Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Y DDAEARGRYN YN INDIA

News
Cite
Share

Y DDAEARGRYN YN INDIA COLLEDION DIRFAWR Y GENADAETH FETHODISTAIDD. CYFARFOD OYHOEDDUS YN LESPWL. SPRYDNAWN ddydd Mercher, Gorph 7fed, cynal- iwyd cyfarfod cyhoeddus yn nghapel Crosshall Street i ystyried pa fesurau i'w cymeryd er cyfar- fod y golled ddirfawr i'r genhadaeth trwy ddinystr yr eiddo cenhadol yn India gan y ddaeargryn ddi- weddar. Dechreuwyd gan y Parch John Thomas, B.A., Catharine Street, a chymerwyd y gadair gan Mr David Hughes, Y.H., yr hwn a ddywedai fod yr amgylchiad presenol yn un tra phwysig yn hanes y genhadaeth. Yr oedd y ddaeargryn wedi peri colledion dirfawr-y tai, a'r ysbyttai, a'r capelau oil wedi eu dinystrio yn llwyr. Digwyddodd hyn hefyd ar yr adeg fwyaf anffafriol o'r flwyddyn, pan oedd y tyrnhor gwiawog yn India yn dechreu, a rhaid fod cyflwr y cenhadon o dan yr amgylchiadau yn bur rpsynlls. Gan nad oedd derbyniadau blyn- yddol y genhadaeth yn ddigon i gyfarfod a'r treul- iadau arferol, yr oedd sefylifa y Gymdeithas yn ngwyneb y golled fawr a'r alwad ychwanegol hon yn dra difrifol. Credai, fodd bynag; y byddai i'r Oyfundeb gyfarfod yr amgylchiad yn deilwng, a hyderai y rhoddai eglwysi Lerpwl esiampl dda i eglwysi y wlad. Y Parch Josiah Thomas, M.A., a ddywedodd nad oedd ond ychydig o faaylion eto wedi dyfod i law, ond ein bod wedi derbyn digon i ddangos fod angen gwueud rhywbeth yn yr achos ar unwalth. Yn mhen ychydig (idydd a-,i ar ol derbyn y pell- sbrau cyntif o'r India, anfonwyd peiiebrau at y cenhadoa i ofyn iddynt beliebru amcangyfrif o'r golled, a derby niwvd peliebyr yn oi yn hysbysu fod y golled yn cyrhaedd y swm o ddeng mil o bunau. Nid oedd y swm hwn yn cyxiwys ond y golled o'"dd yo disgyn ar y genhadaeth yn union- gyrchol nid oedd yn cynwys dim o golledioa y I brodorion, DIG y oh wait h o golledion peraonoi y cenhadon. Hysbysai iddo (Iderbyn llythyrau oddi- wrth amryw gyfeillion yn datgan eu cydymdeim- lad ac yn addaw eu eydweithrediad gvdag unrhyw fesur a fernir yn briodol i geisio cyfarfod a'r golled; un oddiwrth y Prifathraw Prys, Trefecca, yncalon- ogi y Cyfeisteddfod i wneud apel at yr eglwysi, ac yn datgan ei farn y rhoddid gwrandawiad parod iddi; llythyr hefyd oddiwrth hen gyfaill ffyddloa i'r geuhadaeth, Mr Edward Griffith, Y.H., Dol- gellau, yn arwyddo ei barodrwydd i wneud ei ran yn bersonol, ac yn hysbysu fod y cydymdeimlad a'r genhadaeth yn ddwfn iawn yno llythyrau hefyd oddiwrth y Parch E!iis J. Jones, Manchester, a Mr John Edwards, Pendleton, yn hysbysu eu bod yn dechreu ar unwaith yn eu cylch hwy i wneud yr hyn a allimt yn yr achos. Hysbyswyd fod Mr Edwards hefyd wedi tmysgrifio lOp tuag at yr amcan. Anfonodd Mr J. Herbert Roberts, A.S., i ddweyd y bvddai yn dda ganddo roddi cyfraniad tuag at gyfarfod y golled, a datganai gydymdeim- lad dwin a'r cenhadon a'r cvfarwyddwyr. Derbyn- iwyd llythyr hefyd oddiwrth Mrs Own, Oxton, yn amgau cheque am 50p drosti ei hun, a 5p yr un dros ei dwy ferch, Misses E. M. ac S. S. Owen. Da fyddai gan y cyfarfod glywed darlleniad y llythyr canlynol oddiwrth Mr Edward I) a vies, Y.H., Llandinam :— Plas Dinam, Llandinam, Gorph. 