Hide Articles List

4 articles on this Page

0 Fanceinion i Aberystwyth.

News
Cite
Share

0 Fanceinion i Aberystwyth. TAITH DDIFYRUS.— (Parhad). YR wythnos ddiweddaf, cyfeiriasom at y daith cyn belled a'r Drenewydd. CAERSWS. Yn fuan ar ol gadael y Drenewydd, deuwn i orsaf Moat Lane, lie mae cysylltiad gyda'r llinell sydd yn rheleg trwy Lanidloes tua Rhaiadr, Buallt, Aber- honddu, a Llandrindod. Yr ydym yn fuaa hefyd yn colli ewmni yr Hafren, yr hyn a gawsom am tros ugain milldir. Mae ei llwybr hi yn troi at fangre ei genedigaeth, sef Plymlumon, gyferbyn a Chaersws. Bu Caersws yn gadarofa Rufeinig, ac y mae llawer o'i halion hyd y meusydd yn aros. Ond yr hyn a wna y pentref hwn yn ddyddorol i Gymry yr oes hon a'r oesau a ddeuant, gobeithio, ydyw'r ffaith mai yn y ty pellaf acw ar y chwith wedi ei wneud o briddfeini cochion, y trenliodd prif-fardd telynegol Cenedl y Cymry, John Ceiriog Hugh-s, ei flynyddau olaf, ac y bu farw ac mai yn raya- went Llanwnog, tua milldir o Gaersws, ar y dde wrth ini fyn'd yn mlaen, y mae ei fedd. Y mae'r fynwent, a'r golofn sydd ar y bedd, i'w gweled o'r tren. Gwlad nodedig o hardd sydd oddeutu'r Han gwledig ond ofnwn nad oes ddeg o bobl yn byw yn nghlyw cloch Llanwnog all ddarllen llinell o waith y bardd natur a huna yn eu hardal. Ai an- ffawd hyn ? Ie, 'n ddiau, i'r byw a choffadwriaeth y marw. Tybod a welir pererinion yn y dyfodol yn cyrchu i Gaersws fel i Stirling i anrhydeddu coffa- dwriaeth Prif-fardd yr Ysgotiaid ? A gedwir tybed ei ganmlwyddiant gyda rhywbeth tebyg i'r rhialt- weh y dathlwyd canmlwyddiant Burns wythaos neu ddwy yn ol ? Ydyw'r iaith y canodd mor syml ynddi ar fin ei thranc ? Ydyw'r genedl a ogonedd- wyd gan ei athrylith yn myn'd i'w annghofio? Nae ydynt, gobeithio. LLANIDLOES. [PE gadftwem y brif linell a ftiyned cyn belled a Llanidloes, gan ddilyn yr H%fren, caem weled hen dref a llawer pennod nodedig yn ei hanes Yma y bu'r Siartiaid yn eu rhwysg uwchaf o unman yn Ngogledd Cymru. Yr oedd gwehyddion Llanidloes haner can' mlynedd yn ol yn werinaidd hyd y earn, ac y mae y nat'Ir yn aros i raddau yn eu meibion yr oes hon, fel y cafwyd prawf ychydig amser yn ol. Bu Ceiriog am rai blynyddau yn byw yn orsaf-feistr yma a mynych, fel V dywed ei hun yn rhoi tro 'rol gyru'r tren, hyd hyfryd lenydd Hafren.' Yr oeddym ar ein ffordd yma yn dyfod trwy Landinam, a heibio delw hardd a godwyd i goffadwriaeth yr hynotaf a fagwyd yn y lie, sef Mr David Davies.] CARNO. Ff&rwel, Dclyffryn-henffych Wyllt Walia. Yr ydym yn ebrwydd yn ngorsaf Pont.ddol-goch lie y gellir clywed llefaru'r Gymraeg yn ei phurdeb. Dyma gapel, dyma efel, dyma siop, dyma'r