Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Hodion o'r Ddinas.
Hodion o'r Ddinas. [Gan CWILSYN]. EICH maddeuant, ddarllenwyr hoff, am na ysgrif- JJnaia fy nodion yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd yspleddach y Jiwbili wedi fy myddaru, a'r gwres mawr wedi sychu'r inc, ac yr oeddwn wedi chwyau cymaint fel nad oedd ond vcbydig weddill ohonof i'ch anerch. Llawen geayf mai fy ngorchwyl cyntaf yw llon- gyfarch eglwys Gt. Mersey Street yn neiliduol, ac Annibynwyr y ddinas yn gyffredinol, ar eu llwydd yn arholiadau'r Undeb. Gan eglwys Gt. Mersey Street yr oedd y cyfartaledd mwyaf o ymgeiswyr Ilwyddiauus o'r holl eglwysi Uymreig drwy Gymru a Lloegr, a chiod i egnion y Parch. Peter Price am hyny Dyma enwau'r rhai llwyddianus yn ein ddinas ni:— DOSBARTH I.—Dan 14 oed. -Safon 100. Wm. Humphreys, Earle Road 89 Nellie Parry, Gt. Mersey Street 84 W. Davies, Park Road 81 Phcebe Morgan, eto 81 Robert G. Ellis, Grove Street 79 Jenni. Owen, Great Mersey Street 78 J. A. Morris, eto 75 Minnie Edwards, eto 73 Elizabeth Hughes, eto 70 A. Askin, eto- 69 Elizabeth Roberts, eto- 69 E. P. Hughes, ets 68 Martha Jones, eto 66 D. M. Lodwick eto 50 Edward Roberts, eto 42 DosBARTH II.—Dan 18 oed.—Safon 100. Dosb. 1.—Sarah J. Adams, Grrove Street 72 J. O. Jones, Tabernacl 68 Hugh Ellis, ieu., Grove Street 66 Dosb. 2.—H. Rees Davies, Gt. Mersey St 52 Florence Roberts, Park Road 47 Annie Pritchard, eto 44 E. H. Roberts, Gt. Mersey St. 42 Dosb. 3.-Ellen Williams, Park Road 19 Blanche Pugh, eto. 18 DOSBARTH III.—Agored i bob oed.—Safon 100. Dosb. I.-Eml"lla J. Owen, Park Road 100 Dosb. 2.—Thomas Askin, Gt. Mersey St. 68 R. Llew Jones, eto 68 Mary Parry, eto 68 John Robert Davies, eto • 68 Robert Owen Jones, Tabernacl 67 W. A. Lloyd, Great Mersey St 61 HANESIAETH EGLWYSIG.—Safon 100. E. H. Edwards, Gt. Mersey Street 95 R. Llew Jones, eto 80 H. Rees Davies, eto 62 Evan L. Roberts, eto 60 Y BREGETH AR Y MYNYDD.-Safon 100. Dosb. I.-Thos. Askin, Gt. Mersey Street- 88 Dosb. 2,—R. LI, Jones, Gt. Mersey St. 72 W. A. Lloyd, eto 71 Dosb. 3.—T. T. Phi Hips, eto 65 John Williams, eto 65 W. E. Owens, Park Road 55 Y mae y fath gyfartaledd yn brawf nad yw Cymry Lerpwl, fel yr honir weithiau, yn colli bias ar ymchwil i dryscrau'r Beibl, a'u bod y, tro hwn beth bynag, wedi rbagori llawer ar dduwinyddion 11 Cymru. Rhai doniol yw'r Deheuwyr. Aeth un ohonynt ay'n cyfaneddu yn y ddinas hon, i feirniadu canu yn ddiweddar. Ymgeisiodd pump ar ganu unawd, ond pan gododd y brawd i draethu ei feirniadaeth. ebai "Fel