Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

CWRS Y BYD

Nodion Amaethyddol,

Trychineb ofnadwy mewn Clofa…

! Gynadledd Wesleyaidd yn…

Newyddion Cymreig.

News
Cite
Share

Newyddion Cymreig. Dywedir fod cyfarfod olaf y Ddirprwyaeth Dir Gymreig wedi ei gynal nos Sadwrn. Bu Ternlwyr Da Clwyd a Maelor yn cynal cyn- adledd ddydd Llun yn y Wyddgrug. Er gwaethaf cydymgais America, ni bu y fas- nach lechi erioed yn fwy by wiog yn Nghymru nag yn awr. Dywedir na fu Rhyl erioed yn llawnach o bleser- geiswyr na'r dyddiau diweddaf. Methid cael lletty am arian. Mae Mr H. Lewis, prifathraw Ysgol y Bwrdd, Llangollen, wedi ei ethol yn Gymrawd o'r Gym- deithas Ddaearegol. Ddydd Sadwrn, rhanwyd y gwobrwyon mewn cysylltiad ag Ysgol Ganolradd Caernarfon gan Mr D. P. Williams, Llanberis. Am ganiatau meddwdod yn ei dy, dirwywyd George N. Holden, Antelope Hotel, Treffynon, i Ip. a'r costau ddydd Mawrth. Am esgeuluso eu plant anfonwyd Thomas Hop- kins, David Edwards, a Robert ac Ann Jones, Llanrwst, i garchar am bythefnos ddydd Mawrth. Enw un o bregethwyr mwyaf gobeithiol Anni- bynwyr y De yw y Parch Grawys Jones. Mae eg- lwvsi'r Sowth yu parchu cymaint ar Grawys ag a wna defodwyr Eglwys Loegr. Nid yw cwrw yn gyson ag amcan yr Eisteddfod, meddai ynadon Prestatvn, pan y gwrthodasant drwydded arbenig i werthu diodydd meddwol yn Eisteddfod Ffynongroew, sir Fflint. Os oes rhywun am fod yn berson mae gan Esgob Llanelwy amryw fywiolaethau breision yn wag ac ar ei law. sef Llanfair Caereinion trwy farwolaeth Croesoswallt a Whittington trwy symudiadau a Llanrwst trwy ymneillduad (aid Yi-iineiliduieth). Ddydd Mawrth, cafwyd Mr Thomas Williams, dilledydd, Mona Terrace, Amlwch, wedi marw mewn adeilad cysylltiol a'i anedd. Tybir iddo gyflawni hunanladaiad gan ei fod yn bruddglwyfus ei ysbryd er's tro. Gerbron yuadon Bangor, ddydd Mawrth, oy. huddwyd bachgen o'r enw Edwards o ladrati sofren o faelfa Mr E. W. Jones, dilledydd, Bethes- da. Addefodd ei euogrwydd, a rhaid iddo ym- ddangos eto os gelwir arno o fewn chwe mis. Ceisia rbywun yn y Drych wneud allan fod McKinley, y gwladweinvdd Americanaidd, yn Gvmro, ac mai enw priodol "arlywydd dyfod- ol" yr Unol Daleithiau ddylai fod William Machynlleth Morgan. Nawn dydd Mawrth, cyflwynwyd tysteb werth- fawr i David Hamer, Castell y dail, Maldwyn, am v rhan tiaecllaw gymerodd fel arweinydd y dos- barth stnaethvddol yn y sir- Gwnned y cvflwyn- iad gan Mr Ffumphreys-Owen, A.S., yr hwn a roes deyrnged uchel i Mr Hamer am ei wasanaeth ffyddlon a inaitb. Fore Mawrth, cynaliwyd trengholiad ar gorph Robert Pierce Davies. dyn ieuanc yn byw yn 127. High Street, Ffestiniog, yr hwn a gaed yn gorwedd yn yr ardd. ddydd LIun mewn llyn o waed gydag ellyn wrth ei ochr. Tvstiwyd ei fod wedi bod umyn dyodrlef afiechyd a bod hvnv wedi ofFeithio ar ei feddwl Dychwelwyd rheithfarn iddo gyflawni hunanladdiad tra yn orphwyllog. Yn Llanelwy ddvdd Mercher cvnaliwvd cyrddau blvnyddol Cymrleithasau'r Esgobaeth, yr Esgob vn llywyddu. Bu trafodaeth ar y Mesur Addysg, yn yr hon y cymerwyd rhan gan Tarll pnwvs a Mr P. P. Pennant. Penderfvn- wyd galw ar y Llywodraeth i gyflawni ei hadd- nned trwy roddi cynorthwv pell; ch i ysgolion gwirfoddol yn ddioedi. Ppnderfynwyd benodi cenadwr i'r esgobaeth am gyflog o 250p. Mae un hen frawd o ddiacon yn sir Aberteifi na wnaiff byt.h roddi emyn ar y mesur saith a chwech allan i'w chanu am v rheswm fod v mesur hwnw wedi ei fydoli a'i halogi mewn cerdd a elwir Vesur Person Paris.' Dyma benill o'r hen gerdd hono a nyddws y person :— Mi ddodais iar i ori Ar ben y Fenni Fawr, Deg wy a ddodais dani. Dee{ cyw a ddaeth i lawr Dydd Sul mt es i'r eglwys, A'r barcud aeth a nhwy- Pan genvf iar a chvwion, Nid af i'r eglwys mwy.

(o) Marchnadoedd.

Y CYNADLEDD WESLEYAIDD AC…