Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

CWRS Y BYD

Cwisg yr Archdderwydd.

Gwibnodlon o Ddyffryn Maelor.

Cymru yn y Senedd.

"TY WEDI YMRANU "

News
Cite
Share

ddaw ffyniant byth o siomi, ac anmhosibl yw i werin ddeallus ymddiried mewn Llyw- odraeth sydd wedi ei thwyllo ag addewidion teg. Hyn yn ddiau yw'r rheswm crvfaf dros y cyfwng y mae'r Llywodraeth ynddo'n awr. Ac os ydys i farnu oddiwrth y digwyddiad- au a gymerasant le yn Nhy'r Arglwyddi yn ystod yr wythnos ddiweddaf, gyda phriodoldeb y gellir dweyd am y Ty breint- iedig a gormesol hwnw tynged a'i har- wain i ddinystr, ei nerth a balJodd, ac yn ngvvrthryfel ei dylwyth ei hun y mae sicrwydd ei dranc yn amI wg yn fuan neu'n hwyr. Er's llawer blwyddyn bellach, teimlwyd nerth y ddn werinol yn Nhy'r Cyffredin, ac y mae ei dylanwad wedi newid llawer ar agwedd y Ty hwnw at y bobl. Nid oes graig na chlawdd all atal cwrs cyf- iawnder ac nid yw'r cyfwng y mae'r Ar- glwyddi ynddo ond prawf o hyn. Gorch- fygwyd y Llywodraeth bedair gwaith mewn un wythnos-ffaith sydd bron yn ddigy- ffelyb yn hanes y Ty annghyfrifol. Gyda Mesur Llafurwyr y Werddon y caed yr anhawsder cyntaf. Yn y mesur hwn ceid un adran a wrthwynebid yn gryf gan Ryddfrydwyr a dosbarth o Doriaid yn Nhy'r Cyffredin. Er mwyn ei ddwyn yn ddeddf, diddymwyd yr adran hono. Ond pan aeth y mesur i'r Ty pendefigaidd, mynai larll Arran ddodi'r adran yn ol. Gwrth- odwyd dod i un cytundeb, ac aed i bleidlais arno. Y canlyniad oedd i'r Wrthblaid gael mwyafrif o chwech. Nid oedd hyn yn ddigon o wers i'r tirfeddianwyr, a mynent eilwaith fyned i ormod rhysedd. Nos Iau, daeth Mesur Tir y Werddon gerbron, a gorchfygwyd y Llywodraeth deirgwaith gyda'r mwyafrif i'r Wrthblaid yn 58, 47, a 19. Nid oedd y mwyaf aiddgar yn disgwyl hyn, a daeth cwmwl o bryder i wyneb y Prif Weinidog wrth weled ei gefnogwyr yn rhengau'r gelyn ac yn gwneud y fath ddifrod ar fesur oedd wedi derbyn ei fendith ef a'i Weinyddiaeth. Llwyddwyd i basio'r mesur-neu'r gweddillion ohoio-nos Lun, pan y darllenwyd ef am y drydedd waith ond os mai mesurau clytiog, darniog fel hyn yw ffrwyth athrylith y Weinyddiaeth a chynyrch y peiriant Toriaidd, goreu po gyntaf i lywodraeth y wlad gael ei newid ac i'r awenau gael eu rhoddi yn nwylaw rhai svdd mewn cydymdeimlad liawnach a chyffyrddiad agosach ag angenion a dyheu- adau v werin- Boed y gweaCl mor gywram N ag y bo, nid yw unrhyw fesur ddaw drwy ddwylaw'r Toriaid o nemawr fudd ond i'r tirfeddianydd. y person, neu'r tafarnwr. A foddlonir ysbrvd gwerinol yr oes hyd nes y dychwel y Rhyddfrydwyr i awdurdod ? Gwers fawr y cyfwng diweddafhwn yw "Ty wedi ymranu yn ei erbyn ei hun, ni saif." -0