Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Gwibnodlon o Ddyffryn Maelor.

News
Cite
Share

Gwibnodlon o Ddyffryn Maelor. Mehefin 26. GRYM mawr Mi feddyliais i fod y byd yn myned bendramwnwgl yr wythnos ddiweddaf yma, a dyna pam na jddarfu i mi ysgrifenu atoch chwi. Yr oeddwn i wedi meddwl yn sicr na welai neb dranoeth y Jiwbili, gan uched yr oedd y fever wedi cyrhaedd. Yr oedd hi yn fever heat er's tro, ond erbyn diwedd yr wythnos cyn y ddiweddaf yr oedd wedi mynd yn delirious ar lawer o bob!. Ond diolch i Ragluniaeth ddoeth, y mae y rhi- altwch a'r miri—a ga,menwir yn Jiwbili-wedi dod ac wedi myned, a'i Ie nid cdwyn ddim ohoao mwy,a hyny heb wneud fawr o niwed i neb wedi'r cyfan, ond codi tipyn o ben.wendid ar ambell un. Yr oeddynt wedi fy ngwneud i yn sal sobr, a da gan fy nghalon i oedd gweled y nos yn taenu ei mantel!, dros wagedd y byd. Erbyn heddyw, ar ol gwario yr holl arian a enillwyd trwy chwys a lludded, nid oes dim yn aros 0 fudd i undyn byw. Aeth yr arian am sothach a phethau gwael&ch na hyny, yn lie eu gwario ar rywbeth a. fyddai yn aros gyda ni ar ol hyn, os oedd rhaid eu gwario. Un ardal yn unig yn Maelor fu yn ddigon call yn hyn o betb, sef plwyf Gwersyllt. Y maent yno wedi codi cronfa i anfon nifer o gleifion bob blwyddyn i'r Convalescent Home, Rhyl. Dyna ryw- beth gwerth son am dano, a gresyn na fuasai ardal- oedd eraill wedi dilyn eu hesiampl. Ond waeth tewi. Gobeithio yr wyf y daw dynion atynt eu huoain bellach, ac y bydd genym rywbeth gwerth son am dano o hyn allan, Drwg geayf ddweyd fod Cor Meibion y Rhos' wedi tori eu calonaa o berthynas i fyn'd i Gasnew ydd, a rhoddi y bwriad i fyuu gan gredu mai doethach a thebyoaoh o gael y wobr fydd myned i 'Steddfod y Glyn, Bane Holiday Awst, Trueni na ehaiff llais Maelor gerddgar ei glywed yn ngwlad y mwg new, ond gobeithio er hyny y bydd rhai ox bechgyn a'r genethod yma yno, ac i ddod ac ychydig o'r gwobrau adref. Y mae Zabulon Dafydd o'i go wyllt am i Eryrog ddweyd ei fod yn arfer gyru moch ystalwm. Fu o erioed yn borthmon moch, na phorthmon yr ua anifail arall, ebe fe, "a phe buasai Eryrog yn ddigon agos y buasai ef yn rhoi dos iddo na fuasai arno ddim eisiau un wedyn." Gorph 3. Bendithir Gwseesam—prif ddinas Maelor—a Chynghor Trefo! M i'w ryfeddu. Wn i ddim a ellir c-el rhai mewn unrhyw dref yn y wlad all gystadlu am funyd a, hwy mewn tynu allan gyn- lluniau dibris ac adeiladu cestyll yn yr awyr. Y maent fyth a hefyd dros eu penau a'u clustiau mewn rhyw ffos neu gilydd, yn ymgecru ac ym- rafaelio a'u gilydd, tra yr a'r dref yn gyflym i lawr y goriwaered. Soniant er's blynyddau bellach am ddiwallu y dref a. nifer mawr o angenrheidiau ac o'r diwedd daethant i'r penderfyniad i bwrcasu hen adeiladau y Willow Brewery am wyth mil o bunau, a'u troi yn ymdrochle. Yn wir, mae eisiau lie i olchi tipyn arnyot eu bunain ar lu o drigolion Gwrecsam; ond mewn difrif calon pa chwilen fu yn cynhyrfu eu cynghor i dalu y fath grogbris direswm am hen adeiladau, a'r rhai hyny mewn hen dwll fel hwn? Cyn gorphen hyn o werthfawr waith, codasant gri am Neuadd Drefol, ac ni fu erioed yn unman fwy o angen lie o'r fath gwarth i Wrecsam ydyw ei bod heb yr un. Yr oedd hon i gostio pymtheg mil o bunau. Ond o ba le yr deuai'r arian ? Dyna oedd yn eu dyrvsu. Y mae y dref mewn dyled y eisopa dros ei phen, ond buasai y tanysgrifiadau yn dylifo i mewn tuag ar y Neuadd, onibai am gyn- llun y Cynghor i brynu y Briwari. Rhoddodd y Maer haeliontis gychwyniad da i'r symudiad hwn trwy addaw pum cant o bunau, haner cant bob lwyddyn tra arosai y ddyled, ond y mae y cynllun wedi taro ei ben yn erbyn y wal- Yr wythnos hon dechreuasant godi castell arall, sef pwrcaau tir ac adeiladau y Farchnadle, a'r pris a ofynir gan y cwmni ydyw 56,000p. Y mae'r doethion yn cymeryd y peth i'w dwfa a'u dyfal ystyriaeth ar hyn o bryd. Tra y cynghorwyr