Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
--0--Y Pregethwyr Cymraeg…
--0-- Y Pregethwyr Cymraeg mwyaf Poblo^aidd- YR ydym heddyw yn gallu nodi canlyniad llais y wlad a gymerasom ar gais blnedd wr o'r America, nad yw yn ewyllysio i'w enw ynl- ddangos yn bresenol. Daeth nifer anferth o enwau i law—yn rhywle rhwng deg ar hugain a deugain mil ond, wrth rheswm, yr oedd yr art enwau yn cael eu nodi gan ganoedd. Dyma'r rhai a gafodd fwyaf o bleidleisiau (wedi eu dodi i lawr yn ol trefn y wyddc r):— Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Edwards, Prifathraw T. Charles, M.A., Bala. Prythercb, Parch Wm., Abertawe. Williams, Parch John, Princes Road, Lerpwl. ANNIBYNWYR. Lewis, Parch Elfed, Llanelli. Nicholson, Parch W. John, Porthmadog. Owen, Parch 0. R., Glandwr. WESLEYAID. Evans, Parch John (Eghvysbach), Pontypridd. Hughes, Parch Hugh, Caernarfon. Jones, Parch Hugh, Birkenhead. BEDYDDWYR. Davies, Parch Charles, Caerdydd. Jones, Parch E. T., Liwynpia. Parry, Parch Abel J., Cefnmawr. EGLWYS LOEGR. Davies, Canon E. T. {Byfrig), Pwllheli, Deon Tv Ddewi (y Parch D. Howell, Llawdden) Esgob Ty Ddewi (y Parch John Owen). Gwaith llafnrfawr oedd dyfod o hyd i'r enwau a gafodd fwyaf o bleidleisiau, ac wed'yn dod o hyd i'r rhestr oedd yn cynwys enw y pymtheg gafodd y nifer luosocaf o votes a dy- munem ddiolch i Mr Llew Wynne, ac eraill, am eu help. Ni ddarfu i gynifer ag un o'r ymgeis- wyr nodi pob un o'r pymtheg enw uchod ond nododd deg ohonynt bedwai, enw ar ddeg. Nid yr un pedwar ar ddeg a nodir ganddynt oil, ond nid oes yr un o'r rhestrau hyn heb enwau y Parchn J. Williams, Princes Road Elfed Lewis J. Evans (Eglwysbach), Hugh Hughes, a Hugh Jones E. T. Jones, Llwynpia a Deon Howell. Enwyd tri ar ddeg yn gywir gan oddeutu haner cant, denddeggan gynifer bed air gwaith, ac felly yn mlaen-y nifer yn amlhau nes dyfod i naw neu ddeg, ac yna yn lleihau nes dyfod i'r nifer o tua chant na enwasant ond un o'r pymtheg a nodir uchod. Nid oes brin ddeg o'r ymgeiswyr na nodasant un nen ragor o'r pymtheg. Dylem hefyd ddweyd nad oedd hyd y gallwn gasglu yr un cellweirydd yn y gysted- lenaeth-yr agosaf at byny oedd yr un a enwodd y Tad Ignatius yn un o'r triphregethwreglwysig mwyaf poblogaidd yn Nghymraeg. Y mae mwy o amrywiaeth barn gyda'r Anni- bynwyr a llai gyda'r Wesleyaid, nag yn mysg y lleill. Gyda'r olaf, y mae agos i dri chwarter yr ymgeiswyr wedi nodi y tri enwir uchod. Yr enwau neu'r ffugenwau sydd wrth y rhestr- au yn nodi 14 ydynt H. D., Northbrook Street Llongwr o Fon; Aderyn T6; H. Roderick, lieol uniawn, Aber- tawe; Rhosyn y Rhns; Liuniedydd Lleyn, Brine ditch W. C. Jones, Oswestry Un o wybed Mawddwy; Robin Ddu Ddewin; Meirioa- fab, Scranton. Rbwng y deg hyn y rhenir y £5 ac os dan- fonant eu henwau priodol, a'u cyfeiriadau yn gyflawn danfonir i bob un ei gyfran. Hyd y bo modd, danforer y llythyrau hyn yn yr un llaw- ysgrif a'r ymgeisydd.
-----0--0 Odreu r Aran.
