Hide Articles List

10 articles on this Page

Modioli o'r Bdlnas

BLWCH MEDDYGINIAETH DEULUAIDD.

Ar Finion y Ddyfrdwy.

DyfTryn Clwyd.

[No title]

Cwreichion.

News
Cite
Share

Cwreichion. IR Y MAE pethau digrif yn digwydd mewn te partis. Tommy, beth ydech chi'n crio ?' ebe yr athraw wrth un o'r plant y dydd o'r blaen. 'Crio,' ebe'r. erwtyri, 'na fuaswn i'n gallu bwyba. chwaneg o fara brith.' O, wel,'ychwanegai'r athraw, gan feddwi lleddfu ei ofid, I ini ddyda wrtho chi be newch chi, llenwch y'ch pocedi.' Fedra i ddim,' ebe Tommy, yn crio yn waeth o'r haner. Pam ?' gofynai yr athraw. Achos yr ydw i wedi stwffio nhw'n barod.' IT Short life and a merry one oedd yfair Mr Charles, mab y Plas, ac fe'i claddwyd y dydd o'r blaen, a 27 oed ar gauad ei arch. Dyna wers. If Wrth son am de partis, cynaliwyd cyfarfod te Ysgol Sul Galltegfa ddydd Iau. diweddaf, a rhwrg y te a'r cyfarfod adloniadol yn yr hwyr, yr oedd Bardd y Nant wedi creu difyrwch na fu erioed ei fath hefo'i rasus tatws, &c. Does dim diwedd ar awen gwr Penybryn. IT 'Betsen,'ebe gwraig V Typobty, yn edrych dan ei chuwch, chrasa i ddim chwaneg o fara i chi nes y talwch chi'ch bil,' ond ysgythrodd Betsen hi'n of, Ai ie, Mari Huwa-talweh chi i Bil ni am gario cidis, ac mi dala ina.i wraig Bil chi am grasu.' Digwyddodd fod William y ddwy yn nyled eu gil- ydd, ac yswiliodd Mari Huws drwyddi. IT Yr oedd y gwybed yn cymeryd dyddordeb mawr yn Eisteddfod Corwen, gymaint felly nes y dywedodd un crwtyn wrth ei fam pan oedd y corau yn cystadlu, Mam, i be mae y dyn acw yn ysgwyd ei ffon (baton), ai i shiwied y gwybed rhag myned i'w cegau nhw ?' Nlage machgen i, i gadw amser,' atebai y fam yn ei glust; ond yn mhen enyd, wedi synu uwchben y peth, ymholodd y crwt wed'yn Oes yma 'run cloc, mam ?' If Pan y cyfarfyddodd baidd ieuanc awyddus hen fardd ar yr heol [ fe ddywedodd, wedi cael ei gyflwyno iddo, Diar mi mi glywes a'm clustiau lawer o son am danoch, Felly wir,' ebe yr hen awenydd, ond cocosyn wyt ti, yn reit siwr, —oes posib i rhywun glywed a rhywbeth ond ei gtustiau, dywed ?' IT Wrth loddi gwers mewn gramadeg y dydd o'r blaen, gofynodd yr athrawes i w dosbarth, 'A bstract noun ydyw enw rhywbeth y gallwch chi feddwl am dano, ond nas gallwch ymaflyd ynddo. Fedrwch chi roi engraipht i mi ?' Medra,' ebe un, wedi troi y peth yn ei rneddwl. Beth ydyw, Sarah?' Procer poeth,' ebe y fechan, er difyrwch mawr i'r rhai a'i clywsant. IT Sut na fedret ti sefyll yn llonydd, Fred,' ebe tad wrth ei fachgen wrth y bwrdd te, 'beth ydi yr ysgwyd a'r aflonyddwch sydd arnat tiV Ych bai chi ydi o, nhad,' atebai y bachgen. Y mai i, sub wyt ti yn gwneud hyny allan ?' ebe y tad, yn rhy- feddu at y sylw pryd yr eglurodd y byehan, Pan ofynes i chi neithiwr faint oedd billion, mi ddyd- foch chithe 'd- lot,1 a phan ofynodd yr athraw yr un cwestiwn i mi heddyw, mi rois iaa yr un ateb, a dyna pam na fedra i ddim sefyll yn llonydd.' Mor ochelgar y dylai rhieni fod rhag arfer iaith anweddus. If Un mentrus ydyw John Jones-fe gafodd y gwyneb i ddweyd wrth un o'r ymgeiswyr ar destyn y gadair yn Nghorwen, Wyddoch chi be, yr ydw i'n ameu yn fawr, pe baid yn gogryn yr holl awdlau ar Dlodi' y byddai yn aros gwpled ymrysonai am anfarwoldeb ar y testyn a. dwy linell Dewi Wyn :— Dwyn ei geiniog dan gwynaw- Rhoi angen un rhwng y naw H Ond fel bu'r lwc dyna Nathan yn dechreu ei gribo, Ond dyma chi, John Jones, y mae rhedfa anfarwoldeb yn beth digri iawn. Pe buasai y ddwy linell yna yn cael goleu dydd heddyw am y tro cyntaf, hundred to one na fuasent byth mor gyff- redin ar wefusau'r Cymry.' CYFARWYDD. -0-

Cyflogau'r Clerigwyr,I

Ystadegau'r Annibynwyr.

[No title]

Advertising