Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

HELBULON ANEURIN HIWEL.

News
Cite
Share

HELBULON ANEURIN HIWEL. [Galt AP CYFFIN.] PEX. VII.—ANEURIN MEWN MASNACHDY DILLAD. GOFIDUS iawn gan Aneurin oedd ei fod wedi gorfod g&dael ei hen le ar delerau mor atgas, ond ni bu yn hir heb gael He arall mewn masnachdy dillad. Caf- odd y lie newydd trwy ddylauwad Cynghorwr o'r enw Robert Hughes—gwr a brynai lawer o nwydd- au yn y masnachdy hwnw. Daeth Aneurin yn fuan i hofli ei le, ac yn fuan iawn daeth pawb o'i gyd- weifchwyr i'w hoffi yntau. Bu raid iddo yma eto gychwyn o'r ris isaf a dringo i fynu yn ol ei allu a'i fanteision, ond yr oedd ganddo fwy o fantais yma i nag yn ei hen le. ) Cyn hir wedi iddo fyned i'r masnachdy hwn, ymwelodd ei fam Sg ef. Nid oedd yr hen wraig yn j medru yr un gair o Saesneg, a dibynii'n hollol ar y cyfarwyddyd manwl a anfonasai Aneurin iddi yn ei 1 lythyr, sut y deuai a pha fodd i gael hyd i'w lety. Dywedodd wrthi pa dren i ddod i orsaf yr Exchange heb newid, ac ar ol cyrhaedd iddi alw ar gabman a dangos iddo'r cyfeiriad oedd ar bapyr yn barod, am y buasai hyny yn arbed iddo ofyn am fyned allan o'r masnachdy yn y prydnawn. Dilynodd ei fam y cyfarwyddiadau yn fsnwl, a chyrhaeddodd orsaf yr Exchange erbyn tri o'r gloch. Y mae'r porter yn tynu ei pharseli allan o'r cerbyd ac yn galw am gab. Pan ddaeth y cerbydwr, holodd i ba le yr oedd i'w hebrwng? Y mae hithau yn rhoi ei llaw yn ei llogell, ond er ei mawr fraw gwelodd fod ei phwrs yn cynw) s ei holl arian yn nghyda chyfeiriad An- eurin wedi mvned 1 Yr oedd rhyw leidr wedi cy- meryd mantais ar yr hen wraig naill ai yn ngherbyd y tren neu yn yr orsaf wedi iddi ddisgyn. Ni chyrhaeddodd Aneurin ei letty hyd saith o'r gloch y noson hono, ac er ei syndod nid oedd ei fam wedi cyrhaedd. Gwelodd yn union fod rhywbeth allan o le, a chyn eistedd aeth yn syth i'r orsaf i chwilio am dani. Cafodd hi yno, ac yn mron a thori ei chaloa wedi bod yno yn agos i hum' awr heb damaid o fwyd er pan adawodd gartrefac wedi colli ei phwrs a chyfeiriad ei mab, ac ni aillasai gofio'r cyfeiriad pe cawsai gan' punt am wneud. Ceisiodd Aneuria ei chysuro goreu gallai,a chym- hellai hi i wDeud. y goreu o'r gwaethaf, ond prin y llwyddodd. Tranoeth aeth Ai fam i weled y mas- nachdy yr oedd ynddo, ac nid bychan fu ei brofed- igaeth yma eto. Yr oedd golwg tra gwledig ar yr hen wraig, fel y qallesid èifgwyl-ei bonet yn hen ffasiwn, a chap gwyn wedi ei gwilsio am ei phen o dan y fonet. Sylwai llawer ami, a chyda chryn lawer o ysgafnder hefyd, nes oedd Aneurin wedi myned i deimlo'n ddwys oherwydd y sarhad, ac nis gwyddai pa fodd i'w osgoi. Cap gwyn oedd ef wedi ei weled ganddi erioed, ac mewn cap gwyn y dis. gwyliai ei gwel^d yn Manceinion. Ni bu ei fam yn y ddinas dros wythnos o amser. Yr oedd twrf tref a hwrlibwrli masnach wedi ei llwyr fyddaru, fel mai da gan ei chalon oedd troi yn ol am hen fywyd tawel a digyffro godreu Hir- aethog,gan benderfynu nad elai i wlad y Sais wed'yn ar chwareu bach. PEN. VIII.