pentref Cymraeg ond ysgubir ni yn mlaen, a'r lie nesaf y deuwn iddo yw Carno. Mae golwg dipynyn ffasiwnol ar Garno, adeiladau da, siopau llewvrchus, ac yn y siop acw, lawer blwyddyn betlach, y trigianai un o bregetbwyr mwyaf poblogaidd Cymru, sef y Parch Joseph Thomas. Uwchlaw i Garno, ar y mynydd acw,yr ymladdwyd un o frwfdrau pwysicaf Cymru, sef yn 1077, am arlywiaeth Gogledd Cymru rhwng Gruffydd ap Cynan, yn cael ei helpu gan Rhys ap Tewdwr, tywysog Deheubarth, a Thra- haiarn, y tywysog mewn awdurdod. Wedi brwydr erchyll o waedlyd, pryd y syrthiodd yr olaf a blodau ei fyddin, Ap Cynan a gafodd lwyr oruch afiaeth ac a deyrnasodd am 57 o flynyddau. LLANBRYNMAIR. Mae Gwalia'n wyllt ryfeddol ar ben y drym, a'r peirianwvr wedi ei brathu yn dost wrth wneud cutting Talerddig. Yn ebrwydd wedi dyfod o'r toriad dwfn hwn, yn y gwylltineb annosbarthus, gellir cael cip ar frigau y coed sydd oddiamgylch y Fron, lie y ganwyd Mynyddog, ac y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Mewn manau anhygyrch fel hvn yn gyffredin y ceir hyd i rai o dalentau dis- gleiriaf yr oesau. Yn is i lawr, safai'r Hen Gapel y clybu darllenwyr y Gronid bach er's talm lawer o son am dano a Chil Haul, trigfa yr R iaid doniol. —S. R., J. R., a. Gruffydd Risiart-awdwyr y bu eu dylanwad ar ein cenedl yn foesol a gwleidyddol yn fawr iawn ac yn para, mewn effeithiau, ac i barhau m&e'n sicr am oesau lawer. DYFFRYN DYFI. Afon rwysgfawr bendefigaidd ydyw'r Dyfi. Siwrnai fer sydd ganddi, ac y mae hi yn ei rhedeg yn araf. Yn Cemmes Road, fel y llygrwyd y gair gan bobl y reilffordd, cawn bwt o linell saith milldir o hyd, yn cyrhaedd hyd Ddiuas Mawddwy, gan dilyn y Dyfi. Yn y rhan hon o'r wlad y mae Mallwyd, lie a'i enw wedi ei gvsvlltu byth ag enw un o ddysgedigion Cymru,Dr John Davies, awdwry Geiriadur Lladin Cymraeg a Chymraeg-Lladin. Dywedir mae Dinas Mawddwy ydyw'r ddinas leiaf yn y deyrnas ond da i lawer ohonynt pe buasent yn sefyll mewn mangre mor ramantus. D. SILVAN ETANS. Yn fuan wedi i ni adael Cemmes, wele Lanwrin dros yr afon yr ochr draw. Ychydig a dinod vdvw ei dai, a phrin y buasai'n werth ei grvbwyll oddigerth am ei reithiordy, a'i breswyl- vdd llengar. Dyma gartref Canon Silvan Evans, a'r lie v gweithia'n galed bob dydd, yr ydym yn deall er yn tynu at ei bedwar ugain oed, ar y (reiriadur Cymraeg-Saesneg, a fvdd pan orphener ef v mwyaf sydd yn yr iaith. Y mae llenyddiaeth y Cymry tan gryn ddyled i'r clerigwr gwledig hwn. MACHYNLLETH. Yn y rhan eangaf o Ddyffryn byr y Dyfi y saif y dref henafol hon, a'i Phlas yn ei hymyl, lie y bu Tywysog Cymru a'i deulu yn 'loidjio' ychydig wythnosau yn ol ar eu