Hide Articles List

8 articles on this Page

Cwibnodion olDdyffryn Maelor.

Barddoniaeth.

0 Fanoeinion i Aberystwyth.

MANCHESTER A'R CYFFINIAU.

News
Cite
Share

MANCHESTER A'R CYFFINIAU. Am haner awr cvn anterth yr ydym yn cychwyn o'r Orsaf Ganol, Manceinion, yn un o'r cerbydau ysplenydd a dd«rparodd y cwmni o bwrpas ar gyfer y da bon. Nid oes yn yr un cerbyd ddim yn fyr ar gyfer cysur a chyfleusderau y teithwyr. Ac yn union wedi gadael yr Orsaf yr ydych yn chwyrn- ellu trwy faesdrefi (suburbs) y ddinas fawr-trwy Altrincham a Bowdon-heibio eu palasdai heirdd, eu gerddi teg a'u perllanau ffrwythlawn heb wybod yn iawn p'run i'w edmygu fwyaf. Yn y llanerchau dymunol hyn y treulir mewn hamdden y golud a gynullir yn nghanol gofalon y ddinas fawr. Ond cyn y gallwn wneu-I dim ond prin f jddwl am y lie, dyma ni yn chwipio mlaen trwy olvgfeydd mor wlad- aidd a phe yn nghanol Lleyn-mewn ardal hollol amaethyddol-y ffermdai mawrion vn y ps'lder, y meusydd yn gwynu i'r cynhauaf, a'r f' ches luosog. sydd yn cynyrchu yr enwog Gaws Caer gan mwyaf, Yn y gwair hir yn gorwedd, Yn mwynhau ei hun mewn hedd; Cilgnoi, heb gyffroi ei phryd, Yn dawel iawn a diwyd. Mewn llai na chwarter awr yr ydym wedi gadael Lancashire ac yn sir Ga,,r yn cyrhaedd y dref hynafol a phrydferth a elwir Knutsford, He y cedwir mewn bri mawr yr hen ddefod o goroni v rhian harddaf yn y lie bnb Calanmai tan yr enw Brenhines Mai. Ac heb fod nepell oddiyno, dyma ni yn Northwich, prif farsiandiaeth yr hon ydyw Halen, He yr ydym fel yn ail ddychwelyd i randir gweithfaol. Ond y mae'r gerbydres ar ormod brys ini gael and megys cipdrem ar y weledigaeth halpn- aidd, a dyma ni mewn gwlad gwbl wladaidd eto, an- wastad, yn croesi nentydd coediog, serth, a chawn ambell drem ar fynyddau Cvmru yn y pellder ac ar draws Fforest enwog Delamere, He nid oe dim ond coedydd, coedydd, o'n deutu am filldiroedd. CAERLLEON. 0 tan awr o amser, yr ydym wedi cyrhaedd gorsaf newydd v cwmni hwn ar gvVr Caerlleon Gawr," a elwir Liverpool Road. Y mae'r olygfa a geir ar y ddinas urddasol wrth nesu ati ar y llinell hon yn llawer mwy dymunol nag ar yr un linell arall. Yr ydym yn dyfod trwy ganol gerddi Dickson, ac y m&\e'r perarogl a gyfyd ehonynt i'r ffroenau yn dra hyfryd. Er dymunoled oedd yr orsaf. hi chadwyd ni ynddi ond dau fiinyd-dim o'r gwastraff ar amser sydd yn nodwedd arbenig o'r orsaf arall yn yr un ddinas. Ar ol ail gychwyn, daethom i wlad cyn wastaded ar geiniog—t;r wedi ei gau i fewn o draeth yr afon Ddyfrdwy, yr hon yn y fan yma a gymerai hudiroedd o draeth i chwareu yno. Codwyd gwarchae a chadwyd hi yn ei rheawely ei hun. ac arbedwyd miloedd o aceri o dir bras, yr hwn sydd tan driniaeth ragorol. Ar draws y wlad newydd hon v cyflyma'r gerbydres, gan unioni at y bont ardHerchog v gosododd Mr Glad- stone ei sylfaen rai blynyildoedd yn ol. ac yr oedd cymaint o alw am dani er's blynyddau lawer er byrhau'r daith o Ogledd Cymru i Lerpwl. V mae hi eisoes o wasanaeth pwysig. a daw yn fwy felly o fis i fis fel y dadblyga masnach yn y ptrthau hyn. Saif un pentan ohoni ar etifeddiaeth Wepre, yr hon a berthynai gynt i Dafydd ab Edmwnd. PENARDDLAG. Dyna'r enw Cymraeg am Hawarden, er nad yw yn hawdd penderfynu beth ydyw ei ystyr. Mae Uawer byd o hvnafiaeth dyddorol yn perthyn i'r Castell a'r dreflan bon ond dyddordeb penaf ei phresenol ydyw ei bod yn drigfa Gwladweinydd enwocaf ei oes. Mae'r plwyf hwn o fewn taith llai nag awr a haner i weithfeydd mawrion Lanca- shire, ac nid yn unig ceir