Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Nodion o Fon ac Arfon
Nodion o Fon ac Arfon Al AE'.N dda genyf gael y cyfle i longyfarch Sein- dorf Naotlle ar eu lJwyddiant yn y gystadleu- aeth fu'n yrnyl Gwrecsam ddydd LInn. Yn ys- tod yr wythnosau diweddaf maent wedi enill arian lawer. Feallai fod Seindorf Llan Ffestin- iog wedi chwythu gormod yn eu hudgyrn wrth gyhoeddi'r E steddfod ddydd Sadwrn, ac fod hyny yn cyfrif i raddau am iddynt golli'r brif wobr y waith hon. Y dydd o'r blaen yr oedd dau aelod o Gyng- hor Trefol Caernarfon yn pleidgeisio tros un o'r ymgeiswyr am y sedd wag. Yr oedd yn rhyfedd genyf eu gweled—un yn Rbvddfrydwr a'r llall yn Dori. Betb oedd yn cyfrif am hyn, tybed ? Os etholir y gwr, cawn weled gyda pha blaid y cydweithia ar y Cynghor. Bu'r Parch. D. S. Davies, Caerfyrddin, yn y cylcboedd yma'r wythnos hon yn gwerthu ei lyfr ar Fedydd. Gwerthodd infer dda. Ddydd Sul yr oedd cyfarfod pregethu Silob. Gwaaanaethwyd gan y Parcbn. William Jones (Trawsfynydd gynt) Abraham P.)berts, Llun- dain a Moelwyn Hughes, Aberdyfi. Cafwyd oedfeuon hyfryd. Pregethai y ddau olaf i dyrfa fawr yn Moriah nos Lun. Peth cyftredin yw gweled pregethwyr fel yn ymdrechu pa un i bregethu gyntaf. Dylent benderfynu o'r gol- wg, ac nid gerbron y gynulleidfa. Y mae'r hen frawd anwyl y Parch. W. Lloyd, Caergybi, wedi gorphwyso oddiwrth ei lafur. Pregethodd yn gymeradwy am oes faith. Bu hefyd yn gofrestrydd priodasau. Dywedir ei fod wedi priodi dros 900. Yr edd wedi rhoi'r swydd hono i fynu er's amser, a'r Parch. R. ,P. Williams wedi ei ethol iddi yn ei le Bydd cyf- rifoldeb ofoadwy ar R.P. os y prioda gynifer a'i ragflaenydd. Bu aelodau Bwrdd Ysgol Caernarfon yn es- bonio yn mhlith eu hunain paham yr etbolwyd Sais ganddynt yn lie Cymro. Pe buasent heb gondemnio eraill am yr un trosedd, buasai yn haws maddeu iddynt o'r haner. Bll nifer o lanciau Eryri drosodd yn Mon yr wythnos hon yn parotoi i fyned gyda Chor Caer- gybi i Gasnewydd. Mae'n anturiaeth fawr, ond cyfrenir yn galonog i'w cynorthwyo, a dymunir eu llwyddiant. Deallaf fod gweithwyr Chwarel Bryn Hafod y Wern wedi ail ddechreu gweithio. Da awn. Mae amryw o chwatelwyr Bethesda yn myn'd o gwmp-ts i werthu llyfrau, te, &c., ac yn cael cefnogaeth dda. Ond y maent yn cyfarfod a phrofedigaeth i'w teimladau weithiau. Aeth un i geisio gwerthu llyfr at wraig weddw arianog, ac yr oedd hi'n myn'd i bryou'r llyfr pan yr ym- yrodd gweinidog ac y dywedodd, Mae'r Myfr gen i, a chewch hwnw am ddim." Felly atal- iwyd gwerthiant y llyfr yn yr amgylcbiad hwn. Ymddengys fod yn well ganddo gael arian na llyfrau ar ol y weddw. Mac wedi dwyn llyfrau allan ei hun cyn hyn, ac mae'n ddigon tebyg na charai efe i neb geisio atal eu cylchrediad. Live and let live." Nos Sadwrn. OBADIAH DAVIES. CAERNARFON.