Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Newyddion Cymrelg.j

News
Cite
Share

Newyddion Cymrelg. Yn y 16eg ganrif, gallai Cymru ymffrostio mewn /1 Mus. Doc. o'r enw John Guinneth. Mae Syr Lewis Morris yn vsgrifenu cerdd-goffa I i'w rhoddi yn mywgraphiad Gwalehmai. Mae Cwmní Ghwarelau Oakeley, Ffestiniog, am ¡ gyfranu 50p yn flynyddol at Sefydliad y Nurses. j Gwysiwyd 548 o droseddwyr gerbron ynadon sir Ddinbych yn ystod y tri mis diweddaf. 1 Adeiledir eglwys newydd yn Rhosrobin, ger Gwrecsam. Fe gyst dros l,000p. Dirwywyd amryw lanciau yn Nghaernarfon ddydd Sadwrn am yru'n viyllt ar en deurodau. Boddodd dyn ieuanc o Fangor o'r enw Hughes yn y Gonwy ger Trefriw ddydd Gwener. Caiff 400 o dlodion Cymreig Llundain bleserdaith i Southend Awst 10, Cynaliwyd arddangosfa cwa a dofednod ar ben Bryn y Belli, Wyddgrug, ddydd lau, a throdd alian yn Hwyddiant. Mae, Esgob Bangor wedi myned i hen gynefin ei febyd yn Llauerch, sir Aberteifi, gan ei fod yn par- hau yn wanllyd ei iechyd. Gwerthwyd nifer o ffermydd yn Dwygyfylchi a Llangelynin ddydd Gwener gan Mr J. Pritchard, Bangor. Danfonir dwfr y ffynon sanctaidd yn Nhreffynon gyda'r post i bwy bynag a dal am dano, gan y Tad Beaucleik. Dyma newydd de, i'r titotaliaid. Cred y Prifatbraw Viriamu Jones y byddai harddu y tu fewn a chefn adeilad yn gystal a'r ffrynt yn foddion i brydferthu cymeriadau. Mae mab y Parch Thomas Levi, Aberystwyth, wedi enill gradd yn y dosbarth cyntaf mewn cyf- raith yn Rnydychaln. Mr Maelor Thomas, Cefnmawr, Jrw'r ym- geisydd buddugol yn y Coleg Cerddorol Brenhinol am wobr goffa Joseph Mass. 1 Canlyniad streic glowyr Wynnstay yw fod y meistriaid wedi caniatau ceiniog ychwaneg y dun- ell iddynt am drin y "glo careg." I Am ymosod ar ddau gymydog, anfonwyd John Bennett, glowr, gan ynadon y Wyddgrug, ddydd I Mawrtb, i garchar am 21 niwrnod. Anrhegwyd eglwys M.O. Carmel, Conwy, â llestri arian cytnundeb gan Misses Williams, Cae Gelod, er oof am eu mham. Cynygiodd tafarnwyr roi gwobr o chwisgi yn Arddangosfa Amaethyddol Mon, ond gwrthododd y pwyllgor y cynygiad, Rhoed croesa-w calonog i'r Deon Howell vr w-itb. I nos ddiweddaf gan gymdeibhasau dirwestol eagob- aeth Tyddewi. Pregethai'r Parchn. Dr. Farrar, New York, a Dr. Pierson, Llundain, yn Llarsdudco yr wythnos ddiweddaf. Nos Tau, cyflawnodd Jacob Defford, gof, Dol- I helyg, Llandegai, ger Bangor, hunanladdiad trwy ytngrogi. Yn y trengholiad dycbwelwyd rheith- farn iddo gyflawni'r weithred tra'n orphwyllog. Mae Eglwyg Gvmrseg Llundain wedi rhoi gaiw- ad i'r P=irch. B. Thomas, B.D., curad Eglwvs St Mair, Bangor, i'w bugeilio fel olynydd i'r Parch Crowle Ellis. Dywed Prifgwnstabl sir Ddinbych fod cerdded ar y