Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

HeSynt Chwarel y Penrhyn.

News
Cite
Share

HeSynt Chwarel y Penrhyn. CYFARFOD MAWR YN Methesba. NAWN Sadwrn, cynaliodd gweithwyr Chwarei y Cae gyfarfod mawr ger Craig yr Undeb yn Methesda. Llvwyddwyd gan Mr William Evans, Bont Uchel, yr hwn a amlygodd obaith y tueddai yr byn a wneid yn y cwrdd i ddwyn neddwch ac nid terfysg. Ceisiai rhai pobl ddweyd nad oedd gan y chwarelwyr ddim cwynion, ond yr oedd y cyfarfod lluosog y dydd hwnw yn brawf fod gandfiynt eu cwynion. Hyderai y parhaent yn unol, ac y caent eu bawlian wrth fod felly. Mr Robert Griffith, Penygroes, Bethesda a gynygiodd:—"Fod y cyfarfod hwn o weithwyr chwareli Caebraichycaf^ yn gofidio na ddarfn Arglwydd Penrhyn gydsynio ceisiadau anfon- wyd ato, na gwneud yr ymchwiliad angenrheid- iol i'r cwynion a deimlir mor ddifrifol genym ni fel gweithwyr." Hyderai Mr Griffith y byddai'r chwarelwyr wrth egnio am en hawlian yn gofalu na wnaent ddim i dyou anmharch ar banes gweithwyr y Penrhyn. Beth bynag fyddai eu banes yn y dyfodo], gadawer iddynt gadw i --1 '0 fvnu eu hurddas a'u moesoldeb. a pheidio rhuthro ilnnrhyw hrr-fedigaeth y ei bossroi gydag arafwch. Boed iddynt gymeryd eu safle ar dir cadarn. Eiliwyd y cynygiad gan Mr Lewis Griffith, BrynOgwen, a mabwysiadwyd yn nnfrydol, Mr Henry Edwards a Ein bod ni fel gweithwyr yn teimlo'n ddwys am yr amheuaeth a daflodd ei arglwyddiaeth ar ddi- lysrwydd tystiolaeth y dirprwywyr anfonwyd ato gan y Pwyllgor Cyffredinol, a thrwy hyn yn dymuno tystio ein bod yn ystyried y dirprwywyr hyny fel eu cynrychiolwyr etholedig ac wedi eu hawdurdodi i gario ein cenadwri i'w arglwydd- iaetb a bod eu tystiolaeth yn wir ac yn corphori teimlad cyffredinol y chwarel." Eglur- odd Mr Edwards y modd yr etholwyd y dir- prwywyr, gan ddangos eu bod yn cymychioli yr holl weithwyr, a sylwodd na fnasai ei arglwydd-. iaeth yn taflu amheuaeth ar eu tystiolaeth pe buasai wedi gwnend ymchwiliad trwyadl i'r am- gylchiadau. Pa nifer o bersonau dieuog a di- niwed fuasid wedi eu lladd pe cerid llysoedd gwladol yn mlaen ar yr un egwyddor ag y car- iwyd y drafodaeth hon yn mlaen ? Pwy erioed a glywodd am na barnwr na rheithwyr yn pen- derfynu tynghed troseddwyr heb yn gyntaf wrando'r tystion 1 Ond yn yr achos presenol, rhoed y ddedfryd i ddechren a'r dyst-olaeth wed'yn. Mr W. H. Williams, Pant, a eiliodd, gan ddweyd fod penderfyniad ei arglwvdf!iaeth wedi myned vn orbvn y gweithwyr ar bob pwynt, ac eto yr oedd g-n y gweithwyr bob bvrlpr yn en hachos, an yr oeddynt yn I!wvr argyhoeddedig y byddent vn abl vn y diwedd i ar- gvh'oeddi—nid, cofier, i nreMygn-Arglwydd Pen- rhyn. Hyderai nad oedd neb ohonynt vn medrhvl euro eu penau vn erhvn ? tiur, Euhamoan fvddai argvhoeddi ei arglwvddiaeth er v cvmersi hvny beth amser i'w wneud. Wrth gv'eirio at v rvheJ. wvr, dvwedodd fod yn rribl;th o 2,000 i 3 