—Ddvdd hn rhoddoddyr Hen adur M. T. Morris, Y.H. (Mri. Morris a Davies, Kelson; fordaith i'w wasanaethyddion yn ngydag ychvaic gyfeillion-tlla 95 o gwbl i r Belan, sef caerfa'r Anrh. F.G. Wynn, Glynllifon, a. saif ar drwyn deheeol y fynedfa o'r Fenai i Far Caernarfon. Llogwyd yr agerlong Arfon, a red rhwng Arfon a Mon. Gan fod gwelliantan yn myn'd yn rnlaen ar hyn o bryd yn y Belan, rhoed ffermdy'r Warren gerllaw at wasanaeth y cwmni. Trodd y tywydd braidd yn anffafriol, ond llwyddodd pob un i wneud ei hun yn dded- wydd, er mai hoewal, ystablau, cytiau Hoi, &c., oedd cynullfan ami un, tra pawb yn ei dro yn ymweled ar ffarmdy a manau eraill i yraosod ar y lluniaeth danteithiol osodwvd ar y bvrddau. Yr oedd Mr. Morris a'i ferched yn gwyli-d fod pawb yn cael ei wala, tra yr oedd boned-iigesau ieuainc y siop a bechgyn y countars yn sicrhau na chai yr un cwsmer fyned ymaith yn wag ei gylia ac ansiriol ei feddwl. Mwynhawyd y prydnawn gyda chanu a difyrion eraill. Ar y Hong wrtb ddychwelyd cynaliwyd cwrdd diolcb, pcyd y cydnabyddwyd caredigrwydd Mr. Morris a'r teulu bob amser, yn enwedig ar yr achlysur presenol. Wrth ateb, ymfalchiai Mr. Morris fod ganddo yn ei wasanaeth rai fu yn y He yn ddidor am 12, 18, a 25 mlynedd.
[No title]
Djrmn brisiau anifeiliaid yn ffair Caer ddydd Ian :-Gwartheg godro, 13p. i 20p cyfloion, 12p. i 18p. hespion, 9p. i 22p. heffrod, 8p. i 13p.; styrcs, 5p. i 7p.
MYNED I NEWID AWYR.
MYNED I NEWID AWYR. I LAN y mor yn awn ar hynt, I gwmni'r gwynt a'r tonau, Ac yno, yn ei ddyfroedd glan, Y dyddan noflwn ninau. Yn vstod yr wvthnosau a'r misoedd dyfodol, bydd miloed"d'o Gymry, ac o Saeson o ran hyny, yn gwibio SSw WH wlad, er cael newid awyr ac adeyfnerthiad natur ac ysbryd i wynebu dyledswydd- au a ffofalon y tymhor dyfodol. Ymwelir a slanaAi y mor ac a'r ffynonau gan luoedd o'r cyfryw bob blwyddyn. Mae llawer yn myned vno i geisio pleser a mwynhad yn ystod eu gwyhau, ond rrfae y mwyafrif mawr yn myned er ceisio adfer- ad nerth ac iechyd, y rhai sydd weda eu hamaru gan lafur a gofalon. neu gan ystormydd y ganaf blaenorol. Nid oes amheuaeth nad un o'r moddicm goren i gyrbaedd yr amcan hwn yw newid awyr, a newid eolvgfeydd a chwmpeini, ymdrochi yn y mnr ac yfed dyfroedd meddygol y ffynonau, gan fod hyn yn effeithio yn llesiol ar y cyfansoddiad. Ond mewn trefn i sicrhau y daioni mwyaf a derbyn ^wyaf o leb, dvlai yr vmwelwyr a'r lleoedd hyn wneud defnydd o Conine fitters Gwilym Evana,-y moddion enwocaf i gydweithio a newid awyr er cynorthwyo natur i ym- fddhau oddiwrth nychdod, ac i nerthu y cy11a, a Jbwrw allan bob anmhuredd a cryfhau y cyfansoddiad. T^bvnir cymaint arall o les os gwneir defnydd p- odol o Bitters Gwilym Evans pan yn newid awyr. P s poteli 2s 9c a 4s 6c yr un. 1'w cae.i ynmhobman, Su i?wy v post vn uniongyrchol odd.wrth y perchcn- ogion :-Quinine Bitter.s Manufacturing Co., Ltd., IJane lly.