y gwyddoch oil mae piomp wedi ym- geisio." Yn sicr, nid oedd y canu yn sych, ond ni feddyliodd neb er hyny fod pwmp ar y llwyfau. Cefais amryw lythyrau yn nghylch fy nodyn o berthynas i'r morwynion Cymreig. Ysgrifena un forwyn o Mossley Hill ataf i ddiolch i mi am alw sylw at y mater, ac auoga ferched Cymru i fvned at Saeson i weini yn hytrach na goddef yr araodau y cyfeiriais atynt. Mas boneddiges arall o Newsbam Park yn anog yr un petb, a thystia oddiar brofiad maith nad oes well merched gweini yn y byd na'r Cymry—" maent yn lan, yn dwt, a gofalus, ac ni ddymu-iwn eu gwell," meddai. Oydolyga boneddiges o Birkenhead a hyn, a hydsra na, bydd i'r hen drefn gael ei newid. Wrth gwrs y mae eithriad, a hono a ysgrifena. o Bootle. Nid wyf yn ei h&dwaen, ond y mae un yn perchen ysbryd mor sur, ac yn gallu ysgrifenu mewn tymher ttor ddrwg, yn gyfryw na theily-,galr enw o foneddiges, ac o galon y trugarhjif wrth y merched, druain, a ddichon fyned ati i weini. Dywed wrthyf mai hi—y feistres hondigrybwyll- aydd i arglwyddiaethu ar y forwyn, ac i osod i lawr amodau ei bywyd, megys, oherwydd "mai ni, y meistresi, raid tala eu cyflog." Parion ond cofied y ferch hon i Efa fod y for- wyn yn Hawn mor gymhwys, a chymhwysach yn amI, i edrych ar ol ei hun ag yw'r feistres, ac nad yw hyd yn nod talu cyflog yn rhoi i'r feistres yr hwl o ymddwyn yn s-nnheg at y forwyn, Nid oaethion yw morwynion Cymreig, a diolch byth Bad oes ond ambeH feistres fel hon o Bootle yn seisio eu gwneud felly. Mwyniant i ysbryd a mêr i esgyrn yw mynerl gyda'r Ysgolion Sul am yrndaith i'r wlad, Bu ael- odau Princes Road yn Overton Hills y Sadwrn c?n y diweddaf, a dywedodd un cyfaill ddylasai fod yn fardd wrthyf fod m6r o de a mynydd o deison wedi myned o'r golwg yn chwim yno. Gas fod y tywydd mor fwyn, y llanciau mor llon, a'r mein- wenod" mor slriol, fe wasgwyd mis o hwyI i'r aawnddydd hwow. Mae y telynor, Ap Eos y Berth, Bethesda, er's peth amser. bellach, yn difyru'r teithwyr ar y Campania,, nn o'r Ooagau h&rddaf sy'n gadsel y Ferswy ysia. _)- Oynygia rlieolwyr addysg Rhyl 12 ysgoloriaeth
[No title]
gwerth 42p i blant yr ysgolion elfenol." Bydd 12 testyn yn yr arholiad, a Chymraeg fydd un ohon- ynt. Mr L. J. Roberts, yr arolygwr, fydd yr arholwr. -;0; Goed y Brain, Nannerch, sir Fflint.-Mae ten-
[No title]
antiaid y ffarm eang hoc yn magu a phesgi l!u mawr o anifeiliaid eu hunain, yn eu lladd yn y »'add-dy sydd yno, ac yn eu gwerthu yn Siop Coed y Brain, 17 Deane Street, gyferbyn â Marchnad St. John, Liverpool.
IGwrelohlon.