—ANEURIN A'R ARIAN COLLEDIG PjiNDERFYNAi Aneurin ddysgu Saesneg yn drwyadl, oblegyd yr oedd hyn yn nod ganddo with ddyfod i Fanceinion. Un diwrnod. aeth i siop John Smith a'i Feib. i brynu cadtich gwddf, a thra yo pigo un cydnaws a'i chwaeth gwelai fod y gwerthwr yn sylwi cryn lawer arno. Tarawyd Aneurin a'r syniad mai bachgen o Sais fel yr hwn a weinyddai arno allasai fod y cymhorth mwyaf iddo i ddysgu'r iaith; a phan oedd yn talu am y cadach, gofynedd y gwerthwr iddo i ba wlad yr oedd yn perfchyn am fod y fath lediaith arno. Y mae ynta.u yn ateb mai Cymro o ganol gwlad ac wedi deall mai mab y siop ydoedd, dywed Aneurin wrtho y buasai ychydig o gwinni un tebyg iddo ef yn llawer o gymhorth iddo ddysgu'r iaith yn fwy trwyadl drwy gael ambell ymgom gyda'u gilydd. Y mae John Smith (oblegyd dyna ei enw), wedi holi tipyn pallach arno, a chael ei fod yn gwasanaethu yn y ffirm yn mha un yr oedd ei dad yn delio, yn addaw gwneud yr oil a allai yn ei ifafr. Yr oedd John Smith yn ddar- llecwr mawr, yn Ymneillduwr selog, ac yn Rhydd- frydwr brwd. Cymerai hefyd ddyddordeb neilldu- ol yn hanes Cymru yn wir, yr oadd yn earu Cym- raes ac o dipyn i beth ffurfiwyd cyfeiligarwch J difluant rhwng Aneurin ac yntau. Bachgen mwyn a llawen oedd John Smith, hawdd ei hoffi a gwneud cyfaill ciilon ohono. Byddai y ddau yn adrodd eu cyfrinachau i'w gilydd. O'r diwedd, daeth Aneurin i dderbyn ffafr gan yr oil o deulu'r ty, ac i fod yn ymwelvdd cyson yno. Er ei fod ychydig yn swil ar y dechrea, bu John Smith ya offeryn i'w dynu allan ac i'w gyfnewid yn hollol. Cynyddai wrth fyned yn mlaen fel y gwna olwyn ar oriwaered, gan enill nerth yn mhob cylch dro a wnelai. Nid hir y bu Aneurin heb fod yn alluog i ymgomio neu ddadlu yn ffraeth a phert, a gallai jocio cystal os nad gwell na neb yn y ty. Daeth y tad a'r fam, y ddwy ferch a'r ddau fab, i feddwl crya lawer ohono. Yr oeddynt oil yn falch fod John wedi taro ar fachgen mor ddymunol, a chydnabyddent fod dylanwad iachus Aneurin yn fendithiol iddo. Galwai Aneurin yn fynych wrth fyned heibio hwyr a boreu i'r masnachdy i weled John, a byddai I yno yn cydswpera a'r teulu yn aml. Un o'r arfer- iadau mwyaf cyson a gadwodd Aneurin tra yu Man- ceinion ydoedd ysgrifenu adref bob wythnos. Ys- tyriai hyn yn un o'r dyledswyddau mwyaf rheidiol i fachgen ieuanc fel ei hunan gyflawni tra yn mhell oddicartref, pe ond er mwyn y rhieni eu hunain a nos Fercher, fel rheol, oedd y noson i ysgrifenu a.dref ganddo. Un nos Fercher yr oedd John Smith wedi myned allan o'r siop oddeutu saith o'r gloch, a'r mab a'r ferch hynaf wedi cymeryd ei gofal. Cawsant ddwy awr lied brysur wedi i John fyned all in a thipyn cyn amser cau y maent yn crybwyll wrth eu gilydd fod yn rhaid eu bod wedi derbyn swm da o arian wedi i John fyned allan ac i foddio ei ehwilfrydedd, aiff y ferch i'r dror i'w cyfrif. Yr oedd hyny tua deng munyd cyn amser cau, a dywed wrth ei brawd fod yno bum' punt mewn aur hebl&w tH Ian gwynion. Pwy ddaeth i mewn ar y foment ond Aneurin, gan ofyn a oedd John i mewa. Y maent hwythau yn ei hysbysu ei fod wedi myned allan er's tua dwy awr, ond eu bod yn ei ddisgwyl yn ol bob munyd. Gwahoddent John i eistedd tra y byddent hwy yn cau y siop. Ufuddhaodd, ao yr oeddynt hwythau yn brysur yn cludo'r nwyddau oddiallan i mewn—y mab yn cario y carpedi trym- ioa ac vn eu gosod yn lied ddiseremoni ar y cown ter. Fodd bynag, cyn pen ychvdig amser y mae Aneurin yn dechreu anesmwytho, ac yn dweyd nas I galli aros yn hwy y noson hono-fod arno eisiau myned i ysgrifenu llythyr adref, ac yn deisyf arnynt ei esgusodi. Felly fu. Ond ar ol gorphen cau, aethant i ymofyn yr holl arian o'r dror ac er eu dirfawr syndod, cawsant fod y pum' sofren a. gyf. rifodd y ferch cyn i Aneurin ddod i mewn, wedi myned Hawddach dyfalu na desgrifio profedigaeth y teulu pan welsaut hyn. Yr oedd y mab a'r ferch yn tystio yn bendant nad oedd neb wedi bod yn y siop o'r adeg