Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
ESTABLISHED 1853 OWEN ROBERTS. ESTATE AGENT, 33, Netherfield Road South, Has large and small Dwelling-houses to Let in various parts of the town. (F G. H. EDWARDS & Co., 16, LORD STREET, ESTATE AGENTS, Have Cottages to LET in various parts of the town, renting from 2/6 to 8/6 per week, clear of taxes. Also larger houses at higher rents. H. E WILLIAMS. 10, CONYERS STREET, ESTATE AQ-ENTi HAS large and9mall Houses To Let in various parts of the city and uburba. Houses bought and sold. Mortgagen arranged, Jso. (F JOHN WILLIAMS. —Estate Agent,— LOMBARD CHAMBERS, 159 KIRKDALE RD. All classes of House and Shop Property carefully and ec- momically managed. Sales and Purchases effected with promptitude. Mortgages arranged and Insurances effected,(F HENRY JONES, ESTATE & MORTGAGE AGENT, 117, EVERTON ROAD, LIVERPOOL. Rents Collected. Mortgages Arranged, TELEPHONE No. 1779. — ■ I Tha Liverpoot Land Company, Limited TO BUILDERS, &c.—To be Sold, Freehold and 999 vears' Leasehold LAND, in lots to suit purchasers, in Garston, Kirkdale, Walton, Bootie, and Seaforth. Liberal advances will be made to Builders. Property letting well in all the localities.-Apply to E. OWEN, Secretary, LIVERPOOL LAND COMPANY, 22, LORD STREET. 0. & D. WILLIAMS, Too & Brass Founders, Engineers, Millwrights PULLEYS OF VARIOUS SIZES IN STOCK, Tool Makers, eke., METAL AND HARDWARE MERCHANTS Wovks-TAYLOR STREET, OfEce and gs-402 & 404, Scotland Rd. LIVERPOOL. Kitchen Ranges, Cast Iron Gates, and Railings; Hot "Water, Green Houses, and Sanitary Engineers; Williams eataut Winding and Adjusting Sun Shade for Shops, &c.; Baker# Oven Stocks, Confectioners Ovens, Chaffers, Boxes, Tiife Bars, &c.; all sizes of Gate Runners, &c. -4 CYRN CYRN 11 CYRN I I I MAE BUNODION BENSON EVANS Yn rhoddi esmwythad ar unwaith i GYRN poenus, ac yn eu aymud yn mewn /chydig ddyddiau. Symuda hefyd DDEFAID y dwylaw a'r bysedd, tyn ymaith enyniad a gwres o BUNIONS gan eu gwneud yn iach a diboen. Gwerthir mewn potelau 7ic a Is. 1to.! yr un. Danfonwch am botel—mae'n feddygin- iaeth anffaeledig. G AST RO 0 Y N E BENSON EVANS, Yr uuig feddyginiaeth effeithiol i Ddiffyg Treuliad, Poenau ar ol Prydiau, Llosg-galon, Biliousness, &c. Derbyniwyd miloedd o gymer- adwyon i'w effeithiolrwydd rhyfeddol. Mewn Poteli, Is. lc. a 28. 6c. yr un. T. BENSON EVANS, High Street, Dinbyoh. j R. WHSTTINGTO N Tailor & Habit Maker (25 Years Practical Experience), 45, BYROM STREET LIVERPOOL. All Garments Cut and Made on the Premises, in well-ventilated Workrooms. Gymry! dewch at Gymro. CWMNI YSWIRIOL Y PRUDENTIAL (CYFYNGEDIG). TRYSORFA DROS R20,000 000 AGENTS addas ychwanegol yn eisiau— Y mofyner A J. W. JONES, Prudential Offiice Caernarfo Messrs GRIFFITHS & DAVIES, 398, SCOTLAND ROAD, Being the largest Draper in the North End of Liverpool, are now cone- jntrating all their attention to the following Depa: "• merits, viz. :— Dresses. Drapery. Fancies,. Haberdashery. H osiery. M antles. Boys Clothing. Pa perlianging. Underclothing. Furs. —AND— Millineiy. m 1 < e De partments wil be found the Newest and most Stylish Goods of the Season at moderate prices. GRIFFITHS & DAVIES, 398, Scotland Road. F XA CURE FOR BRONCHITIS HTT for the Young; and Old, A. THINK of the thousands of Cbildren who suffer every year with Bronchitis without receiving permanent relief. Notwithstanding many remedies given them, their