Ffestiniog.I
Ffestiniog. I [Daeth rhan flaenaf yr ohebiaeth hon i Jaw yn rhy ddiweddar at y rhifyn diweddaf]. WEL, daeth diwrnod mawr ac ofnadwy Eistedd- fodwyr aiddgar Ffestiniog o'r diwedd, a dymunol meddwl ei fod wedi myned heibio yn ddibrofedig- aeth hyny yw, nior bell ag y gwn i. 0 bosibl fod ambell un wedi cael ei siomi am na fuasai wedi cael ei godi ar drostan uwch, fel y gallasai y werin a'r miloedd glywed iaith ei galon yn y geiriau, A welwch chwi fl," ac nid anhygoel ydyw y flaith fod lluaws yn bresenol yn chwenych safleoedd eu cymydogion a enillasant y cyfryw drwy eu ffydd- londeb i r pwyllgotau. a gyna.liwyd yn ystod y flwyddyn, a'r yni a'r pybyrwch a ddangosasant gyfla,'r niudiad er ei gychwyniad. "Tellwng i'r gweithiwr ei wobr," boed bf wreng neu foneddig, ac nid oes gan y sawl sydd yn dyoddef y dincod neb i'w fcio ond efe ei huo. Gwahoddwyd yr ardalwyr yn gyffreditiol i gefnogi y symudiad er ei wueud yn Ilwyddiant, a chware teg iddvnt, daeth- aut allan bron fel un gwr i roddi eu hysgwyddau dan y baich. Un o'r pethau cyntaf a wnaethum boreu Sadwrn oedd troi iy ngolygon i dwll y gwlaw," ac er fy ngofid gwelais mai arwyddion dryghin yn unig oedd i'w canfod, ond pan deimlais fod yr awel yn chwythu yn rhy uchel i'r llif-ddyfroedd agynwysai y cytnyl bygythiol a ymlwybrent drwy yr eangder o gyfeiriad y de-orllewin ddisgyn, ymsioncais gryn lawer. Mi ddaw i fwrw," ebrwn wrthyf fy hun, "and llÁi ddaw y Nadolig hefyd." Ymddengys mai disgwyl gwlaw yr oedd llawer o'r dyeithriaid a ddaethant yn nghyd, canys cludai pob copa walltog ohonynt wlawlen gydag ef. Wedi talu ymweliad a Bryn yr Orsedd, a ch&el sicrwydd nad oedd Cowlyd na'r Proffeswr wedi bod yn ymyryd a'r meini y bu Cyffdy a Gwilym Morgan mor ddiwyd yn eu casglu ac yn eu gosod yn eu lie, teimlais y gallwn yn dawel fyned adref i ymdrwsio yn Nhwll tan-y staer yma fel ag i fod yn barod i "ymwyddfodi" yn agoriad yr Orsedd ar Awr Anterth. Daeth yr awr, a daeth yr Archdderwydd; daeth y Cledd, a daeth y Corn Gwlad tan ofal eu ceid- waid, ond er holi a stilio methwyd a chael fod neb yn bresenol allai roddi gwynt yn y corn. Ac eto yr oedd amryw ohonom yn fodau Ilawn o wynt! Wel, trwy oddefiad yr Archdderwydd cafodd y corn holiday am y tro, ac aethpwyd yn mlaen gyda'r gweithrediadau. Tybed mai Gwyoedd a dynodd y nefoedd i lawr wrth adrodd Gweddi'r Orsedd ? Pa un bynag am hyny, daeth cynwysiad y cymylau yn genllif arnom era yr oedd Hwfa yn traddodi ei anerchiad, ond gwenodd yr haul yn siriol pan winciodd yr Archdderwydd droa gopa y D iphwys. Y n wir, bron na f uasgi estron i'r iaith yn cymeryd ei ddarbwyllo mai ar archiad yr Hwfa yr ymwahanodd y cymylau i'r huan gael ffordd glir i'r Maen Llog. Hyn sydd sicr, ni chafwyd achos owyno oherwydd y tywydd o'r awr h')n hyd derfyn y gweithrediadau. Dywedir fod yr arlwy