Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Yr India.
Yr India. DYWEDIR fod y ddaeargryn ddiweddar wedi gwneud difrod ar eiddo y Genhadaeth Gymreig yn Mryniau Khasia i'r swm o tua deng mil o bunau a chynaliwyd cyfarfod prydnawn ddydd Mercher yn nghapel Crosshall Street i dderbyn addewidion tuag at adgyweirio y golled. Unwaith yn rhagor y mae rhanau helaeth o r wlad fawr a phoblog India yn berwi drwyddi gan anfoddogrwydd, a hwnw mewn man neu ddau wedi tori drosodd yn wrthryfel. Yn ol y newyddion diweddaraf, nid oes lai na chwe chant o'r brodor- ion wedi colli eu bywydau. Achos y cythryfwl yw ymyriad y Saeson ag arferion crefyddol y brodor- ion—arferion, medd meddygon, sydd yn gyfrifol am y pla erchyll fu ac sydd yn anrheithio yn y wlad. Ond yn ol papyrau India, bu'r Saeson yn annoeth gyda'r modd o symud yr aflendid defodol, ac yn greulawn erchyll mewn rhai amgylchiadau. Enynasant ragfarn a dygasedd y bobl, ac y mae ami un ohonynt hwythau wedi syrthio i gynddaredd y brodorion. Ofnir nad yw'r drwg ond dechreu.
Cyfarfod Croesawu y Parch…
Cyfarfod Croesawu y Parch W. Henry i Waterloo. CYFALIWYD y cyfarfod nos Fawrth ddiweddaf ac yr oedd y capel wedi ei lanw. Cymerwyd y gad- air gan Mr W. J. Hughes. Dechreuwyd y cyfar- fod gan y Parch Thomas Evans yna darllenodd Mr E. R. Jones nifer o lythyrau-yr awdwyr yn gofidio am na allent fod yn y cyfarfod. Yn mysg eraill yr oedd yn bresenol y ProfF Edwin Williams a'r Cynghorydd Hopkin Davies, Penarth, yn cyn- rychioli Cvfarfod Misol Gorllewin Morganwg; Parch J. Hughes, M.A., a Mr J. Harrison Jones dros Gyfarfod Misol Lerpwl; Parchn G. Ellis, M.A., Owen Owens, W. M. Jones, W. M. Wil- liams, William Owen, Thomas Evacs, Mri D. Jones, John Morris, Y.H., T. 0. Hughes, E.Owen, W. Jones, R. 0. Roberts, E. Griffith, ac eraill. Dygai Proff Williams a Mr Hopkin Davies dystiol- aeth uchel i ragoriaethau amlwg Mr Henry fel r efrydydd, pregethwr, a bugail, ac yn neillduol fel bugail ffyddlawn ac ymroddgar y gwaith rhagorol a wnaeth ef a Mrs Henry yn Mhontypridd, a'r golled a deimlid yn Morganwg ar eu hoi, yn neill- duol gyda'r achos dirwestol. Wedi gair o groes- awiad gan Mr J. Harrison Jones, caed ychydig eiriau llawn teimlad gan Mr Henry. Diolchai yn gynes am y croesaw calonog a roddid iddo, a dat- ganai mai nod penaf ei fywyd yw ceisio bod yn Orietion trwyadl—pregethu Crist, gweithio dros Grist; a byw i Grist, ac felly yr hyderai lesoli ei eglwys, a bod yn deilwng o'r Cyfundeb parchus y cai y fraint o fod yn aelod obono. Yn nesaf aneichwyd y cyfarfod gan y Parch Griffith Ellis, gwr sydd wedi bod yn dra gofalus am eglwys Waterloo o'i babandod, ac yr oedd hynv yn amlwg ar unwaith, hyd yn nod i estron, fel yr aeth ar unwaith at galon yr aelodau gyda chyfeiiiadau tyner a pharchus at goffadwriaeth tri o v/fr sydd wedi myn'd oddiwrth eu gwaith at eu gwobr, ag y bydd eu henwau byth yn gysylltiedig a'r achos yo Waterloo, sef Mr. Edward Peters, Mr, Robert Jones, Georges Road, ac yn benaf oil Mr. M. J. Parry. Tystiai mai dyma'r golled fwyaf a gafodd yr eglwys erioed,—Anerchwyd y cyfarfod yn mhellach gan v Parchn. John Hughes, M.A., W. M. Williams, a Mr. David Jones, Bootle, Yn ystod cyfarfod y plant, canwyd Gwel Fanerau Dirwest" a" Yr Arglwydd yw'n Harweinydd VQ dra swynol o dan arweiniad Mr. David Roberts, Mount Pleasant. Terfynwyd gan y Parch. Wm. Owen.