systems are still weak, and every spell of had weather brings anxiety to the parents. In all damp climates such as this country is subject to, people are inclined to Colds, Coughs, and Affection of the Throat and Lungs. The climate taxes those who are strong, while the weak suffer. TUDOR WILLIAMS' BALSAM OF HONEY is made of Pure Welsh Honey and the Finest Vegetable Preparations. In no other form is to be found the perfect combination of this valuable Nutritive and Curative Remedy. ARGEST SALE OF ANY COUGH m EDICINE IN THE WORLD. QVEHWHELMING TESTIMONY. IT IS MORE THAN" GOLD TO ME. My wife desires me to convey her best wishes for the success of your TUDOR WILLIAMS' BAL- SAM OF HONEY. It has been of great benefit to our little ones, who suffered from Bronchitis and Coughs during the last two most inclement winters. It gives them instant relief. Further, our medical attendant, Dr. Jones, quite concurs in the frequent use of the Balsam when occasions require.—Yours faithfully, JOHN WALTER MORGAN, Brynhoulog House, Hirwain. Sold by all Chemis'-s and Stores in ls, Illd., 2s. 9d., and 43. 6d. bottles. Sample bottles sent (post paid) for Is. 3d., 3s., and 5s., from the Inventor— D. rjiUDOR WILLIAMS MEDICAL HALL, ABERDARE. PAPAYANN! STEAMSHIP COMPiwv, LARGE AND POWERFUL BRITISH STEAMBIS Sail regularly to the LEVANT, BLACK SEA, EGYPT CYPRUS, ALGERIA, MALTA, and other Mediterrar ean Ports, taking the,following two routes alternately:— (1) MALTA, SYR A.SMYRNA, CONSTANTINOPLE, and ODESSA. Calling often on the return journey at several Ports on the Asiatic Coast of the Black Sea, Greece, and Spain (2) ALGIERS, MALTA, ALEXANDRIA, CYPRUS BEYROUT, and ALEXANDRETTA. Calling occasionally on the homeward voyage at Spanish Ports. No over-crowding. Superior accommodation. Lofty well ventilated Saloons and State-rooms. Stewardess carried. Safety. Home comforts. Good and liberal table. Modeiate fares for single and return tickets, and no extra charge for living on board during ships'stay at Ports. Tourists and pleasure-sekers taking a trip by this Line v ill find it most enjoyable and interesting For further particn are, apply to PAPAYANNI & CO., Fenwick Chambers, Liverpoo LLINELL Y WHITE STAK. 'I ROYAL MAIL STEAMERS. LERPWL I NEW YORK via, QOEENSTOWN, B(B DYDD MERCHER:- GERMANIC Awst 19 *TEUTONIC Awst 26 Ni chludir cotwm ar yr un agerdcUong ag ymdeithwy r A arwydda y ctudir yn yr Ail Gaban ar y fordaith Piis y cludiad ydyw £ 7 5s i £10 yn ol 'yr Agerddlong, y Tymhor, a'r lie i deithwyr. Y mae y Llongau rhagorol hyn 1 gyd o'r dosbarth uchat, yn unffurf o ran cynllun « threfniadau, ac yn ddigyffelyb mewn mordeithiau. Ni chelr gwell oyfleusdra i fordoithwyr. Am fanylion, ymofyner 1. R. Owen, Ship & Iv surance Broker, a W. J. Williams, Heol y Farchnad Caernarfon; neu a R. Roberts, Bethesda; Owen E. Parry, masnachydd llechi, Dolwyddelen; David Rowlands, Penvgraig W. D. Jones, Old Bank Caergybi; Jos. Francis, 5 Glanhwfa roa.d, Llangefn R. G oberts,Rock Cottage, Craigiau Mawr Tan ysarn; Hugh Hughes, 7, Market Row, Amlwch W. Williams Shoe Warehouse, Llanrwat Matthew Goldie, 217, High Street, Bangor; R. C Evans, 1, Miaafon, Dolpelly; neu ag ISMÁv lmalp &Co., 34, Leade nhal Street, Llundain, E.C., a Water Street, Lerpwl. CHAS. R. HALL, GENERAL LETTEBI CUTTER £ ] ENGRAVER 53 PARADISE STREET, LIVERPOOL. ANUFACTURER OF BURNING BRANDS, STENCIL PLATES, RUBBER STAMPS, BRASS PLATES, &c.