7, 1897. Anwyl Mr. Thomas, Derbyniais eieb llythyr dyddiedig y 3ydd cyf yn amgau copi o'r cylohlythyr y bwriedir ei anfon i'r eglwysi ac i aelodau unigol, yn apelio am gyfraniadau tuag at gyfarfod y colledion dirfawr sydd wedi syrthio ar ein cyd-Gristionogion mown cysylltiad a'n gwaith cenadol yn India. Nid oeddwn wedi gallu casglu oddiwrth yr adroddia.dau yn y newyddiaduron mor fawr ydoedd y trychineb, a thra yn uno a chwi yn eich datganiad o ddiolchgar- wch am yr amddiffyn sydd wedi cael ei entyn dros fywydau ein cenadon a'u teuluoedd, nis gallaf beidio ymdeimlG it mawredd y golled sydd wedi ein cyfarfod, yr hon, os na chyfarfyddir hi ar unwaifch, a all der- fynu mewn ataliad ymarferol o'n gwaith cenadol ac mewn llawer o ddyoddef i'r rhai sy'n cymeryd rhan ynddo. Byddai yn warth oesol i ni pe byddai i ni droi ein cefnau ar ein cydwladwyr a'n eyd-Gristion- ogion yn yr awr hon o'u cyfyngder a'u dyoddefaint. Oherwydd, ar wahan i'r golled fawr sydd wedi cyfar- fod ein Gymdeithas Genadol, rhaid fod llawer iawn o ddyoddef personol yn mysg y brodorion yno, ac y mae yn ddyledswydd arnom i wneud yr hyn a allom i'w leddfu. Teimlaf yn bur sicr, pa fodd bynag, fod gweithrediadau ein Cenadaeth wedi cael eu dilyn gyda dyddordeb mor fyw gan lawer sydd mewn gallu I gyfranu yn helaeth, ac fod y fath gydymdeimlad Cristionogol yn rnysg ein haelodau yn gyffredinol, fel y bydd i'ch apel dderbyn gwrandawiad parod a hael- frydig drwy holl gylch ein cyfundeb. Cydolygaf A chwi fod yn rhaid i'r ddyledswydd o gyfarfod y golled ddifrifol hon gael ei chyflawni yn galonog ac yn ddiymdroi, ac os bydd i naw mil o bunau gael eu casglu cyn diwedd y flwyddyn, bydd yn dda genyf finau gyfranu un fil o bunau fel ag i wneud i fynu y swm y cyfrifir sy'n angenrheidiol. -Yr eiddoch yn jfyddlawn, EDWARD DAVIES. Derbyniwyd darlleniad y llythyr gyda Hawenydd mawr a chymeradwyaeth uchel. Anogai Mr, Thomas ar fod i'r cyfraniadau gael en talu i -ii cwn mor fnan ag y bo'n bosibl, g-tn y bydd angen dafn- yddio yr arian ar unwaith.—Yn nesf, galwyd ar 7 Parch. H. Jones, D. D., i gvnyg penderfyniad yn datgan cydymdeimlad dwys a'r cenndon a'r brodor- ion yn yr amgylchiadau profedigs.ethus y unseat yuddynt. Dywedai Dr. Jones mai y peth cyntaf a ddylem wneud oedd ymostwng gerbroa y Llywydd mawr. Anhawdd oedd i ni weled yn y tywyllwch ddaioni a doethineb yr Arglwydd, ond ar yr un pryd dylem gredu ei fod yn gwneutbur pobpeth ya ddoeth ac yn dda. Tydi a wnaethosb hyn," ebe'r Salmydd ac felly y dylem ninau ddweyd Duw sydd wedi ei wneud. Y mae achosion naturiol," fel y byddwn yn eu galw, ond mae Duw yn yr achosion hyny. Da fyddai i ni ymostwng ger ei Iron, a chydnabod ei fod yn ddoeth ac yn ddft. Y mae'r amgylchiad presenol yn ymddangos i ni fel pe byddai'n ariffafriol i'r Genadaeth, ond ychydig iawn welwn ni o'n blaen. Mae'r Genadaeth yn rhan o 'waith Duw, ac o brif waith Duw. Ei waith mwy- oaf Ef yw dwyn yn mlaen Ei deyrnas yn y byd. Mae'r hyn sydd wedi digwydd fel pe'n myned yn groes i hyny, ond da fyddai i ni gofio fod holl or aofcwyliaethau