-0-- 0 Odreu r Aran. BYD DA Yw arnom ni y pUdurwyr yma. Cawn 25s. yn yr wythnos-cyflog uchel i ni yn y wlad ond cofiwch fod eio cyrihauaf lawer llai wedi i'r in- jans lladd gwair ddod. Ond gyda chwmwl a chawod a gwlith digodi, hwyrach na fydd mor fyr, ac y caf glywed y gaffar yma yn mwmian emyn Dwalad y Bryn :— Pan elo yr hen awyr fel rhidill, Bydd anhawdd cael gweddill y gwair; Ei gocio, ei droi, a'i fydylu, A'i danu o ddwywaith neu dair A hwylio gan feddwl gwneud hulog, A llanw'r gwas diog yn dyn. A malu pum swllt ond chwe cheiniog— 'Rwy bron myn'd yn gynddeiriog am hyn. Bu FARW AR EI RHINIOG. Nis gwyr dyn o ba le y daeth, nac yn mha wlad y treuliodd ei I.auaf. Ond yr oedd wedi enill ei phlwyf yma, gan ei bod yn ymgartrefu yma haf ar ol haf—ac un o wenoliaid cyntaf y tymbor oedd hi. Adpiladai ei nytb dan y bon- do uwsh fFenestr fy stafell—gweitbiai'n ddygn. Ond yn rhyfedd, wrth roddi gwelltyn yn mur ei nyth, gwnaeth ef ya ddolen a'i phen drwyddi, wedi sicrhau y ddau ben nis g.illai fyn'd ohoni, a bu'n hongian wrthi yn hir. Gwas y Gog, prudd iawn oedJwn i na fuaswn mewn pryd i'w gwaredu. YSGOL FEKOHED PENLLYN. I Mae'r ysgol hon wedi cael cychwyniad rhag- orol mewn nifer ac mewn athrawesau. Ac ar ddydd y Jiwbili rhoddodd pobl Penllyn brawf eto o'u hargyboeddiad o werth addysg trwy gyfranu tua 1,300p. ati Pa a ar foli yr ardal yma daeth hunllef LLYFRGELL Y BALA dros fy meddwl yn ia i bob meddwl felly. I ddyeithrddvn, fedd syniadau uchel o'i febyd am Athen Cymru," prin y cred nad oes lyfrgell ynddi. Gwir fod ynddi dair o ysgolion campus heblaw ysgolion elfenol a choleg, ond ar gvfsr y dosbartH aweithiol nid oes yno y ddarpariaeth leiaf. Nid yw Cynghor Trefol y Bala eto wedi srosod ei chareg fedd, os ya wir dynu'r argraph fydd ami. A fydd y B.da heb lyfrgell auaf eto? P,EVAN,' I Mae arholwyr mor atgas ag arboliad, ynte ni chai y City of Sparta hwylio heb i mi fod ar ei bwrdd yn ffarwelio a tbi Erbyn byn yr wyt yn nes i'r India nag i Gymru. Yno yr oedd dy galon erioed. Gwelais y cenadwr ynot yn myn- vn went Glasnefin gvnt. tra y casglet haid o blant gwninglyd o'th ddeutu, yn gylch llonydd, i ddarlleri dy Destament iddynt. Mae fy biraeth yn fawr—eofio fel y cerddem o Benllyn i Benfro ac yn ngwla<! y Gwyddel dyddan Mordaith hapns iti—dedwyddach rao ar fwrdd Jane BCtcon ystalwm. Nawdd Duw a'i dangnei fo gyda thi. Enilla'r India un o'r «>ymeriadau tlysaf, ond colli ei gyfaill gore wna ONOMATO. _J--
Y Ohwarelwyr a'r Clowyr.
Y Ohwarelwyr a'r Clowyr. Nii, oes dim newydd o Chwarel Bethesda. Mae dynion Chwarel Hafod y Wern wedi ail ddech- reu gweithio. Hysbysir hefyd fod glowyr Plas- kynaston?>ger Gwrecsam, wedi dod i gytundeb a'u meistriaid, ac y dechreuant weithio'n ddi- atreg.
--0--Cohebiaethau.