brif-ffordd yn awr mor beryglus a cherdded ar y reilffordd, ac awgryma y dylid cofrestru pob rhodwr. Ddydd Sadwrn, rhocldocld Ardalydd Bute ardd- west i aelodau Cymdeithas y Cvmmrodorion yn St. John's Lodge, Regent's Park, Llundain. Ymgyn- 11 ullodd tydfl. fawr. Y Parch. T. C. Phillips, Caerdydd, sydd wedi ei benodi i fywolsaeth Scjwen ac y mae'r Parch. Griffith ThomaSi Mountain Ash, wedi ei olynu yn- tau yn Nghaerdvdd. Yn Llangefni, ddydd lau, gwertbwyd rhansu helaeth o ystad Rhianfa, eiddo Lady Verney, gan Mri. Dew a'i Fab. Oyfanwerfch yr eiddo werth- wyd ydoedd 66,866p., a phrynodd llawer o'r ten- antiaid eu ffermydd. Yr arholwyr am raddau'r Orsedd yn 1898 fydd- ant Berw, Dvfed, Elfed, Iolo Caernarfon, Gwilym Alaw, a Mr. J. T. Rees. 7n mhlith y pynciau am urdd ofydd ceir Llythyrcm Goronwy Owen, gy- urdd ofydd ceir Llythyrcm Goronwy Owen, gy- hoeddwyd yn y swyddfa bon, Nos Fereber, cynaliwyd cyfarfod sefydlu'r Parch. W. Williams, diweddar o Helygain, yn weinidog eglwys Gymreig M.G. Southport. Cym- erwyd rhan gan y Parch. G. Ellis, M A., BootIe; E. J. Evans, Walton Pryce Dtvies, Caer; John Chatter, Southport; a W. O. Jones, B.A., Chat- ham Street. Hysbysir rnarwolaeth y Parch. Thos. Williams, ficer Kilvey, Abertawe, yr hwn a gaed yn farw yn ei gadair nawn dydd Gwener. Yr oedd yn 57 oed, ao addysgwyd ef yn Ngholeg Aberhonddu er ei barotoi i'r weinidogretli gyda'r Annibynwyr. Trodd ya Eglwyswr, a bu'n cleriga yn Abertawe a Kilvey. Yn nghyhoeddiad Eisteddfod Ffestiniog, gwisgai yr Archdderwydd Hwfa Mon grya gwyn, a dyma fel yr arerchwyd ef gan Dyfed :— Hwfa fawr a'i lef a fyn—i'r anial Grynu fel daeargryn; Broliaf mai braw i elyn Yw'r gwresog wr mewn crys gwyn. Cynaliwyd cyfarfod o Fwrdd Duwinyddol Prif- ysgol Cvmru ddydd lau, dan Iywyddiaeth y Prif- athraw Reichel. -Rysbyswyd fod Richard Morris, M.A.. Llaaartnoo, o Goleg v Bala, wedi pasio'r »r- holiad am y ra«d o B D.—Ymddiswyddodd y Prif- athraw T. C. Edwards, D.D., B-ila, fel arholwr. —Penodv»yd y Prifathraw Roberts yn I'y wydd y Bwrdd am y flwyddyn nesaf. Prudd yw darllan yr englyn buddugol a ganlyn, gyfansoddwyd gan Evan Williams, Gaerwen, erbyn cwrdd cystadleuol Parcybont, Llanddaniel. Yr wythnos ddilvnol i'r cyfarfod bu yr awdwr farw yn ugain ced. Y fynwent yw'r testyn Rhan hedd y meirwon yw bi,-brenin braw Wna'n brudd y byw ynddi; Ar risian'n hoes gwers i ni Yw swm hanes ei meini. -0- Cig Dcfaid, Wyn, Bustych, Lloi, o'r fath oreu, vvedilu pesgi a'u lladd yn Nghymru,i'w gael bobdydd I a y pris mwyaf rhesymol yn Siop COED Y BRAIN 11 Deane Street, gyferbyn ii Marcbnad St. John. ¡ Agorir oriel celf Eisteddfod Gas newydd ddydd I Sadwrn, y Slain cyfisol, gan Arglwydd Tredegar. Mae'r