Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Y Cynadledd Wesleyaidd.

Ffestiniog.

Darganfod Clo ger Fflint.

Ebion o Nant Conwy.

Fe ddywedir

News
Cite
Share

Fe ddywedir NA chaniateir i bersonau beb eu buchfrechu bleidleisio yn Norway. Mai yn y trwyn y mae Hid yn Cirtrefu yn ol ysgrifenwyr Hebreig, Lladinaidd, a Groegaidd. Nad oedd ond 5 250,000 o bobl yn siarad Saesneg yn 1801 fod 70,000,000 ohonynt yn awr. Fod cyfartaledd oes dyn, yn ol ystadegau di- weddar, wedi cynyddu 5 y cant yn ystod y 2& mlynedd diweddaf. Fod gwr o'r Almaen yn cyfrif na fydd ond un dyn ar gyfer 230 o ferched yn mhen 3,000 o flynyddau. Druan oedd y dyn hwnw. Fod yn India 2,000,000 o weddwon rhwng 10 a 14 mlwydd oei, a 80,000 dan naw oed. Fod gorsaf-feistri yr Almaen yn gwertbu cwrw, a'r elw oddiwrtho yn rhan o'u cyflog. Fod gan Dywysog Cymru law i un o ferched Pharaoh yn ei feddiant. Y rhoddid y cowpog ar flien y trwyn yn China 40 mlynedd yn ol. Fod y blod'yn mwyaf yn y byd yn tyfu yn Sumatra. Mesura 39 modfedd o amgylchedd, ac y mae yn ddigon mawr i gynwys cbwe chwart o ddwfr. Y byddai'n arfer yn ngwlad Groeg oesau'n ol i roddi darn arian dan dafod y marw er tain ei gludiad dros afon angau. Y dysgir plant yn Japan i ysgrifenu gyda'u dwy law. Fod yn yr Amgueddfa Brydeinig lyfrau wedi eu hyagrifenu ar briddfeini, llechi, ctegyn, esgyrn, ifori, lledr, plwm, haiarn, pres, coed, &c. Hefyd y mae yno dri Beibl wedi eu hys- grifenu ar ddail palmwydd. 0:

Achos o Ysgariad o Ogledd…

Arholiadau Undeb yr Annibynwyr.