000 o ddynion rai yn arfer m^ddwi n rhai anhawdd eu rheoli, ac yr oedd vn b-iodnl i'r swyddogion feddu gal'u i orfodi trefn. Rvdrhi i ddvn a absenolai ei Iran trwv vfed gel ei droi am vspaid am yr ail clrosectn dirwvid ef, ac yna amddifadid ef o'i waith, ond v gosh gvffr«din evn gwneud hynv vd- oedd rhoddi'r r1,n yn mhlith v rybelxyr. n'lnA'r modd vr pdrvchid ar rv^'dwvr gan y swvddoginr), Yn a'r dosp rth hwn ob legvrl p-tli rliftifol oedd i ddyn frn'd vn vclliol i'r chwarei heb wvbod pi le vr ond ei waith vno a mwy difrifol na bynv wed'yn oedd i ddyn orfod dibvnu ar garedigrwvdd ei gvdweitbiwr. GWR11 fuasai ganddo ef fod yn gsethwas i uchelwr nag i'w gydweithiwr. Dair blynedd vn ol, gwnaed cais i \\elja sefvllfa'r rybelwvr. a'r ateb gnfwyd vdoedd nad oedd lie iddynt i gapl harwin;on Nid oedd ef yn gwel'd bai ar hyn, a d'sgwvlid yn t ddystaw am ddvrldiau gwell; ond er syndod, pan ddaeth lleoedd newydd i gael pu gweithio, ni roed cynvQ o gwbl i'r rybelwvr. Ni ddywedai y dynion ddim pe deuid a. gwell trefniint i'r chwarel: ond os oedd I yn anmhosibl symnd yr anfoddlonrwydd am'vgai'r rybelwyr, dvlai fod digon o gydvmdeimlad ac eangfrydedd yn v perchenog i beidio mabwysiadu yr hvn oedd waeth na'r hen drefaiant i'r rybelwvr. j Cyfeiriai fit v "treflliant chwysu," trwy vr hwn v gosodid bargeinion i ddynion a logent eraill i wneud y gwaith. 0 berthynas i fynegiad ei arglwydd- iaeth fod rhoddi contracts mewn arferiad 14 mlyn- edd vn ol, ]lai hynv fod vn wir ond nid oedd y trefniant i un gweit'ndwr logi 11 n arall mewn bod yr adeg hono. Nid cod' o ffigvrau yn unig "T oedd yr helvnt presenol, ond priodolid ef i ysbryd oedd wedi bod vn enill north er's blvnyddau, a'r hwn oedd wedi gwahanu'r dynion oddiwrth en gilydd. Hhoddid peth o'r bai ar y swyddogion. Yr oedd hyn mfw-t rban yn wir, ond yr oedd peth baihefyd ar v dynion eu hunain. Gi adgofio i'r dynion iene-i?af fod yr ymdrechion 30 mlvnedd yn ol am rvddid ac -annibvniaeth wedi. coatio cryn lawer i'r chwarelwyr. Llwyddaamt, fodd bynag. ac onid gofidfis oedd dynion ieuaincyn awrvncam- arfe- v rhvddid a'r annihyniaeth hwnw ? Nid arfe- v rhvddid a'r annibyniaeth hwnw? Nid oedd gmddynt haw! i ddweyd wrth acam y stiwart nad oedd ganddynt ei ofn. Yr oedd yn awdurdod I beth bynag, a rhaid oedd ei gydnabod fel y cvfryw. Byna un ochr i'r cwestiwn. Yr ochr arall oedd tod y dynion vn disgwyl cydymdeimlad ar ran y goruchwvlwvr, yr hyn na chaent yn bresenol. Gwyddai'r gornchwylwyr am sefyllfa'r rybelwyr, a gwyddaj'r dynion. Yn yr amgylchiadau presenol, gwyddai fod yr arweinwyr wedi gwneud a allent i dywa11t olew ar y dyfroedd terfvsglyd ac onibai am danynt buasent wedi cvrhaedd argyfwng flvn. vddau yn ol. Ond digwvddai yn ami fod d nion heddvch'd yn blino, yn sefyll o'r neilldu, ac vn gadael i benhau gymeryd eu cwrs. Gwyddai fod netbau yn cvfeirio at streic, a dylid vstyried v rwrs neu fedlal y tynent lawer o helynt yn eu penau, Ond beth bynag a wneid, bydded iddynt gofio en bod yn ddvnion, a thra yn ufudd a pharchus na foed iddynt annghofio eu hannibyn- jqeth.