-0-ftfar&hrmdj&edd.
-0- ftfar&hrmdj&edd. Dinbych, Meh. 30 Ymenyn fires, 10c i Is y pwya llestri bach, 9c i lOc eto mawr, 9c i 9Jc wyau, 14 i 16 acc Is. Ieir, 2 3s 6c i 4s 6c y cwpl; hwyaid, 3s 6c i 4s 6c y cwpl. Llangefni, Gorph 1, Geirch, 14s i 15s 60 y chwarter ymenyn, 10c i 101c y pwys gwlan, nc i 8c y pwys ieir, 3s 6c i 3s 9c y cwpl; hwyaid, 4s 4c i 5" y cwpl. Perchyll, 18a i 21s moch tewion, 3c i 4c y pwys. Wyau, 18 i 20 am swilt. Rhuthin-Meh 28. Gwenith, 9s i 9a 3c yr hobed; ceirch, 6s i 7s. Ymenyn ffres, 10c i lie y pwys. Ieir, 3s 6c i 4s 9c y cwpl; hwyaid, 4s i 5s y cwpl. Wyau, 16 i 17 am swilt. G-wrecsam. Meh 28. Biff, 6c i 7c y pwys teirw tewion, 20p. Wyn Ysgotig, 30s eto Gymreig, 24s. Molltgig, 7c i 821c y pwys; cig llo, 6c i 7jc. Gwartheg godro, 15p i 18p; styrcs, 8p i lOp blwyddJaid, 4p 10s i 6p. Caer—Gorph 3. Gwenith gwyn, 4s 4c i 4s 5c y 75 pwys Coch, 4s 3c i 4s 4c haidd at fragu, 3s 4c i 3s 60 y 80 pwys eto at falu, 2s 6c i 2s 10c y 64 pwys. Ffa, hen, 5s i 5s 6c y 80 pwys; newydd, 4s 60 i 4s 8c; Aiphtaidd eto, 27is i 27s 6c y 480 pwys. Ceirch hen, 2s 9c i 3s 3c y 46 pwys; newydd, 2s 5c i 2s 9c. Indrawn hen, 8s i 8s 3c y 240 pwys newydd, 7s 3c i 7s 6c. Bangor, Gorph 2. Ymenyn ffrcs, lie y pwys wyau, 16 arn swilt ieir, 38 6e i 4s 6c y cwpl biff, 6e i 90 y pwys molltgig, 10c cig oen, 9c i 10c cig llo, 7c i 9c pore, 7c. Caernarfon, Gorph 2. Ymenyn, 11e i Is y pwys; wyau ffres, 18 i 20 am swllt; biff, 6ci 8c molltgig, 6c i 8c cig oen, 10c i Is; cig llo, 6c i 8c ieir, 3s 6c i 4s 60 y cwpl; hwyaid, 5" 6c i 6s y cwpl; perchyll, 14s i 16s y pen. Lerpwl, Gorph, 6. Gwenith yn gadarn, a gwnaed masnach weddol yn ol prisau llawn am weaith gwyn, ac o ie. i Ie. yn uwch na dydd Gwener am y coch. Galw da am indrawn yn ol lfc. uwchlaw pris dydd Gwener. Liundain, Gorph 6. Indrawn yn gadarn, ond. nid llawer o brynwyr. Haidd wedi codi 3e. Ceirch yn well. Ffa yn gadarn, ond dim Saidi yn y farchnad. Birmingham, Gorph 6. Biff, 4 i 7c molltgig, 5c i 8c cig oen, 8 c cig llo, c i 7c y pwys. Moch bacwn, 8s 9c perchyll, 9s; hychod, 63 30 y 14 pwys. --0-- GWKECSAM Manvolaeth Sydyn.-Bore Sul caed
[No title]
hyd i Mrs. Sarah Lloyd, Oakbree Tavern, RUJ abon Road, Gwrecsam, wedi marw yn ei gwely. Nos Sadwrn, 11 o'r gloch, yr oedd yn ei chynefin vechyd, ond pan aeth ei merch i al >• ami 7 fore Sul cafodd hi wedi marw. Yr oedd Mrs. Lloyd yn ddynes o gymeriad uchel, hynod gymwynasgar, agored, tirion wrth y tlawd, a bydd colled fawr ar efhol. Claddwyd hi yn mynwent Penycae ddoe (ddydd Mercher).