ddarparwyd gan Miss Owen yn Ngwestty'r Freuhines yn deilwng ohoui hi, y ty, a'r cynulliad. Oafwyd yno ddoniau dyeithr a chartrefol. Hysbyso id Mr Oakeley, (llywydd yr Eisteddfod) ei fod wedi derbyn gair fod ei grasusat Fawrhydi y Frenhines wedi bodd- loni i roddi ei nawdd i'r Eisteddfod, a darllenwyd liythyrau dderbyniwyd gan Mr Ariander Hughes oddiwrth amryw o uchelwyr yn datgan eu p..rod. rwydd i gefnogi cyfarfodydrl yr hen sefydliad yn 1898. Pa le yr oedd gweinidogion Annghydffurfio). yr urdai yn lie bod yn y ciaiiw ? Dywedir fod yr urdd glerigol leol wedi bod yn ddigon rhydd i ym- gymysgu gyda'r gweinidogion dyeithr oeddynt yn bresenol, ond ni chiywais fod cymaiut ag un o'r frawdoliaeth Ymneillduol i'w weled o amgyLh y bwrdd ar adeg mor bwysig. Hyderaf mai nid mursendod ar y naill law na diffyg parch i'r sefydl- iad ar y Haw arall a'u rhwystrodd i gyfathrachu â'1' cwmni dyddan a ddaeth yn nghyd. Ni chefais gyfle i weled yr orymdaith, ond buas- ai'n ganmil gwell genyf gael eistedd ar un o'r clogwyni cyfagos na bod wedi fy nghilwasgu yn nghanol meibion Anae fel yr oeddwn. Dywedir i mi ei bod yn olygfa fendigedig, ac- y mae'r ffaith fod cynifer o'r trigolion wedi troi allan yn eu gwisgoedd goreu i'w gweled yn brawf diymwad i mi fod calon yr ardalwyr yn bleidiol i'r earn i'r Eisteddfod. Un o'r golygfeydd mwyaf arddunol a welais erioed oedd yr Orielau uwch eang orielau o wyr, gwragedd, gwyryfon, a phlant a eisteddent ar lechwedd yr hen Garegddu tra'r elai yr orym- daith heibio. Yr oedd yr olwg arnynt yn bryd- ferth tuhwnt i ddesgrifiad bardd. Yr oedd y beirdd yn Ngorsedd fel arfer yn ffraeth dros ben, ond tsiulwn awydd anfon at yr awdur- dodau i ofyn a oedd dim modd symud y gair ysten" o'r geiriadur Cymraeg, wrth wrandaw ar y beirdd yn ymfflamychu. Wrth gwrs. yr oedd pob un ohonynt yn credu mai efe oedd biau'r syn- iad o ddihysbyddu cymylau Ffestiniog a chludo eu cynwysiad mewn ysten i leoedd llai gwlithog, ond yr oedd eu clywed y naill ar ol y llall yn gwneud defnydd o'r ffugr yn peri i un nad yw yn meddu gronyn o awen dybio fod pobl Lerpwl yna wedi bod yn ymyryd â hwy. Hit dda roddodd Cadfan i Morus, a doniol oedd clywed Cynhaiarn yn bygwth gwneud araith pan oedd yr haul ar fin machludo. Gwyr pawb pm ddechreuo efe nad oes ond daear gryn, dydd y farn, neu'r parlys mud a'i hatal. Canodd Cor Meibion y Moelwyn, tan arweiniad Cadwaladr Roberts, yn odidog, a chanwyd penill- ion nes gwefreiddio'r cynulliad gan W. O. Jones. Dyna i chwi, a ddichon dim da ddyfod o Dany- grisiau ? Canwyd y delyn yn swynol gan Delyn- ores Lleifiad, yr hon sydd yn prysur enill ei lie yn serch y Ffestiniogiaid. Llanwai (yr wyf yn her ffaith ymwybodol wrth ddefnyddio'r gair) Hwfa areithfa ddydd Sul, a'r prawf sicraf o'i boblog rwydd yn yr ardal ydoedd gwynebau y dorf an- eirif a'i gwrandawent mor astud am ddwy awr yn oedfa'r nos. Pregethodd fel efe ei hun-prin y mae yn bosibl rhoddi uwch canmoliaeth. Gorph. 