—Mabwysiadwyd y penderfyniad yn un- frvdol. Alr Tosiah Thomas a gynygipld-" Fod y cyfar- fod hwn vn awyddus os yn bosibl i ddwyn y gweitbrediadau presenol i derfvn heddychol. ac yn J-irod i roddi'r holl fater i gyflafa-eddiad a derbyn dyforniad y cynrychiolwyr benodir gan y ddwy ochr.Eiliwvd |gan|JMrJ D.t|Jones, a inabwyoiad- wyd yn unfrydol. Mr D. R. Daniel, trefnydd yr Undeb, a sylwodd eu bod wedi cyrhaedd argyfwng difrifol, a byddai i t),m,gylchiadau y dyddiau nesaf effeitbio ar eu hanes fel gweithwyr chwareli'r Penrhyn. Yr oedd y cynulliad mawr yn brawf nad oedd cwynion y gweithwyr yn ddisail. Gwnaeth y pwyllgor bob peth i atal streic a pharhaent yn eu hymdrechion hyd y diwedd. Derbyniwyd v caniatad i osod y cwynion gerbron ei firglwyddia^th yn llawen, a phan gyhoeddir yr ohebiaeth gwelir gyda'r fath barch yr ymddygodd y dynion at eu meisbr. Dis- gwvlieut y caent ganiatad i ddodi eu hachos gerbron yn eu ffordd eu hunain, ac yr ymddygid atynt gydag ysbryd caredig. Nid dyna'r ysbryd ddaDgoswyd at y dirprwywyr ni ddisgwylid byth y buasai yr ateb iddynt wedi ei drefnu a'i argraphu cyn iddynt ymddangos o'i flaen. Ebo, yn wyneb hyn oil, yr oedd ara i'r byd wybod eu bod yn awyddus am heddwch. Dyna eu harwyddair, ond rhaid iddo gynwys ymchwiliad trwyadl i'r cwynion a delmlid mor fawr gan y gweithwyr. Mr W. J. Williams, vsgrifenydd yr Undeb. a gyfeiriodd at y mynegiad mai 4s oedd safon cyflog y gweithwyr. Oa honid mai diffyg profiad oedd yr acbos na chyrhaeddid y safon hwn, sut yr oedd fod y rhai oedd yn methu ei gyrhaedd ar rai dydd- iau yn Hwyddo i wneud 6s, tra ar ddyddiau eraill na lwyddenb i wneud 2s 5c ? Yr oedd mwy ar gyfar- ta.ledd o rybelwyr i nifer y gweithwyr yn chwareli Bebhesda nag mewn unrhyw chwarel arall yn y wlad. Gwrthodai Arglwydd Penrhyn roddi y cyflog safonol o 5s 6c y dydd, ac eto gallai ef ddangos fod sefyllfa bresenol y fasoach lechi yn gyfryw fel y dylai y safon fod yn 5s Tie y cWàd. Hyderai y byddai i'w arglwyddiaeth a'i oruchwyl- wyr weled eu ffordd yn glir i gyfarfod y dvnion ac ymddwyn atynt yn rhesymol a theg. Nid oedd neb yn dymuno mwy na hyny. Wedi diolch am fenthyg y maes i gynal y cwrdd, a barhaodd am ddwy awr, ymwahanwyd. CENADWRI ODDIWRTH ARGL. PENRHYN. Dydd Iau, anfonodd Argl Penrhyn y genadwri a ganlyn at y dynion fuont yn ymweled ag ef dros y gweithwyr Er mwyn i'm golygiadau gael eu gwneud yn hvsbys i'm gweithwyr mor fuan ag oedd modd, hydd cofnodion y cyfarfod a'r liythyr hwn yn cael eu rhoddi heno i'r wasg, fel y gwnaed gyda'm llythyr ar y 18fed. Gan fod eich dwy ddeiseb wedi bod dan fy ystyriaeth amryw ddyddiau yn flaenorol i'r ymgom (interview), gwnsethum ym- chwiliad gofalus i'r mynegiadau