Lleol
Lleol Y CAKTUKF CYTIREIG. MEWN colofn arall, gwelir hysbysiad am ddadblygiad yr hen sefydliad gwerthfawr hwn, yr unig sefydliad hyd yn hyn sydd gan Gymry Lerpwl o natur anenw- adol a chenedlaethol. Yn ein rhifyn nesaf, rhoddir manylion y cynllun a'r ffordd y bwriedir ei ddwyn i ben. DA genym fod Mr D. J. Bowen, mab Mr W, J. Bowen, o'r dref hon, wedi llwyddo i enill y radd M.'Sc., yn Mhrifysgol Yictoria, yr wythnos ddiweddaf. Efe, hyd y gwyddom, ydyw'r Cymro cyntaf a gyrhaeddodd y teitl anrhydeddus hwn. Dair blynedd yn ol, enill- odd y radd o B.Se.; ac heblaw ei fod fel hyn wedi graddio'n ilchel yn y gwyddonau, y mae'n rhagori fel cerddor, fel y dangosai ei lwyddiant gyda phlant Ysgol Sul Holt Road, ddwy neu dair blynedd yn ol.— Gaffed. DAETH tyrfa luosog iawn yn nghyd i Gladdfa Anfield ddydd lau diweddaf—diwrnod cynhebrwng Mrs. Jones, Liscard, priod Mr. Hugh Jones a merch Mr. Richard Jones, Fitzclarence Street. Gweinyddwyd gan y Parchn. Wm. Jones, O. Lloyd Davies, E. Humphreys, ae Evan Evans. Bu'r chwaer ymadaw- edig yn ffyddlon iawn gyda'r achos Wesleyaidd yn y ddinas, a chydymdeimlir yn ddwfn a'r perthynasau yn eu profedigaeth. Traddodir y bregeth angladdol yn nghapel Shaw Street nos Sul nesaf, gan y Parch, O. Lloyd Davies. BIRKENHEAD Ffordcl newydd o -Proselytic.-Aml gnec dduwinyddol fu 'rioed rhwng dilynwyr y ddau John—Wesley a Chalfin, a llawer cast diras arfeiwyd gan ddynion duwiol o bobtu i chwyddo'r rhengau. Ond mae eglwys M.C. Parkfield wedi taro ar gynllun newydd a mwy llechwraidd, sef anog ei llanciau i hwi-hwian ac arfer tipyn o alludyn tuag at eglwys (W.) Claughten Road, ac yn y diwedd priodi y Misses Armin. Yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf y mae'r eglwys hono wedi ei pliluo yn y dull bwn o rai o'i rhianod tecaf a mwyaf defnyddiol. A heddyw dyma'r si fod hen lane selied arall a'i fryd ar broselyt- io merch un o'r blaenoriaid. 'Dyw hyn ddim yn deg at eglwys Claughton Road, sydd wedi arfer paru o'i haid ei hun, nac at rianod lawn cyn brydferthed Park- field, y rhai o'r herwydd ydynt tan orfod troi i bob man i chwilio gem a chael gwmon."—Je Aitsh. PRIODAS. Meh 19. yn nghapel Princes Road, Lerpwl, priodwyd Miss Roberts, unig ferch Mrs Roberts a'r diweddar Mr. Robt. Roberts, Plas Chambres, â Mr. H. O. Hughes, Twysog. Gweinyddwyd gan y Parch. John Williams. Y forwyn briodas oedd Miss Lilly Williams, Lerpwl a'r gwas, Mr. J. H. Wynne, M.R.C.V.S., Dinbych. Yn mhlith lluaws eraill, yr oedd yn bresenol :-Mr. a Mrs, Lloyd, Lerpwl; Miss Hughes, Twysog; Mr. a Mrs. Williams a Mr. Tom Williams, ieu., Lerpwl. Ar ol y seremoni hwyliodd y parti i Westty'r North Western, lle'r arlwywyd y brecwest