Y Chwarelwyr a'u Gyflogau.
Y Chwarelwyr a'u Gyflogau. GWNAKTH chwarelwyr Bethesda gais am gael ym- ddyddan ag Arglwydd Penrhyn parth eu cyflogau, ac i osod gerbron amryw gwynion sydd ganddynt Ddydd Mercher, anfonodd Mr E. A. Young, y prif oruchwyliwr, y llythyr canlynol at Mr Robert Davies. a chwech o chwarelwyr eraill a flfuifiai t Bwyllgor y Gweithwyr Ar fy nvchweliad i'r swyddfa wedi bod yn absenol am ychydig ddydd- iau, cefais eich llythyr dyddiedig Uorph. 31 yn gofyn am gael ymddyddan gydag Arglwydd Pen- rhyu. Y mae genyf yn awr i'ch hyabysu y bydd Arglwydd Penrhyn yn barod i dderbyn y ddir- prwvaeth yn y swyddfa hon ddydd Llun, y 17eg cyfiaol, am 11 o'r gloch y bore; ond rhaid i mi ofyn i chwi fod cystal a'm cyflenwi a. mynegiad ysgrifenedig o fewn y dyddiau nesaf, yn gtisod allan fanylion y I ewynion a'r gofynion y soniweh am danynt yn eich llythyr. (Arwyddwyd) E A. YOUNG, Forth Penrhyn, Bangor, Awst 5, 1896.
--- : o_: Barddoniaeth.
o_: Barddoniaeth. ROBERT BURNS. AwENfOL awdwr o galon lydan, A hynaws ddoniau, oedd Burns, ddi-hnnan O'i wladaidd ddullwedd ymledodd allan Yn ddyn y cewri, heb nawdd nac arian Aiiwvlai'i genedl mewn hwyliog a,nia,n, A nawn ei fywyd ddaeth arno'n fuan Ond awen gafodd, a'r byd yn gyfan A'i hanrhydedda, werinwr diddan Rheda'r gwir o hyd drwy'i gAn,-bai-dd natur Barha'n siriolbur yw Burns yr Alban. Dinbych. TKEHOH ALKD. "GWEN DEG A GWENWYN DANI." Ryw adeg annedwydd yn banes y byd, Aeth Die hell a Chelwydd i ymdaith yn nghyd Ond trodd y briodas yn hynod ddihedd, Am fod y ddau ellyll mor hagr eu gwedd. Anhwylus druenus fu undeb eu serch, 'Roedd Celwydd mor blagus nes ganwyd eu merch; Miss Gwen Deg a. Gwenwyn Dani oedd hon, Ac ni fu 'run plentyn yn edrych mor lion. Ei mham fu'n ei maethu ar fronan 0 frad, A thyfodd i fynu yn eilun ei thad Fel aeres y teulu, aeth allan i'r byd, Yn fedrus i wenn-a gwanu 'run ptyd. Aetb Gwen Deg a, Gwenwyn Dani i'r daith, A'r diafol i'w chanlyn yn llywydd y gwaith 'Roedd hithau, fel diafol, yn gwylio y gwan, Ac yn hollbrefcenol, fel yntau, 'n mhob man. Nid oes 'run hanesydd yn gwybod pa bryd Y daeth dros y Werydd i Gymru fach glyd Mae yma er's oeeoedd, ond md yw yn hen, Mae p\\ ysau blynyddoedd yn gloewi ei gwen. Yn awr mae yn unol a ffasiwn yr oes I wenu'n rhagrithiol a meddwl yn groes Yn gochl barchedig i guddio y blaidd, Ceir gweniaeth fonheddig a brad wrth ei gwraidd. Yn nghylchoedd uwchafiaeth mae gweniaeth mor [fwyn, Yn toddi dynoliaeth fel cwyr dan ei swyn Ae o dan ddylanwad hudoles mor gall, Mae llawer yn siarad fel pe baent yn ddall. Ai teg ydyw tybied fod brad dan ei chroen ? Mae'11 edrych mor ddeled, mor fwyned a'r oen