a gynwyseot, ac fel v dywedais yn fy atebiad ysgrifenedig, gy- hoeddwyd ar y 18fed, methwn weled fod genych achos cyfiawn i gwyno. Gwahoddaischwi oil yn yr ymgom i'm hysbysu trwy eiriau o'ch genau neu mewn ysgrifen unrhyw brofion o gywirdeb y cy- huddiadau a wnaethoch yn erbpl y gcruchwyl- wyr, neu o wirionedd y cwynion honedig, ond ar bob pwynt methasoch amlygu dim ond y flaith fod peth anfoddlonrwydd yn y chwar ei. Pe bawn yn chwilio am darddiad yr anfoddlonrwydd hwn, nid oes genvf fawr amheuaeth na chawn ef yn lleferydd y rhai na theimlant unrhyw ddiolch i'w meistr am godi yn eu cyflogau 5 y cant dair gwaith yn ystod y pedair blynedd a haner diweddaf, ac a ge s-e.t osod y blotyn o anniolchgarwch ar yr oil o'u cyd- weithwyr drwv ddweyd fod y pleidlei3iau o ddiolchgarwch drterbvniais adeg y 'codwyd y cyf- logau yn Rhagfyr 1895 wedi eu cael trwy 'ddylan- wad annheg.' Wedi gwrandawiad hir ac amynedd- gar ddydd Llun o'r hyn oedd geaych i'w ddweyd i gefoogi yr honiadau wnaed yn eich deisebau, nis galls>.f ddod i unrhyw gasgliad arall na bod v dir- prwvwvr wedi methu profi yr achos Rhaid i mi felly wrthod caniatau yr hawliau a wneir genych." YR YMOOVT RHWNG ARGL. PENRHYN A'R DIRPRWYWYR. PAN vmwelodd y dirprwywyr ag Argl. Penrhyn, wedi iddo ddarllen ei atebiad iddynt a gyhoeddwyd yn ein rhifyn diweddaf, cymerodd ymgom le rhyngddynt, crynodeb o'r hvn sydd fel v cinlyn :— Ei Arglwyddiaeth Dywedwch fod rybelwyr wedi iddvnt yn am! well a r graig yn cael eu sllmud i wneud He i griw arall. Sawl engrdpht fedrweh chwi roddi o hyn wedi ei wneid yn groes i'r ddealltwriaetb arferol gyda'r rybelwyr ?—En wyd tri dyn y rhai a weithient yn ngbyd ni wvddent am y rheol i rybelwyr wneud lie i griw, Dywed- odd Mr Pritchard, y goruchwyliwr, fod y rbeol yn bod, ond mai anaml v gweithredid arni. Thomas Roberts, ar ran y dynion, a atebodd y gwyddai am achos'on eraill o bvn, ond ni ddygwyd hwy yn mlaen. Nis gallent hwy ateb ond dros y rhai oedd wedi rhoddi mynegiad ysgrifenedig. Ei Arglwyddiaeth Nis gallwch ateb ond dros y rhai hvny, eto nid yw y mynegiad ysgrifenedig yn gyson a'r ffeithiau dywedir yn hwnw fod hyn yn digwydd yn ami iawn," ac eto deuwch yma i ddweyd m. wyddoch ond am un acho-Air R. Thomas a atebodd nad oedd yr oil a gwynent yn barod i ysgrifenu er cwynion, Deuid a'r achosion gerbron gan gyntsd ag y ceid mynegiad ysgrifen- edig y personau. Ei Arglwyddiaeth Dywedwch yn y ddeiseh fod "gweithwyr neillduol yn y fplin yn cwyno fod eu cyflogau wedi en gostwrg o 278 Be i 26s yr wyth- nos," noowch yr aeVi--gioi) hyn.