Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

CWRS Y BYD

Nodion Amaethyddol,

Trychineb ofnadwy mewn Clofa…

News
Cite
Share

Trychineb ofnadwy mewn Clofa Cymrerg CYMERODD flrwydriad difrifol le ddydd Mawrth yn nglofa Bryncocb, ddwy filldir o Gastellnedd. Ymddengys fod 200 o ddynion wedi disgyn i'r pwil yn y boreu. Am 10.30, cwympodd swm mawr o ysbwriel yn yr awyr-lwybr, a dechreu- odd y nwy grynhoi yn gyflym. Aeth y gor- uchwyliwr, Mr W. Williams, a Mr W. Jones i lawr, ac anfonwyd i rybuddio'r boll ddynion o'u perygl. Gwnaed y gwaith mot drefous fel rhwng 10.45 a 11.5 codwyd 175 o ddynion o'u safle beryglus mewn pwll sydd yn 484 llath o ddyfnder. Yn anffodus, nid oedd y gwaith wedi ei gwblhau pan y clywyd rhuad megys taran yn y pwll. Aeth cwmni i lawr yn ddioed, ac yn mhen dwy awr deuwyd a dau gorph marw i'r làn. Caed eu bod wedi eu llosgi'n dost, a phrin y gellid eu hadnabod. Caed allan, fodd bynag, fmai eu henwau oedd Thomas Jones a William Jones, a bod y ddau yn briod. Deuwyd a thri wed'yn i fynu yn fyw ond wedi eu llosgi'n ddychrynllyd, sef James Jones, David Meyrick, ac &van Jones. Prm y disgwylir iddynt fyw. Gwyddis fod ychwaneg o gyrph meirw yn y pwll, a gwneir pob ymdrech i'w cyrhaedd, yn gystal ag i achub eraill a ddichon fod yno. Rhoddir clod uchel i'r peirianydd David Evans ac i'r trefniadau chwim a wnaed gan y cwmni aeth i lawr, ac onibai am danynt buasai bywydau lawer wedi myned yn aberth i'r trychineb. Yn yr hwyr daeth corph arall i'r Ian, sef Lewis i Jones. Aeth y tad a'r pedwar mab i'r pwll yn y bore, dychwelodd Lewis Jones, a phan glywodd II fod ei dad i lawr mynodd ddisgyn i chwilio am dano. Costiodd hyn ei fywyd iddo. j

! Gynadledd Wesleyaidd yn…

Newyddion Cymreig.

(o) Marchnadoedd.

Y CYNADLEDD WESLEYAIDD AC…