Rhag ini ddifenwi hudoles mor lap, Caiff tystion ei phrofi cyn gorphen y gan. 11 Bu genyf gymydog yn wen hyd ei droed A chyfaill mor serchog ni welsoch erioed Dadlenais gyfiimon fy nghalon i gyd I gyfaill mor dirion, heb feddwl dim byd. Ond clywais yn fuan ystori fach ddel Fy irod yn ddi-arian—yn byw fel ar fel, Fy mod rhy sigledig a llawer rhy wan Fol aelod eglwysig mewn capel na llan. Aeth Gwen Deg yn dirion at feistr y tir, A d'wedodd y straeon 'run ffunud a gwir Ce's rybudd i gychwyn na wyddwn i b'le, Daeth Gwen Deg â Gwenwyn i fyw yn fy lie. Mae Gwen Deg a Gwenwyn o Dani 'mhob oes Y n cynllwyn yn erbyn anrhydedd a moes Hiid-d(lenet,'r torwynig brydweddol a I)htir I Iwybrau twylledig gofidiau a chur Svrth rhywun o rengau moesoldeb o hyd Yn aberth i wenau Judasiaeth y byd. GWAENF.VH. YR ORSEDD YN NGHORWEN. ErN Gorsedd anrhydeddwn,—yn dda feirdd Ei hardd Faen a barchwn Er ein taeru anturiwn Ddymuno hedd y Maen hwn. Y rhawg awenwyr Gwynedd—am ein Maen Emynant mewn ceinedd; Is anwyl swyn wele sedd- Grisialog eursail Gorsedd. Goroesodd noi ein Gorsedd ni—erys Yn iraidd i weini; A mwyn, wen oes ddymunwn i Hwfa Moii hefo'i meini. Hen Orsedd, a'th gledd, cei glod A nawdd Ian y gan ddi-lyth, Dy hardd Faen adrodda fod Vr Hwfa fawr i fyw fyth ELFYN. _I r.
IRHAGFARN.
X-i Gwersylla Gwirfoddolwyr sir Ddinbych a'r 'Mwythig yn y Foryd, ger y Rhyl. Rhifant dros 2,000. RHAGFARN. MAE yn tfaith hynod, ond gwir, fod canoedd o bobl yn glynu mor gyndyn wrth yr hen syniadau fel na roddant brawf ar unrhyw nwydd neu gynllun newydd gynygir i'w sylw, beth bynag fydd ei ragoriaeth. Nid yw hyn yn iawn. Dylai pawb ohonom yst.yried a cheisio sylweddoli ein bod yn byw mewn oes_ gyn- yddol, oes y gwelliantau, ac oes y darganfyddiadau. Mae lledaemad cyffredinol addysg wedi dwyn dargan- fyddiadau lluosog a phwysig yn y gwahanol wyddorau. Dymuuwn alw sylw pawb sydd yn canfod mai yn y blaen mae yr oes yn myned at y meddyglyn anmhris- iadwy hwnw sydd yn gyd-gasgliad godidog o'r hyn sydd feddyginiaethol yn holl brif-lysiau y byd llys- ieuol, sef Quinine Bitters Gwilym Evans. Mae pawb sydd wedi rhoddi prawf teg arno yn gorfod cydnabod ei rinweddau a'i deilyngdod, ac yn rhoddi y ganmoliaeth uchaf iddo. Meddyglyn hollol lyaieuol yw, a chynwysa rinweddau lachaol ac adgryf- haol Quinine, Sarsaparilla. Saffrwn, Lafant, Danty- llew, Gynghaw, Crwynllys, ac amryw chwerw-lysiau a melus-lysiau rhagorol eraill. Gocheler efelychiadau ohono. Gwerthir mewn poteli 2s 9c a 4s (Jo yr un, gan bob fferyllydd, neu drwy y post am y prisiau uchod yn uniongyrchol oddiwrth y gwneuthurwyr— Quinine Bitters Ylanufacturing Co., Limd., Llanelly, South Wales.