mvnediad i'r Castell ac i'r Pare, ac'weithiau i'r p-lss sydd yn gyrchfa cynifer o ymwelwyr bob blwyddyn, ond y mae'r golygfeydd a geir oddiyma vn mvsg y rhai mwvaf godidog yn Mhrydain— holl rediad aber y Ddyfr. dw o Fostyn i Gaer a rhandir Cilgwri neu Wirral tros yr afon, y Ferswy tu draw i hyny, a Lerpwl yn cuddio'r gorwel. Nid yw'r tren hwn yn aros vma. end os ceidw'r teithiwr ei lygad yn agored gall ganfod brig tviaii gweddillion y Castell, yr Eglwys a Phalas y cynweinidog o'r tren. 0 BENARDDLAG T WRECSAM. Gadawn Bwcle, a'i weithfeydd llestri priddion, ar y chwith, ac wele ni yn mhen Ichydig funydau yn Hope Junction yn croesi y reiltfordd rhwng Caer a Dinbych ac yn Nyffryn swynol yr Afon Alyn. Tua phedair milldir o'r groesffordd hon y mae Wyddgrug, tref orliwn o ddyddordeb i'r hynafiaethydd a'r lienor. O'n blaen, ac nid oes fodd peidio ei weled a sylwi arno, dacw Gastell Caergwrle, neu yn hytrach ei weddillion, ar fryn amlwg gerllaw'r hen gadarnfa. Mae gan yr adfeil- ion acw lawer chwedl i'w dweyd pe byddai genym amser i'w holi a'u gwrando. Ond yr ydym yn N gwreesam cyn ini bron gael hamdden i symud Caergwrle o ganwyll ein llygaid. Yr hen adeilad hynafol yna sy'n taro ar y Central Station yw yr hen ficerdy, ac yn y ficerdy hwn y cyfansoddodd Esgob Heber un o emynau mwyaf poblogaidd y Saeson, sef "Ffom Greenland's icy mountains," pan ydoed" yma ar ymweliad a'i dad yn-nghyfraith, Deon Shipley, y ficer ar y pryd. Ar yr ochr arall i'r pant o'r llinell y mae bryncyn, ac ysgolion dydd- iol wedi eu codi arno yn bresenol; yno y gwersyllai lluoedd Cromwell, meddir, pan yn tanio ar yr eglwys. Yr eglwys hono, yn ol cred yr hen bobl, oedd un o saith rhyfeddod icymru; ac heblaw ei eglwys, cynwysa Gwrecsam ddegau o swynion i'r hanesydd a'r darllenydd Cymreig. Yma yn mynwent Rhosddu y gorwedda Morgan Llwyd o Wynedd, ac yn mynwent y plwyf y mae gweddul- ion Yale, mab un o'r Tadau Pererinaidd a sefydlydd Coleg Yale yn yr Unol Dalaetbau. Y mae palas Erddig, cartref Yorke, awdwr y Royal Tribes of Wales, ar y naill ochr i'r dref a phalsis Acton lie ganwyd y dyhiryn Farnwr Jeffreys, ar yr ochr arall; ond caiff y darllenydd bobpeth a fyn o hanes y dref a'r gymydogaeth yn llyfrau Mr Palmer. GWRECSAM I GROESOSWALLT. Yn ngorsaf Gwrecsam deuwn i'r ganghen newydd a agorwyd yn ddiweddar o'r dref hono i Ellesmere. Yr oedd hon yn chwanegiad anhebgorol er rhwydd- ineb teithio i Ddeheudir Cymru o'r cyfeiriad hwn. Yr orsaf gyntaf o Wrecsam ydyw Marchwiel. Mynych y cyfarfyddir a'r enw hwn mewn ben len- yddiaeth Gymreig. Yma y cynaliwyd yr Eistedd- fod Dadeni, pryd yr oedd yn bresenol Dafydd ab Gwilym, heblaw amryw eraill feirdd enwog ond y mae'r hen Gymraeg erbyn hyn, ofnwn, wedi llwyr ddarfod yn yr ardal er's o leiaf ganol y ganrif ddi- weddaf. Llecyn hardd odiaeth a thoreithiog ydyw hwn yr holl ffordd i Fangoris-y-coed, He y bu'r gyflafan erchyll hono ar y mynachod, ('s oes coel i'w roi ar y traddodiadau. Gres/n i'r cwmni hwn alw eu gorsaf yma yn Bangor-;n-Dee," yn lie yr hen enw sydd yn cyfleu drychfeddyliau, acyn cadw hanes neu draddodiad rhag diflanu. Yn Ellesmere yr ydym yn troi i fynu tua Chroes- oswallt trwy wlad fras, dawel, amaethyddol sir Mwythig. Tref a marchnad fawr ynddi bob wyth- nos yw Croesoswallt, lie y cyferfydd Cymry glan un ochr iddl i farchnata a Saeson pur yr ochr arall, ac a elwir gan y naill yn Syswallt y chan y llall yn Odjestry. YR HAFREN. Mae'r afon hon yr hwyaf yn Mhrydain, yn codi yn Plynlumon ac yn ymarllwys i'r mor