Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Cwibnodion o Ddyffryn Maelor.
Cwibnodion o Ddyffryn Maelor. RHODDWYD cycbwyniad i yrfa yr wythnos hon yn yr hen Ddyff, yn yma gyda gwvliaa te a bara britb. Un yn y Rhos yma a'r llall yn Coed- poeth. Y naill gyda'r Dippars a'r Hall gyia'r Methodus. Casglwyd ysgolion Seion, Rhos, Penuel, Poncie, Mount Pleasant, ac Aberderfyn at eu gilydd prydnawn Lion, a gorymdeithiwyd trwy brif heolydd y Rhos gyda llawer o rwysg. Baner amryliw gan bob ysgol, a'r plant yn swyno'r awyr gyda'u hacenion melus, a'r oil yn cael eu blaenori gan y Seindorf Bres. Yr oedd bwn yn arddangosiad teilwng iawn o'r Bedyddwyr yma—dros ddwy fil o bobl yn yr orymdaith, a golwg llawen a siriol arnynt oil a mwy na'r cyfan yr oedd yn dywydd sych, a'r huan yn gwenu yn braf arnynt Ar ol y cerdded mawr nes oedd pawb yn chwys dyferol a'r corn gwddf yn sychedig iawn, ymwahanodd. y gw-hanol ysgolion, ac ymneilb duodd pob ysgol i'w chongl ddewisedig ei hun i ddiwallu a disychedu y dyn oddimewn, a gwnaethaot gyfiawnder a'r trugareddau. Yn yr hwyr, aethant oil yn un a cbytun i gynal cyfarfod i gapel Penuel, dan lywyddiaeth y Parch E. Mitchell. Nid oeddwn yno, ond clywais eu bod wedi cael cyfarfod rhagorol, cann da, ac anerchiadau hyawdl. Heblaw hyny, rhanwyd nifer mawr o dystysgrifau i'r rhai llwyddianus yn arholiad cyffredinol Ysgolion cl Bedyddwyr Cymru. Y te parti arall oedd yn Methel, Coedpoethf lie y bu llu mawr, yn fycban a mawr, yn gwledda ei hochr hi yr un prydnawn, a dywedant eu bod wedi cael arlwy eitbriadol o dda yno. Llwyddais inau a'm deurod i gyrhaedd yno erbyn tua saith o'r gloch i glywed yr Aiphtiaid wrthi, ac yr oedd capel Bethel yn weddol lawn erbyn i mi gyrhaedd. Un o fechgyn Maelor oedd yno, Mr R. Bryan, yn traddodi darlith ar Olion yr Aipht a fu," ac yn siwr i chwi, ni cbafodd wraudawiad mor astud erioed yn unman nag yn Methel, tra'n son mor ddifyr ar wlad y tywyllwch mawr, yr ami- dduwiaeth a'r gorfchrwm caled. Yr oedd yn ddyddorol i'w ryfeddu, ac yn addysgiadol dros ben. I ychwanegu at ddyddordeb y ddarlith, yr oedd brawd y darlithydd, Mr E. Davies Bryan, Cairo,—yr hwn sydd yn treulio ycbydig seibiant yn yr Hen Wlad, wedi ymwisgo mewn gwisg frodorol yr Aipht, a golwg urddasol iawn arno a chyfnither iddynt, Miss Evans, Gwrecsam, wedi ei gwiso mewn gwisg tywysoges Pharo- aidd, ac yr oedd ei bvmddangosiad hithau yn rasol i'w rvfeddn. Heblaw hyn, llenwid y gadair gan Mr John Edwards, Johnstown.. Ytri orawd, fel y gwelir, yn blant wedi eu dwyn i fynu yn y capel bwn, a chawsant dderbyniad croesawus oddiar ddwylaw eu hen gyfeillion calon-gynes. Mae teulu Tom Bowdwr yn fyw o hyd, ao ambell waith yn dy'od i gryn drybini