priodasol i foddlonrwydd. Yn ddilynol, ymadawodd y par ieuanc, yn ngbanol I 'on-tiaymiinia(lau eu cyfeillion, i dreulio eu mis mêJ yn Llundain. PWLPUDAU CYMREIG, Gorphenaf n. LESPWL. Y MSTHO DI3T1AID CA.LFINA ID.D Princes rd-Am 10, T Gray, am 6, G Ellis, M A. David street-Am 10, G Ellis, am 6, T Gray. Fitzclarence st-Am 10, L Lewis, am 6, J Williams. Netkerfield rd—Am 10, J Williams, am 0, L Lewis. Chatham street—ADS 10 a 6, W Jones. Crosshall street—-Ata 10 a 6. Anfield road-Am 10 a 6, W M Jones. Newshai)z park -AM 10 a 6, J 0 Tho as, Aberdyfl. Bootle-AID 10 a 6, D Jones Birkenhead-Am 10.30 a 6, T Evans. Seacombe-AI31 10 a 6, R 0 Morris, M.A. Qarston -Am 10 a 6, J Hughes M.A. Rock Ferry—Am 10 a 6, I) J Owen, M. AL. Walton park-AM 10 a 6, R Richards, Rhyl WaterloO-AM to a 6, H Jones IX!). Buy ton QttarrY-Am 10 a 6. H P Roberts. Peel rood-Am 10 a 6, W Owen. Bolt roti.-d-Am 10.30 a ft, J Thomas, M.A. Webster road-Am 10 a 6, W 0 Jones, B.A. New Brighton— Am 10 a 6, W H Lewis. West Kirby-Am 10 a 6. W Roberts. Yates street -Am 0 15, J W Roberts, Brassey street, Birkenhead—km 6, P Jones. Market street, B-irkenhead-Am 6, St. Helens-Am 10-30 a 6 Cyf Ysgol. Siloh Whiston-Am 10 30 a 6, T Jones. Everton brow rSaesneg)-Am 10.45, a 6.30, W Wynn Davies. Oakfield rd (gaesnez)-Am 10.45, a 6 30, 0 G Owen, M.A. YR ANNIBYNWYR. Tabernacl—Am 10-30, E B Jones, am 6, J Morris. Grove st-Am 10.30, P Price, am 6, D Adams, B.A. Park road-Am 10-30, J Morris am 6, E B Jones, Caergybi. Gt Mersey st-A m 10 30, L Jones, Llundain, am 6, P Price. Kensi gtnn-Am 10.30. 0 V Jones, Bettws, 6, T A Thomas, Caerfyrddin, ac H Williams, Bala-Rangor. Trinity rd, Bootle-Am 10.30. H Williams, am 6, 0 V Jones. Marsh Lane—(Yn yr Ysgoldy Newydd, Malta Road, Marsh I.ane-,<\m 10.30 a 6, J H Rees. Clifton rd, B'head-Am 10.30, D Adams, am 6.15, L Jones. cocoinbe-Am 10.30 a 6 8 Roberts. Vittoria st, B'head—10-30. a 6. 15, Y BEDYDDWYR. Evrton Village-Am 10.30 a 6, D Powell. Windsor st -Am 10.30 a 6, W Samuel, Mdge Lane—km 2.30 a 6, S Jones, Caer Capel, •eion, Bovsfield st-10, J Davies, am 6, P Jones. Brasenose Road, Bootle-Am 10 a 6, 0 Jones, Llanddoget, Knowslei/ Road, Bootle—Am 10.30 a 6, L W Lewis. Woodlands, B'head—1<\30, P Jones, am 6.15, J Davies. Y WFSLEYAID. Shaw st-Am 10.30, E Humphreys, am 6, T Hughes. Boundary st-Am 10 30, T Hughes, am 6, E Humphreys. Trinity Rd, BooUe-Am 10-30, E Evans, am 6, W Jones. JBdse Hill, Piimsoll st—10.30, W Jones, am 6 E.Evans. Knowsleu Road 2 30, T hughes, am 6, M Roberts. Mynr.dd Veion—Am 10-30, J M Davies, 6, D G Jones. Claughton rd, B'head-Am 10-30 D G Jones, am 6, E Hughes. Price st Birkenhead -Am 6, P Lloyd. Widnes-Am 10,30 a 6, P