Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Undeb y Bedyddwyr Cymreig.I

DYDD MERCHER.

--0-rawiroichion.

IGWYLIAU HAF.

Llenyddiaeth.j

News
Cite
Share

Llenyddiaeth. PREGETHAU Y PARCHEDIG OWEN THOMAS, D.D. lJnn olYIJiad JOSIAH THOMAS, M.A., Liverpool: A. Wynne Thomas d-Co., Lord Street."—Prudd-fwynhad yw darllen y ayfrol hon. Wrth droi.pob dalen, daw adgofion fil am y gwr a'r wefus frwd fu'n traddodi y genadwri gyda'r fath north a.c ya sefyli yn rheng flaenaf pwlpud Cymru am haner canrif, ond sydd heddyw'n fud. Ac adgofion fel byn sy'n pylu mm beirniadaeth pe bae angen am dani a pharotacb yw'r adolygydd i drochi ei vsgrifell mewn dagrau nag i bigo brychau. I'r sawl freintiwyd a'r cyfle i wrando hyawdledd Dr. Owen Thomas, caffaeliad o'r mwysf fydd y gyfrol hon o bregethao ac ar y llaw arall, hwyrach y teimlir gradd o siomedigaeth os dis- gwylir ynddynt bortread cytiawn o'r Dr. ym- adawedig fel pregethwr. Prin y gall y meddwl Cymreig wahanu y bregeth oddiwrth y pregeth- wr—ac y mae personoliaeth, dawn, trydan, ac eneiniad y llefarydd bob amser yn cael eu cysylltu a'r genadwri draddodir ganddo. An- hawdd fuasai penderfynu pa un i'w edmygu fwyaf-ai dullwedd a dawn Dr. Thomas neu swyn a sylwedd ei feddyliau. Cydnebydd pawb ei fod yn bregethwr y werin—siarad a chalon gwlad fu gwaith ei fywyd, a phwy mwy effeithiol yn ei amcan ? Tafod aur a roddwyd iddo, hyawdl oedd ei ysgogiad, a marworyn brwd -1 oddiar allor y cysegr roed ar ei wefus. Ni cheir hyn yn y gyfrol hon, ond i'r sawl wertlifawroga feddyliau gloewon fel gwirionedd a nerthol fel awelon yr hen ddiwygiadau gynt, i'r sawl edmyga bregethau wedi eu cynllunio yn ogybyd, eu sylfaen yn gorphwys yn gadarn ar athraw- iaeth crefvdd Crist, pob maen yn ddetholedig ac wedi ei addnrao a, syniadaeth darfelydd ysbryd- ol, a'r pen conglfaen yn wblhad ar adeilad cyw- rain odidog, nid oes modd cymeradwyo gormod ar y gyfrol hon. Cair ynddi 26 o bregethau cyflawn a saith cynllun o bregethau. Dengys amrywiaeth y testynau gyfoethoced meddwl yr awdwr. Gwir fod mwy o arddunedd y mynydd nag o dlysni tyner y dyffrya i'w ganfod ynddynt mwy o wyntoedd nag o awelon a mwy o gedrwydd nag o flodaa. Ond meddyliaa dillyn ydynt oll-ac os bydd Sinai yn mygu nid yw hedd Calfaria nepell. Ac ni ehyfeil- iornem pe dywedem mai y cyfuniad hwn a osodai swyn ar y gwirioneddau a draethJli- ynddvnt mae Deddf a Gras yu amlwg, a Thru- garedd yn ymgofleidio a. Chyfiawnder. Y rhan- au fwyaf tarawiadol i ni yw'r diweddeban-yn mhob diweddglo ceir difrifwch sydd bron a'n llethu, ac y mae'r Dr. trwyddynt wedi marw yn llefaru eto." Gwnaeth y golygydd ei waith yn ganrnoladwy-ni thybiwn fod ei orchwyl yn fawr oherwydd gofal diball y Dr. i roi gwisg berffaitn am ei feddyliau, ond y mae'r wedd ddymunol a'r trefniant hapus yn haeddu i'r Parch Josiah Thomas deyrnged o glod, a theimla'r crenedl dan rwymedigaetb iddo am gyfoi-th.v?i ei Ilea a, chynyrch adclted athrylith ei frawd. Ni thybiwn yr e!ai pregethau Dr. Owen Thomas ar ddifancoll yn fuan—maent yn rhy ddyrchafedig i ddisgyn i anngbofrwydd ac yn rhy anfarwol i amser eu dileu. Maent wedi bod yn alln-parhant yn allu—yn mywyd ysbrydol y genedl, ond er mor werthfawr adgofion ac er mor felus yw myfyrdraethu am danynt, caffael- iad o'r mwyaf fydd y gyfrol hon a chynysgaeth anmhrisiadwy i'r oesau a ddM gael syniad am athrylith un o gewri pwlpud Cymru yn y 1ge ganrif. Mae diwyg y llyfr yn neilldnol o bryd- farth ac yn glod i swyddfa Mri J. Roberts a'i Feibion, Salforn. Ar y dechreu ceir darlun cywir o'r Dr., felly cyfleuir yn y gyfrol wedd ei wyneb a nodweddau ei feddwl, ac yr ydym yn croesawu'r "'waith i'n llyfrgell a haedcla le gan bob teulu Cymreig. C. --0--

Ebion o Nant Conwy.

YFWYR TE-DALIWCH SYLW.

Advertising