yma. Helynfc garw wedi bod yr wythnos ddiweddaf yn Mharc Wynn- st,ay-y cipar wedi ei ddarn ladd, a hwythau, rhai wedi eu dal a'r Heill wedi dianc, Fel hyn y mae, a digon tebyg na all Syr Watkin na neb arall ddifodi y teulu hwn o'r wlad. Mae yn dda gan fy nghalon i weled fod ambell un o weinidogion yr Hen Gorph, er mai anaml iawn ydynt, yn gallu ysgrifeuu Cymraeg coeth a darllen- adwy, a b-)d un o leiaf o'r rhai hyny yn trigianu ac yn bugeilio yn Nyffryn Maelor. Cyfeirio yr wyf at y Parch Griffith Owen, Rhos- ddu, yr hwn sydd newydd gyhoeddi Cofiant i'r Parch Cadwaladr Owen, Dolyddelen. sef ei dad. Dyma ychwanegia-d da at lenyddiaeth Gymreig. Mae wedi ei vsgrifenu yn naturiol dros ben Gwyr Mr Owen yn dda, sut i foddio chwaeth Gymreig. Mae yn Gymro da, a chanddo arddull ystwyth, yn nghyda chyfoeth o iaith wrth gefn i hyny. Mae yn iechyd i galon dyn gael darllen cofiant i'r pregethwr grymus o Ddolvddelen. Ac iechyd i galon ei fab am ei lafur yn casglu yn nghyd yr ad- gofion byw hyn. Dvlasai y gyfrol hon gael derbyn- iad cynes ar aelwydydd Cymru. nid yn unig am ei bod yn dwyn i lawr i ni hanes mor fyw o un o'r pregethwvr mwyaf poblogaidd a welodd Cymru, ond hefyd ar gyfrif teilyngdod lleuyddol y llyfr. Piti fod yr argraphwyr wedi bod mor drwstan a rhoddi dau liw o bapur ynddo. Nos Sadwrn. SAMWEL JONES.
--0--Cystadleuaeth Corawl…
--0-- Cystadleuaeth Corawl yn y Waun. DDYDD Sadwrn, cynaliwyd arddangosfa filodau yn y Waun, a chaed hefyd ddwy gystadleuaeth gorawl bwysig. Yn nghystadleuaeth y corau meibion, ymgeisiai Lerpwl, Waun, Acrfair, Cefn Mawr, a Broughton. Dyfarnodd Mr Emlyn Evans y wobr i gor Cefn Mawr, dan arweiniad Mr G.W. Hughes, a dywedodd fod y cor wedi canu mor dda fel y huasai vn anhawdd ei guro hyd yn nod mewn Eis teddfod Genedlaethol. Yn nghystadleuaeth y corau plant, ymgeisiai Bwlchgwyn, Cefn Mawr, Black Park, a Chroesoswallt. Cor Cefn Mawr oedd fuddugol eto. Trodd yr arddangosfa a'r gystadleu- aeth alla.n yn llwyddiant mawr.
--0--Y Fasnach techi.
--0-- Y Fasnach techi. CYNALIWYD cyfarfod o bercbenogion chwareli ardal Pfestiniog yn Mhorthmadog ddydd Gwener. Y Prif fater dan sylw ydoedd y puodoldeb o adolygu y prisiau presenol. Hysbyswyd fod 14 o aelodau Cymdeitbas y Masnachwyr Llechi yn bwriadu ym- weled a Ffestiniog Medi 8fed. Penderfynwyd rhoddi croesaw teilwng iddynt. Yr un dydd, YfarfYddodd goruchwylwyr y chwarelau i ystyried Vmoddgoreui gydymffurfio a chymeradwyon y Ddirprwyaeth fu'n gwneud ymchwiliad i sefyllfa'r chwarelau a'r chwarelwyr. Penderfynwyd gofyn i Dr Le Neve Foster ddyfod i'r cyfarfod nesaf i'w cyfarwyddo felly gohiriwvd y mater. Pery y tasnach yn fvwiog yn yr ardal. -0-- Casglwyd at y bwydfad yn y Bermo ddydd Sad.
