Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

JOSEPH HARRIS.

News
Cite
Share

JOSEPH HARRIS. AR gyfer dydd Llun diweddaf, 7lain mlyn- edd yn ol (Awst 10, 1825), y bu farw un y gellir ar lawer cyfrif ei ystyried yn dad llenyddiaeth gyfnodol Cymru, sef Joseph Harris (Gomer). Gweinidog enwog gyda'r Bedyddwyr yn Abertawe oedd Gomer. Er fod ei rieni yn bobl "cynes arnynt," fel y dywedir, ni chafodd eu mab hwn fawr iawn o addysg yn more ei oes, ond a gynullodd Lrwy hunan-ymroddiad a chryn anhaws- derau. Pan anwyd ef. sef yn y flwyddyn 177.3, nid oedd yr un cyhoeddiad cyfnodol o fath yn y byd yn yr iaith Gymraeg. Dair blynedd cyn hyny gwnaed cais teg i sefydlu misolyn o'r enw Eurgrawn Cym- raeg. Daeth y rhifyn cyntaf ohono allan Mawrth 3, 1770, a'r olaf Medi 15 o'r un flwyddyn. Y Parch Peter Williams, yr esboniwr," oedd ei brif olygydd, a Ross, Caerfyrddin, oedd ei argraphydd. Ym- jdangosai bob pythefnos, a'i bris ydoedd 3c. Cynwysai pob rhifyn 32 tudal., wedi ei drefnu yn bedair adran o wyth tudal. bob un—iaf, Hanes Cymru 2il, Hanes Cyff- redinol 3ydd, Barddoniaeth 4ydd, New- yddion y Dydd. Ond er cywreinied ei gynllun, rhadloned ei bris, a theilynged ei gynwys, trengodd yn chwe mis oed o ddiffyg cefnogaeth. Aeth 23ain mlynedd heibio cyn i undyn fagu digon o wroldeb i ymosod ar y gwaith drachefn, ac yn 1793, ymddangosodd y rhifyn cyntaf o'r Cylchgrawn Cymraeg. Er nad oedd hwn ond wyth tudal. mwy nag oedd yn yr Eurgrawn, a'i bris yn 6ch—gymaint arall a'i sylfaenydd, ni chy- hoeddwyd ohono ond pum' rhifyn. Bu farw mewn ysbryd rhagorol iawn dyma ei eiriau olaf:— Byw fyddo'r Brenin; duwiol fyddo'i deulu; doeth fyddo'i gynghorlaid union fyddo'n Senedd- wyr; cyfiawn fyddo'n Barnwyr; diwygio wnelo ein gwlad heddwch gaffo'r byd. Amen. Yr oedd misolyn allai farw a'r geiriau yna megys ar ei wefus yn haeddu byw yn hwy. Chwe' blynedd yn ddiweddarach (yn 1796) y gwnaed y cais nesaf, a gelwid y misolyn hwnw Y Geirgrawn. Yr oedd Gwallter Mechain, Peter Bailey Williams, Dafydd Ddu Eryri, a John Jones o Lanygors, yn gohebu i'r Geirgrawn; ond ni chyhoedd- wyd ond naw rhifyn ohono. Yna aeth tair blynedd heibio ac yn 1799, cyhoedd- wyd y rhifyn cyntaf o Trysorfa Ysprydol, tan olygiaeth y Parchn Thos. Charles a Thos. Jones o Ddinbych. Hwn oedd yr unig gyhoeddiad cyfnodol yn yr iaith Gymraeg ar ddechreuad y ganrif, ac an- wadal oedd ei ymddangosiad yntau. Cy- hoeddwyd tri rhifyn ohono yn 1799 dau yn 1800 ac un yn 1801. Dyna'r gyfrol gyntaf, a'r oil o'r Drysorfa Ysprydol. Yna bu yspaid o wyth mlynedd ac yn 1809, daeth tri rhifyn allan, dau yn 181Q, dau yn 1811, tri yn 1812, a dau yn 1813, yr hyn a gwblhaodd yr hyn a elwir yn ail gyfrol. Yn 1819, ail ddechreuwyd ei chyhoeddi, a hyny yn rheolaidd bob chwarter, a'r ( flwyddyn ganlynol newidiwyd yr enw o'r 'Drysorfa i Goleuad Gwynedd. Yn y deng mlynedd cyntaf o'r ganrif, gwnaedpedwarcaisarallisefydlucylchgrawn Cymraeg.ac un ohonyntyn unig fu'n llwydd- ianus. Yr un hwnw ydyw'r Eurgrawn Wesleyaidd. Ni phallodd yr Eurgrawn er's 87 mlynedd a lloni yr aelwyd Wesley- aidd yn Nghymru yn gyson bob mis. Y mae cofiantau ei ysgrifenwyr a'i ddarllen- wyr cyntaf, yn ol deddfau byw a marw, wedi prudd addurno ei ddalenau er's llawer blwyddyn bellach, acail a thrydydd genedl- aeth o'i ewyllyswyr da wedi mwynhau ei wleddoedd, a myned ymaith i roi lIe i eraill, ond pery yr hen