—B. S. Williams a ddywedod i fod camddealltwriacth yn nghylch y 27s 6c—o 27s i 26s ddvlasai fod. Ryddent arferol a chael 27s, y flwyddyn ddiweddaf gostyngwvd y cyflog i 26s. Cyflog un dyn yn unig oedd wedi ei ostwng. Mr Pritchard a ddywedodd mai'r rheswm am ostwng cyflog y dyn hwnw oedd ei fod yn esgeu- luso ei wlith trwy fyned i'w anedd -Ei Argl wyddiaeth Wel, nid oes ganddo achos i fod yn anfoddlawn. Os na edrycha ar 01 ei waith rhaid iddo gymeryd'y canlyniadau. Cymerodd trafodaeth faith ¡p"'wed'yn ar awdur- dod y pwylLfor. Mynai ei Arglwyddiaeth edrych ar y dirprwywyr fel cynrychiolwyr uniongvrchol y gwpithwyr, heb gydnabod y pwyllgor a'u hanfon- odd o gwbl. Dyma eiriau ei Arglwyddiaeth -3-Srid wyf yn myned i ddadleu vn nghylch awdurdod y pwvllgor. Dyweda,is wrthych nad oedd yn cario dylanwad o gwbt. Nid wyf yn caniatau iddo ymvrvd rhvngof fi A'rn gweithwyr. Rhaid i mi 9 eich adgoffa am y rhybudd y "bydd imi wrthod yn hollol ganiatau i unrhyw berson unigol neu bwyllgor ymyryd rhwng y cyflogwr a'r cyflogedig yn y chwarei." A chymeraf y cyfle i ddweyd y bydd i annghvdweledion cyflredia gael eu cyflwyno (J. i'r rheolwr, Mr Pritchard, yr hwn a geidw gofnod- iad o'r cyfryw achosion, a rhoddi adroddiad i'r prif o uchwyliwr, Mr Young, a phob un a, gwyna i osod ei fater gerbron yn bersonol. Rhaid i gvhuddiadau difrifol, yn cynwys cyhuddiad o ffafraeth, gael eu oyhwyno i'r prif oruchwyliwr, yr hwn, os gwel yn angenrheidioi, a'u cyflwyna i mi. Gellir anfon hys- bysrwydd am y cyfryw gyhuddiadau i mi mewn ysgrifen. Wedi'r gwrandawiad cyntaf o'r cyfryw achosion gan y prif oruchwyliwr, bydd yn barod, wedi i apel gael ei gwneud ato, i dderbyn dirprwy- aeth heb fod yn fwy na chwech mewn rhif, ar yr amod fod y rhai sydd yn cwyno i fod yn aelodau ohoni. Yn awr, pu. un bynag a yw'r cwynion presenol wedi eu crynhoi gan y pwyllgor neu genych chwi, v mae un peth yn berffaith glir am danynt, sef eich bod wedi gwneud camgymeriadau mawrion, a dweyd y lleiaf, yn yr hyn a fynegweh. Dywed- wch fod cyfundrefn y contracts yn beth diweddar, a cheisiwch wneud allan fy mod yn achosi llawer o ddrwg-deimlad yn mhlith fy cgweithwyr. Y ffaith yw fod cyfundrefn y contracts mewn grym er's mwy na 14 mlynedd, felly y mae eich cais i'm cyhuddo o annghyfiawnder heb'sail iddo. Robert Davies: Ni ddaethom yma i ddwyn unrhyw gwyn yn erbyn eich arglwyddiaeth.—Ei Arglwyddiaeth: Do, yn wir. Daethoch yma i'm cyhuddo i. Myfi yw pen pobpeth yn y chwarel.- Amlygodd y dynion nad oeddynt o'r un farn ag ef. Ei Arglwyddiaeth Daethoch yma i ddweyd fod nifer mawr o weithwyr profiadol yn methu enill y cyflog safonol a rhai yn methu enill punt yn yr wythnos." Nid oes ond dau griw nas gallent enill punt yr wythnos, a rhoed rhesymau am eu hanallu. Chwe' criw yn unig sydd heb enill y cyflog safonol, ac y mae cymeriadau y cyfryw yn ddigon o reswm am hyny. Dywedwch fod sefyllfa'r rybelwyr yn anfoddhaol iawn," ac yr wyf wedi dangos eu bod mewn rhai achosion wedi gwneud cystal, ac weith- iau uwch, cyflogau na'r bargeinwyr. Dywedwch fod y poundage yn gyffredin yr un faint, tra y mae'n ffaith fod cymaint a 14 o wahanol poundages; ae y mae'r prisiau roddir iddynt wedi cynyddu llawer yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf. Dy- wedech fod rybelwyr yn cael eu symud i wneud lie i griw arall, ond un achos yn unig ddygwyd yn mlaen genych er eich bod yn dweyd fod hyn yn digwydd yn "amI inwn.Rabert Davies a ddy- wedai fod hyn yn digwydd yn ami.