Gwrelohlon. H PAN oedd Christmas Evans yn Caerphilit gwahoddwyd ef i de gyda Hughes, Groeswen, Ldy rhyw foneddwr ar ol oedfa ddau o'r gloch Iiof gyfdor- fod mawr, ond rhwng y capel a'r ty galwyd ar weinidog Groeswen i fedyddio plentyn rhywun oedd ar ddarfod am dano a phan ddaeth yn ol, gofynodd Christmas, "LIe buost ti, Hughes?" Yn bedyddio plentyn un o'r diacoaiaid acw," atebai yntau. Gwisgai gwau dros wyneb y Bed- yddiwr, a gofynai yn goeglyd wei'yn, "A welaist ti ryw arwydd o edifeirweh yn'o fo, Hughes?" Do," ychwanegai Hughes, yr oedd yn llefain dros y ty." II Sylwai pregethwr, sydd ar delerau da a fo'i hun, ar dS brydnawn Sul yn nhy blaenor, Yn siwr i chwi, maa'r cewri wedi eu colli'n lan o'r pwlpud Cymreig, yn enwedig gyda'r Annibynwyr a'r Corph ond wedi ail feddwl ronvn, ychwan egai yn ddifrifol, ond fe gawn wel'd sut y fydd I hi yn yr oedfa chwech." Fflatiach nag arfer. IT Wrth son am hyny, fe gafodd eglwys Pendref, Rhuthin, y p'eser o wasanaeth y Parch. Tawel fryn Thomts, Groeswen--bachgen godwyd i bre. gethu ganddi tua 23 mlynedd yn ol ac er ei mawr lawenydd, oafwyd prawf ar ol yr oedfa chwech" fod cewri yn y wlad o hyd. IT Rhai 01 ydyw pregethwyr y Sowth. Fe glywais fod un wedi taro pregethwr arall, faddyl- sai ef, mewn ffrecs yn Lerpwl wythnos yr Undeb nes oedd yn gwegian ond erbyn edrych, pwy darawodd oud un o arolygwyr yr heddgeidwaid IT Fe deimlodd y awyddog mai lab cariad oedd, ac felly ni chodwyd gwys, fel bu'r lwc. IT Mae'r si wedi cyrhaedd ar led mai tri arwr yr Undeb yn Lerpwl oeddynt Evans, Capel y Wig Bowen, Penygroes; a Charles, Dinbych. Mor feirniadol y mae pabl wedi myn'd. IT Adgyfododd can y "Modur" gan Cceren- ydd yn Y Cymro diweddaf englyntalcen slip budd- ugol yn Maldwyn rhyw bum mlynedd ar hugnio yn 01 yn fyw i'm cof:- I fynu rhyw nid yw 'i yrfa-o un gwerth I'r gwr a'i fneddiana Ond i lawr alK: 'e lwvr wylltia, Ac fe a. yn gyflymach na dim a welais i 'rioed â'm llygid er pan aned 'y mhen i'r-. byd. IT Son am englyn-dyma englyn diguro a welais ar gerdyn coffa, o waith Cornelian Gwir wenith oedd y gronyn-hauodd Tom Yn nydd tirf ei wanwyn; A'i fedi mae ar gae gwyn Didalar gwlad y delyn. H Wrth areithio ar fferylliaeth, fe ddywedodd un oracl y dydd o'r blaen, Fe fyddai un dropyn o'r gwenwyn, wedi ei roi ar dafod oath, yn ddigon i ladd y cryfaf o ddynion IT Y mae'r ddeurod yn gweithio'i ffordd i bell. derau'r ddaear. Er eu syndod mawr gwelodd bagad o Indiaid ddyn gwyn yn chwyrnellu heibio iddynt yn ddiweddar, ac ar ol iddo basio dywedai un, 15 'Does dim daioni o'r dyn gwyn," pryd y sylwodd un arall, Nac oes—mae o'n Thy ddiog i sefyll, ac yn eiatedd i lawr i gerdded." H "Solomon, ynte, ddywedodd, 'hyfryd yw i'r llvgad weled goleuniac i brofi hyny, mae rhyw filiwnydd dall o'r enw Charles Rouss, New Yore, yn cynyg saith miliwn o ddoleri i unrhyw un all ei gynorthwyo i weled dim ond un treniiad," meddai Nathan, a'r dw'r yn rhedeg o'i ddanedd na fuasai ganddo spinglars fuasai yn ei alluogi i