CATRIN PRISIARD
CATRIN PRISIARD Gan Miss WINNIE PARRY. PEN. XXVIII -AR GAM GYHUDDIAD. YR oeed gwas yn Ty Fry o'r enw Wil Parri. Nid oedd teimlad rhy garedig yn bodoli rhyngddo ef a Robin. Rhoddwsai yr hwsmon wers iddo am rhyw esgeulusdra perthynol i'w waith, ac nid oedd Wil wedi annghofio y geiriau miniog ddisgyrasaut gyda'r \ên ddirrnygus tros wefusau teneuon Robin. Pan ymadawodd John Prisiart o'r fferm, tytid gau bawb y byddai i Robin hefyd ymadael a cheisio gwaith yn rhywle arall, achos yr oedd yn beth annghytfredin i hen wasanaethyddion aros yn yr un lie o dan feistriaid newvddion. Ac yr oedd Wil hefyd wedi meddwl yn sicr y buasai Robin yn myioed, ac wedi adeiladu llawer ar hyny, gan dybio y byddai iddo gael ei le yn hwsmon oherwydd nid oedd Wil wedi bod yn Nhy Fry rhyw lawer dros fiwyddyn, ac felly ni chyfr ifid ef megis hen was. Ond er ei fawr ddigofaint a'i siomiant, arosodd Robin yn Nhy Fry. Robin yn Nhy Fry. Noson y tän, pan yr oedd t\Vr o ddynion a bech gyn yn ceisio gwneud yr hyn a allent cyn dyfodiad y tan ddiSoddw yr, codwyd cyllell oddiar lawr o fewn ychydig latheni i'r das oedd wedi dechreu cynu gyntaf ac wrth ei threiglo o'r naill law i'r llali, teimlid cryn ddyddordeb ynddi, gan fod paub yn edrych arni fel yn pert.hyn i'r un oedd wedi cychwyn y tâu-oherwydd amlwg ydoedd mai nid yn ddamweiniol y dechreuodd y tan. Ad- nabyddwyd hi gan un o'r gweision fel cyllell Robin yr hwsmon, ac yn sydya sylwyd nad oedd yr hwsmon yn eu mysg. Ond daeth y psiriant i fynu cyn iddynt wneud ychwaneg o ymholiadau, a gwe thiwyd yn egniol i gadw y tan rhag ymyryd a'r hen dy, er nad oedd modd achub y teisi. Erbyn y boreu yr oedd y tan wedi ei ddiffodd. Yr oedd Wil Parri wedi cynorthwyo yn egniol, ond yr oedd meddyliau tywyll yn troelli yn ei fynwes, a chyllell Kobin yn sefyll fel canolbwynt i'r cwbl. Yr oedd heddgeidwad wedi tio(I gyda'r peiriant o Aberdoldy, a phan welwyd fod pobpeth yn ddy- ogel aeth ati i wneud ymchwiliad i'r achos. Yr oedd William Jones yn awyddus iawn am gospi yr hwn a gyflawnasai y fath ysgelerder. Nid yn unig colled y gwair oedd wedi ei brynu yn yr arwerth- iant a warafunai, ond yr oedd ef ei bun wedi cyf- arfod a damwain ddifrifol wrth geisio symud rhyw goed a bwysent yn erbyn mur y ty mewn sefyllfa rhy agos i'r tan. Syrthiodd un ohonynt ar ei goes, ac yr oedd yn gorwedd ar ei wely yn disgwyl i'r meddyg esgyrn ddyfod i osod yr aelod toredig yn ei le ond yn ei holl boenau yr oedd yn gallu gor- chymyn i'r heddgeidwad wneud ymchwiliadau manwl. Pan ddangoswyd y gyllell, ac v tystiodd amryw eu bod yn ei hadnabod fel cyilell Robin, daeth gwr o'r pentref a dywedodd ei fod ef y noson flaenorel wedi bod mewn cyngherdd yn y Pant- pentref rhyw saith milldir o Glanygors, a'i fod yn dvchwelyd rhwng dau a thri o'r gloch y b reu, a phan wedi gadael Ty Fry iddo gwrdd a Robin yr hwsmon yn cerdded yn gyflym yn y cyfeiriad hwnw, a'i fod wedi ei gyfarch gyda "Nosdawch," ond na chafodd ateb ganddo. Gwyddai pawb mai yn y pentref yr arferai Robin gysgu er pan ydoedd ei hen feistr vn alaf. Gwrandawai Wil Parri yn astud ar dystiolaeth y dyn yina, ac yna dywedodd fod ganddo ynfcau rywbeth i'w ddweyd. Wei, cerwch yn y'ch blaen," ebai yr heddwas, gan gymeryd ei enw. Rywbryd rhwng dau a thri bora ma mi ddaru mi ddeffro wrth glywad un o'r cwn yn cyfarth yn ddychrynllyd, a dyma fi'n codi i edrach be oedd. Mi es i lawr y grisia ac i'r buarth a phwy oedd yn dwad o rwth ochor y ty lie mae y teisi ond Robin yr hwsmon. Mi oeddwn i'n medru ei wel'd o, achos mi oedd y lantar gin i. Hylo, Robin,' rneddwn i wrtho fo, mi oeddwn i'n meddwl mai yn ty John Prisiart oeddat ti heno ? 