—Ei Arglwydd- iaeth Pa fodd y gailech roddi eich enwau wrth y deisebau hyn, a dweyd fod y pethau yma yn digwydd yn ami pan y rhaid i chwi bendroni i gae! hyd i un achos ? Dywedwch hefyd fod y dynion yn anfoddlawn ar y eynydd diweddaraf mewn c;/flogau." Beth sydd genych i'w ddweyd i hyn pan v mae genyf lythyrau yn diolch am y codiad? Y mae'[ dynion a lawnodasant y llythyriui hyn yn diolch i mi am y modd cyfiawn y bwr- iadaf wneud y codiad, gan y bydd i bob dosbarth felly dderbyn cyfran deg a chyfartal." Ni ofynodd ef (Arglwydd Penrhyn) am ddiolchgarwch. Robert Thomas a amheuai a ysgrifenwyd y llythyrau yn wirfoddol.—R. Davies a ddywedai na chlywodd ef ddim am y llythyrau er yn gweithio yn y chwarel.-W. Williams a dystiai fod liawer o gwyno am y duil y rhoed y codiad diweddaf,—R. Davies a dystiai iddo glywed fod dylanwad annheg wedi ei weithredu er cael gan y dynion i ysgrifenu y llythyrau. Nid oedd am roddi'r manylion yn bresenol; ond dywedwyd wrtho fod y stiward wedi myned oddiamgvlch y ponciau a gofyn Ai nid ydych yn myned i anfon llythyr o ddiolchgarweh i Arglwydd Penrhyn am y codiad hwn, gan bwyso arnynt i wneud hyny. Nid oedd yn cofio enwau y dynion a ddywedasant hyn wrtho. Mr Pritchard Yr wyf yn cofio'n dda pan hys- bysodd Mr Young y codiad hwnw yn y cyflog eu bod'wedi pasio pleidlais galonog o ddiolchgarwch iddo, a bu i minau ddweyd wrth y dynion y dylent basio pleidtais gyffelyb i'ch Arglwyddiaeth. Os at hyny y cyfeiriwch, y mae yn beth y gwnawn ef eto unrhyw adeg. Yr wyf yn addef hyn. Nid yw yn gwbl annaturiol y gallasai rbai o'r swyddogion grybwyll y mater i rai o'r dynion yma ac acw, ond o berthynas i arfer dylanwad annheg nis gallaf dderbyn v invnegiad yna o gwbl. Robert Thomas Nid ydym wedi ymjvneud ond ag un pwynt yn achos y rybelwyr. Ni chawsom gyfle genych, ac yr ydym yn awyddus i fod yn ocest tuag atvnt. Credwn y bydd o fantais i'ch Arglwyridiaeth a' i ninau i'r bargeinion gael eu gosod yn fisol. Mae rha,i dynion yn gweithio ar ran o fargen sydd wedi cael ei weithio yn flaenorol gan griw, a byddai yn fantais pe v gosodid y lle- oedd hyny yn fisol, fel y gwneir a'r bargeinion i'r chwarelwyr. Tystiodd hefyd ei fod wedi bod yn fargeiniwr, ond iddo fyned yn rybelwr oherwydd colli ei iechyd. Arglwydd Penrhyn Dosbarth o ddynion ych- wanegol y v y rybelwyr mewn gwirionedd, ac yr ydym yn gwneud ein goreu i wneud lie iddynt mewn bargeinion gynted ag y gallwn. Henry Jones Mewn rhai achosion-yn y Ffridd a phonciau cyffelyb-y mae rhai chwarelwyr a weithieat wrthynt eu hunain, un neu ddau ohonynt mewn bargen, yn gwrthod cymeryd partner