Duw mewn rhagluniaefch yn rhwym n fod yn ddarostyngedig i ameanion mawr Ei deyrnas. Oredwn beth fel hyn, er mor dywyll yw yr oruchwyliaeth. Cefnogwyd y cynygiad gan y Parch. J. Hughes, LA. Feallai mai gwneud mwy o le iddo'i hun osdd amcan yr Arglwydd yn yr oruchwyliaeth non, trwy ein dwyn ni i fod yn fwy hunanymwad- 01, i aberthu mwy iddo, ac i gysegru ein hunain yn fwy llwyr i'w wasanaeth. Yr oedd lIawer o dda- ioni yr Arglwydd i'w weled yn yr amgylchiad, yn neillduol yn Ei amddiffyn tyner dros fywydau ein cyfeillion. Y Parch John Williams, Princes Road. a ddy- wedai mai ymweliad oddiwrth yr Arglwydd ydoedd hwn. Gobeithio y byddai i ni ei adnabod fel y cyfryw. Nid oedd dim yn profi dyniou yn fwy nag ymweliadau dyeithriol o'r natur yma. Yr oedd yr ymweliad hwn yn ein profi ninau fel Cyfundeb,— yn brawf ar ein ffydd a'n haelioni Yr oedd Thomas Aquinas, meddai, yn gyfaill mynwesol i'r Pab, ac un diwrnod pan dalodd ymweliad ag ef, yr oedd y Pab yn brysur yn cyfrif pentyrau o arian. All yr eglwys yn awr meddai, ddim dweyd, Arian ac aur nid oes genyf. "Ie," atebai Aquinas, "ond fedr yr eglwys yn awr ddim dweyd wrth y cloff 'Cyfod a rhodia.' Nis gallon ninau fel Cyf- undeb ddweyd, Arian ac'aur nid oes genyf," ond fe allwn hefyd ddweyd wrth yr achos sydd wedi ei gloffi yn yr India, Oyfod a rhodia." Hyderai y byddai ir Cyfundeb gyfarfod yr amgylchiad yn deilwog. Ar ol rhoddi y penderfyniad gerbron y cyfarfod, dywedodd y cadeirydd ei fod am addaw y swm o bum cant o bunoedd tuag at wneud i fynu y golled. Y Parch Thomas Gray, wrth gynyg y pender- fyniad nesaf, sef, Ein bod yn dymuno i'r swydd- ogion yo mhob eglwys nodi personau cymhwys i weithredu fel trysorydd ac ysgrifenydd i'r achos, ac hefyd i benodi nifer o frodyr i ymweled a phob aelod o'r eglwys i aicrhau tanysgrifiadau," a ddy- wedai fod y cyfarfod hwn yn sirioldeb yn nghanol y tristweh. Buasai yn dda ganddo ps buasai yn bosibl iddo yntau gyfranu pum' cant, ond gobeith- iai y byddai i'r rhai osdd wedi eu bendithio â chyf- oeth ddilyn esiampl ragocoi y cadeirydd. Cefnogwyd y cynygiad gao Mr William Thomas, Y.H Bootle. Dywedai fod yr India wedi dyoddef lhtwer yn ddiweddar yu gyntaf drwy y newyn, ac wedi hyny gan yr haint, ac yn awr trwy ddaear- gryn ddinvstriol. Credai oi fod yn ddyledswydd arnom i wneud ymdreoh arbenig, nid yn unig i gyfarfod y golled i'r genhadaeth, ond hefyd i gyn- orthwyo v brodorion oeddynt wedi dyoddef yn drwm. Tybiai y gellid gwneud sipal at y cyhoedd yn gyffredinol—yr oedd ein perthynas fel gwlad a'r India yn ein gosod dan rwytnau a chyfrifoideb mawr yn r-glyn a hyn. Parch. G. El is, M.A., a deimlai yn wir ddioloh- gar am yr ysbryd rhigorol ddangosid yn y cyfar- fod. Diolchai'n gynes i'r cadeirydd am ei rodd dywysogaidd. Ofnai fod ein pobl gyfoêthog wedi myned i'r arferiid o roddi s?miau mawrion ya eu hewyllysiau, a gresyn na fyddai i rai ohonynt ddilyn esiampl, Mr. Hughes, a rhoi symiau mawrion yn ystod eu bywyd. Terfynwyd gan y Parch, J. Hughes. J.H.M. LLYTHYRAU ODDIWRTH GENHADON. Derbyniodd y Parch Josiah Thomas, M. Ao, lyth- yrau oddiwrth y Parchn Edward Hugh Williams, gynt