[No title]
a° yn yr hwyf cynaliwyd cyngherdd poblog- S Cwasanaethwyd gan v C6r Meibion Cymreig orehinol. Mrs .T. Thomas, Mr W. Todd Jones, » Mr Gabriel Williams.
Newyddion Gymreig,¡
Newyddion Gymreig, Canai Mr Ben Davies yn Llandudno nos Sadwrn. Ddyqd Sadwrn ail-etholwyd y Mil Hugh Savage yn gadeirydd Bwrdd Claddu Bangor. Bwriedir gwneud hen gapel Wesleyaidd Dyserth yn llyfrgell a dar llenfa blwyfol, Mae'r Parch D. S. Davies, Caerfyrddin, wedi bod yn ddifrifol wael, ond yn gwella y dyddiau hyD. Gwerthir rh anau eta o ystad Gwydyr y mis nesaf, gan fod Iarll Ancaster yn bwriadu cwtogi ei eiddo yn Ngogledd Cymru. Y 27ain cyfisol y bydd Eisteddf6d Casnewydd yn cael ei chyhoeddi gyda rhwysg. Yn mhlith eraill, addawa y Proff Herkomer fod yn bresenol. Mae Cwmni y Marine Drive Llandudno wedi penderfynu gwerthu yr eiddo i'r Cynghor Dosbarth am 9,000p. Lladdwyd William Lloyd, yn ngwasanaeth Cwmni'r Cambrian, ddydd lau, ger y Trallwng trwy i'r tren fyned drosto. Etholwyd Mr Thomas Bury, clerc tref Gwrec- sam, ddydd lau yn glere y Bwrdd Ysgol fel olyn- ydd i'r diweddar Mr Ashton Bradley. Gwerthwyd rhanau o ysfcad Madryn ddydd Mercher gan Mri W. Dew a'i Fab. Y cyfanswm dderbyniwyd am yr eiddo oedd 52,000p. Er cof am ei phriod, Mr J. Scott Bankes, Plas Sychtyn, Llaneurgain, mae ei weddw wedi rhoddi pwlpud hardd yn anrheg i Eglwys Rhosesmor. Hysbysodd peirianydd gwaitb dwfr Colwyn Bav ddydd Gwener fod cronfa ddwfr Cowlyd bron wedi ei chwblhau. Gwrthododd y Parch T. Eynon Davies yr alwad a gafodd i fugeilio eglwys Reckenham, Kent. Mae ei eglwys bresenol yn Glasgow y fwyaf sydd gan yr en wad yn Ysgotland. Yn Ffestiniog, ceir diwygiad dirwestol grymus. Sefydlwyd canghen o Gymdeithas Cymry Sobr yno nos Wener, ac ar ddiwedd y cwrdd cymerodd 114 yr ardystiad. Nid oes ond pedwar bardd yn Nghymru wedi enill cadair a choron yr Wyl Genedlaethol-Rwfa Mon, Watcyn Wyn, Elfed, a Ben Davies. Anni- bynwyr yw'r pedwar, dase hyny'n rhywbeth. Agorir Ysgol Ganolradd Treffynon ar y 15fed cyfisol mewn adeilad tymhorol. Mae'r swm o 2,052p. yn llaw'r trysorydd at adeiladu ysgol barhaol. Yn Rhaith Dosbarth Gwrecsam ddydd lau, hys- bysodd Dr Davies, Gwrecsam, fod 420 o achosion o glefydon heintus yn ei ddosbarth ef yn ystod y mis, a 27 yn nosbvth Dr Jones, Rhiwabon. Cynaliwyd Arddangosfa. Amaethyddol Mon yn Llangefni ddydd lau. Gan fod y tywydd mor anffafriol, nid oedd y cvnulliad gymaint ag y dis- gwylid, ond yr oedd rhif yr anifeiliaid a'u han- sawdd yn rhagorol, meddir. Ddydd hu, cynaliwyd trengholiad yn y Bermo ar gorph Bryan O. Bawlings, bachgen naw oed, a laddwyd trwy i gerbyd fyned drosto yn High Street. "MarwoJaeth ddamweiniol oedd dyfarn- iad y rheithwyr. Nos Wener, bu farw'r Pa,rch George Henry M'Gill, rheithor Bangor-ia-y-coed, a deon gwledig am 26 mlynedd. Yr oedd yn 77 mlwydd oed. Mae'r fywoliaeth yn nwy]aw