3. BWYGIL. Gofidus genyf ganfod fod y gwr sydd yn rheoli "Cwrs y Byd (uherwydd ditfyg adnabyddiaeth olu personau yn ol y cn> wd, mae'n debyg), wedi gwneud tipyn o gam a gweinidogion lleol Ffestin- iog yn ei nodiadau ar Gyhoeddiad yr Eisteddfod. Awgryma yn bur blaen mai ychydig ohonynt oedd yn bresenol yn y dathliad, ond diau y caciata i mi ei gywiro. Yr oedd holl esgobion Ymneillduol y plwyf a'r plwyfi cyfagos, gyda thri eithriad, yn wyddfodol, yn nghyda chlerigwyr y lie a'r amgylchoedd. Yn wir, yr oedd y rhan luosocaf ohonynt yn cerdded yn yr orymdaith fawreddog, ac yn dwyn mawr zel dros y mudiad. Nis gwn a oedd gan y triwyr absenol resymau neillduol dros beidio dangos eu hochr ond o ran hyny, hwyrach nad oes gan yr un ohonynt ochraeth o gwbl at sef- ydliadau cenedlaethol, ac mai ffwlbri ac ynf vd- rwydd y cyfrifant yr Eisteddfod o'i chyhoeddiad hyd nes y bydd yr elw wedi ei ranu. Pa un bynag am hyny, ni effeithiodd eu habsenoldeb ronyc ar boblogrwydd y dathliad, a sicr genyf y cerir y gweithrediadau yn mlaen yn heddychlawn i der- fyniad llwyddianus heb eu cynorthwy. Nos Wener, nos Sadwrn, a dydd cul, cynaliai Annibynwyr yr ardal eu gwyl fawr flynyddol. pryd y cafwyd oedfaon gwlithog gan y Parchn J. 0 Williams (Pedrog), W. Pari Huws, B.D., W. J. Nicholson, Pov-thri-iadog D. Bowen, Llansadwrn D. R. Jones, Treorci D. Rees, Capel Mawr D.G. Williams. Ferndale R. Thomas, Glandwr John Thomas, Merthyr; R. Roberts, Rhos; H. P. Thomas, Birkenhead; G. Griffiths, Pentre Estyll; O. L. Roberts, Lerpwl a Proff J. M. Davies, M.A., Bangor. Cynaliwyd cyfeillach am ddau o'r gloch prydnawn Sadwrn yn nghapel eang Jeru- salem dan lywyddiaeth y Parch J. Hughes, Tany gris au. Y testyn a ddewiswyd i'w drafod ydoedd Cenadwri sydd i eglwysi y dyddiau presenol yn y liythyrau at saith eglwys Asia." Er fod yr anerchiadau yn ardderchog ac yn fuddiol, teimlwn fod coflaid pob siaradwr yn ormod iddo allu gwneud cyfiawnder a'i destyn mewn deng munyd o amser. Deallaf fod pwyllgor golygyddol yr Eisteddfod wedi gorphen eu gwaith, ac y bydd y rhestr gyf- lawn yn nwylaw yr argraphwyr ddechreu yr wyth- nos, fel y gadluogir ef i'w chael yn barod erbyn cyfarfodydd Casnewydd. Yn y pwyllgor llenyddol diweddaf newidiwyd testyn y cywydd o Telynau Duw" i Diaiweidrwydd," a gall y bardd a ddechreuodd gyfansoddi ar yr olaf bellach yru'n mlaen, a chalondid nid bychan iddo ydyw gwybod fod pvwb yn ddi wahaniaet h o'r frawdoliaeth yn tystiolaethu yn ddibetrus nad oes modd curo'r pedair llinell gyntaf, beth bynag am y gweddill Gofynwyd i Mr Oikeley, Pantyrhedydd, Trebor Eifion, a'r Ysgrifenydd Cyffredinoi, Mr H. Arian- der Hughes, gynrychioli Eisteddfod 1898 yn nghyfarfodydd Casnewydd. Gorph 10. TEIGIL.