o Lerpwl, a Dr Edward Williams, gynt o Gorwen. Wele ddyfyniadau ohonynt :-Parch E. H. Williams a ddywed ei fod ef a i briod, Dr a Mrs Griffiths, a Mr Robert Jones, yn eistedd yn nhy Dr Griffiths pan y clywsant ruad cental y ddaeargryn, Yn eu dychryn rhedasant oil allan yn ddiatreg, a chyn pen ychydig funydau gwelent y ty yn adfei'.ion, y ddaear wedi ei h sgor, a'r holl adeiladau ceryg cylchynol wedi cyfarfod yr un dynged. Diangf* gyfyng gafodd y Parch J. Cer- edjo' Eyans a'i deulu. Bu agos i Miss Annie Wil- liams golli ei bywyd, oblegyd methai agor y drysau, a bu raid i fur y ty syrthio tuag allan iddi fedru diano. Claddwyd tua chant yn fyw yn argraphdy'r Llywodraeth, a chloddiwyd atynt mor fuan ag oedd modd. Caed lluaws yn ddianaf, ond dygwyd 14 i fynu yn feirw. Mae'r cenhadon ar y Bryniau yn yr un sefvllfa-eu bvwydau wedi eu hachub, ond eu hadeiladau ya adfeiliou. Ar ol y galanas ceisiwyd noddfa mewn deildai, ond gan fod y gwlawogydd yn disgyn yn drwm yr oedd y lleoedd hyn yn annghysurus iawn. Yn Sheila, llyncwyd haner y pentref gan y ddaear, a lladd- wyd llu mawr. Lladdwyd tri o Gristionogion yn Shillong a chwech yn Cherra. Dr Edward Williams a ddywed :-Yr oeddwn i a Mrs Williams yn eistedd ger ffenestr ein hanedd. Gynted y clywsom y twrf, rhuthrasom allan, ond cododd fy mhriod waedd am y plant Rhuthrais yn ol gan fyned o'r naill ystafell i'r llall, a'r nen- fwd yn disgyn yn dalpiau ar fy mhen. Caed y plant yn ddyogel yn ngofal y ddwy fcrwyn. Prin yr oeddym wrjdi myned ychydig latheni o'r ty nag y syrthiodd i'r llawr. whe'r holl adeiladau meini wedi eu malurio, a lluaws o'r tai coed wedi eu niweidio. Ni chollwyd bywydau yn Jowai na Shangpoong, ond lladdwyd tri yn Nantglelang, a thri yn Solika. Mae'r holl gyfferi a'r ymborth wedf eu claddu dan yr adfeilion, a'r sefyllfaln adfydus iawn. LLYTIIYR ODDIWRTH MISS AKI IE WILLIAMS AT Y PARCH OWEN OWENS, ANFIELD. Shillong, Mehefin 15fed, 1897, Anwyl Mr Owen a chyfeilliou eglwys Anfield Road,—Yn nghanol yr helynt yr wyf yn ceisio cael hamdden i ysgrifeau gaie atoch Gadewch i mi ddechreu trwy ddweyd fv mod yn hollol iach er fy mod wedi cael fy achub o safn angeu. Cefais waredigaeth ryfedd o'r ddaeargryn. Rhoddaf yr hanes fel y cofif ef. Maddeuwch bob aflerwch-anhawdd ydyw cael heddwch i ysgrifenu. Nos Sadwrn, y 12fed o'r mis hwn, tua 5 o'r gloch, yr oeddwn yn eJstedd ya fy ystafell wely yn y ty newydd. Ty hardd ydoedd, ac yr oeddwn yn gorphen ei harddu. Bum yno trwy yr wythnos yn cysgu, ac yr oeddwn yn gwneud fy nghartref yno gan ddisgwyl cael gwneud llawer o waith yno yn y dyfodol. Yr oedd v dydd yn un niwlog iawri; ac yr oedd- wn yn disgwyl ystorm o feUt a tharanau. Bob amser pan y cawn ystorm fel hyn bydd yn ysgwyd y ty trwyddo, Wel, sefais i fynu gan edrych altan trwy y ffenestr, a dyma ruadau mawr fel tar an aw, a "dechreuodd y llawr ysgwyd. Ni feddyl iais ddim ohono, ond mewn eiliad cefais fy nhaflu i'r pen arall o'r ystafe 1 at ddrws ystafell fach arall. Dyma geryg yn dechreu syrthio i lawr o'r ceiling, a rhedais inau i'r vst ifell fach er mwyn myned allan o'r ty. Syrthiodd y verandah i