Due Westminster ac yn un o rai gwerthfawrocaf f-ogledd Cymru. Na.wn ddydd Mawrth, fel yr oedd Thomas Morris, Castle Terrace, Ffestiniog, yn dilyn ei orchwyl yn chwarel y Tywysog Llewelyn. Dolydd elen, aeth ei wisg i'r peirfant, a thynwyd ei goes i mewn. Gwasgwyd hi yn dost, a bu raid ei gludo gartref. Ceir y Milflwyddiant wedi dechreu yn Llandrio- dod. Yno mae'r Pabvdd, Cardinal Vaughan y Methodist, J. Morgan Jones. Caerdydd y Bed- vddiwr, Charles Davies y Wesleyad, Evan Jones, Lbindain; a'r Annibynwr, T. Stephens, Welling borough ac mae'r oil yn un heb neb yn tynu'n groes." Dvwedir fod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, aeth i'w thranc rai blynyddau yn ol.ar gael ei hadgyfodj. Mae'r ysgrifenvdd, Mr L. D. Jones, Bangor, a'r llywvdd, Dr Isambard Owen, a'r Archddiacon GriflBths, wedi galw cyfarfod o'r Pwyllgor Gweith- iol. Sicrhau llyfrau dwy-ieithog i'r ysgolion canol. ra,dd ac elfenol yw'r gwaith mewn golwg wrth alw'r Gymdeithas yn ol i fywyd. Bodau rhyfedd yw'r erwydriaid. Gerbron ynadon Caernarfon ddydd Mercher, cyhuddwyd John Taylor, crwydryn. o ladrata gwlawlen eiddo Mrs E. Williams, Pool Street, Caernarfon. Pan ofyn- wvd iddo pa un oreu ganddo ai sefyll ei brawf yn v llys hwnw neu yn v Frawdlys, atebodd mai y frawdlys, os bvddai iddo gael iawn am y coll-amser i aros am fod ei amser ef mor werthfawr ag eiddo unrhyw un arall." Dedfrydwyd ef i garchar am chwech wythnos. Mewn cvfarfod o lywodraethwyr addysg gnuol- radd yn Rhyl ddydd Mercher, aed at y gwaith o ddewis prifathrawes i ysgol y dref. Y cyflog yw 120p, y flwyddyn. Ymgeisiai 14, a dewiswyd 5 fel yn fwyaf cymhwys. Dwy yn unig feddent wybod- aeth o'r Gymraeg, a dewiswyd un o honynt sef Miss Gertrude C. Jones, Merthyr Tydfil. Dywed- odd Mr R. Jolley, er ei fod yn Sais ei fod yn gwerthfawrogi y pwysigrwydd o ddewis Cvmraes, hyd yn nod pe na fwriedid iddi ddysgu Cymraeg yn yr ysgol. Cynrychiolir athrawon ar Fwrdd Canolog Addysg Cymru gan y rhai canlynol Ysgoli.on canolradd, Mr W. Glvn Williams, Bangor, a Miss E. L. Notts, Drenewydd, dros Ogledd Cymru a Dr Turpin, Abertawe, Miss Catherine Davies, Llanelli, a Mr E. W. Jones, dros y De. Ysgolion elfenol:—Mr W. Tegarty, Bangor, a Mr H. Bedford Abergele, dros y Gogledd, a Mr Tom John, Rhondda, Miss A. Williams, a Mr W. Brockington, Caerdydd, dros y De. Cynaliwyd cyfarfod blynyddol Undeb Bedydd* wyr Seisnig Gogledd Cymru yn Llangollen ddydd Mercher. Yn absenoldeb y Prifathraw Silas Morris, Ilywyddwyd gan Mr W. Coward. Penderfynwyd dirprwyo y mater o ranu yr Undeb yn ddau i ystyriaeth y pwyllgor Dyfarnwyd y rhoddion a ganlyn i'r eglwysi gweiniaid :—Poncie a'r Groes, 20p Bwcle, 25p Hen Golwyn a Colwyn Bav, 25p Llanfairfechan, 15p. Etholwyd y Parch H. Rees, Llangollen, yn llywydd y flwyddyn dvfodol. Pregetbwyd yn yr hwyr gan y Parch J. H. Shake- speare, Norwich.