--0-- Cohebiaethau. LLYFR TONAU Y M. C. MAE sylwadau "Heman" ar y cyfnewidiadau wnaed ar y don Aberafon sydd yn y Uyfr uchod, yn galw cymaint o sylw ag y gwna y llyfr ei hun. Mae y newid a wnaed arni yn cnergweH, ac nid "newid er Inwyn newid," fel y tybia ef. Wyddech chwi fod y bai gwa- harddedig o bumedau amlwg wedi llithro i mewn rhwng y ddau brif lais yn y lie cyntaf y cyfeiriwyd ato, ac mai i wneud i ffwrdd a'r bai hwn y gwnaed y cyfnewidiad y cwynwch o'i herwydd ? Dyblir "trydydd y cord nesaf ond un i'r cyfnewidiad hwn am ei fod yn lleiaf a goddefol, ac nid yn fwyaf a gwaharddedig. Mae seinofyddiaeth vn dysgu fod gogwyddiad cryf y nod arweiniol (t yn y cvwair mwyaf) yn gofyn ei adferiad naturiol ar d. Dwg y cvdymffurfiad yma a. deddf natur y sail] grybwylledig, olyniad efelychiadol byr yn yr isalaw, y naill yn y cyw- air mwyaf a'r liall yn y lleiaf-M t a d se a gwna iawn am unrhyw goiled a fa drwy dori ar felodedd grisweddog y llais. Yn y cyfnewidiad olaf y cyfeiria ato mae yn amlwg mai dwyn yr ardonydd (r) i mewn wnaeth yr anfarwol 1. G., nid fel elfen banfodol o gord yr ardonydd, ond fel nodyn chwyfiol i dori ar undonyddiaeth yr alto. Lie cord yr islywydd yw hwn, ac nid yr ardonydd na'i wrth- ddull, a thrwy roi y cord iawn yn yr iawn le gwneir i ffwrdd a dirprwyaeth, ceir rhwymiad â'r un blaenorol, a pharotoad llawn, ac nid rhino), i'r anngbydsain dilynol. Yn awr, beth a gollwyd a beth a enillwyd drwy y cyfnewidiadau hyn ? Barned y cerddor diragfarn. Onid cywiro gwall yn y lie cyntaf. cydymffurfio a deddf sain yn yn yr ail, a chyd- nabod rhagfudiad t-ymeradwyir gan bob cerddor diwylliedig yn y lie olaf? Bu "Heman" yn dra anffodus yn ei ddewisiad o engraipht, a mwy anffodus fyth i'w fantais ei hun. Nid haerllugrwydd pwyllgor" fu "yn trin ac yn troi," ac nid bwnglerwyr fu yma yn tincera." Yr oedd ganddynt hawl pryniad i ymwnend ag eiddo I. G., ac ni wnaeth y golygydd cerddorol a'i eiddo ef ond yr hyn a wnaeth ef ag eraill. Cydmarer Llanidloes llyfr 1. G., argraphiad cyntaf a'r ail, lie cywirwyd pnmedau ac wythau yr un pryd mewn lie cyffelyb. Os yw Heman" am ymdewychu ar feian a gwallau Llyfr Tonau newydd y M.C., dechreued gywiro argraphiad cyntaf y Tonic Solffa. Neu, os y myn rhywbeth yn gofyn am fwy o bwylI, barn a dfetach, a chwaeth gerddorol burach, ymboled am resymau y pwyllgor dros y cyfnew- iadau alawol yn Clod (paham nad hefyd yn "Manbeim "?), Holly," Trallwm," Leip- sic," Martyr," &c. modd-newidiad yn "Bala," "Ceredigion." "Llanddewi," I- Mar- tyr," "Braint," "Bethesda," &c.; newidiad amser a mydr yn "Bedford," "Bangor," "Llydaw," "Jabez," "Talybont," &c. Erys llawer o bethau eraill heb eu nodi y tro hwn rhag ofn siswrn y Golygydd. Yr eiddoch, CYNI>EYR:7. Y LLYTHYREN "J." SYR,—Dros bedwar deg o flwyddi yn ol, ysgrif- enais nodyn i newyddiadur i geisio dangos yr angenrheidnvydd o yehwanegu y llythyren J at y wyddor Gymraeg. Mae y dwymyn Jiwbiliaidd diweddar wedi dwyn