Hide Articles List

5 articles on this Page

CWRS Y BYD

Cwisg yr Archdderwydd.

Gwibnodlon o Ddyffryn Maelor.

News
Cite
Share

Gwibnodlon o Ddyffryn Maelor. WEL dyma Wyl y Ba.nc yn mhlith y pethau a fu. Gwaghawyd Dyffryn Maelor bron yn gyfan- gwbl y tro hwn, ac eithrio y Ffair Flodau a Gwagedd yn Mharc Wynnstay; am y bobl gall, aethant hwy tua Chorwen a Glynceiriog i fwvn- bau gwledd o fwyniant i'r meddwl a'r glust. Am y di-chwaeth a'r di-athrylith, en cyrchfan oedd glan y mor a'i dwrw. Ac am y dosbarth rhwng y ddau uchod, sef y dosbarth di-ddrwg I di dda, di ddim, aethant i Bare Wynnstay. Fel rhwng pobpeth chwi welwch nad oedd llawer wedi aros yn ol i warchod yr hen Ddyffryn. Am danaf fy hun, nid oedd ond un atdyniad i mi yn yr holl fyd mawr llydan, ac mi wyddai pawb arall hefyd y lie bnaswn, ac nid oes angen i mi ddweyd mai 'Steddfod Corwen oedd hwnw. Aethum yno y tro hwn ar nos Sadwrn i gael trenlio y Sabboth yn y fro dawel hono, ac ni bu edifar genyf. Cefais dywydd cystal ag y dy- munwn, a phregetbau a chanu rbagorol iawn. Yr oeddwn wedi meddwl i-epoi-tio y 'Steddfod i'r Cymro, ond canfyddais Obebydd Arbenig wrtb y gwaith, ac mi roddodd adroddiad cryno ddigon i chwi, ond efallai y goddefwch i minau wneud ychydig sylwadau neu wibnodion brysiog arni. I ddechreu yn y diwedd, cefais lon'd fy nghalon o fwynhad yno. Un o'r Eisteddfodau I goreu a mwyaf gwresog y bum o'i mewn fawr 11 erioed. Yr oedd trefniadau y pwyllgor bron a bod yn berffaith, Llifon yn arwain yn gartrefol dros ben, a da fuasai i rai o'r arweinyddion cenedlaethol yma gymeryd tudalen o'i lyfr. Gwyr pa bryd i siarad a phryd i dewi Dy- wedai ddigon a dim gormod. Fel yna yn union y dylai fod. Dynion c ill oedd yn llywyddu hefyd. Anerch- iidau byr a brwd—digon o Gymraeg. Esiampl deilwng eto i lywyddion Llandudno. Mae Cymraeg Kuno Meyer yn ystwytho yn dda, a'i yspryd yn dechreu cael ei drwytho a, brwdfryd- edd y Celt. Da genyf oedd ei weled yn cael derbyniad mor dywysogaidd yn JNTghojrwen. A diolch iddo am ei arawd ysblenydd. Yr oedd Hwfa yn dda iawn, ac ar y Mesur Byr. Diolch. Ond, aroswch funyd Onid yw'n ddeddf yn rheolau Gorsedd Beirdd Ynys Prydain nad oes yr un o'r aelodau i gymeryd rhan mewn unrhyw Orsedd o'r tuallan i'r "Orsedd Genedlaethol ? Oni ofynodd yr Hwfa am ganiatad yr awdurdodau i gynal Gor- sedd fach yn Chicago ddwy flynedd yn ol ? Ac oni alwyd sylw arbenig at y rheol hon mewn cyfarfod o'i heiddo yn Llandudno ? Do, 'rwyf yn meddwl. Ac eto, pwy ganai uchaf ar betryal y farcbnad yn Ngborwen fore Linn, ond yr Archdderwydd ei hun ? Pwy a eilw y pen- ddeddfroddwr i gyfrif, tybed ? Hefyd, gwrthododd Hwfa yn bendant ddefn- yddio y cledd wrth gadeirio yn Ngwrecsam,— ei bod yn groes i'r (idedrlf. Ond yr oedd wrth ei fodd yn ei chwyfio yn Ngborwen ac yn bloeddio Heddwch." Cysondeb, Hwfa Yr oedd Ilu mawr o feirdd a cherddorion yn bresenol, a da oedd genyf weled un o feibion Maelor yn cael y fath dderbyniad cynes a'i alw i'r