0,' medda fynta, mi fuo mi yn Aberdoldy heddyw wyddost, a mi ddaru'r doctor roi rhyw bowdra i mi i John Prisiart, a mi ddaru mi annghofio i tynu nhw o bocad y nghot, a roeddwn i wedi gadael hono yn y car, a mae isio rhoi un ohonyn nhw iddo fo rwan,' a ffwrdd a fo ar frys mawr, a ddaru mi ddim medd- wl nad dyna beth oedd, a mi es yn f'ol." Yr oedd llygaid Wil Parri yn glynti yn y ddaear fel yr adroddai yr hanes ym. Cymerodd yr hedd- geidwad y dystiolaeth yn ofalus, cymerodd y gyllell i'w feddiant, ac aeth yn ol i Aberdold gyda'r tan ddiffoddwyr, ac yn y prydnawn dy" chwelodd gyda gwarant i gymeryd Robin, gwas Ty Fry, i'r ddalfa. Pan gafodd Robin ei hun yn sefyll yn y ffordd yn ngafael yr heddgeidwad, dywedodd wrtho nad oedd g nddo ef ddim i'w wneud &'r tan. Ydnch chi'n nabod y gyllell ma?' gofynodd yr heddgeidwaid gan ei thynu o'i logell. Nid oedd gan yr hwsmsn ddim i'w ddweyd. Oeddach chi ddim yn myn'd at Ty Fry rhwng dau a thri boreu heidd/w 1 Mi gwelodd Robert Ellis chi, ac mi gwelodd Wil Parri chi yn muarth Ty Fry tua'r un amser, ae mi fuo'n siarad hefo chi hefyd. Well i chi ddwad hefo fi heb neud twrw." Yr oedd Rohin wedi ei daro il mudandod. Nid oedd erioed wedi meddwl am hyn. Cofiodd y ewr oedd wedi ei gyfarfod ar y ffordd, Cofiodd dori y rhaff a'i gyllell. Yr oedd yn rhaid ei fod wedi ei gollwng ar y pryd wrth ymyl y dâs, ac fel y cerddai wrth ochr yr heddgeidwad i waelod y pentref-Ile yr oedd cerbyd yn eu disgwyl-a thrwy yr amser yr oeddynt yn cael eu gyru yn wyllt tuag Aberdoldy, yr oedd penderfyaiad mawr yn ffurfio yn meddwl yr hwsmon, a'r penderfyniad hwnw oedd peidio dweyd dim am yr hyn ddi- gwyddasai, ond gadael i'r gyfraith gymeryd ei chwrs gyd¡\ ef. Gwyddai mai celwydd bob gair oedd hanes Wil Parri,a gwelai mai dial arno yr oedd. Y dydd Sadwrn canlynol dygwyd ef o flaen yr ustusiaid, a bwriwyd ei achos i'r frawdlys, ac ar- weiniwyd Robin yn ol i garchar Aberdoldy i aros ei brawf ar dystiolaeth dyfod o hyd i'r gyllell a'r hyn a ddywedodd Robert Ellis yn nghylch ei gyf- arfod ar y ffordd yn unig, gan fod haner yr hyn a ddywedai Wil Parri o dan amheuaeth. Yr oedcl un. o'r gweision nad oedd wrth ymyl pan adroddai Wil ei stori wrth yr heddgeidwad wedi clywed gan rhywun beth a ddywedasai. Dywedai hwn ei fod yn cysgu gvda Wil Parri, a'i fod y nos Fawrth y digwyddodd y tAn wedi myned i'w wely â'r ddanodd yn dost arno, yr hon a'i cadwodd yn effro mai efe oedd wedi gweled fflachiad y tan gyntaf ar ffenestr eu llofft, a'i fod wedi deiTro Wil, yr hwn oedd wedi bod yn cysgu yn drwm o'r amser yr aethent i'w gwelyau-ddeg o'r gloch—hyd yr adeg y deffrowyd ef ganddo tua haner awr wedi tri, a'u bod hwy ill dau wedi myned gyda'u gilydrl ;'ddpfro v gweddill o'r teulu. (I barhau).