gyhoeddiad hybarch mor flasus ag erioed. Y tri chyhoeddiad eraill y cyfeiriwyd atyntoedd Greal Llundain, tan olygiad y llengar Ddr. W. Owen Puw. Cyhoeddiad chwarterol oedd hwn, a phar- haodd o 1805 hyd 1807- Ystyrir ei naw rhifyn, wedi eu rhwymo, yn drysor mewn llyfrgell- Pan ddaeth Joseph Harris a'i rifyn cyntaf allan o Sereii Gomer, nid oedd yr un cylch- grawn yn yr iaith ond yr Eurgrawn Wes- leyaidd. Yr oedd y Drysorfa, fel y cryb- wyllwyd, wedi ei hatal yn 1813. Ar y dydd cyntaf o Ionawr, 1814, cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Seren Gomer. ac ymddang- osodd yn rheolaidd hyd Mehefin, 1815 (85 rhifyn wythnosol). Mae yn annichonadwy amgyffred yn y dyddiau hyn lafur aruthrol y golygydd hybarch yn gorfod darpar o wythnos i wythnos yn nghanoi amryfal oruchwylion eraill ddigon o ddefnyddiau i lanw dalenau cyhoeddiad o'r natur yma- oedd yn fath o newyddiadur a chylchgrawn, unedig. Yr oedd ganddo rhyw nifer o ohebwyr caredig yn ei gynorthwyo yn ol eu gallu ond yn fynych deuai goheb- iaethau i law yn Saesneg gyda chais ar i'r gol. eu cyfieithu i iaith y Seren. Ac nid oedd dim caledwaith yn ormod ganddo am y gallai gynysgaeddu ei gydgenedl a. chy- hoeddiad teilwng o'u cefnogaeth. Ond er ei holl lafur a'i anhunedd, trodd yr antur- iaeth mewn ystyr fasnachol allan yn fethiant galarus, a rhoddwyd hi i fynu yn mhen deunaw mis, a'r golled dros fil o bunau. Fuasai neb yn disgwyl yn amgen, ar ryw ystyr nid pob un o'n cydgenedl allai ddarllen yn yr oes hono, a'r rhai allent, nid oedd ganddynt bres nac awydd i brynu ac yr oedd moddion trosglwyddiad mor brin ac anhylaw. fel mai trwy gryn anhawsder y gallai'r sawl geisient y cy- hoeddiad ei gael. Ond ni thorodd y siomiant a'r golled hon mo galon y golygydd arwrol. Cyhoeddodd yn nesaf fisolyn 6ch o'r enw Greal y Bed- yddwyr gan apelio at ei enwad ei hun, ond leied oedd y gefnogaeth gafodd i'r antur- iaeth hon fel y rhoddes hi i fynu ar ol y rhifyn cyntaf. Apeliodd drachefn at ei genedl yn gyffredinol trwy gyhoeddi cylch- grawn cenedlaethol o'r enw Sereii Gomer, yr hwn a ymddangosodd gyntaf Ionawr 28, 1818, a phob pythefnos. Dyma y rhifyn hwnw ger ein bron. Cynwysa 16 tudal. 8plyg, a'i bris ydyw 3c. Ar ei ddechreu, ceir cais taer y gol- hybarch am gymhorth ei gydgenedl i gadw iaith eu tadau yn fyw ac i ledaenu gwybodaeth yn Nghymru. Cyflawnodd Joseph Harris ei ran ef o'r gwaith yn ardderchog, ac ystyried ei an- fanteision gweithiodd yn galed, ymlynodd wrth yr amcanion teilwng a osododd o'i flaen. Cododd ei fachgen talentog a rhyf- edd Ieuan Ddu, yn gymhorth iddo, yna yn gyfaill, wed'yn yn eulun yna chwyth- odd gwynt oer angau ar y llanc, a gwywodd fel glaswelltyn. Bu farw Rhafyr 3, 1823, a'i ddalen yn ir gan y wawrddydd a'r gwlith." Hyfrydwch fy llygaid," tlws fy enaid." fy addfwynaf John," fy an- wylaf Ieuan Ddu," dyna fel y sonia: am dano. Canodd farwnad iddo nad oes yn yr iaith ddim byd mor effeithiol ei bleser oedd poeni yn ei gylch analluogwyd ef i wneud dim ond galaru ar ol ei fachgen a hiraethu am fyn'd ato a chafodd ei ddy- muniad, fel y dywedwyd, Awst 10, 1825, ac efe ond 52 oed. Yr oedd Gomer, fel y gwelir, yn un o ragredegwyr Llenyddiaeth Gymreig, cystal ag yn un o'i merthyron. A raid 1 ni tybed ofyn maddeuant darllenwyr newyddiadur Cymraeg yr oes hon am gyfeirio mor gy- hoeddus a hyn at ddydd gwyl sant mor deilwng ?

"TY WEDI YMRANU "