0 Fanceinion i Aberystwyth.|
0 Fanceinion i Aberystwyth. TAITH DDIFYRUS. -(Parhad). DYMA ni, wedi pum awr, ac nid chwech, fel y dywtidais yr wythnos ddiweddaf, wedi cyrhaedd pen y daith—o ganol mwg afiach y ddinas fawr 1 un o'r llanerchaa lachaf, yn ol ystadegau, yn y deyrnas. Mae iechyd yn anadlu arnoch o'r m6r a'r mynydd. On o'r mynyddau a eJwir Consti- tution Bill er mai lwmp o hen fynydd Cymraeg ydyw oddiallan i'r dref ac yn ei chastellu rhag oerwynt y gogledd. Paham y galwyd ef ar yr enw Seisaig presenol nis gwn mwy nag y gwn ychwaith paham y gelwir yr orsaf agosaf ond un neu ddwy yn Bow Street. A chan fy mod yn son am rai o enwau dyrys yr ardal Gymreig hon, mi a ddymunwn wybod gan rai o'i doethion paham y gelwir dau le arall ar enwau IJun. deinig-un yn Piccadilly a'r Hall yn Chancery Lane ? Yr oedd hen wr yn dweyd wrtbyf ar ben y Castell, pan wyliem ein dau yr ban] yn suddo i'w wely yn y lli, mai Rheidol ydyw prif afon y dref—mai yn ei haber hi y mae eu dociau, ac mai hi sydd yn eu diwallu a. dwfr, ac nad yw'r Ystwyth ond fel JIawforwyn i'r Rheidol. Ond efallai nad yw syndod yn y byd i'r hen bobl beidio galw eu tref yn Aber Rheidol rhag i weilch direidus ganu iddynt- Nid pobol angenrheidiol Yw pobol Aber Rheidiol, f Na phobl yn codi uehel bris Na chardis beilch a meidrol. Nid yw mor bawdd i gocosiaid diawen rygnu ar y air Aber Ystwyth. Taliesin o Eifion yw'r unig un y clywais i am dano sydd wedi nyddu'r gair mewn cynghanedd. Yr oedd y bardd hwnw wedi myn'd i'r Eisteddfod Genedlaethol gynal- iwyd yno yn 1865. Gan mor llawn oedd pob man, methai ef a'l gyfaill gael tamaid i fwyta. Prynodd bwys o gig eidion, ac aeth a hwnw o'r naill dy i'r llall gem ddeisyf cael ei goginio, ond yn aflwycldianus yr oedd pawb yn rhy brysur. O'r diwedd rhoddodd y bardd hael y cig i rhyw greadur tlawd a chanodd yr englyn a ganlyn :— Prynais, a thelais werth wyth—geiniog, Yn giniaw, o olwyth Er talu ni cheir tylwyth-wna'i ffriaw, Na neb i'w rostiaw yn Aberystwyth. Y mae yn Aberystwyth orsaf helaeth; a chyda y deuer ohoni, yr ydym yn nghanol y dref-mewn heol lydan a choed tewfrig iach yn tyfu bob ochr iddi. Tarewir y dyeithr ar unvvaith ei fod mewn tref sydd wedi ei cbynllunio'n ddoeth, ac yn cael ei llywodraethu yn ddeheuig. Ei phrif heol (a dyma ni eto wyneb yn wyneb a, dawn pobl Aber- ystwith i roddi enwau Seisnig ar eu lleoedd) a elwir Great Darkgate Street. Yn yr heol hon y mae siop Mr Edwards (Pencerdd Ceredigion). Nid wyf yn meddwl i mi ei weled er 1865, adeg yr Eisteddfod a nodwyd, ac oddigerth ei fod wedi briglwydo ychydig, welswn i yn fy myw fawr o wabaniaetb arno. Rhaid ei fod flwyddyn neu ddwy yn hyn na Mr Gladstone, ac y mae cyn sionced ag yntau. Dyna