llwyfan. Yr oedd R. Bryan yn haeddu yr oil. Nid oedd y cystadleuaethau cerddorol cystal ag yr oeddynt yn Maelor y Groglith diweddaf, er cymaint a folai y Do, re, mi," o'r South arnynt. Cyffredin iawn oedd yroll o'r unawdau, oddi- gerth David Ellis o'r Cefn Mawr. Gresyn garw fod Carrie Wright allan 0 hwyl, neu buasai wedi enill yn hawdd. Llongyfarchaf D. Ellis, Bob Jones, ac Edward .Y Jones ar eu buddugoliaethau. Ni fu Dyffryn Maelor ar ol yn yr wyl hon eto, fel arfer na, daeth y prif wobrwyon yma eleni. Canodd cor mawr y Cefn, dan arweiniad y cyfaill G. W. Hughes, yn ardderchog iawn. Ond nid felly y cor peryglus," cawsant haner y wobr, mae'n siwr, ond i Tom Tom mae iddynt ddiolch am hyny. Pe na buasai ef yno, Padarn Lewis a'i ddewrion fuasai oreu o ddigon, er nad oeddynt hwythan agos cystal ag y canasant yr un dernyn yn Ngwrecsam. Israddol oedd y gystadleuaeth hon. Synais weled Tom yn y cor hefyd a chlywed ei lais mal udgorn arian. Onid yw ef yn "professional," dywedwch ? Yr wyf yn synu at G. W. Hughes ei fod yn engagio datganwr proffesedig fel hyn i ganu unawd ac yn y ped- warawd yn e^byn bechgyn Bootle. Tori deddf moesgarwch os nad dim arall. I Paham nad elai y cor, ac yntau yn un mor beryglua i gystadlu yn deg 'rwan ? Peryglus wir peryglus fuasai pob cor ond cael bechgyn i lawr o'r R.C.M. i'w cynorthwyo. Tom enillodd ac nid y cor, ac am hyny Padarn Lewis ddylasai gael yr oil. Da genyf fod W. T. Samuel, G. & L.T.S.C., and I.S.M." (betb yn y byd mawr ydyw ystyr y llythyrenau breision yma ?) wedi rhoddi bodd- lonrwydd mor gyffredinol i'r cantorion. Ond caraswn glywed ei Gymraeg dipyn coethach. Yr ydych yn disgwyl cael Cymraeg go lew gan 11 y siaradwr cyhoeddus, onid ydych ? Ond fath iaith ydyw peth fel hyn :—" Yn usia y gair wrong, &c. idea reit dda;" "trydydd boneddiges;" yn nghystadleuaeth y sopranos, y goreu, ydyw y d,iice(lrla a ganodd;" ac am un arall "yn canu un part yn ro araf (beth yw hyny ?). Mae lie i ddiwygio. Am y cynghsrdd buasai yn addurn i unrhyw Eisteddfod Genedlaethol. Yr oedd Maggie Davies fel angyles fach yno Maldwyn yn siglo'r nefoedd a'r ddaear hefyd; ac "Emlyn dowch i'r amlwg," chwedl Hwfa, cyn gystal a'r un baswr a glywais erioed Yr oedd y caneuon Cymreig yn trydanu y dorf fawr. Diolch i gyfeillion Corwen am ddarparu gwledd fel hon. Ychydig a glywais am Eisteddfod y Glyn. Wilfrid Jones oedd yn beirniadu yno, a symol oedd yr hwyl. Drwg iawn gan fy nghalon i ddeall am an- ffawd Pwyllgor Eisteddfod Llandudno. Mae fy nghydymdeimlad gyda hwy. Ond dyma chwi gan mai Salm Bvwyd fq yn achos angau i'r Eisteddfod, onid teg fuasai disgwyl i awdwr y "Salrn" hono droi i anadlu yn ffroenan try sorfi y pwyligor hwn ? Dylasai ar bob cyfr:f gynal cyngherddau ar nnwaitb yn y gwahanol ardaloedd lie mae adranau o'r cor mawr, a gwneud y pum' cant i fynu. Nid gweithred o drugaredd ond gweithred o ddyledswydd fuasai byny. N08 Sadwrn. SAMWEL JONES. --u--

Cymru yn y Senedd.

"TY WEDI YMRANU "