enill y flfortiwn. H Gan y gwirion y ceit- y gwir, Galwodd rhyw- un oedd ar delerau drwg a'r cyfreithiwr yn ei swyddfa y dydd o'r blaen, gan ofyn am ei wel'd— fod ganddo eisiau ei ddarn ladd." Oafodd y clerc y synwyr i ddweyd nad oedd ei feistr ddim i mewn ac aeth i fynu i ddweyd, Galwodd dyn yu yr offis, syr, gan ddweyd ei fod eisio eich darn ladd chwi." "WeL beth ddywedaist ti wrtho, James 1" Mae'n ddrwg gen i nad ydi o ddim i mewn. If Yn sicr, yr oedd Undeb yr Annibynwyr a'i lygad yn ei ben pan yn dewis Mr. C. R. Jones, Llanfyllin, yn gadeirydd, a dylasai fod wedi ei nn. rhydeddu S'r apwyntiad yn gyat o flynyddau. CYFARWYDD O
BrawdlysoecJd Chwarterol y…
BrawdlysoecJd Chwarterol y Sogledd. FFLINT. CYKALXWYD v frawdlys hon ddydd Me-cher, Mr R. Sankey, Treffynon, yn n,ywyddu.-Ail'etholwyd Pwyllgor y Trwyddeda"Cymm:'odd Mr M. H. Rowley-Conway, Bodrhyddan, y 11 w fel ynad new- ydd.—Penderfynwyd cynal y frawdlvs nesaf yn y Wyddgrug, Awst 23.—Nid oedd troseddwyr i scfyll eu prawf. Mon. Yn Biwmaris, ddydd Marcher, Syr R. Williams- Bulkeley yn llywyddu. William Picton, bachgen 15eg oed, a gyhttddid o dori i mewl.1 i faelfa yn Ngnaergybi, a Hadrah oddiyao 83 a nifer o sigarets. Peuderfynwyd rhoi bias y wialen fedw iddo. Ni eliafwyd true bill yn erbyn R'ohard Pritchard, llEdnrwr, a gyhllddid o 2s trwy dwylj-honiacl- au, ac felly taflwyd yr achos o-ll&n. "Maldwyn. Yn y Drenewydd ddydd Ian, Capten Mytton yn llywyddu.—Un acho-3 o drosedd oedd i ddod ger- bron. se? yn erbyn John Owens, Llanwnog, o via- osod ar Margaret Roberts, Car. o. Caed ef yn ddieuog. Yr achos aral! oedd yr un a ddygai Corphors-eth Lerpwl yn gofyn am reol bendaut parth fcrethiant eu heiddo yn Llaawddyn a phlwyfi eraill vn Maldwyn. Gan fod Mr Balfour Browne, Q, C. a Mr Ryde, yr awdurdodau awchaf ar drethiant a thk fesuraeth, yn anallaog i fod ya brc's- eno', gohiriwyd yr ape! hyd ddydd rhwng Hydref 4ydd a'r 9?ed, y Gorphoraeth i dalu'r trethl yr apslir yn awr i'w herbyto, ac unrhyw drethi eraill ar werth trethol o 15,000p y fiwyddyxi, hvd nes csir dyfarniadi ARFON. Yn Nghaernarfon ddydd Ian, Mr J. E. Greaves yn llywyddu. Un achos oedd i ddod gerbroo, sef yn erbyn John Henry Williams a Thomas Henry Parrv, Llanfairfeehan, o ymosod ar Sarah Parr?. Ni chafwyd hwy yn euog, ac fe'u rhyddhawyd. '(I Although Flour is much dearer, the prices
ICardd y Cerddor.
I Cardd y Cerddor. AML gyfeiriad a wneir yn y pregethau a wrandawn at swyn cerddoriaeth, ond nid yn ami y deuir ar draws sylwadau mor ddisglaer a phrydferth a'r dyfyniftd a ganlyn, a draddodwyd gan un o weici- dogion mwyaf meddylgar ein gwlad :— Nid oes ond saith o nodau yn y raddfa, gwnawn ynt yn bedwar ar ddeg; ac eto, pa wyddoniaeth a ddwg gymaint allan o mor ychydig? 