--0--Prif Weinidogion y Trefedigaethau…
--0-- Prif Weinidogion y Trefedigaethau yn Nghymru. DDYDD Sadwrn ymwelodd tri o Brif Weinidogion y Trefedigaethau a rhanau o Gymru, sef Syr Wilfrid Laurier (Canada); Mr R. J. Seddon (New Zea- land), a Mr G. H. Reid (New South Wales), yn nghyda Syr Lewis Davies, Gweinidog Pysgodfeydd Canada, Inril ac larlles Carrington, a'r Anrhyd. Judith Harbord. Y lie cyntaf iddynt fyned ydoedd Eaton Hall ger Caer, oddiyno aethant i Gastell Penarddlag, lie y croesiwyd hwy gan Mr Gladstone. Ar ol mwynhau ei gwmni am rai oriau, cychwynwyd i LANRWST, lie v oawsant dderbynjad brwd. Addurnwyd y dref yn hardd, a chynullodd miloedd yn yr heoiydd. Ceid llumanau a bwau ac arnynt gyswyneiriau croesaw, ac yr oedd y goleuadau yn ffenestri'r tai yn rhoi gwen ar wyneb du y nos. Cyrhaeddasant y dref tua saith, a chyhoeddwvd hyn ar y bryniau trwy ergydion o fugnelau, a chwareuodd Seindorf Arian 0»keley, "See the conquering hero comes." Yn yr orsaf, cyflwynodd larli Carrington Mri Is- goed Jones a J. W. Griffith, cadeirydd ac ysgrifen. ydd y Pwyllgor Croesawu, i'r ym wel wyr urddasol, ac yna ymffut fiwyd yn orymdaith, Seindorf Oakeley yn blaenori, ac aed i betryal y Farchnad. Yno yr oedd torf fawr wedi ymgynull o gylch liwyfan, a thra y cymerai'r ymwelwyr eu seddau canodd Cor Lla.nrwst, daa arweiniad Mr Evan Jones, Hen Wlad fy Nhadau" yu Gymraeg a Saesneg. Wed'yn darllenwyd yr anerchiad croesawol a chyflwynwyd ef wedi ei argraphu'n hardd ar femrwn i'r tri Prif. weiniriog gan Mr Isgoed Jones. Cyfeirid yn yr anerchiad hwn at deyrngarwch Cyrnru, a'r ffaith fod lluaws o blant yr Hen Wlad yn cartrefu yn y Trefedigaethau, ac amlygid gobaith y byddai i'r cysylltiad rhwng Prydain a'r Trefedigaethau fyned yn dynac er budd y naill a'r llall. Cydnabyddwyd yr atjerchiad gan Syr Wilfrid Laurier. Sylwodd nas g%llai gael geiriau cyfwerth a'i deimladau i ddiolch am y croesaw cynes estynid iddo ef a'i gymrodyr gan bohl Cymru y dydd hwnw. Er y mwynhad o gario teyrnged y Trefedigaethau i'w Mawrhydi ar ei Jiwbili, tybient y byddai eu pleser yn fyr o berffeithrwydd heb iddynt ymweled a Chymru enwog. Mawr werthfawrogent y fraint a estynwTyd iddynt trwy garedigrwydd Iarll ac Iarlles Oarringtou. Cyfeiriwyd yn yr anerchiad at y lluaws Cymru a ymfudasant i'r Trefedigaethau, a da oedd ganddo ddatgan eu bod yn mhlith y dinas- yddion goreu, yn neillduol yn Canada ac er prawf o hyn ymfalchiai gyfeirio at ei gydymaith yn Llyw- odraeth Canada oedd yn bresenol, sef Syr Lewis lhvies-gwr a gwaed Cymreig yn ei wythienau. Cadwai y Cymry yno eu neillduolion, yn eu hoffder o gan ac awen. Er i foroedd wahanu, a nodwedd- ion eenedlaethol wahaniaethu y naill oddiwrth y llall, eto unid yr oil gan y cariad at ryddid a fwyn- heid dan faner Prydain. Diolchai yn galonog am y croesaw brwd a estynwyd iddynt y dydd hwnw. Wedi rhoddi banllefau i'r Frenhines, Iarll a Iarlles Carrington, a'r Pwyllgor Croesawu, ym- deithiwyd hyd at Bont Buddug. Am haner awr wedi deg yn Mharc Gwydir ymgynullodd miloedd, a diolehwyd i'r dorf am eu teimladau da gan larll Carrington. Oanwyd yr Anthemau Cenedlaethol Cymreig a Seisnig gan y dyrfa, ac yna aeth y cwmni urcidasol i'r dref i weled y goleuadau. Fore dydd Llun, dychwelodd y cwmni urddasol i Llundain, wedi eu boddhau'n fawr yn Nghymru a'i phobl. !oi
[No title]
Cafodd Mabon ysgwyd Haw a'r Frenhines yr wythaos ddiweddaf. Dywedir iddo foesymgrymu mor urddasol iddi a neb o'r bonedd ucheldras, ac fel ad-daliad dywedai ei Mawrhrdi wrtho, "Mae'n dda gen i'cb gwel'd chwi, Mabon." Coed y Brain, Nannerch, t ir Fflint.—Mae ten- y ff)r). antiaid y ffarm eang hon yn magu a phesgi Uu mawr o anifeibaid eu hunain, yu eu lladd yn y lladd-dy svdd yno, ac yn eu gwerthu yn Siop Coed v Brain, 17 Denie Street, gyferbyn a Marchnad St. John, Liverpool.