yr un syniad i fy meddwl eto. Mae y lluaws dullsau sydd gan ysgrifenwyr a new yddiaduron i silleou y gair Jiwbili yn ddigon o reswm ynddo ei hun dros fabwysiadu y J. Heb son dim am Jerusalem, sydd yn'cael lie mor fawr genym, mae yr enwau Jones, James, Jarvis, J-en- kyn, Jarman, Jane, Joel, J b, ac eraill yn hawlio lie i'r J yn ein gwyddor. Nid wyf yn gweled un rheswm boddhaol dros wrthod llythyren a arfedc genym mewn siarad ac ysgrifenu mor fynych. Kn dyben ddyki fod gwneud ein gwyddor a'n 'hiaith mor berfffith ag svdd modd, ac ymddeogys i mi mai y ffordd oreu i gwblhau hyny ydyw mabwys- iadu Ilytbyrenau. geiriau, ffi^yrau, 'neu unrhyw beth arall a'i gwna yn berffeithiach a mwy effeith- icJ. Felly yr adeiladwyd pob iaith, ac felly y rhaid adeikdu y Gymraeg, os ydyw i fod yn alluog i gynwys a datgan meddvliau a gwvbodaethau diweddaraf y byd.—Yr eiddoch, R. J D-c, RFEL.
Advertising
GOFYNWCH A MYNWCH GAEL "BARKER AND DOBSON'S BUTTERSCOTCH." MEWN PECYNAU lc-. 3c., a 6ch. Ir GweriMr gan yr holl Ancwywyr, Grosers, ac mewn Fstorfeydd parchus.
Llythyr Watcyn Wyn,
Llythyr Watcyn Wyn, Giuynfryn, Ammanford, Gorph. 7. MR. GOL. Dyma fi wedi cyrhaedd y Sowth I yn iach a dyoirel utiwaith eto, wedi taith bur .ddyddorol ddinas Y Cymro a gwlad y Gogledd. Tair neges bwysig oedd genyf ar y daith ddi- weddaf hon, sef gwylio symudiadau yr Undeb yn Lerpwl, edrych i fewn. i sefylifa'r Coleg yn Mangor, a gweled shwd argoel am 'Steddfod I oedd yn Fi>sfciniog. Am YR UNDEB, yr oedd rywbeth vn debyg fel y mae yn arfer bod gyda ni yn Nghymru. Yr oedd yn dda iawn genyf ei weled yn teirnlo mor gartrefol, ac yn siarad drosto ei hun mor groyw o dan yr amgylchiadau. Nid bob blwyddyn y mae yn digwtdd ar flwyddyn y Jiwbili ac nid bob tro y mae yn cyfarfod mewn dinas o faint a tbrwst Lerpwl, ac nid yn ami iawn y bydd yn agor ei enau mewn capel Saesneg a chyfri pobpeth, gwnaeth yn dda iawn eleni. Y mae yr Undeb erbyn byn yn Hanc saith ar hugain oed, a seliir ei drosto oddicartref. Gan iddo wneud mor dda yn Lerpwl eleni, caifl fyned i Lundain yr haf nesaf os byw ac iach. Beth am sefyllfa Y COLEG YN MANGOR ? Wel, yr oedd yn amlwg yno fod Coleg Bangor yn benderfynol o geisio byw, deued a ddelo. Gallwn ddweyd fod y flwyddyti ddiweddaf wedi bod yn Uwyddiant mewn ystyr addysgol,-am- ryw o'r becbgyn wedi gwneud yn dda, ac ar eu ffordd i gael gradd yn y BrifysgoL Nid oedd y sefyllfa arianol mor galonog, y mae ycbydig ganoedd o ddyled wedi llusgo i fewn yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf. Credwn na ddylai hyn fod yn Mai-gor o bob lie. Y mae cryn gefn mewn ystyr arianol. gan Goleg Bala-Bangor erbyn hyn, ac nid ydym yn credu y dylai beidio clirio ei ffordd yn rhwydd. Edrycherar y gost, ac edrycher ar nifer y bechgyn sydd yn cael addysg yno-y mae y gost v pen yn uchel a chyfri fel y byddwn ni yn arfer byw yn Nghymru. Y mae gormod o arian o lawer yn cael eu talu i'r Brif- ysgol, a cbredwn mai dyna y lie cyntaf