Roberts. Qarston—Am 2.30 a 6, J M Davies. Earlatown—Km 10.30, H R, am 5 30, A Owen. Hermon-Am 10 30, A Owen, am 6, J Williams. Golborne-Am 2, J Williams, am 5.30, Cyf. Gweddi. Seacombe-Am 2.30, D G Jones, am 6, Cyf Gweddi. Rock Ferry—Am 2 30, P loyd, am 6, Brodyr o Birkenhead. Wigan-Am 10.30 a 6, 0 Hughes. Leigh-Am 10 30 a 6, W Evans, St Helens Am 10 30 a 6, E C Hughes. Darwegi-Am 10.30 a 6, E Davies T!Idestey-&m 10.30 a 6. M Watkins Thato Heath-Am 10,30 a 6 0 C Evans, YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Sant Dewi-Am 10.30 a 6, J navies. NI A. Sant Asaph-Am 10.30 a 6.30, E Williams. Sant Nathaniel Am 10 30, Yssrol, am 6.30, W D Jones. St. Winifred, Birkenhead-Am 10.46 a 6.30, R Edwards.
MANCEINTON.I
MANCEINTON. YR EGLWYS SEFYDLEDIG, Dewi Sant-Am 8, 11, a 6.30, W A Ellis. "0-
Yswiriant ldeniadol.
Yswiriant ldeniadol. DYRY'B ROYAL EXCHANGE ASSURANCE, a gorphorwyd yn 1720, yr yswiriant uniougyrehol mwyaf am y draul ieiaf trwy eu Hyswirebau unedig am oes ac am gyfnod." Dylai pawb a deimlant angen amddiffyniad, trwy fywyd- yswiriant at amcanion teuliiaidd neu arianol, am draul bychan iawn, yn rbedeg dros gyfnod o 5 i 20 mlynedd, ac ar derfyn y cyfi ol hwnw feddu gallu i wneud yr yswiriant yn un parhaol, apelio am fanylion at y Gurachwyliwr, 5, Dale Street, Lerpwl.
Y OARTREF A'R
Y OARTREF A'R Swyddfa Gofrestru Gymreig, 2, HOPE PLACE, LERPWL. Sefydlv,-yd 1871. AE Pwyllgor y Cartref Cymreig-yr unig -—" sefydliad dyngarol cenedlaethol yn y ddinas—yn apelio am roddion a thanysgrifiadau. Hyderant y bydd i Gymry Lerpwl, yn y flwyddyn hon o Jiwbili a diolchgarwcb, gyfar- fod yr apel gyda pharodrwydd a haelioni, fel y gellir eangu gwaith y Cartref a'i wneud yn fwy effeithiol. Sefydlwyd y Cartref yn benaf trwy egnion Mrs. PUGH, yr hon er ei gychwyniad sydd wedi cymeryd y prif ran yn ei reolaeth. Lleolwyd y Cartref ar y cyntaf yn Duke Street, ond trwy fod rhestr y tanysgrifwyr yn lleibau bu raid symud i dy llai, 127 Falkner Street. Lles- teiriwyd llawer ar ei ddefnyddioldeb oblegyd hyn. Yn ystod 1896, fodd bynag, bu 146 yn llettya ynddo-eyfanswm y draul ydoedd 59p., tuag at yr hyn y derbyniwyd dim llai na 31p. mewn taliadau am lettya a chofrestru. Ddydd Gwyl Dawi, yn Nghiniaw y Gym- deithas Genedlaethol, rhoed datganiad i'r teimlad fodolai er's talm y dylid trefnu dar- pariaeth bellach i lettya marched ieuainc Cym- reig ddeuant i Lerpwl i weini, neu ydynt am gyfnod beb le i wasanaethu. Amcangyfrifir fod o leiaf 4,000 o forwynion Cymreig yn Lerpwl. Mewn cynadledd gynaliwyd yn ddiweddar yn Ysgoldy Princes Road, penderfynwyd ceisio eangu y gwaith sydd eisoes mewn bod. Pen- derfynwyd symud y Cartref i adeilad eangacb a mwy