taith i Aberystwyth. Nid yw sedd bendefigaidd larH Londonderry fawr fwv nag ergyd careg o brif heol y dref, ond y mae wedi ei guddio mewn coed fel na fedrech dybied ohoon fod tref o fewn milldiroedd iddo. Gelwir y brif heol y Maengwyn, a dangosir yn yr heol hon hen afleilad yn yr hwn. meddir, y cynaliodd Owain Glyndwr i snedd. Hyn, yn nghydag amrvw resvmqu eraill, a barodd i rai ddweyd mai Machynlleth ddylai gael ei dewis yn brifddinas Cymru. Dim gwrtbwvnbiad o gwbl. Lie cyflms iawn i'r seneddwyr gael cocos i freewest. Digon o gvflenstsrau reilffvrdd iddi, un obs rai sydd vn rhedeg tua'r Rogledd trwy gwm tra phcydferth i Corris ae o'r cwr hwn i'r wlad, dvmi'r ffordd oreu i Gader Idris Y mae un rhin- neillduol yn mhobl y dref hyfryd hon, sef, er mor agos ydynt i'r P as nad vw ei ddylan- warl wedi eu gwneud yn feilchion diles ond tra'n pirchu eu cymydoer pendefigaidd, nid ydynt yn ei rtdloli, fel rhai trefi erai'l tan amgylchiadau cvffelyb. Heblaw Corris y mae manau eraill o ddyddordeb annghySredin, ac yn meddu golygfeydd tlysioa cystal a mawreddog, yn ymyl Machynlleth, megys Cwm Llyfnant, Aberhosm, Penal, ac i lawr hyd aber y Dyfi. Yn y cyfeiriad olaf y mae ein tren yn myned, a deuwn i Glan Dovey,' lie y mae'r Itinell arall tua'r Bermo, Porthmadog, a Phwllheli yn cymeryd ar draws y Dyfi ac yn ein gadael. Y mae'r afoo hono yn lledu yn sydyn yn y fan yma, a thra yr ydym ni yn cyftymu tu'r Borth ar un ochr i'r bau, dacw dreflan Aber Dyfi yn ymheulo ar yr ochr arall. ODDIAR Y LLWYBR. Buasai yn dda genyf gael hamdden i ddilyn y ganghen hon cyn belled dyweder a'r Bermo. Rhyw bedair milldir o Aberdyfi ydyw Towyn, tref landeg yn sefyll ar gwr y mor yn Nyffryn Dysynni, lie yn uwch i fynu y saif Llanegryn ar gyfer bron i Graig y Deryn, un o'r clogwyni mwyaf rhamantus yn Nghymru. Yr ydym o'r tren, wrth brysuro o Dowyn i'r Bermq, yn cael cip ar Fron y Clydwr, lie y preswyliai yr hen Buritan Huw Owen, y mae cymaint o hanes mor ddyddan am dano yn nghof- nodion Ymneillduaeth Cymru ac ar Lwyngwril, enw yr hwo a gysylltir yn naturiol gan bob Anni- bvnwr gyda Richard Jones, pregethwr y lispth." Y mae'r demtasiwn yn gref i f va'd yn mhellach, ond rhaid troi'n ol, gan mai i Aberystwyth y mae'r daith. Nis gallaf, modd bynag, ymatal rhag dy- fynu un o ganeuon tlysaf Ceiriog. Hwyrach nad yw pawb o'n darllenwyr yn gydnabyddus a hi. Rhwng "Clychau Aberdyfi a Bugail Aberdyfi," mae enw y porthladd bychan syml wedi trafaelu yn mhell. Ond dyma gan y Bagail:- Mi geisiaf eto ganu can, I'th gael di'n ol, fy ngeneth lan, I'r gadair siglo ger y tan, Ar fynydd Aberdyfi Paham, fy ngeneth hotf, paham, Gadewaist fi a'th blant dinam ? Mae Arthur bach yn galw'i fam, A'i galon bron a thori: Mae'r ddau oeu llawae^h yn y llwyn, A'r plant yn chware efo'r wyn 0 tyr'd yn ol, fy ngeneth fwyn I fynydd Aberdyfi. Nosweithiau hirion, niwlog, du, Sydd o fy mlaen, fy na-eneth gu 0 agor eto ddrws y ty, Ar fynydd Aberdyfi. 