diriogaeth yn Canada a gynygir i chwarel- I wyr Bethesda yn gorwsdd gerllaw y Myuyddoedd ¡ Creigiog, ac yn gyfoethog o fwn aur, ineddir. I Derbyniodd y Parch J. W. Jones, Ll&ofairfcalhai- ¡ arn, alwad i fugeilio eglwys M.C. Liang win, ger Corwen. Mae'r Parch. Vyrnwy Morgan wedi cael ei alw i fageilio eglwys y Bsdyddwyr yn Youngstown, America. Mr Pentir Williams, cyfreithiwr, sydd wedi ei beuodi yn drefnydd Rhyddfrydwr Arfon fel olyn- ydd i Mr. R. D. Williams, Porthvraur. Hysbysir fod Trefriw a'r ardal yn 11 awn ymwel- lir wyr, a chynelir cyngherddau foreu a hwyr gerllaw I y ffynonan. Yn Nhroffynoa ddydd Mercher, cyhuddwyd dyn trwsiadus o dwyllo masuachwyr. Gofakiwyd yr achos. Cwynir yn dost fod gweithiau dur ac alcan yr America wedi eu parlysa. Yn Pittsburg, ceir 7-5,000 o Weithwyr dur yn segur, a llawer ohonynt yn Gymry. Hysbysir rnarwolaeth Mr Richards, arolygwr ilyfrfevdd Mri W. H. Smith Feibion yn ngorsaf- oedd Gogledd Cymru. Tra yn dilyn ei orcbwyl yn ngwasanaeth Cwmni'r Great Western yn ngorsaf Rhiwabon ddydd Linn, dirwasgwyd Allen Roberts rhwng y wageni. Ofnir am ei fywyd. Er arian ac er eiriol,-er ochain O'r achos yn lleddfol; Er gwaeddi yn dragwyddol, Ni ddaw i neb ddoe yn ol. Yn Llys Manddyledion Llandudno ddydd lau, gwysiwyd John Kitts ga.n Gwmni'r Farchaadfa am 22p, set r hent stoadin. Gorchymynodd y Barnwr Syr H. Lloyd fod yr arian i'w talu. Mae Mr. Nicholas Bennett, Glan'rafon, y lien- garwr diwydbwyll, wedi cychwyn rnudiad i godi cofgolofn ar fedd y telynor John Roberts (A/azo Elwy) yn mynwent Llanllwchaiarn, Maid wyn. C vfodd herwheliwr o'r enw Coppack ei anfon i fis o garchar gan nadon Gwrecsam ddydd Lhm. Bu ffrwgwd wyllt rhyogddo a'r cipar, a llwyddo id dau o'i gymdeithioo i ddianc. Mae un gwr yn Guardian Manceinion ddydd lau yn rhoi cynghor da i glerigwyr. Dyma fe :—" Os tenitir chwi i gweryla gyda golygydd nen chebvdd -peidi,,a,,ch." Eithafeyngliorieraillhefyd. Penderfyrodd Bwrdd Ysgol Treifynon yn eu cyfarfod diweddaf ofyn i'r ynadon gynal llys aibeaig i wrando aehosion yn erbyn rhieai o esgeuluso anfon eu plant i'r ysgolion. Dychwelwyd rheithfarn o 11 Farwolaoth ddarn- weiniol" yn y trengholiad ar gorph Samuel Hughes, gyfarfu â'i ddiwedd tra'n yradrochi yn y Gonwy get Trefriw, Dliwyd dyn o'r enw Thomas Jones yn Nolgellau yr wythnos ddiweddaf gan yr heddgeidwaid, a dedfrvdwyd ef i fis o garchar am feddwi yn y dref 16 rnlyncdd yn ol. Ddydd Sadwrn, bu CymdeitbM Peiriauwyr Lerpwl ar yrnweliad a chwareli y Mri Darbishire, Penmaenmawr. Mr George Farren, Caernarfon, yw llywydd y gymdeithas hon. Cymro, sef Dr T. R. Jones, Rhymney, fu am dymbor yn ysbytty Dinbych, yw efrydydd medd- ygol mwyaf llwyddianus Prifysgol