Skip to main content
Hide Articles List

15 articles on this Page

Cwreiohlon.

News
Cite
Share

Cwreiohlon. IT MAK'N ddigon gwir nad yw'n bosibl plesio pawb. Cwynai'r amaethwyr yn y gwanwyn ei bod yn rhy sych, ae yn awr y waedd fawr ydyw am wlaw. Yr oedd y sychder gymaint y dydd o'r blaen nes y gweddiganai bardd Penybryn Eisiau gwlaw sydd ar y dyffryn- Eimiau y diweddar-wlaw, Y mae'r ddaear oil yn golsyn, Ac yn eirias ar bob llaw 0 na wlawiai, &c., Gawod o hen wragedd a ffyn. H I ddechreu'r oedfa Sul y bore darllenai'r pre- gechwr y bedwaredd Salm ar ol y cant, a phan ddaeth at y geiriau, Yr hwr a yr y ffynonau i'r dyffrynoedd, y rhai a gerddant rhwng y bryniau," &c., fe fethodd gwr y Felin ag ymatal, a mwmiodd yn glywadwy i bawb, Piti garw na chymeren nhw dro rwan—fu 'rioed fwy o'u heisiau." I IT Yn wir, mae'r gweithiwrs yn ddifrif hefo'r streica yma sy'n syfrdanu'r byd y dyddiau hyn. Gofynodd cydnabod i Gadwaladr o Fethesda, Wyt ti ar streic, Gad. ? "Ydw," ebe yntau. "Am be?" Am lai o oriau." Gefest ti nhw?" Do, 'rydw i heb weithio dim er's tri mis T Dydwch i mi, Mary, oedd o'n gwasgu'ch llaw pan ofynodd i chwi ei briodi ?" ebe gwraig Ty'nrho8 wrth y ferch, pan ddeallodd ei bod wedi cael cynyg; pryd yr atebodd Mary o waelod ei chalon, Y fath ofyniad, mam Sut y gallai pan oedd fy nwylaw i yn dyn am ei wddf?" IT Yr oedd yr hen Ymneillduwyr wedi rhoi lawr yr arferiad wrthun o werthu llyfrau ar y Sabboth. Ond mae'r pechod wedi adgyfodi, a'r gwahanol enwadau yn masnachu eu cyhoeddiadau a'u hem- j ynlyfrau mor ddigywilydd, a phe buasai'n rhan o'u "I' crefydd. If Yr oedd Mr. Pugh, yr arolygwr, yn cymeryd I coflaid o lyfrau oddeutu'r Ysgol y Sul o'r blaen, pryd yr ymhyllodd yi hen wr Dafydd Evans arno (y.r hwn sy'n dipyn o fardd) a'r penill canlynol": — Mae'n bechod gwarthus, onid yw ? I werthu llyfrau ar y Sul; 'Run peth yn union, Mr. Puw, Yw gwerthu llyfr a gwerthu mul. ? Llawer a ddywedir y dyddiau hyn yn erbyn arian aelodaeth y rhai sy'n masnachu yn y ddiod feddwol, ond yn sicr mae arian masnach iyfrau ar ddydd yr Arglwydd yn fwy amheus, a dweyd y lleiaf. Oes arnoch ddim ofn y ffrewyll o tan reff- ynau," dywedweh ? IT Tair trugaredd dymhorol fawr roddodd y Brenin Mawr i'r byd," ebe oracl y dydd o'r blaen ttrbregeth: "gwin, yr hwn a lawenycha galon dyn olew, i beri i'w wyneb ddisgleirio a bara, yr hwn a gyaal galon dyn." Ac ychwanegai fel esbon iad. "fod y gwÎn yn gymaint bendith a'r bara, ac y dylai dyn fod yn ddiolchgar am danynt, a'u defnyddio heb eu camddefnyddio." IF Hy ebe Nathan, ychydig iawn o siawns ay gyno ni at y gwin, ne mi lawenychwn i lawer mwy ar y nghalon nag ydw i; ond am y bara, wir, wn i ddim be ddoesai o nghalon i 'blaw hwnw." IT 0 ran y gwin yfir, fyddai ond odid ychydig fawr gwaeth, ond y cwrw a'r dw'r tan sy'n chware'r felldith. Waeth i Nathan a'i gyfeillion daflu'r spwng i fynu na pheidio. IT Onibai fod dynion wedi deohreu llygru diod Adda, hono ddylasai fod diod dyn. Edrychwch fel mae'n dygymod a'r creaduriaid direswm. Pwy welodd fustach wedi meddwi erioed ? Wedi tori ei syched, dylyfa ei weflau, a chwardda tua'r nef, yn ei ddull ei hun o ddiolch i'w Gynaliwr am ddigon. Mae'n resyn gorfod dweyd mai dyn yn unig sy'n myn'd ar ei spri. IF O'r tren y dydd o'r blaen sylwais ar aderyn du yn disgyn ar gareg yn yr afon Dyfrdwy, ac wedi torsythu ac ymstwyrian, dechreuodd yfed nes oeddwn yn ofni am yr afon ond gynted ag y tor- odd rhoddodd ysbonc, ac ymaith ag ef i'r llwyn CYFARWYDD

[No title]

PEIRIANT CYWRAIN.

!Uchel-Wyl y Wesleyaid.

LLEOLIAD GWEINIDOGION Y GOGLEDD.

Cyfarfod Misol Liverpool.

Y Senedd a Helynt y Penrhyn.I

-0--Nodion o'r Ddinas.

IBarddoniaeth.

Y BEDD

BEDDARGRAPH DYN GLWTH.

Y MOR.

---:0:--Y DON ASSOCIATION

Advertising

ICOLEG Y GOGLEDD, BANGOR