Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Nodion o'r Ddinas-

News
Cite
Share

Nodion o'r Ddinas- [Gan CWILSYN]. ENFYN gwr a ymgyfenwa Halltwr' ataf i ofyn i mi alw sylw at y ceisiadau parhaus i fydoli yr Ysgol Sul, ac i ddatgan ei fod yn cydsynio yn hollol & sylwadau 4 Hen Ysgolor' yn Y Lymro bythefnos yn ol. Dywed fod y dysteb fwriedir gyflwyno i un o wleidyddwyr Cymru yn cael ei gosod gerbron bob Sul mewn dosbarth neillduol yn un o addoldai Cymreig y ddinas. Pa mor deilwng bynag ydyw'r dysteb,' meddai, 'sicr wyf fod am can teilyDgach i'r Ysgol Sul na hyrwyddo y cyfryw fydol bethau.' Cydsyniaf yn hollol a'i eiriau, ond pa les cwyno pan y mae'r awdurdodau sydd a gallu ganddynt i wella pethau yn gwneud a allent trwy werthu llyfrau, cymhell tocynau, &c., i fydoli'r Ysgol Sul. Cywilydd. —o — Bu amryw bwyllgorau vn eistedd yr wythnos ddiweddaf er trefnu ar gyfer cymdeithasau ilengar y ddinas, a deallaf fod amryw ragleni bron wedi eu gorphen. Deuparth gwaith yw ei ddechreu,' ac erbyn y daw cysgod Hydref bydd tir gweithgar- wch y gauaf wedi ei dori allan. Gofaled y pwyll- gorau am destynau newyddion, amserol, a gwerth trafferthu i'w chwilio a'u trafod. Y llynedd ceid amryw destynau wedi gwynu gan oed, ac efallai mai hyn oedd yr achos i amryw gymdeithasau fod mor ddilewyrch. -0- Yr adeg hon llynedd gwnaethum awgrym, ac yr wyf yn ei chyflwyno eto eleni. Onid oes modd cael Undeb o Gymdeithasau Llengar y ddinas, a thrwy hyny sicrhau rhai o'r darlithwyr goreu i'n gwasanaethu? Yr nnig reswm-ac y mae yn ddi- gonol-a gyfiwynaf dros yr awgrym yw yr hen gyswynair Mewn undeb mae nerth.' -0- Harddu'r ty i'r qweinidog-dyna wneir yn nghapel Webster Road yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd y Parch William Owen, Henllan, yn dyfod i'w gylch newydd ddechreu Hydref, a dymunol iddo fydd gweled fod y ty wedi ei barotoi i'w dderbyn. -0- Yn marwolaeth Miss Davies, Grove Street, yr wythnos ddiweddaf, collir un o'r boneddigesau hyny sydd yn gwneud llawer o waith feendithiol na wyr nemawr neb ei faint na'i werth. Yn Kent Street ceir Ysgol Sul i blant tlodion, amddifaid a digartref, Rhaid wrth lawer o hunanymwadiad i lafurio yn eu pHh, ond am gyfnod o 25 mlynedd ni bu pall ar ymroddiad na ffyddlondeb Miss Davies ac y mae'n dellwDg o sylw na buasai yr ysgol hon a'r gwaith rhagorol a wneir ynddi yn cael ei gario'n mlaen onibae am sel boneddigesau a roddant fwy o werth ar yr ymdeimlad eu bod yn cyflawni dyled- swydd nag ar gyhoeddusrwydd. -0- Enfyn rhyw walch ataf i ddweyd fod yn mwriad rhai o bregethwyr Cymreig y ddinis i ffurfio Clwb Beisicls, a'i fod wedi gweled ami un ohonynt yn dysgu sut j farc ogaeth y ceffylau anwadal hyn. Dywed yn mhellach, os daw y bwriad i weithrediad y gwelir eu gwragedd yn ffurfio Clwh cyffelyb, am eu bod yn dra awyddus i ddilyn esiampl eu gwyr. Doniol fvdd gweled y 'gethwrs yma yn myned i'w cyhoeddiad ar geffyl haiarn. Ai tybed y rhaid i'r eglwysi ddarpar lie i roi y ceffyi yn ystod y gwas- anaeth ? —o— Gwelaf fod Methodistiaid Lerpwl yn cael eu cyn- rvchioli yn dda yn Sasiwn Caernarfon yr wythnos ddiweddaf, a'r gweinidogion yn cymeryd rhan amlwg yn y gweithrediadau. Priodol iawn y cyd- marai rhyvun y ddinas i warehouse fawr yn cyf lenwi pwlpudau Oymru a hufen dysg a dawn. Mawr yw'n braint, onide ? -0- Yn nghipel Great George Street, ac nid yn y Picton Lecture Hall y cynelir eyfeillach yr Anni- bynwyr eleni. Y Gwynfydau fydd pwnc y drafod- aeth. Gwelaf fod ami wr Iled ddyeithr i bwlpudau Lerpwl yn dod i weinyddu a da genyf weled hefyd fod y Parch H. M. Hughes, hen weinidog Grove Street, ar y rhestr. -0-

-Ar Finion y Ddyfrdwy.

BALA.

O r De.

-0-Sasiwn Caernarfon.

0 Marwolaeth Cweinidog Cymreig.

[No title]

Advertising