Dathlu'r Jiwbili yn y Corliewin…
Dathlu'r Jiwbili yn y Corliewin pelf, San Francisco, Mthefin 19, 20. 21. MAE yn y dref yma lawer o Gymry, Saeson, Ysgotiaid, a Uwyddelod gwladgarol, a mawr fu y parotoi at ddathlu y Jiwbili, fel dros y byd gwar- eiddiedig, a bu ddyddiau Sadwrn, Sul, a Llun yn ddyddiau arbenig y gwehanol gymdeithasau. Caf- wyd gorymdeithiau, canu, miwsig, areithio, a chwareu hoff y Sa-is, sef cricket, tan gwyilt, a phob math o gampau, a llu mawr o longau yn y bau yn chwyfio banerau o bob lliw a llun, nca yr oedd golwg hynod o ddvmunol ar yr oil o'r Union Jacks, a'r morwyr, yr oeddynt hwy mewn hwy! yn mhob man. Prydnawn Sul, yn y Metropolitan Temple, cafwyd anerchiad gan y Parch Dr J. Hemphill (Presb.), ac yr wyf yn bur sicr na chanmolodd yr un Sion Bwl gartref ei gyfnither yn fwy doniol a mwy diragrith nag y gwnaed gan v Gwydde £ hWD, chwe mil o filltiroedd oddiwrthi. Talodd warogaeth uchel iddi fel merch dirion, gwraig garu- aidd a phur, mam dduwiolfrydig a thyner, cyfaill pur, a brenhines ddychmygtl (ideal)- A perfect woman, nobly planned, To warn, to comfort, and command, a bu hithau yr awen yn hynod fywiog yn y cylch- oedd hyn gyda'r fath destyn molawd i Frenhines- yr hen Ynys Wen. Pan oedd y Dr yn gwefreiddio ei wrandawyr, yr oedd dosbarth arall gyda eu hoi ,chwaren-cricket. Pawb yn ol ei ffansi. Ddoer sef y 21ain, yr oedd meibion St George a'r cwmpas- oedd yn ei hanrhydeddu a chan, barddoniaeth, a chwareuon o bob math gan ddiweddu gyda than gwyllt. Gobeithio y ca lawer blwyddyn eto i deyrnasu dros dir a mor. Da genyf ddwyn tystiol- aeth i hunan-barch ac ymddygiad da pob dosbarth yn mhobman gyda'r Jiwbili. Mae Cynadledd Genedlaethol y Cymdeithasatr Ymdrech Crefyddol i gyfarfod yn San Francisco o Gorphenaf 7fed hyd y 12fed, a disgwylir 25,000 o gynrychiolwyr o bob cwr o'r Taleithiau ac hefyd o Canada, heblaw y miloedd a ddaw yma gyda hwy, am fod pris isel ar docynau-25 doler o Chicago. Mawr yw'r parotoi y dyddiau hyn i'w croesawu mae cor o filo leisiau rhwng San Francisco ac Oak- land yn cyfarfod yn wythnosol i ymarfer gyda'r canu, gyda 7 o arweinwyr, ac yn Oakland y noson o'r blaen hysbyswyd yn y cyfarfod fod 3 o'r 7 yn Gymry glan gloyw-Proff Meredith, Proff Evans, a Proff Morris, a derbyniwyd hyn gyda brwdfrydedd ond cofier fod yma bioffeswyr canu eraill, a'u clod yn fawr yn mhob cylch. Gobeithir llawer oddiwrth yr ymwelwyr brwd- frydig a chrefyddol hyn gobeithir i bydd i fydol- rwydd y dref a'r wlad gael dyrnod angeuol. Mae llawer yn dod o Daleitbiau ag sydd yn parchu'r Sabboth a chanddynt gyfreithiau at hyny, ond pan ddelont yma, a gweled ein saloons, a'n chwareudai, a'n siopau yn agored ar y Sabboth, dichon y bydd iddynt fod yn foddion i beri i ni gywilyddio, a mynu cyfreithias fel Taleithiau y dwyrain er cad. wraeth y Sabboth. Bendith fawr fyddai hyn. Cawsom ysgvdwad drom gan ddaeargryn pan yn y capel y Sul diweddaf. Dywedir ei bod y drymaf er's llawer o flynyddaedd. Yn Salinas y teimlwyd" mwyaf oddiwrthi-tef tua can' milldir i'r de oddi- yma. Pan y daethum adref yr oedd clociau'r ty wedi sefyll. R. J.