cyfaddas, 2, HOPE PLACE, a phenodi Arolyges, nid yn unig i reoli y Cartref ond hefyd i ymgymeryd 4'i wneud yn Swyddfa Gofrestru o'r fath oreu (First-class Registry). Hydera'r Pwyllgor y rboddir cefcogaeth galonog i'r Swyddfa Gofrestru gan foneddigesau mewn angen am forwynion. Credir y bydd i'r Cartref, mewn amser a than arolygiaeth briodol, ddyfod yn hnnan-gynaliol. Yn y cyfamser, mae angen cronfa i ddodrefnu a dadblygu'r Cartref. Oherwydd y draul fawr yr aed iddi i symud ac ail-ddodrefnu y sefydliad, amcangyfrifir y bydd angen 250p. yn ystod y flwyddyn gyntaf. Derbynir cyfraniadau yn ddiolchgar gan unrhyw un o aelodau'r Pwyllgor. Llawnodwyd, ar ran y Pwyllgor, D. M. JENKINS. D. POWELL. JOHN WILLIAMS. PETER DAVIES. HUGH R. JONES. EDWARD LLOYD. Trys. Myg.—Mrs. OWEN OWENS, 20, Sherlock Street. v™ 7i/T /Miss DAYIES, 142, Bedford-st. S. Ysg.Myg. QWE^ Rhianya> Mae'r personau canlynol wedi addaw cyfranu, neu gasglu y symiau sydd gyferbyn a/u henwau :— A s. d. Dr. Foulston 5 0 0 Dr. Hugh R. Jones. 5 0 0 R. W. Jones 5 0 0 Thomas Jones 5 0 0 Edward Lloyd, J.P. 5 0 0 Mrs, Lloyd 5 0 0 Mrs. 0. Owens 5 0 0 Miss Owen 5 0 0 Parch. John Williams 5 0 0 R. Saunders-Jones 2 2 0 William Lewis 110 Mrs. Morgan 1 l 0 Mrs. Owen 110 Hugh Owen 110 Parch. O. Owens 1 1 0 Herbert E. Davies, M.A. 0 10 6 Dr. James Edwards 0 10 0 Mrs. W. Hughes-Jones 0 10 0 Mrs. E. 0. Roberts 0 10 0 I Parch. John Hughes, M.A, 0 5 0
Advertising
YSGOL SABBOTHOL CHATHAM STREET. CYNELIK Cyfarfod Cystadleuo! YN NGHAPEL CHATHAM STREET, Nos Fawrth, Rhagfyr 7, 1897. PRIF DESTYNAU. Traethawd-Vr Ysgol Sabbothol Fel y bu, fel y mae, ac fel y dylai fod, Gwobr, Is. Parti cymysg (16 mewn nifer), Beth sy'n: hardd ?" (J. H. Roberts, Mus. Bac ) G obr, £ 2 lOs. Wythawd (T. T. B. B.), Teyrnged Cariad (D. Pughe Evans), Gwobr, £ ] 15s. Pedwarawd (S.A.T.B.), "God is a Spirit." Gwobr, £ 1. Rhestr gyflawn o'r Testynau i'w cael ond anfotr stamp ic. i'r Ysgrlfenydd, 2 15, Selborne Street. HENRY J. LEWIS. CHESHIRE LINES. GVVASANAETH NEWYDD 0 DRENAU GYFFINIAU LLINSLL Y CAMBRIAN. Gan ddechreu Gorph. 1, 1897, bydd gwasanaeth newydd o DRENAU CYFLYM yn rhedeg i OGLEDD CYMRU a CHYFFINIAU LLINELL Y CAMBRIAN, Bydd Lavatory Carriages b'r cyntaf a'r trydydd radd yn rhedeg rhwng Gorsaf Ganol MANCEINION ac ABERYSTWYTH fel canlyn :— Amseroedd. Dyddiau Gwaith. Gorsafoedd a n-i. p.m. Manceinion (Ganol) .gadael 10 10 330 Stockport (Tiviot Dale) 95 3 20 Altrincham a Bowdon 1026 345 Knutsford „ 10 38 353 Northwich '1 1045 4 2 Hartford a Greenbank 10 51 4 8 Caer (Liverpool Road) 1117 429 Wrecsam (Ganol) cyrhaedd 12 0 5 10 Croesoswallt 19 40 615 Trallwng 125 6 55 Drenewydd 155 740 Aberystwyth 3 35-935 Abermaw 40 