l»wr, ac yr oeddwn mewn tywyllwch dim ond y rhuo mawr a'r ceryg yn syrthio 0 bob ta imi. Rhoddais fy nwylaw ar fv mhen gan feddwl ei arbed, ond dim gwell. Ni wyddwn beth i'w ddis- gwyl. Yr wyf yn cofio i mi ddweyd o w, elod fy nghalon gan feddwl fod y diwedd wedi dod arnf, -11 Yr wyf yn credu yn Iesu Grist," lawer gwaith drosodd. Ni feddyliais am eiliad y deuwn allan yn fyw. Ond mewn muayd wed'yn syrthiodd y wal i lawr, a chlywn leisiau yn gwaeddi yn Khasi, "Rhedwch allan! rhedwch allan 1" Gan fod fy llygaid yn Hawn o lwch, a fy spectol wedi ei chario ymaith gyda'r ceryg, a fy mhen hefyd yn stupid gan darawiad y ceryg, ni allwn eu gweled, ond rhedais allan yn syth o fy mlaen, a chefais fy hun yn mreichiau tair o fy mhlant anwyl o'r ysgol. Wel, 'doedd dim i'w wneud ond gorwedd ar ein hyd yr oedd y ddaear fel dw'r berwedig yn codi i fynu, ac mewn ugain Hath i ni agorodd, ond ni chafodd neb eu lladd yno. Daeth munyd 0 dawel wch, ac aethum cyn gynted ag y galiwn i weled sut yr oedd ar fy nghymydogion, Mr a Mrs Evans. Mor dda oedd genyf weled y ddau a'r plentyn bach -John Penry-yo ddyogel. Yr oeddynt hwy wedi gwybod ar symudiad cyntaf y ddaear mai daeargryn oedd, ac wedi ffoi, ond gan na, fum i yma'n ddigon hir i gael y daeargrynfau bach, ni fedrwn ddeall y twrw. Gwelsom olwg ofnadwy o'n cwmpas pen Shil- long Peak (copa'r mynydd ueh f yn Khasia) wedi syrthio i lawr; tai y Khasis ya deibhiors i gyd ond y rhai oedd wedi eu gwneud o reeds. Cawsom un ty fel hwn i gysgu ynddo. Diolch am do o ryw fath. V mae llawer, bron yr oil, heb gartref yn awr. O'r Prif Ddirprwywr i lawr at y Khasi tlotaf, mae pawb ar yr un lefel. Mae'r bob! yn brysur yn gwneud pebyll i fyw ynddynt. Ni fydd tai ceryg byth eto i'w cael oina Y mae'r Ewrop- eaid cyfoethocaf yn awr yn nghanol y farchnadle heb ond y to droatynt. Nos Sadwrn cefais noson ddrwg iawn. Medd- yiiais yn sice fod niwed parhaol wedi ei wneuthur i fy mhen. Yr oeddwn bron yn ddiwybod am danaf fy hun daeth y ffyddlon Anna ataf, ac arcsodd gyd mi ar hyd y nos. Erbya y boreu yr oeddwn yn ilawer gwell, ac yr wyf yn awr wedi gwelia'n llwyr. Nid yw y ddaeargryn droaodd eto. Neith- iwr, bed war diwraod ar ol yr ysgytiad cyntaf, daeth un arall drwg iawn. Codais i fynu yn barod i redeg allan, ond trwy drugaredd yr Arglwydd. acbubwyd ni. Yn awr, wrth ysgrifenu, ysgydwyd y ty o gornel i gornel Y i-c, golwg dorcalonus ym:l'r dyddiau hyn-fy ysgol yn ffUt ar y ilawr y capel hardd yr un fath. Meddyliwoh dim un capel na thy cenadol yn sefyll hano ar Fryniau Khasia Wyddom ni ddim am Syihet a Siichar. Yn y Government quarters yma. bu dau farw, a chafodd 40 eu lladd yn yr Argraphdy. Gelwg ddif- rifol yw gweled y cyrph yn cael eu cario fel y dygir hwynt o'r adfeilion. Olywn fod yr Inner o bentref Cristionogol yn agos i Cherra wedi ei ys gubo ymaith. Y mae caneedd wedi eu hyrddio i dragwyddoldeb heb fyaud o rybudd. Gobeithio y caf ysgrifenu gair atoch yn fuan eto i chwi gael pob newydd. Yr ydych yn anwyl iawa genyf wrth gael adnewyddiad o fywyd. ANKIE WILLIAMS,

--:0:--Colofn DirwestI

[No title]

Nodion o'r Ddinas.

[No title]

Advertising