0 ba elfenau mor waelion y crea y gwir feistr mewn celf ei fydoedd newyddion ? A gawn ddweyd nad ydyw yr holl gyflawnder dyfeisiol hwn ond cyfrmwaith, neu ystryw celfydydd ? megys rhyw ddullwedd cyfnodol o chwareu, heb sylwedd, heb ystyr. A ydyw yn bosibl fod dadblygiad dihysbydd dosraniad a threfniant y nodau hyn, y rhai ydynt mor gyfoethog,oto mor syml; mor ddyrys, eto mor drefnus mor amrywiol, eto mor fawreddog; yn ddim amgen na swn gwag, yr hwn a ;i, ac a ddiflana ? A ydyw yn bosibl fod ysgogiadau cyfriniol y galon, y teimladau byw a llym, y dyheu- adau dyeithriol yna am yr hyn na wyddom pa beth, a'r arsfraphiadau dychrynllyd r.a wyddom o ba le y deuant—yn fcael ea gweithio a'u cynhyrfu ynom gan yr hyn nad yw sylweddol, yr hyn. sydd yn myn'd a dod, yn dechreu a diweddu ynddo ei hun ? Nid yw felly nis gall fod felly. Na y maent wedi diane o rhyw fydysawd uwch dylifiad ydynt o dragwyddol gynghanedd trwy gyfrwng awn ereedig adlais ydynt o'u cartrefi; lleisiau angylion ydynt, neu orfoledd seintiau, neu ddeddfaubyw y llywodraethiad Dwyfol, neu y priodoleddau Dwyfol; rhywbeth ydynt o'r tu allan iddynt eu hunain, nas gallwn ni eu hamgylchu, yr hyn nas gallwn ei yngan, er y gall marwol ddyn, ie, a'r hwn nad ydyw wedi enwogi llawer goruwch ei gyd-ddynion, feddn y ddawn o'u dwyn i oleuni. Gresyn na ofalai y rhai sydd yn alluog i ymgolli mewn hyawdledd desgrifiadol eu bod yn seilio eu syniadau ar osodiadau cywir pirth yr hyn fyddo ganddynt mewn llaw. Fe wet y cyfarwydd fod gwall wedi syrthio i'r ail frawddeg, ac nas gellir 14 o haner tonau mewn grarldfa, eithr yn hytrach 12. Nid cywir dweyd ychwaith mai o'r nodau syml hyn yn unig yr adeiladir y drychfeddyliau cyfoethog a geir yn ngwaith y meistri trwy yr oesoedd, ar draul annghofio lluosogiad yr wythau clywadwy i'r glust ddynol; hefyd luosowgrwydd achymhleth- iad lliwiad tonyddol; amlder diderfyn yn mron o amrywiaeth amser a mydr y gellir eu defnyddio, &c. Ond, dyna nis gellir disgwyl i bob pregeth- wr fod yn Mus. Doc,, a llawer ia.wn haws maddeu pethau fel yna na'r engreiphtiau a glywir weithiau, megys 11 eanu ar aden ffydd," "yr hen saut yn canu anthem," &c.
ANIFEILIAID WAGNER.
ANIFEILIAID WAGNER. Gwyr pawb mai y bardd-gerddor athrylithgar hwnvv oedd Wagner y tybiai ei gydoeswyr am dano mai gwallgofddyn ydoadd, gan mor annirnadwy iddynt oedd y gweithiau enfawr a ymfwrlvmeat o'i natur, ond heddyw ydynt fwngloddiAU 0 gyn- yrchion athrylith, i'w hedmygu gan ddoethion y gelf. 0 d odid n1 bu mwy o erlid ar gerddor eri e 1, a bu raid ei farw a'i gladdu cyn y gallwyd cymeryd harndden i'w ystyried gan ei erlidwyr. Yn awr. mae yr holl fyd wedi canfo 1 yr hyn a welodd ef ei hunan er's llawer dydd ac erbya hyn y mae rhai dynion wedi colli cymaint arnynt eu hunain yn ei edmygu a'i ganrnawl Rg ydoedd eraill dro yn ol wrth ei felldithio, Mae yn ymddangos, er ei holl fawredd meddyliol, ei fod yn or-hoff o anifeiliaid direswra. Mae ganddo rhyw fa,th o greaduriaid yn yr oil o'i chwareugerddi gvda'r eithriad o dair (sef "Dutchman," "Tristan," a Meistersinger.") Mtie ganddo geffylau yn "Rienzi," Tannhauser," Walkure," a Gotter- dammeruaj alarch a cholomen yn Lohengrin"; cwn liela yn Tannhauserliyffant a neidr yn "Rheingold"; myharen