Edinburgh. Enillodd y bathodyn yn y tri arholiad y bu trwy- ddynt. Mae'r tywydd poeth yn effeithio hyd yn nod ar wartheg. Yr wythrkos ddiweddaf aeth buweh i dafarn yn N ghaerdydd, a phrysurodd i'r ystafell ysmygu. Ond bu raid iddi ddyfod allan heb dori ei syched. Hysbysir rnarwolaeth Mrs Mary Roberts, Ran- dolph, America, yr hon oedd enedigol o Frvngwr- an, Mon. Yn 1875 enillodd brif wobr Talaeth Wisconsin am wneud ymeuyn, a chafodd 60 dolar a bathodyn arian. Tra yr oedd Edwin Hughes, 40 oed, yn llanw wagen o 10 yn nglofa Black Park, ger Rhiwabon, ddydd Gwener, disgynodd tuti haner tunell o ysbwrial ar ei ben. Ciudwyd ef adref, ond bu farw yn mhen ychydig oriau. Trwy garedigrwydd Iarll Carrington, larll Ancasler, a Mr J. Blackwell, caniateir i rai'n meddu tfwydded bysgota yn y Gonwy ar eiddo'r boneddwyr hyn ar ddyddiau lau a Sadwrn heb dalu ychwaneg am y fraint. Disgwylir y bydd hyn atal llawer o'r herwhela gymerai len flaenorol Geriach anhawdcl eu trin yw y crwydriaid. Cymerwyd un i'r ddalfa yn Llanrvrst ddydd Mercher am fod yn feddw ac afreolus. Yn y gell maluriodd y ffenestri. Pan ddedfrydwyd ef i fis o garchar dechreuodd rwygo ei ddillad yn y llys. George Parry oedd ei enw, o Bwcle y daethai, a gallai ymffrostio fod g tnddo goes bren, gallai ymffrostio fod g tnddo goes bren, Yn mynwent Llanfaes, ger Beaumaris, ddydd Mercher, claddwyd gweddillion Mr Andrew Laurie, ynad heddweh, cyn-faer Beaumaris, a phrif oruch- wyliwr ysted Baron Hill. Ymgynullodd tyrfa fawr. Gweinyddwyd gan y Parchn T. Lloyd Kyffin, J. Arthur Evans, a James Donne, Llan- gefni. Canwvd O frvniau Caersalem ar Ian y bedd. Un o emynau godidocaf Pedr Fardd yw hono Un ydyw'r eglwys oil Trwy'r byd a'r nefoedd wen, F,)Ii nenir yn ami yn Eglwysi Sefydledig Cymru, ac awgryma un gwr mai v ddwy linell nasaf ddyiai fod- Ond ambell Esgob gais Trwy'i chanetl roddi lien. Nos Fitwrth yr oedd miri mawr yn Nghriccieth wrth groesawu Syr H. J. Ellis Nanney adref ar ol derbyn urdd maichog. Harddwyd y dref, fFurf- iwyd gorymdaith, taniwyd coelcerthi, a gollyng- wyd tan gwyllt. Darllenwyd anerchiadau lion gyfarchiadol i'r Syr newydd gan Mri. W. Watkin a Robt. Thomas, Y.H,, ar ran yr ardal wyr, a thraddodwyd anerchiadau gan amryw yn canu clodydd y gwr a anrhydeddid. Diolchodd Syr a Robt. Thomas, Y. H" ar ran yr ardalwyr, a thraddodwyd anerchiadau gan amryw yn canu clodydd y gwr a anrhydeddid. Diolchodd Syr Hugh yn gynes am y teimladau da a ddangoswyd tuag ato. 0: Although Flour is much dearer, the prices for Cornabia Self-Raising Flour have not been raised. I

rGwlisnodloii a Ddyfhyn -Castor.

-V jHeiynt Ysgol Ganolracld…

:0: — Ficar Rhiwabon yn ymdlzsswvddo.

--:0; Calofn Dirwest, --