y cyfrifwyd yr arian gan y ferch ryw funyd cyn i Aneurin ddod i mewn hyd yr adeg y cyfrifwyd hwy eilwaith ond Aneurin ei hun. O'r diwedd, dyma John adref, ac mae'r hanes yn cael ei adrodd iddo yntau yn fanwl-nad oedd neb wedi bod yn y skp ond Aneurin, mai anmhosibl oedd i neb arall eu lladrata. ond efe, ei fod wedi cael cyfle i hyny pin oedd y ddau y tu allan i'r drws yn dyfod a'r nwyddau i mewn, a'i fod hefyd mewn mwy brys i fyned adref, a bod pobpeth yn yr am- gylchiadau yn pwyntio yn uniongyrchol ato fel yr un oedd yn euog o gymeryd yr arian. Ond y mae John yn sefyll yn gadarn dros ei gyfaill, ac yn dywedyd :—" Ni choelia i byth fod Aneurin yn euog o'r fath beth. Yr wyf yn gwybod fod fy mrawd a'm chwaer yn berffaith onest, ond buasai yr un mor hawdd genyf gredu fod y naill neu y llall neu y ddau gyda'u gilydd yn euog ag ydyw genyf goelio fod Aneurin wedi lfadrata yr arian." We]," meddai Alfred (y mab hynaf), yr unig ffordd i'w gael yn ddieuog ydyw dangos fed rhywun arall wedi eu lkdrata neu ddod o hyd i'r arian." "Beth a wneir? gofynai'r fam. Wei," atebai'r tad, "'does dim ond dau Iwybr i weithredu-un :ai caniatau i Aneurin fyned yn mlaen i fod yn lleidr, neu ei gyhuddo bore 'foru yn y masnachdy ac os bydd yn barod i ddychwel yr arian a chyffesu ei fai, ni wnawn ei gosbi, oblegyd cas fyddai gwneud aderyn carchar ohono, ond eer- yddwn ef yn y modd mwyaf llym. Dywedwn wrtho os bydd i'r cerydd gael iawn argraph arno i'w at?il i gyffwrdd. byth mwyach ag eiddo pobl eraill ein bod yn barod i roi pardwn iddo. A fuasai yn well gan John weled Aneurin yn diweddu ei oes yn y carchar, pan y mae genym fel hyn gyfle-feallailr unig gyfle am byth—i wneud ei ladrad yn fendith ac nid yn felldith?" 0, fy uhad," meddai John, 'does yr un obon- och yn adnabod Aneurin yn well na chystal a mi, ond gan eich bod oil im' herbyn nis gallaf eich rhwystro i wneud fel y dewiswch ag ef. Nid oes genyf dyst ond ei gymeriad disglaer i'w gynyg fet dadl o'i blaid." Fel yna yr oedd ymvriad John Smith a'i ddadl gref yn fftfr Aneurin yn ychwanegu yr anhawsder yn ngolwg y teulu. Nid oedd yr un ohonynt na feddai barch mawr i farn a theimlad John bob amser. Rhagorai araynt oil yn ei graffder. Aeth. pawb o'r teulu i'w gwelyau, ond yr oedd anes- mwythyd meddwl yn nghylch colli'r arian yn peri i gwsg gilio. Boreu dranoeth a ddaeth, ac mae pawb ond John yn cymhell y tad i gymeryd ei Iwybr ei hunan gydf-g Aneurin. Y mae'r tad yn dweyd: Fy nyledswydd i yw myned ato y boreu hwn, acato yr ai os gallaf gael ganddo ddychwel yr arian, gorea oil, a rhof wers iddo nad annghofia hyd ei fedd." Yna mae y tad yn myned, ac yn cymeryd Alfred gydag ef. Gwyddent pa le i gael Aneurin—yr oedd yn mhen uchaf y masnachdy. Bu y naill a'r llall yno lawer gwaith o'r blaen ond y tro hwn, yn hytrach na dringo'r grisiau ato, y maent yn anfon cenad i'w gyrchu i la vr—fod arnynt eisiau ei weled ar unwaith. Daeth yntau ar frys, a'i wyneb fel ysgarl&d o goch. Wedi ei gael i'w gwydd, gofyna'r tid paham y mae mor gynhyrfus a'i wyneb mor goch ? Etyb Aneurin mai am ei fod yn methu deall yr achos eu bod wedi dyfod ill dau, ac eisiau ei weled mor bendant, mai nid felly y byddent arferol a dod i'w weled. Yna edrydd y tad ei neges, a dywed fod y pum' sofren ar goll, ac aeth drwy yi hanes yn fanwl. Dangosodd fod yn rairnhosibl dyfod i un- rhyw gasgliad gwahanol oddiwrth yr amgylchiadau i. na'i fod ef (Aneurin) yn euog o'u lladrata (I barhau).

-0--Nodion Amaethyddol,