ydyw byw mewn lie iach. Ni ryfeddwn ddim nad oes yn Aber Ystwytb, a barm] oddiwrth "awyr iach a m6r bon," haner cant o gyfoedion i Mr Edwards. Yn anffodus nid oedd y cerddor arall y cysylltir ei enw ag Aber Ystwyth mor fynych, sef Mr David Jenkins, Mus. Bac., gartref. Bu raid i mi fyned yr holl ffordd i Aberystwyth i wybod mai hen lane oedd Mr Jenkins cyferchais y rhian lednais yn y siop fel Mrs J-, yr hyn a barodd i mi gael fy argyhoeddi o'm camgymer- iad. Tra yn son am gamsyniadau waeth imi orphen. Bum rai oriau wedi cyrhaedd y dref yn credu mai Samuel oedd pob cyfenw yno. Gwelais yn union deg Samuel y printar a gwrdd- wn yn Gwalia," Llundain, yr hwn sydd wedi dychwelyd i'w dref enedigol a chodi achos argraphyddol llwyddianus yn yr adeilad lie yr oedd argraphdy adnabyddus Cox oes neu ddwy yn ol dyna yr Atbraw Samuel ei nai, y lienor a'r bardd, cwrddais yntau Samuel oedd enw fy llettywr Samuel oedd ar banerarwydd- fyrddau'r masnachdai ac wedi myn'd i ngwely mi geisiais wneud englyn, ond fel arfer cysgais ar ganol y llinell gyntaf dyma hi, "Ai Samwel pawb sy yma ?" Mae yn Aberystwyth, mi addef- af, rai Jenkinses, megys heblaw'r cerddor, Mr Win. Jenkins, llyfr-werthwr, a rhyw ychydig o gyfenwau eraill, ond Samuel ydyw "Jones" Aberystwyth. Tair rhagoriaeth y dref hon ar ei chwaer drefi yn gyffredin ydynt ei Chastell, ei Choleg, a'i thraeth, ac y mae'r tri lie yn taro ar eu gilydd, a'r tri fel eu gilydd ar fin y don yno, o ran hyny, y ceir yr olaf bob amser ond nid yn fynych y ceir castell mor agos i'r mor, ac anaml- ach fyth y ceir coleg. Y mae gan yr hen Gastell hwn ei hanes ond nid yw yn gyfiawn y mae amser wedi dileu ol traed Owen Glyndwr a Chromwell o'r fan y buont unwaith, ac mi fet- iwn "swllt Aberystwyth," pe bnasai genyf un, na adawodd y ddau arwr hyn y lie mor gyfa ag y cawsant ef. Fe roddodd Siarl I. hawl iddynt godi mint yn Nghastell Aberystwyth i wneud sylltau o'r mwnau arian oedd yn y gymydogaeth yn oes y teyrn angenus bwnw. Mae'r sylltau hyny bellach yn brinion tros ben, a gwerthwyd, meddir, ychydig flynyddau yn ol yn y Brif- ddinas un o sylltau Aberystwyth am lOp. Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, ydyw blaen- ffrwyth y symudiad rhyfeddol a ddechreuodd yn Nghymru o ddeugain i haner can mlynedd yn ol i ddarparu addysg i ieuenctyd Cymru. Bawyd am gryn amser yn pendroni pa le i sef- ydlu'r coleg cyntaf ond pan addfedodd yr achos, yr oedd gan Aberystwyth le tra phwr- pasol ar ei gyfer. Yr oedd Cwmni'r Cambrian wedi darpar gwestty ardderchog mewn llanerch ramantus ar fin y m6r, gerllaw'r Castell, a gwario arno, meddir, tua phedwar ugain mil o bunau. Ond daeth rhyw rwystr ar eu ffordd, a phryn- wyd yr adeilad gan