Hide Articles List

10 articles on this Page

Modioli o'r Bdlnas

News
Cite
Share

Modioli o'r Bdlnas [Gan CWILSYN]. BE un o weinidogion Lerpwl o'r pwlpud y Sul diweddaf Adeg ddedwydda bywyd dyn ydyw'r adeg pan fydd yn prifio ac ebe crwt o ddyn byr oedd yn gwrando, Does ryfedd yn y byd fy mod i wedi cael can lleied o ddedwyddwch felly—achos ddaru mi ddim prifio o gwbl.' -0- Drwg iawn genyf ddeall fod Mr John Edwards, in o flaenoriaid parchus Princes Road, yn lied wael ei iechyd yn Nghymru. Disgwylir mewn hyder y caiff adferiad buan i ddychwel i'w hen gynefla yn y ddinas. —o — Prysurir yn mlaen gyda'r gwaith o adeiladulr organ a gwella addoldy Chatham Street, Daw dydd yr ail agoriad cyn bo hir, a da hyny oblegy d prin y mae njb yn gallu mwynhau gwasanaeth yn yr ysgoldy ar y tvwydd mwll yma. Deallaf fod haelioni neillduol wedi ei ddangos Rt ddileu y draul yr eir iddi yn bresenol. Y mae'r gweinidog parchus, Mr Jones, wedi bod yn ddiball yn ei ,egnion, ac y mae llwydd yn sicr o ddilyn pob gweithgarwch teilwng. -0- Gwelais raglen Cymdeithas Ymdrech Grefyddol y Tabernacl. Arwyddion bywyd sydd ar ei gwedd—nifer lluosog a'u henwau i gymeryd rhan, testynau byw, amserol, i gael eu trafod, ae ym- roddiad llwyr yn yr aelodau i gyrhaedd yr amean- ion dyrchafedig sydd ganddynt mewn golwg. -0- Nid llawer o gydymdeimlad sydd genyf a'r gri 11 Cymru i'r Cymry," ond eto da fuasai genyf weled mwy o deyrngarwch yn fy nghydgenedl i'w gilydd yn y ddinas hon. Tipyn yn rhyfedd yw gweled Cymry—a Chymry crefyddol yn anad neb-yn myned a'r ho 1 waith sydd ganddynt i'w wneud at Saeson, tra 5 gellid ei wneud yn llawer amgenach gan eu gwladwyr en hunain. Gwelais raglen cwrdd cystidlu yr wythnos ddiweddaf wedi ei hargraphu mewn swyddfa Seisnig Yn y rhaglen ceir cywydd sydd i'w aralleirio, ond y mae'r syn- Wyr a'r gynghanedd ar goll mewn ami fan ynddo, ac anfantais amlwg i'r ymgeiswyr fydd hyny. Ran hyny, prin y gellir diagwyl i Sais-heb son am wr du y wasg—beidio gwneud cam a chyfansoddiad cynghaneddol Cymreig. Hen gynghor da ydyw hwnw—gweithreder mwy arno—" Cefnogwch eich cydwladwyr." -0- G welaf fod eglwys Annibynol Marsh Lane wedi rhoddi galwad i Mr Hawen Rees o Goleg Bala- Bangor. Gobeithio'n fawr y ceir priodas rhyng- ddynt yn fuan. Eglwys ddymunol yw Marsh Lane, a gwn mai un hawdd ei garu a'i edmygu yw Mr Rees. Hapus neillduol fuasai'r uaiad a hy- deraf na bydd yr eglwys yn ngwisgoedd gweddw- dod nemawr hwy. Clywais hefyd fod dwy os nad tair o eglwysi eraill yn taflu trem gariadus o gwmpas mewn ym- chwil am ymgeledd cymhwys. Yn sir Fflint mae eraill yn taflu trem gariadus o gwmpas mewn ym- chwil am ymgeledd cymhwys. Yn sir Fflint ma.e gwrthrych edmygedd un a tbros y dw'r yn sir Caernarfon y mae cariad y Hall; tra mae amryw o swyddogion y drydedd yn ymyl dyfroedd Tref- riw yn edrych am wr with fodd eu calon. Daw y 1rhwydi adref yn y mau-it geir dalfa, ys gwn i ? --0- Dylaswn fod wedi cofnodi yr wythnos ddiweddaf yn y cyfeiriad a wnaethum at lwyddiant cor Mr Padarn Lewis fod teyrnged o glod yn ddyledus i Miss Gwladys Pritchard, yr hon yw cyfeilydd y ,Cor. Mae cor heb gyfeilydd fel cloc heb bendil, meddai rhywun ond ffodus neillduol yw'r cor fawn, oblegyd nis gellir cael nemawr rhagorach Miss Pritchard am gyfeilio, a haedda ddeuparth o'r clod enillodd y cor drwy ei fuddugoliaeth. Gwelais y foneddiges ieuano hon yn Jhwareu i Miss Maggie Davies, y gantores enwog, yn yr un Eisteddfod-sieryd hyn yn uchel am ei medr. Wele Eisteddfod Birkenhead, a gynelir Llun y Pasg-, wedi ei threfnu a'i hysbysu. A thestynau a gwobrau da sydd ganddi hefyd. Sicr wyf y caiff Dymry dinas y dyfodol bob cefnogaeth gan eu eymmrodyr yr ochr hon a chan mai pobl ieuainc sydd fwyaf wrth y llyw, y mae'r egnioa goreu ar waith, a'n gobuth yn uchel y gwelir Eisteddfod deilwng o'r rhai gynaliwyd yma o'r blaen lawer o "flynyddau yn ol. A mi a ddymunaf eich llwydd o galon, fy nghydwladwyr hoff. Deallaf fod Mr John Price, peirianydd cynorth- wyol y ddinas, wedi ei benodi yn arolygydd Corph- oraeth Birmingham. Ei gyfiog fydd 800p yn y flwyddyn. Cymro yw Mr Price. Yr wvthnos ddiwedda.f ymwelodd y Parch G. Ellis, M.A., Bootle, llywydd Cymanfa Gyifredinol y Methodistiaid a. C'nynadledd y Wesleyaid fel cynrychiolydd eglwysi rhyddion y ddinas. Rhoes anerchiad doeth a dyddorol yn ol ei arfer, gan gyf- eirio at ddechreuad Wesleyaeth a Methodistiaeth, ayhvi mai brodyr oeddynt, ac fod eu dechreuad a'u hanes yn gyfryw y gallent deimlo'n faleh ohonynt. Dymunai Iwydd yr enwad yn y wlad hon ac ar feus- ydd tramor.

BLWCH MEDDYGINIAETH DEULUAIDD.

Ar Finion y Ddyfrdwy.

DyfTryn Clwyd.

[No title]

Cwreichion.

Cyflogau'r Clerigwyr,I

Ystadegau'r Annibynwyr.

[No title]

Advertising