yn Sianel Bristol. Ychydig wedi gadael Croesoswallt, deuwn i Lsvn-y-myneioh,ac yr ydym yn croesi y Fyrnwy, yr hon a rSd i'r Hafren (Severn), hyny ydyw, a fo'n weddill ohoni ar ol Ilenwi pibelli Lerpwl a dwfr. Pe amser, mor falch a fuasem o droi i f ynu oddiyma gyda'r pwt o reilffordd sydd yn rhedeg i Lanfyllin, ac yn mlaen i Lanwddyn, i weled ein reservoir, ac i Ddyffryn Meifod, a Llanrhaiadr, a Dyffryn y Tanad, a llanerchau paradwysaidd eraill sydd yn y rhanbarth hwn. Ar y chwith yn fuan wedi gadael Llan-y myneich wele dalp anferth o fynydd a elwir Breiddin-mor Geltaidd ei enw fel yr ydym bron siarad Cymraeg ag ef. iaith na chlybu air ohoni oddiar wefusau ei gymydogion er's canrifoedd. A'r afon hoa y rhua'r tren wrth ei chroesi ydyw'r Hafren "Gwan dy bawl yn Hafren, Hafren fydd hi gwed'yn," ebe'r ddiareb. Mae hi heddyw bron sychu gan y gwres hirfaith aroswch tan y gauaf er gweled ei hymdaith urdd- asol a mawreddog. A'r dy lryn gogoneddus sydd ganddi !—mor lydan, bras ei weryd, a lluosoced ei ddefaid trymion a'i wartheg porthianus. Mae'n rhyfedd mor gyffredinol ydyw gwartheg Hereford yma: hwy sydd yn mhob man. Ni welais ond hwy gyda'u talcenau gwynion a.'u cyrph melynion yr holl ffordd o Ellesmere i tu draw i Fachynlleth, pan yn sydyn y daw'r duon Cymreig yn gyffredinol gan ddechreu yn rhywle tua'r Ynyslas, ar fin y Ddyfi. Y TRALLWNG. Mae gan bob tref la phentref ar y Gororau hyn enw Cymraeg a Saesneg, a Welshpool y gelwir y dref hon gan y Saeson. Mae hi yn dref hardd mewn llecyn dymunol ar fin yr Hafren, yr hon sydd yn fordwyol ychydig yn is i lawr a cherllaw iddi y m"e'r Castell Coch, cartref y gangen o'r Herbertiaid sydd yn cael eu cynrychioli gan Iarll Powys. Tref farchnad o gryn bwys ydyw Trallwng, chanddi fasnach fywiog ac y mae iddi ddyfodol gobeithiol. Un o'r manau cyntaf yn Nghymru yn ol pob argoel y rhoddir reilffordd ysgafn i lawr ynddo ydyw oddiyma i Lanfair Caer- einion, ac oddiyno'n mlaen i Fawddwy gan agor rhan ddyddorol o'r wlad. Y mae yn y Trallwng amgueddfa gwerth ymweled a hi, yn cynwys lluaws o gywreinion, &c., Powys wedi eu cynull i'r un man. Bump neu chwe' milldir wedi i ni adael y Tra- llwng, cawn gipdrem ar brif dref y sir-Trefald. wyn, yr hon sydd tua milldir o'r orsaf, ac yn mhen ychydig deuwn at "REILFFORDD Y TRIOEDD" sydd yn rhedeg o Abermule i Ceri, trwy gwm rhyfeddol o ramantus. Mynyddog a ddywedodd yn ei ddull doniol, mai tair milldir oedd ei hyd, tri thren yn dydd oedd arni, tri cherbyd oedd pob tren, tri dyn oedd yn ei gweithio, tair gorsat oedd iddi, ac am hyuy y gelwir hi yn Relwe'r Trioe Id." Y DRENEWYDD. Yn fuan wedi gadael Abermule gwelir yma ac acw balasdai teg naill ai ar lan yr Hafren neu ar lechwedd hyfryd, yn arwyddo fod tref go fawr a chefnog yn ymyl,ac yn fuan deuwn i'r Drenewydd— Newtown, Mont. fel ei gelwir gan weis y Post- fe str. Y mae'r Hafren yn rhedeg trwy ganol y dref, gin ei hysgaru yn ddau blwyf. Yma y mae bedel Robert Owen, y Socialist enwog ac yma hefyd v cartrefa y Ilenor a'r hynafieithydd clodfawr Mr Richard Williams, yr hwn yn ei ddull tawel a diymhongar sydd wedi gwneud mwy na neb bron sy'n fyw tnag at egluro hanes ei wlad a'i genedl. gwlan yn wlaneni ac yn frethyn ydyw prif weith- feydd y Dref Newydd; ac y mae yma ffatris sydd yn perl i ddyeithrddyn dybied ei fod yn nghanol Lancashire. Y fwyaf ohonynt ydyw eiddo'r cwmni y mae Syr Pryce Jones yn ben arno. (I"w orphen yn ein nesaf). « ?o:

Cohebiaethau.

Ysgol Canolradd Beaumaris.

Advertising

[No title]