Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Cwibnodion olDdyffryn Maelor.

Barddoniaeth.

0 Fanoeinion i Aberystwyth.

MANCHESTER A'R CYFFINIAU.

Cohebiaethau.

News
Cite
Share

Cohebiaethau. CYNGHRAIR GLOWYR GOGLEDD CYMRU. SYR,-Mawr y dyfalu a'r dyfeisio sydd y dydd- iau hyn sut y trydd pethau allan. Gwelais manifesto y meistra.doedd wedi cael ei wneud i fynu gan Mr T. R. Ellis, ysgrifenydd y meistri. A chymeryd ton ei araith i ystyriaeth, a hyny heb fanylu arni, lied benderfynol ydyw. Dadleua Mr Ellis fod prisiau y glo o fewn terfynau y Cyng- hrair Cenedlaethol wedi gostwng ar gyfartaledd oddeutu 16 neu 17 y cant, ac felly eu bod o dan yr anfantais fwyaf i fedru cystadlu yn yr un farchnad a rhai sydd felly tu allan i'r Cynghrair Cenedl- aethol. Dyweda eu bod oherwydd y cyflogau uchel maent yn orfod dalu, yn colli llawer o alwadau am lo ac mewn trefn iddynt allu adenill yn ol y y galwadau maent wedi golli a chadw y safle y maent ynddi yn bresenol rhaid iddynt wrth ostyng- iad. Hefyd dywed Mr Ellis, er fod cyflog y rhai sydd o fewn yr undeb yn uchel, eu bod oherwydd gweithio ond ychydig ddyddiau yn yr wythnos yn derbyn llai o arian, fe ddichon, nag oeddynt yn gael cyn y codiad. Er fod hyn yn wir mewn Uawer man, nid yw hyn yn ddigon o rheswm dros gymeryd gostyngiad. Cyn yr un o'r codiad- au yr oedd yma lawer o bethau yr oedd y glowyr yn cael tal am danynt, ond erbyn hyn mae bron yr oil ohonynt wedi eu cymeryd oddiarnynt. Petb cyffredin yn yr ardaloedd hyn yw clywed am rai yn dweyd eu bod yn dyfod adref ar brydnawn Sadwrn hefo dim ond 9s i 10s am bedwar a phump turn o waith. Swm y glo godir sydd yn pender- fytu cyflog y torwr glo. Beth bynag fyddoy rhwystrau all fod ar y ffordd, nid oes dim allow- ances, fel byddis yn arfer dweyd. Yn y pethau hyn mae y gweithwyr wedi colli tir yn ddirfawr yn ystod y tair blynedd diweddaf. 'Doedd dim yn bosibl cyffwrdd a'r 30 y cant oherwydd y cytundeb, ond fe aed o amgylch pethau mewn ffordd arall-gostwng prisiau rhyw bethau a thynu. i ffwrdd bethau eraill yn hollol. 0, meddai y siopwr, maent wedi gweithio fel ar fel, maent yn cael hyn a hyn o gyflog. Bychan y gwyr ef fod y dyn druan wedi bod i lawr yn nghrombil y ddaear o chwech yn y boreu byd 3.30 yn y prydnawn am bedwar neu bum' diwrnod ac wedi enill dim ond 9s neu 10s. Eisieu talu 3s o rent, 6s yn weddill i fyned i wyddfod y siopwr a'i wyneb cuchiog wedi gorfod cael gwerth, efallai, o 18s i 20s. Pump neu chwech, efallai, o blant yn methu ymddangos mewn lie o addoliad ar y Sabboth Yn yr un capel ar y Sul mae y goruchwyliwr a'r dyn weith- iodd bum' turn am 10s, mae'r siopwr hefyd yn y set fawr, a rhwng y ddau mae'r gweithiwr druan yn methu codi ei ben. Mae'r pregethwr yn rhoddi emyn allan, a pha un ddyliech chwi ydyw ? Bydd, bydd, Rhyw ganu peraidd iawn rhyw ddydd Pan ddelo'r caethion oil yn rhydd. Druan o'r glowr. GLOWR. --0--

Ysgol Canolradd Beaumaris.

Advertising

[No title]