Porthmadog 5 35 Pwllheli g xfi Am amserau dychwelyd, cysylltiadau yn y gors- afoedd cydrhyngol, a manylion am drenau eraill gweler ta,blan amseriad. GOFYNWCH AM DOCYNAU GYDA LLINELL SIR GAER. DAVID MELDRUM, Goruchwyliwrs Gorsaf Ganol, Lerpwl, Mehefin, 1897. WANTED for the Home & Reg stry for Welsh y y Servants, about to be removed to No 2, Hope Place, AJLADY SUPERINTENDENT. Knowledge of Welsh essential. For particulars of duties and salary apply by letter before July 31st, 1897, to Miss DAVIES, 142, Bedford Street S. Telephone No. 2308. W. BOOTE. 120, Paddington. Jams, Marmalade, Bottled Fruit and Candied Peel Factory- 61, Mason St., and Brydges St. Pickle, Sauce, &c., Factory- 64, Mason Street. Mineral Water Company- Back Mason Street, Tea Blending Rooms- 122a, Paddington. Coffee Roasting Warehouse- 122, Paddington. Teas, Is 4d,» 1s- 8d. and 2s per Ibt, Prynwch y Te Cymreig hen ffasiwn. I'w gael yn unig yn y lleoedd canlynol Branch Establishments 124, Paddington, 285, Breck Road, 119, Brunswick Road, 115, Kensington, 121, Prescot Road, Fairfield, 69, Breckfield Road, N. 407, Smithdown Road, 32, Smithdowa Road, 135, Upper Warwick Street, 66, Lodge Lane, 4, St. James' Place, 93, Byrom Street, LIVERPOOL.
Family Notices
GENEDIGAETHAU, PRIODASAU' MARWOLAETHAU. DAVIEs-Mebefin 30, yn 12, Bedford Road, Bootle, priod Robert Davies, ar ferch. EvANs-Gorph. 5, yn 8, Queen's Street, Waterloo, priod David Evans, ar ferch. JONEs-Gorph. 3, yn 37 King Street, Egremont, priod F. Jones, ar fab. pricOaeau. WILLIAMS-BROOKS-Mehefin 30, yn nghapel Anni- bynol Lord Duncan Street, Manceinion, gan y Parch Llewelyn Williams (gweinidog), Mr Wil- liams, fferyllydd, Blaenau Ffestiniog, a Miss M. F. Old Trafford, Manceinion. PRICE-PICKSTOCK-Gorpb. 1, yn nghapel Cliftcn Road (A.), Birkenhead, gan y Parch H. P. Thomas, Richard Price, 100 Rodney Street, a Kate Pick- stock, 44 Cleveland Street-y ddau o Birkenhead. ZlNarwolaetbau. EVANs-Oorph 1, yn 75 mlwydd, Edward Evans, 21 Equitable Street, Rochdale, mab hynaf y diweddar Edward Evans, Trallwng. HUMPHREYS—Mehefin 19, yn 408 West 55th Street, New York, yn 33 oed, Mary Humphreys, gynt o St. Paul's Road, Rock Ferry. JONEs-Gorph 2, yn Dingle Cottage, Melling, yn 67 oed, Jane, gweddw y diweddar George Jones. LLOYD—Gorph 4, yn Oak Tree, Gwrecsam, yn 58 oed, Sarah, gweddw'r diweddar James Lloyd. LEWIS—Gorph 3, yn 79, Garth Road, Bangor, Wil- liam Lewis, saer llongau, yn 63 oed. LEWIS—Yn 238 Claughton Road, Birkenhead, Wil- liam, anwyl briod Anne Lewis, yn 35 mlwydd, II' Printed and Published by ISAAC FOULKES at his Printing Establishment, 8, Parades Street in the Parish of Liverpool, in the Cou:> if of Lancaster.