dysgedig hyn yn ymdrin 4 phynciau difrifol fel yr uchod, bu ami i syrnudi-id ar droed-ie, ar un-droed, cofiwch. Prynu Rose- neath, hen breswylfod Evan Morris, a'i droi yn ysbvtty, am bum mil o bunau; cael pare a recreation ground i'r plant i chwareu, a nifer o bethau eraill. Fe \vyr pawb a Nlyr rywbetti am Wrecsam, mai 1 ofer a gw&eth na disynwyr ydyw gwastraflfu amser gyda'r uchod, nad oes gobaith y ceir yr un ohonynt, yn ein hoes ai beth bynag a phaham na cldiry y cynghorwyr eu penau yn nghyd a chsisio gwneud rhywbeth ymarleiol i weH-A a dyrchafu yr hen dref aflan a llygredig sydd dan eu gofal ? Chwareu teg iddynt hefyd, penderfynwyd gan- ddynt yr wythnos hon,—a diolcb yn fawr i Thomas Jones am hvny-i erfyn ar yr awdurdodau goruchel i dtefiiu fod Arwyadluniau Ceuadlaethol Cymru i gael eu rhoddi ar "arms, banerau, ac arian y deyrnas." Gwvn fycln3 fuasai boll Gymru yn codi eu lief yn unli&is ar y mater hwn, a mynu ein cydnabod. Wrth gwrs, nid Cynghor Gwrecsam, fuasai oni buasai iddo wrthwynebu hyn eto. Mynai Mr Done ddaogos ei aowybodaeth a'i ffolineb arferol, trwy daeru nad oedd y Cymry yn genedl. ['Newch chi yru'r dynan Dose i'r Don yma, Samwei, am bythefnos. Mi rhown i o gyda'r ceiliog gWYIJJ M frig y Don am bythefnos, a ohaiff un o deilwriaid medrus y Don smwddio'r spwbins ohono.] W iw i'r dref ddisgwvl mwy wrth eu harwein- wyr. a da genym fod rhywrai yn gweled. hyny. Y mae'r cwomi lledr adnabyddus, J. Meredith Jones a'i Feibicm, wedi penderfynu anrhegu'r dref a 50 o feinoiau i'w gosod mewn man&u cyfleus ar ochr yr heolydd er mwyn y blinedig a'r gwan, Dyma gam yn yr iawn gyfeiriad, a gobeithio nad yw hyn and ysgub y blaenffrwyth, ac y bydd eraill yn eu dilyn gyda rhoddion synwyrol fel hyn. Son nad yw y deurodau yn effeithio ar gym- deithas, Hys'-ysir fod nifer y rha.i a fenthyciasant lyfrau aiwti n lyfrgeli 0wrecsam am y mis diwedd- af 800 yn llai na'r un mis y Ilyncticl a phriodolant hyn i'r sfa sydd wedi raeddianu pobl am gyffog- eth ceffyjau heiyrn. Ond mewn difrif, pa un gwaeth yw gweled 800 o bobl ieuainc (gwyr ieuainc a gwyryfon) yn cyff- ogeth deurodau nit'u gwerd yn darllen y stwff a elwir yn llenyddiaeth allan o Lyfrgell Gyhoeddus Gwrecsam? Bu Indipendia yn cynal ei gwyl yma nos Lun a dydd Mawrth diweddaf, pryd y pregethwyd yn Bethel a Salem gan y Parchn. D. Stanley Jones, Caernarfon Phillips, Llandyssul; a Dr. Probert. Nid oes angen canmoliaeth ar y gwyr grymus hyn. Ddydd Mercher ydoedd dydd gwvl flynyddol Titotaliaid Rhiwabon a'r Rhos. Cynaliwyd hi eleni yn nghaitref y Dipars, Pertyeae-Ile 'roedd digon o ddw'r glân gloew. Cynadleda cyn te, a chyfarfod cyhoeddus ar ol t6. Cadeirydd cyfarfod yr hwyr oedd y Parch. H,d. Williams, Rhos; a siaradwyd yn hyawdl gan Mrs. Price o'r Rhos, a Phlenydd, a chafwyd hwyl ardd- erchog. Yr un noscn yr oedd y Parch. Towyn Jones yn darlithio ar y Dyn ieuanc ;i weledigaethau," ya Neuadd Gyhoeddus y Rhos ac fe wyr pawb sut y medr Towyn areithio, ac yr ydoedd fei efs ei bun yma. Y mas seindorf y Rhos wedi cael ofFerynau chwythawl newyddion, yn costio 340p, ac y mae golwg brydfertli arnynb. Son am ariao, gallwn ni yma gael unrhyw beth a phob peth y dymunwn am dano, ac ni fu angen pres ynn erioed, er cymaint y CWYlJO sydd. Dim oad i'r Rhosiaid ddweyd "C.wn ef," bydd. yma ya y man. Mawr y pirotc-i aydd yma erbyn eyst^dlenaeth flynyddol seindyrf Gogledd Cymru, sydd i'w chynl yn y Rhoa eleni, ac y mae nifer lu sog o wyr y cyrn wedi ateb y wys i'r gad." Cymer y gystad- leuaeth le ddydd Lino, a chwithau yr banes yr wythnos nesaf, os arbedir fi. SAMWEL JONES. o

OoSofn Dirwest

Eistoddfod Oenerilaetho! Casnewyd??.

-'-0---Brawcilys Chwarteroi…

[No title]

Cohebiaethau.j

Taflu Ceryg aV canlyniad.

---"u.--YSGOL DDRUD.

--Nodeon o Fon ac Arfon.

'-'0:.----Hunanladdiad Cyimghorwr…

---(0)---Y Cymry yn Mbatagonh\

Advertising