hyrwyddwyr y Coleg Cym- reig am tua deng mil o bunau. Yn anffodus, aeth adran o'r Coleg ar dan yn 1885, a chostiodd ei adgyweirio swm mawr, yr hyn, fel y draul ar y dechreu, a ddaeth i raddati helaeth o gynilion y dosbarth gweithiol, yn enwedig chwarelwyr Ffestiniog. Nid yw nifer ei efrydwyr erbyn hyn nemawr llai na phedwar cant. Gwir fod lluaws o'i nifer nid yn Gymry ond fe ddaw'r Cymry maes o law yn ffyddlonach i'w safydliad- au eu hunain. Mae rhif trigolian A her Ystwyth yn y gauaf yn tynu at saith mil, ondyn yr haf yn fwy na chymaint arall. Dyry prif feddygon y deyrnas,, o oes i oes, y gymeradwyaeth uwchaf i iachus- rwydd ei hinsawdd. Daw ei dwfr g]&n o Lyn Llygad Rheidol yn mynydd Plynlumon ac y mae dyfeisiau penaf gwyddoniaeth fcuag at buro a phrydferthu tref a gwlad o gyich wedi eu rhoi ar waith yn mhrif dref Ceredigion—tan arolyg. iaeth fanylaf, wrth gwrs, gol. y Cambrian Neivs. Mae yn ddywediad cyffredin nad ymedy tin dyn âg Aberystwyth ond o'i anfodd ar ol treulio wythnos ynddi a hawddach cyfrif am dano a chydnabod ei wirionedd na Ilu o ddywediadau o'r fath. Buan y llithra rhywun i sercL dwfn hefo'r pier a'r terrace a'r addoldai hardd a helaeth sydd mor lluosog yno. Nid bob amser chwaith y mae rhodfeydd mor ddymunol o amgylch tref fel han-rhai na chymerant ond tuag awr o am- ser, ac eraill i fynu i haner diwrnod neu fwy. Rhodfa hyfryd sydd i Glarach ac yn ol—pentref yn sefyll mewn dyffryn tlws o'r un enw ag ef rhyw ddwy neu dair milidir o Aber Ystwyth ac mae rhodfeydd iacbus eraill i fynu dyflryn- oedd y Rheidol a'r Ystwyth. Ond efallai mai un o'r gyrfaoedd llawnaf o fwyniant i hoffwyr natur fel ei ceir yn Ngwyllt Walia ydyw hono o Aberystwyth i Bont y Gwr Drwg ac yn ol-pell- der o tua deuddeng milldir. Nid oes genyf hamdden i ddweyd yr hanes pa fodd y codwyd pont tros agenddor mor erchyll, nac am ba achoa y codwyd hi gan y Gwr Drwg, a Phont y Glyn Diphwys a phontydd eraill yma ac acw byd y byd na phaham ychwaith y gelwir Satan yn Wr Drwg mwy nag yn Wraig Ddrwg ac yn Hen Fachgen yn lie Hen Enoth. Pa fodd bynag, clywais gryn deithiwr ar wyneb y bellen ddae- arol yma yn dweyd mai Rhaiadr Niagara a Phont-ar-Fynach (enw arall ar y bont hon) oedd y ddwy olygfa a'i rbyfeddodd ef fwyaf o ddim a welodd erioed yn unman. Mewn gwirionedd, yr ydych ar eich taith o Orsaf Ganol Manceinion i Aber Ystwyth yn myned trwy ranau o'r wlad nad oes mo'u hardd- ach yn Ynys Prydain, trwy ganol golygfeydd y dyffrynau breision, a'r mynyddau cribog, heibio i hen drefi hanesyddol a phaiasau gorwych a godwyd gan gyfoeth wedi ei gynull yn ystod baner olaf y 19eg ganrif; ac y mae rhediad y gerbydres mor gyflym fel nad ydych yn diflasu ar un math o olygfa cyn i'r Hall