0 na ehaet glywed gweddi dlos Dy Arthur bach cyn cysgu'r nos, A'i ruddiau bychain fel y rhos, Yn wylo am ei fami: Gormesaist lawer arnaf, Men, Gormesais inau—dyna ben 0 tyr'd yn ol, fy ngeneth wen I fynydd Aberdyfi. Fel hyn y ceisiaf ganu can I'th gael di'n ol, fy ngeneth lan, I eistedd eto ger y tan, Ar fynydd Aberdyfi: 'Rwy'n cofio'th lais yn canu'n iach- Ond fedri di, na neb o'th ach, Ddi'styru gweddi plentyn bach Sydd eisiau gwel'd ei fami. Ryw chware plant oedd dweyd ffarwel," Cydfaddeu wnawn, a dyna'r fel, Tyr'd tithau'n ol, fy ngeneth ddel, I fynydd Aberdyfi. Y BORTH. Un o greadigaethau y reilffordd ydyw'r ymdrochle ffasiynol hwn, a chyrcha miloedd iddo bob haf, a herfeildio pobl Caerfaddon ma6e awyr iach a mor hwn.' Mae wedi ei godi ar gwr o ystad Llyffant Cors Fochno,' ac yr oedd y llyffant hwnw yn un 0 hynafiaid y byd.' Cyfandir o fawn ydyw Cors Fochno, ac nid ymddengys fod dim yn byw arno end un llyffant. Y mae ar y traeth, meddir, olion amlwg hen fforest-honeyffion, mae'n debyg, o goedwivoedcl Cantre'r Cwaelod gynt, gan y myn traddodiad fod y Borth yn sefyll ar gwr y cantref hwnw. Rhyw ddeng milldir cwta sydd rhyngom â phen e?n siwrneu, ac v mae y rhan hon o'r daith yn m3ddu ei swvnion neillduol fel y rhanau eraill. Fel y cychwynasom trwy e-ddi a pherllanau teg tuallan i Fanchester felly yr ydym yn ei diweddu trwy erddi a pherllanau teg od.diallan i Aberystwyth. Llecyn rhyfeddol o hardd ydyw Llanbadarn Fawr, fiilldir a haner tu ytna i Aberystwyth. Y mae'r plwyf y mwyaf yn Nghymru, neu yr oedd er's tilwm. Y mae ei fynwent fawr ar lechwedd y fron, a'i heglwys ar ei gwaelod, yn vr hon y gor- phwys gweddillion Lewys Morus o Fon. Brodor o Fro Gynin, yn y plwyf hwn. tua saith milldir tua'r dehau, oedd Dafydd ap Gw;lym. Y genid yn Mro Gynin brydydd â'i gywydd fel gwin.' Cyrhaeddasom orsaf helaeth Aberystwyth yn mhen chwe awr union o'r amser y gadawsom yr Orsaf Ganol, Manceinion, yn ddiflino oherwydd y cerbyd cysurus, a,c wedi mwynhau golygfeydd na cheir ar un daith yn Ynys Prydain eu rhagorach a chymaint amrywiaeth ohonynt. Rhaid ga,dael yehydig grvbwylliou am Aberystwyth hyd y tro nesaf, gan fod ein hysgrif eisoes wedi myn'd vn feithach na'n bwriad ar y cyntaf felly ni a ddy- wedwn (I barhiu). -0-

Cymdeithas y Swyddogion lechydol.

Achos 0 Enllib o Colwyn Bay

Hewyddion Cymreig,