yn W-Alkiire arth, draig, ac adaryn yn "Siegfried"; cigfrain yn iiotterdammerunj ac alarch yn "Parsifal." Dygir yr elyrch, y ddraig, a'r aderyn gerbron yn y gwahanol weithiau mewn cysyiltiad âr gerddor- iaeth fwyaf swynol, prydferth, a darluniadol. Dywedir mai unwaith yn ystud ei oes, a hyny pan yn hogyn, y darfu iddo ladd unrhyw greadur ) dywed yr hanes ai, fod un diwrnod wedi ymuno a nifer o helwyr, ac iddo saethu cwningen, a'i chy- meryd i fynu ac edrych yn ei liygaid pan yn marw, a bod yr edrychiad wedi enyn cymaint tcstnri yn ei fynwes dros y ceadur yn colli ei fywj d, fel y penderfynodd nad ai byth mwyach allan i hela. Adlewyrchiad o'r teimlad hwn, meddir, sydd yn ti chwareugerdd, "The Fairies," pan darewir yr ewig gan y saeth. Dyna ddywed y bardd Oh, see the animal weeps a tear is in its eye. I Oh how its broken look rests on me I Beth pe byddsi i'r bechgyn creulon yma, sydd I mewn gwlad a thref gymeryd gwers oddiwrth y tywysog cerddorol hwn. Ni byddai un amser heb gi yn gydymaith, pa un bynag ai yn ysgrifenu, yn gorphwys, neu yn parotoi y gerddoriaeth. Bvddai Wagner arfer a dweyd fod ci o'r enw Peps wedi ei gynorthwyo i gyfansoddi Tannhauser," Yonddengys y byddai'r cerddor pan yn cyfan- soddi, yn chwareu y darnau ar y berdoneg, ac yn eu bloerldio gatJU, tnÙ ci yn eistedd wrfch ei ochr, I oad yn awr ac yn y man neidiai'r ci i ben y bwrdd a dechreuai udo'a doroalonns pan edrych yn ngwyneb ei feistr pryd y troai Wagner ato gan of 7a, Beth, oaid yw hwnyna wrth dy fo dd ? Wel, plygaf yn dawel l'th ddymuni.ad ac yn y fan newi lei,! r frawdaeg, Adroddir hatiesyn dvddorol am un ci cerddorol yr hwn a gardynai ei fpishr i bob oyngherdd. Un: waifch aeth Wagner am wibdaith i Switzerland gan gymeryd ei gydymaith y ci i'w ganlyn; ac yn nghorph y diwrnod digwyddodd iddo ddringo craig ysgythrog yn nghymydogaeth Bastei. Ofnai I gymeryd.y ci i'w ganlyn ar hyd y Hithrigfeydd, rhag i rywbeth ddigwydd iddo. PoQdar'ynodd daflti ei gadach poced i lawr gaa orohymyn i'r ci ei wylied. Oud nid hir y bu heb weled cyfrwystra ex fe sfcr ao ar ol munad o ystyriaefch, "dechreuodd grafu twll yn y ddaear, a chuddiodd y cadaeh yn ddo n otalus, ac yna.rhedodd a dechreuodd ddringo ur ol ci ieistr. STKADELLA,
[No title]
'0-- Er coffa vr Arglwyddes Aberdar, bwrisdir codi ;1 cro'U n 4,500p i (tl\l'r. ddyled ar Gartref y Myfyr- ferched yn Nghaerdydd—sefydliad y bn'r fonedd- iges n brif foddion i'w godi. Mae* l,600p eisoea wedi en tanysgHfio. Y DON ASSOCIATION SIWTIAU OLWYNO A31 BRISIAU P)BLOGAIDD.-IVIte x Don Association liord Street a Paradise Street yn awr yn dangos y Patrymau newyddion o Siwtiau Olwyno am y tymhor presenol, ac yn en plith ceir rhai o'r patrymau mwyaf hardd a chwaethus. Y maent wedi eu gwneud a'u gorphen vn y dull goreu'n bosibl, ac wedi eu leinio a gwia'n iechydol. Gellir eu cael yn ffurfiau Lounge neu Norfolk, pob maint ara 16s. 10c. y siwt, llawn werth 36s. Anfonir patrymau trwy y post yn rhad ond gwneud cais am hyny.