y rhaid i Goleg Bala-Bangor edrych am gynilo. Ni ddylai neb yn ol ein meddwl ni gael myned i'r Brifysgol, os na fydd wedi pasio matriculation wrth fyned i fewn. Credwn y byddai addysg ar gyfer gwaith y pwlpnd a'r weinidogaeth yn uniongyrchol o dan y ddau athraw yn y Coleg a elwir y Coleg Duwinyddol, yn well o lawer i'r rhan fwyaf o'r bechgyn, ac yn -well ganddynt hwythau hefyd, ac o lawer yn rhatach i gwrdd a'r gofynion. Am FFESTINIOG yr oedd pethan ar eu huchelfanau yno. Ran hyny, y mae yn ffaith fod Ffestiniog ar ei huchelfanau bob amser. Y mae yno Ie balch fynyddig, y mae y mynydd yn uchel iawn, ac eto ya rhyw ymhollti am gyr- haedd yn uwch. Yr oedd yno dorf iach, galon- og, a phur luosog yn cyhoeddi Eisteddfod 1898, a gall Ffestiniog fod yn talch o'r cyhaeddiad, a holl gyfeillion yr hen Eisteddfod fod yn falch o Ffestiniog. Cafwyd yno gyngherdd iawn nos Wener, a Gorsedd farddonol dros ben ddydd Sadwrn. Yr oedd yno dwyn barddonol, a chylch rhamantus o greigiau am dano, a thorf o feirdd na allasai yr un He yn Nghymru droi allan y fath,nifer oddigerth Ffestiniog. Yr oedd yn dda genyf eich gweled chwi, Mr Gol, yn galw sylw mor ddyladwy at y Bwch Gafr oedd yn yr Orsedd yn Y Cymro yr wythnos ddiwedd- af. Yn sicr i chwi, creadur teilwng o sylw oedd hwnw yr oedd ei ymddygiad gweddaidd ac urddasol yn weis i lawer dysgybl Ysbas. Yr wyf yn teimlo y dylwn wneud ymddiheurad iddo am ei alw yn Fwch Danas, ac yntau o wehelyth yr afr. Rhaid i mi gael gwneud englyn arall, a dyma fe Chwi gofiweh y Bwch Gafar-ai farf laes, A'i fref Jeddf a threiddgar; Yn ei gylch fel llwdwn gwar, Lefai, Ll,%far bid lafar." Yn sicr i chwi. y mae y bardd yn Ngorsedd yn myned i ryw ystad nad yw yn gyfrifol am dani, fel nad yw yn gwybod y gwahaniaeth rbwng un creadur a'r llall, a neb yno yn gallu atal y cam- wedd drwy alw sylw at y carasyniad.
-,)--Barddoniaeth.
-,)-- Barddoniaeth. ERYRI WEN. (Cyflwynedig i Madam KATE MORGA-N LLEWBLYX. Cariwyd hi ganddi y tro cyntaf yn Nthyhoeddiad Eisteddfod Ffes- tiniog, tiorph. 3. 1897, ar F ahw "Ymdaith Cadben Mor- gan.") I. BLANT y mynyddoedd, hil y Cymry gynt, Daliwch y Jfaner j^n y gwynt Lie bu'r clogwyni gynt yn fflamio'n dan, Daliwch i fynu Faner Can Gorsedd Barddas ar y mynydd ban, A'r graig o dan ei sail gaffo'i dal i'r lan. Blant y mynyddoedd, Bendith ar eich pen, I gadw'r Hen Ervri Yn Eryri wèn II. Greigiau'r Eryri. hen noddfeydd fy ngwlad. Lie ni orehfygodd neb y gari, Cadwch fynyddoedd uchel Cymru Ian Byth i amddiffyn Gwlad y Gan Cyd a bo mynydd yn cvsgodi g]}'n, Byw fo adsain can rhwng y banau hyn. Blant yr ucheldir, I Bendith ar eich pen Am ga-dw'r Hen Eryri Yn Eryri wen! III. Bellach mae Eisteddfod Cymru wen Wedi dringo'r mynydd idd ei ben Gorsedd Awen wedi rhoi ei throed i lawr Ar frenhinol gop:l.'r mynydd mawr Yma mae'r Eisteddfod wedi rhoi ei throed Yn y man uchelaf bu erioed Wyr Ffestiniog. Bendith ar eich pen Am gad-.v'r Hen Eryri Yn Eryri wen WATCYN WYN.