--:0:--Dyffryn Clwyd.
:0: Dyffryn Clwyd. RAI misoedd yn ol, cynaliwyd Eisteddfod mewn pabell yn Pwllglas, ac y mae'r balance sheet newydd ei chyhoeddi, ac yn dangos fod yr elw tros gan' punt. Bydd y swm anrhydeddus hwn yn help i'r eglwys Annibynol feuhan sydd yn y Pwll, —mwy, ysywaeth, nag elw ami Eisteddfod Gen- edlaethol. Cafwyd hin dra ffafriol. Fe wyr pawb. o'r naill ben o'r Dyffryn i'r Hall am ysbryd cyhoeddus, yni, a charedigrwydd calon yr Henadur hynaws o Ddinbych, Mr T. J. Wil- liams. Yn ystod y Jiwbili, rhanodd werth rhaf ugeiniau o bunau yn fedalau i'r plant, caniadau teyrngarol, See., a gall y rhoddwr deimlo'n sier iddo- beri boddhad mawr trwy hyny. Ond y mae papyr Reynolds yn chwyrnu ar Mr Williams am ei deyrn- garwch, ac yn bytheirio fel y canlyn yn ei rifyn diweddaf: "Tori o'r Iliw cryfif, ni dybiem, ydyw Mr T. J. Williams, Y.H., Dinbych [Tori wir !]. Y mae wedi bod yn dylifo Gogledd Cymru a llenydd- iaeth y Jiwbili, medalau Jiwbili, hymnau Jiwbili, ac addurn-binau Jiwbili, nes yw bron bawb wedi myn'd yn Jiwbili wallgof. Dmfanodd Mr Jiwbili Williams hefyd rai o'i daclau Jiwbili i aelodau o'r teulu brenhinol, a derbyniodd yn gydnabyddiaeth y llythyrau Jiwbili. Gobeithio ei fod o'r diwedd yn hapus," ydyw geiriau olaf y papyr Llundeinig am ein cymydog hynaws; ac fe etyb pawb sy'n adwaen Mr W., "Gobeithio yn wir ei fod yn hapus." Y mae'r hen Ddyffryn yn edrych yn ardderchog. y dyddiau hyn, a'r adar diarth," fel y gelwir em haf-ymwelwyr, yn lluosogi. Mae hi'n ganol cyn- hauaf gwair arnom, a bron yn anmhosibl cael dyn- ion i'w drin. Da chwi, gyrwch rai o'r llabystiaid segur welais i ganwaith yn sefylliaa o gwmpas hen offis Y Cymro yn Brunswick Street yma am wyth- nos neu ddwy i helpu'r ffarmwr gyda'i wair. Mi wn ar eu golwg y by ten nhw'n gynddeiriog, ac y byddai raid cael dau ddyn o leiaf i edrych ar eu holau —un i'w dwrdio yn ddibaid, a'r ilall i'w chwipio hefo fflangell o fan reliynau. Wedi ail feddwl, hwyrach mai gwell eu gadael lie maent. Da genyf eich hysbysu fod mab fy hen gyfailF talentog, Garmonydd, wedi enill ei raddau o M.B. a C.M. Cyfeirio yr wyf at Mr E. Harris Jones, dysgybl i Dr Medwyn Hughes, M B., Rhuthin, Mae Mr Jones newydd raddio yn Edinburgh fel meddyg. Bu gyrfa addysgol Mr Jones yn un bur lwyddianus, canys enillodd dlysau a thystysgrif o'r dosbarth cyntaf yn mhob canghen o'r arholiad. CLYWEDOG. -.0-
Y DON ASSOCIATION
Y DON ASSOCIATION SIWTIAU OLWYNO AM BRISIAU POBLOGAIDD.—Mae" Y Don Association Lord Street a Paradise Street yrr awr yn dangos y Patrymau newyddion o Siwtiau- Olwyno am y tymhor presenol, ac yn en plith ceir rhai o'r patrymau mwyaf ha.rdd a chwaethus. Y maent wedi en gwneud a'u gorphen yn y dull goreu'n bosibl, ac wedi eu leinio a gwlan ieehydol. Gellir eu* cael yn ffurfiau Lounge neu Norfolk, pob maint, am 16s. 10c. y siwt, llawn werth 36s. Anfonir patrymau1 trwy y post yn rhad ond gwneud cais am hyny.