ddyfod i'r golwg. Mae lluaws o'n cydwladwyr yn Manceinion heb gael eu gwyliau blynyrldol eto os ydynt yn petruso pa le i fyned, anogwn hwynt i roi prawf ar y cyfeiriad hwn a dengain mnnyd a ddygai Gymry Lerpwl hefyd i Fanchester ac i gych- wynfa'r daith. Mae Cv-,inni-Ati'r Cheshire Lines yn teilyngu pob cefnogaeth gan y cyhoedd, fel y dywedasom o'r blaen, am mai gancldynt hwy y cawsom rai o gysuron a breintiau goreu teithio ar gledrffyrdd. Cyn terfynn nis gallaf beidio dpfynu un neu ddau o doddeidiau buddngol Trebor Mai i Aberystwyth fel Ymdrochle Yno mae anian fel Y1 vmunol A chelf, i'w dwyn yo He mwyn dymunol A oes rhyw gy mhar i'w maes aur gemol, Mawr iawn, ar fin ei mor annherfynol ? A hael wenyg telynol -o'i lan draw, Yn tyner suaw eu ton roesawol. O 'r man tawel, lie chwery minteioedd Ar hyd ei heulog wyrddion ardaloedd, Trwy lwyni haf, tra awel y nefoedd A sieryd fywyd i'w thlws rodfaoedd A mel i gwpan miloedd—gluda glan Arogl anian oddiar ei glynoedd. O'ch annedwyddweb, ewch. weiniaid, iddi A hyder ucheJ, un haf i 'mdrocbi; O'i dwfr a'i hinon dyfera yni I'r gaeth anadl, a gwaed i'r gwytheni; A chan y dychwelwch chwi,—i'ch preswyl O'i hawel anwyl, wedi'ch hail eni.
0 Barddoniaeth.
0 Barddoniaeth. CARTREF FY MABOED. TON-" Beautiful Isle of the Sea." DIFYR i'r doeth ar ei daith Olrhain cywreinrwydd celfyddyd Difyr i mi ambell waith, Yw ymson am ardal fy mebyd Llanfair, wyt anwyl i mi. Cartref fy hil a'm cyfeillion, Prydferth yw'r Elwy a'i Hi Wrth adlewyrchu dy geinion. Ollclqan. Llanfair, paradwys y bardd, < Elwy cbwanega dy fri, Rbydd ymddolena yn hardd, Miwsig yw murmur ei Ili; Swynol yw cartref y bardd, Anwylfan—anwylfan fy nghalon wyt ti. Bryniau'th gylchynant mewn nerth, Coedydd addurnant eu lletbrau, Lle'r arfer tenantiaid y berth Gynal eu nefawl gyngherddau Iach yw awelon dy nant, Hyfryd yw gwedd dy weirgloddiau, Gwladgar yw ysbryd dy blant, Dewrion a phur fel eii tadau. Llanfair, paradwys y bardd, &c. 'Rol gadael dy swynion mewn rhan, Prudd-der a letha fy nwyfron, Wrth esgyn i fynwent y Ilan, Lie gorphwys anwyliaid fy nghalon Mud is y golofn yw'r bardd, Huna dan gysgocl yr ywen, Mud yw ei wenau oedd hardd, Distaw yw odliad ei awen. Llanfair, paradwys y bardd, &e. IBWKDD. TUDNO. o Ow dori'n foreu o'i dirion fawredd Y cawr awenol, gwladgar o Wynedd Ei feddwl hynaws, a'i feiddiol hoenedd Wisgai yn ngheinion y dlos gynghanedd A bywiol dwr o blaid hedd-oedd Tudno. Gyfeiriai'n wridog i fawr anrhydedd. Tanbaid ddysgawdwr, a llengar wron Daniwyd i'w orawr, oedd Tudno dirion, Awenfardd llonaf o urddau llawnion, I'w gywra.in ganiad grynhoai geinion Ac erys ei ragorion—tra'r Benarth A thrwyn y Gogarth ar wenyg eigion. Dinbych. TBKBOB ALJID.