arall ac vr wyf yn gofyn i Mr Pritchard ai ni allai ef eu gorfodi i gymeryd partner arall. Mr Pritchard Nid wyf yn hoffi gorfodaeth. W. Williams: Mae yna bwyntiau eraill pwysig yr hoffem gael trafodaeth arnynt-nid ydynt yn cael yr ystyriaeth dyledus. Ei Arglwyddiaeth Byth er pan anfonwyd y deisebnu hyn i mi y maent wedi cael eu hystyried yn o'aIus gan Mr Young a fy hunan, a pha.n oedd angen cynorthwy cawsom Mr Pritchard. Nid wyf wedi penderfynu'r pethau hyn yn fyrbwyll tra'n eisterld yn yr ystafell hon. Owasgfti'r dirprwywr am i gyfundrefn y contracts gael sylw manylach am v rheswm fod rhai a weith. iant vn v contract yn llawer gwell gweithwyr na chvmerwvr y contract. Atebodd ei Arglwyddiaeth Yr wyf wedi trafod yr oil gyda, Mr Young, a fy ateb yw nad wyf yn gweled fy i wneud unrhyw gyfnewidiad. Dsrllenaf eto vr hyn a ddyweda,is o'r blaen "Serch fy mod yn gwybod fod nifer penodol o chwarel wyr wedi eu caniatau i weithio dan yr ym- gymerwyr ar y graig. ni chawsant eu derbyn i'r chwarei And ar y ddealltwriaeth bendant y derbyn- ient v gwaith hwnw. Cafodd y telerau hyn eu derbyn yn llawen gan yr holl ddynion a weithid felly, rh ti oeddynt wedi crefu am y gwaith, ac nid oes gan v dynion hyn, ydynt mewn gwirionedd yn allanolion yn y chwarel, unrhyw dir dros eu cwvn. Robort Thomas Byddai gosod rhanau o'r chwarel i'r rybelwyr yn sicr o ddwyn budd i'ch arglwyddiaeth. Ei Arglwyddiaeth Yr wyf wedi dangos fod cyfnewid v gyfundrefn yn anmhosibl. Mae yr holl drafodaeth hon ar y "contracts yn ymosodiad arnaf fi ac ar v llywodraethiad. Yr ydvch yn gweled bai ar bobpeth a wnawn vn y chwarel gyda h/n. Y ffaith ydyw fod y dyn hwn yn meddwl y gall reoli'r chwarei yn well nag y gallwn ni. 1 R. Thomas Nac ydwyf, yn wir. R. Djvies Fe dderbynir eich ate ion ya bur- anffafriol gan y dynion. Ei clrglwirddiaeth Mae yn ddrwg iawn genyf oherwydd nid oes ganddynt dir dros wneud y cyhuddiadau hyn. Tybiaf y gwel y byd tuallan eich bod wedi dwyn yn mlaen gyhuddiA-dati neill- duol yn fy erbyn yma, ac wedi methu yn mron yr oil ohonynt. Sut bynag y derbynir hwy yn Beth- esda, bydd i'r byd tuallan weled fy mod wedi rhoddi atebiad i bobpeth yn eich deiseb, a'ch bod chwi wedi methu profi y cyhuddiadau a wnaethoch yn fy erbyn. Nis gallaf beidio meddwl nad hyn yna fydd y rheithfarn. Robert Dhvies Bydd i'r gweithwyr o'u rhan hwy gael eu hateb yn bur anffafriol, a chan fod eich Arglwyddiaeth yu dweyd fod y pwyllgor wedi methu profi dim, gofynwn a wnaech roddi y mater i gyflafareddiad. Ei Arglwyddiaeth Cyflafareddiad Nis gall- wch ddisgwyl i mi roddi atebiad croes i fy marn, ac nid oes dim hyd yn hyn i gyflafareddu arno. Os dymunwch fy ngweled eto, nid oes dim i chwi ei wneud ond ysgrifenu at Mr Young, a mynegi eich rhesymau yn gyflawn paham y dymunwch fy ngweled, ac yna bydd i mi ystyried y rhesymau a rodd wch i Mr Young.

Io INodion o'r Ddinas.