CWRS Y BYD.
Bgu at ei ddyddanwch hefo'i gynyrchion bardd- onol wedi eu cyfansoddi o bwrpas at yr amgylchisd* a derbynir ei anercbiadau gyda boddhad mawr bob amser, Pan yn 12 oed, yr oedd yn aelod gyda'r Anrubynwyr, a digrif ydyw'r hanes pa fodd y trodd yn Fedvddiwr. Gofynai hen ddiacon a ofalai am gyfarfod y plant iddo r- i penill allan, a chan nad. oedd gan Tom ond un eiriyn ar ei got. dywedodd 11 Af ar ol yr Apostolion Aeth yn ffyddlon o fy nilaen; Rbai a gladdwyd yn y dyfroedd, "Nol gorchymyn lesuglan. "Tomes," hen frawd, "cbanwn i ddim o hwna j'ma, machgen i." "Pam hyny?" gofynai yntau, maetit yn i ganu yn EUm." O. fe'i cenir g«o y Bedyddwyr." meddai Thomas Jones. Os felly," atebai'r bachgen, "mi a i at y Bed- yddwyr," ac felly fu. Fe welir, fod gan Llew o'r Bryn y ddawn i gymeryd i Yrewij ()arllen ond nid y ddawn i rui allan—ysgrifenu hwyrach mai da pe buasai llawer yr un fath a fo. Ond fel araJl y mae hi fynychaf. Die Sion D^f dd yn ngodre'r Wyddfa. WAETH G-IN Die i b'le'r elo y dyddiau hyn. Ar fwrdd hysbysu y Capel Coch (M.C.), Llanberis, seir yr argrapb a ganlyn :— Welsh Presbyterian Chapel Services. Sunday Public Worship at 10 a. rn. & 6 p m. School for adults and children at 2 p.m Monday Prayer Meeting at 7 p.m. Tuesday Church Meeting Wednsday Bible Classes —— Thursday Band of Hope —— Mae cynulleidfa ac aelodau Capel Coch mor Gymreig a'r un yn Nghymru—nid oes yno fyth oedfa Saesneg ac i ba beth y cabarlatshir Saes- neg mewn lie fel hyn sydd tu h wnt i amgyffred y gohebydd a ddanfonodd yr hanes yma. Felly finau ond y mae ff rdd Die Sion yo mhell bell uwch neu islaw terfynau amgyffredion bodau z, rhesymol. Dyed o Wyth Awr. DDIM cyrt nag y tywyna tipyn o haul ar lafur a masqach yn y wlad hon na chyfyd yr ymlusg- iaid cas streics, cload allan, neu rywbeth o'r fath. Y mae hi'n frwydr fawr, ac yn debyg o fyn'd,yn fwy, ac o barhau yn bir, rbwng peir- ianwyr y devrnas a'u eyflogwyr. Bernir fod eisoes 70,000 naill ai wedi myn'd neu ar gael eu troi allan. Achos yr ymrafael ydyw gwaith y dynion yn hawlio gweithio ond wyth awr yn y dsdd. Maent yn sicr o'u hawl hefyd. Pe b'ai segurwyr y deyrnas yn gweithio tair awr yn y dydd, fe ellid cwtogi diwrnod y gweithwyr yn hawdd i bedair awr. Nicander SYLWEDYDD craff, clorianwr gnest, ac yagrifen- ydd diguro oedd y Parch Morris Williams, person Llaarnyddlad, Moo, ond a adwaenir yn well fel Nicander. Yr oedd uewydd ddych- welyd o'i- Sowth, ac enill ei ail Gadair yn Eis- teddfod Genedlaethol Aberdar, ac fel byn yr ysgrifena at ei gyfaill, Eben Fardd :— Un o brif bleserau'r Eisteddfod oedd cael gweled pynnifer o gyfeillion nas gwelswn erioed o'r blaen,— Dewi Wyn o Essyllt, Cynddelw, Nathm Dyfed, Aneurm Fardd, a dwsingau eraill, lleyg a lien. Nid yn ami y gwdais elfydd