pabell Eisheddfodol. Fe gyst yr adeilad yn unig tua 2,500p. Dywedid y daliai bymtheg mil o bobl, a bod agos i hyny o'i mewn ddydd Mercher, yn gwrando ar y brif gystadleuaeth gorawl. Dyna, r hycy, yr unig dro y bu'r adeilad enfawr agos orlawn a buasai pabell i ddal mil yn j}6*! ddigon at yr holl gyfarfodydd eraill. Tybed *°d yn werth gwario saith neu wyth cant o bunau ar un cyfarfod folly ? Onid gwell fuasai gorfod gwrthod derbyniad rhai miloedd i un cYfarfod na bod y cyfarfodydd eraill rai mil- oedd yn rhy fychain i lanw'r lie ? Yr Orsedd. ^yNALI\VYD hi mewn llecyn bron cyn hardded d r_PWrQ Dedwydd yr oedd hi ynddo yn Llan- e? y Hynedd. Yr oedd y Goraeddwyr yn ary.°h yn well nag y gwelwyd hwy o'r blaen— cael dillad newydd eto, glas cryf o eiliw ysach na dim fu ganddyDt o'r blaen. Edrych- .r 'Peirch derwyddol yn dda iawn, gwyn a ° ynddo, a stwff da oedd y deun- „ ol yr olwg arno. Ond yr achlod i'r tiw Ofyddol. Edrychai rhai o'r dynion yndd g°ly§us yn yr h°ll orymdaith yn ofnadwy hi a -vw g^as y beirdd ac yntau yn ly n^l0j~y mae'r naill yn hylln y llall. Gan °'r urdd am addurniadau,gresyn eu bod yn a<A°lur Uygad. x A dal yr Eisteddfod ? MAE yn anhawdd gweled pa fodd y gall y Pwyllgor ysgoi colled. Rhuthrasant yn mlaen, gan benderfynu cynyg uwch gwobrau nag a fu mewn unrhyw Eisteddfod o'r blaen ac antur- iasant, yn enwedig yn yr adran gerddorol, yn rhyfygus, i ymrwymiadau y buasai ycbydig brofiad yn eu cadw ohonynt. Fel hyn y mae hi, o flwyddyn i flwyddyn, ac fel hyn y bydd hi tan yr oruchwyliaeth bresenol o'r pwyllgorau lleol dibrofiad yn ymgymeryd a'r holl waith. Gorsaf fawr berfedd nos." UN o Stations mwyaf y deyrnas, os nid y byd, ydyw Crewe ac efallai mai yr olwg brysuraf geid arni yn ystod y gwres mawr diweddar ydoedd ganol nos. Dan arweiniad fy nghyd- Eisteddfodwr ffyddlawn Mr Llew Wynne, treuliais ran o ganol nosau Mercher a Iau cyntaf o Awst yn y gyrchfa boblog hon. Gan mor luosog y trenau sydd yn cyfarfod yno o bob cwr o'r wlad ar y ffordd i ac o'r Brifddinas, i ac o Ogleddbarth Lloegr, i ac o Ganolbarth Lloegr, i ac o Ogledd a Dehau Cymru, y mae yno wibio a rhuthro bron yn ddibaid ac yn ddi- daw o'r naill ben o'r flwyddyn i'r Ilall ond yr wythnos ddiweddaf, prin y gallasech roi eich troed i lawr gan bobl a pharseli pyagod—y naill a'r llall, mae'n debyg, yn trafaelu yn oerni'r nos rhag cael eu dyfetha gan wres y dydd. Gellid tybied fod o leiaf gymaint deirgwaith o drafnidiaeth yn Crewe rhagor sydd yn ngor- saf Caer. Eto Caer ydyw'r lie mwyaf an- nhrefnus ac ymarhous o'r haner. Fedrwch chwi byth fyn'd o Lerpwl i Ogledd Cymru trwy y trap hwnw heb iddynt drethu eich amser o chwarter i haner awr. Mae trenau yn rbedeg trwodd o Lundain, Birmingham, Manchester, a manau eraill, ond byth bron yr un o Lerpwl ar gyfundrefn y L. & N.W. Galwyd sylw yn Nghynghor Caer y diwrnod o'r blaen at yr an- mhrydlondeb ar y reilffyrdd, a dywedai un ael- od na fyddai ef un amser pan yn myn'd ar daith gyda'r trgn yn ymgynghori a'r time-table, ond yn cymeryd ei siawns, ac yn cail mai dyna'r ffordd oreu. "Marian Williams." UGAIN mlynedd yn ol, nid oedd ond dwy neu dair gantores mwy poblogaidd yn Nghymru na Marian Williams. Ymgynullai tyrfaoedd anferth i'w gwrando hi a'i chyfnither, Miss Mary Davies. Aeth Miss Davies yn mlaen i'w gyrfa lwyddianus ond yn mhen yspaid daeth cwmwl tros Miss Williams, yr hwn a dduodd ac a ddnodd, nes y gollyngwyd hi ohono gan angau, nos Lun, Awst 2il, yn Llundain, lie yr oedd hi yn preswylio er's rhai blynyddau. Diangenrhaid dweyd fod ei chyfeillion wedi gwneud llawer cais i dori ei chadwynau bydd- ent yn llwyddianus am dymhor, ond ail asiai y gadwen drachefn. Er pan briododd gyda Mr Henry Jones tua deng mlynedd yn ol, anaml y clywid ei llais mwyn a melodaidd ar y llwyfan gyhoeddus, oddieithr i helpu rhyw achos elusen- 01 neu gilydd. Nid oedd hi ond dwy a deugain oed. Gadawodd i'w galaru, heblaw ei phriod, ddau o blant, a'i mham oedranus. Druan oedd hi Not worth powder and shot," YR oedd y diweddar Barch Dafydd Dafis, Pen- machno y pryd hwnw, Bermo wed'yn, yn myued ar gefn ei geffyl o'r Bala i Lanuwchllyn yn lied hwyr ar y nos, ac mewn rhan o'r ffordd sydd yn ymylu ar y Llyn, dyma leidr penflordd yn gafael yn mhen ei geffyl, gan beri i'r pre- gethwr ddod i lawr, neu gwae iddo. "Na ddof," ebe'r marchogwr. "Rhaid i chwi ddwad," ebe'r lleidr. "Ddo'iddim." "Miwna i chi ddwad." "Wneididdim." "Be ydech chi, prygethwr ? Dowch i lawr." "Ie, prygethwr, ac os do'i lawr, mi dy drocha i di'n y Llyn 'na." Prygethwr Batist, myn cebyst i ebe'r lleidr, gan ollwng pen y ceffyl, ac aeth y pre- gethwr a'r lleidr bob un i'w ffoidd. Darluniau annarluniol. MAE Dr John Rhys wedi dyoddef mwy oddiar law arlunwyr nag odid Gymro y gwn am dano Weithiau bydd y prifathraw trylen yn debyg i frawd iddo ei hun, bryd arall i gefnder, yna i ewythr, ond yn un o bapyrau y Deheubarth yr wythnos ddiweddaf, yr oedd ei enw tan ddarlun nad oedd modd ei fod yn agosach perthynas 10'. na chyfyrder i'r gwrtbrych tybiedig. Onibai am ei enw, fuasai undyn byth yn meddwl am y Prifathraw John Rhys.

Ffarmwr yn cael ei gornio…

[No title]

Advertising

Nodion o Fon ac Arfon.

Cardd y Cerddor.

[No title]

Advertising

Cwibnodion o Ddyffryn Maelor.

LLOFRUDDIAETH PRIFWEINIDOC…