Advertising
[ Addysgol- I 13EAUMARIS GRAMMAR & COUNTY SCHOOL HEAD-MASTER E. MADOC JONES, M.A., Downing College, Cambridge (Mathematical Honours ASSISTED BY EXPERIENCED UNIVERSITY STAFF. FEW BOARDERS received by the Head- f I master at the SCHOOL HOUSE. Superior II accommodation. Perfect sanitary arrangments. Moderate Terms. Prospectus on application to T HEAD-MASTER. COUNTY SCHOOL, BARMOUTH | (A DUAL SCHOOL FOR BOYS & GIRLS). HEAD-MASTER:' EDMUND D. JONES, M.A. I¡. ASSISTANT MASTER J. M. EDWARDS I (Jesus College, Ox fore). HEAD-MISTRESS I Miss E. J. OWENS, B.A. Boys received as Boarders by the Head- I master, and Girls by the Head-mistress. Prospectus, &c., on application from ¡ J. LLOYD, Clerk. r NATIONAL EISTEDDFOD, LLANDUDNO. C.4MBRIA" DR. PARRY'S New Cantata, now ready, O.X., 2/6; S.F., First rformarsce at LlDdudno, July 1st. "IVRY" G. H. PTTGH, Alus. Pac. O.N., is., S.F., 6d. Competition Pieces at Llandudno Eisteddfod. Dwyuwen," Dr. Parry's Male Chorus. O.N., 6d., S.F., 3d Llwyn One." for Female Choirs, 2d. Y Hrenin Erl," K. S. Hughes, Baritone Song, Is. Llaethferch a'r Bugail," Duet, W. Davies, Is. Now ready, The Pilgrim's Song" (Can y Pererin), Is John Henry's Great New ong for Baritone or Contralto. Bugeilio'r Gwenith Gwyn," arranged by Emlyn Evans, FemaleChoirs, 2d. Best Selection of New Music for Competition. Specimen Copies sent to Eisteddfod Cowmittees. D. TBEHH T, Pablisher.KH YL OHASm R HALL ti-SNERAL LETTER) CUTTER & ENGRAVER 53 IPAHAOISE STREET, LIVERPOOL MANUFACTURER OF BURNING BRANDS, STENCIL PLATES, RUBBER STAMPS, BRASS PLATES. &C. Wedi ei rivymo'n gyfrol hardd mewn llian, A R A. P H I A D ISWYDD 0 HOLL WAITH G0R0NWY OWEN Am HANER CORON! Yn cynvvys ei Holl Farddoniaeth Ei Holl Lythyrau; yn nghyda Hanes ei Fywyd. LIVERPOOL: CYHOEDDEDIG GAN J. FOULKES, 8 PARADISE St Trwy y Post, lIl. Y Trydydd Argraphiad o CANIADAU ELFED," Gyda Dar!un newvdd o'r Awdwr. I. FOULKES, 8, PARADISE STREET, LIVERPOOL. CYHOEDDEDIG YN SWYDDFA'R CYMRO. PRIS SWLLT YR UN. I. Helyntioa Bywyd Hen Deiliwr. 2. I.Iythvrau yr Hen Ffarmwr. "Take a place among the best specimens of genuine humour in modern Welsh literature."—Appendix C tile P ■Report of tue Royal Commission on Land in Wales, 1S06 3. Cyfnnach yr Aelwyd. Nid oes yn yr iaith bortreadau gwell o fywyd gwled'g Oymra nag eiddo tliraethcg. Efe .1 Dmiel Owen yw r utiig ddau sydd wadi llw.vddo i dyna dnrluniau ffyddlawn a chyvir o'r bywyd liudol hwn, ac o'r cym- eriadau sydd yn anwabaaol eysylltiedig ag ef. Y mae dnllwedli. Oynireig ar bobpeth ysgrifeno°d Dr. Wra. Rees, a dyiti pob Cymro, os am fwyniant ac sdeilad- aefch, ddsrlien Hanes Bywyd lien ffarmwr. Helynt- lon Bywyd Hen Deiliwr, a Ohj/fnnaeh yr AÛwyd. Gan y Parch. W. RESS. D.D. L)ALIES SYLW AIL A GOBI AD GWESTTY CWALIA (GWALIA HOTEL), UPPEIi WQBURfM PLACE LLUNDAIN, 3 dan arolygiaeth barsonol yr han berahenog •i pherahervg preBsnol GWESTTY GWALIA, FFYNHONAU LLANDRINDOD. Er mw'n yr hen amser gynt," Dymuna'r perohenog hysbysu ei gyfeillion a'i aydnabyddion lluosog (a phawb eraill ag y bydd yr hysbvsiad yn fantais iddyat) fod y 1':9' uchod wedi ei adgyweirio, ei brydferthu, a'i ddodrefnu irwyddo o'r newydd, a ehan ei fod yn hyderus y bydd "Gwestty Gwalia" yn gartref oddicartref fel nynt, apelia. am en cefnogaeth, Mae mewn man canolog a chyftem. Y ielerau yn } rhai anarferol o resymol. A m bob hysbysrwydd chwaDego!, anfoner at Mr. EDWARD JENKINS, GWALIA HOTEL, i Upper Wo bum Place, LONDON.
[No title]
for Cornubia Self Raising Flour have not been raised.