Cynddelw o ran ffraethineb, eôf, gwybodaeth hynafiaethol, a mwyneidd-dra cyf- eillgar. Dyma'r dyn mwyaf a welais yn y Deheudir. Mae'n fwy o lawer nag Ellis Owen. Ond dyn rhy- fedd a mawr vw Alaw Goch mae'n ffraeth ac yn barod tros ben. Mi neith Englyn da mewn hanner munud. Ond nid oes ganddo mo hanner cywirdeb -Cynddelw. BLasai yn anhawdd mewn cyn lleied o eiriau a hyn ddweyd \wy am y cymeriadau a nodir, a'i ddweyd gywired. Mewn llythyr arall at yr un gwr, dywed ei brofiad mewn iaith etteithiol iawn ar ol bod yn ffarwelio a'i fachgen oedd yn cych- wyn i'r mor :— Go isel ydwyf fi a'm teulu ar ymadawiad ein hanwyl fachgen ar ei fordaith nid oes disgwyl clywed oddi- wrtho am 7 neu 8 mis, na'i weled am flwyddyn a hanner. Machgen anwyl i! Duw a'i noddo ar y ionnau. Yr oedd Iesu Grist yn llongwr. A Meistf ôr. Tiberias yw Meistr mdr yr Atlantic a m6r yr India; ie, ie. Pe gall em oIl ysgrifenu Oymraeg fel yna, fyddaihi byth farw. Y Due a'r Archesgob. "PAN gwmpo lladron mas fe ga'r gonest ei eits," ebe Deheuwr doniol. Fe gymerodd dadl Ie nos Lun yn Nhy'r Arglwyddi tebyg iawn i (ad ron yn ewmpo mas." Yr oedd Archesgob Canterbury dipyn yn rhy benagored, ac yn clwcio yn uchel ddireswm ar freintiau a hawliau yr esgobion i reoli y gardod fawr a roddodd yr flywel o lywodraeth hon o bwrs y wlad i wadd- ysgolion sectol. Fe gofir i arian y cyhoedd gael eu rhoddi heb gan y cyhoedd ddim llaia yn eu dosraniad; dywedwyd ar y pryd y byddai i'r Swrdd Addysg yn Llundain, a Doc Devonshire yn ben arno, ofalu am degweh. Erbyn hyn ^eallir nad oes gan Fwrdd Addysg ond ychydig awdurdod ac mai'r esgobion ydyw'r gwir ysgut. ^rion. Yr oedd y Due yn edrych mor debyg i ddyn wedi gwylltio ag y gall ef. Mae'n* an- hawdd pe di > chwerthin am ei ben; mae wedi cael ei wneud yn bawen cath i'r Archesgob gorselog, a arglwyddiaethol a gor-glerigawl svdd yn eistedd heddyw yn Nghadair Awstin Fynach, ond oedd ddeugain mlynedd yn ol yn marn naw eglwyswr o bob deg yn haeddu ei losgi wrth y stanc fel un o awdwyr y Ilyfr digred hwnw 'isays and Reviews. Y Llofruad mawr. rAE R yn cael mwy o drafferth gyda'r Sul- vmlJma "ag °did adyn ys§eler y sydd neu a fa of • u ei*S oesau ^a,er ond y mae llawer iawn iyr ? ar y byd. Pc buasai rhy wun heblaw en wr miniog ei dafod a phwl ei gledd, Ar- glwydd Salisbury, wcth y llyw yn y wlad hon y ddwy flynedd ddiweddaf, nid yn cowaren plant ac yn dangos eu hunain i rot ur,ldas ar Jiwbili'r Frenhines y buas-ii ll-^ngau rhyfel cedyrn Pry- dain Fawr, ond yv- y Dardanelles a'r Môr. Du, a llofrudd yr Armenia d a phoenvdiwr y Cretiaid wedi myn'd i'w aped er's misoedd bellach. Nid yw am gydsynio 4 chais y Cliwe Gallu, sef tyuu ei filwyr o Thesali, y rhaobattb enillodd yn y rhyfel diweddar a Groeg ac y maent hwytb au yn soti am ei orfodi.