Hide Articles List

7 articles on this Page

CWRS Y BYD

News
Cite
Share

CWRS Y BYD Cynhauaf Glan v Mor. CWYNO tost sydd yn y trefi a'r pentrefi byd lanau'r mer mai tymhor gwael maent yn gael a hwnw yn debyg o fod yn un byr. Methir yn glir a chyfrif am brinder ymwelwyr eleni. Mas- nach yn Lloegr mewn sefyllfa lewyrehus, bin i ddenu pawb all fforddio hyny oddicartref, ac yn ben ar bobpeth llywodraeth y wlad yn nwylaw'r Toriaid. Er hyn oil, yn ol pob rhagolwg yn awr, bydd y cynhanaf presenol yr ysgafnaf o ymwelwyr a gafwyd er's blynyddau. Dywedent yn Llandudno fis yn ol mai'r Eisteddfod oedd yn cadw ymwelwyr draw oddiyno, ond Did oedd Eisteddfod yn Rhyl na Phenmaenmawr na Llanfairfechan. lie y cwynid rawn cymaint ag yn Llandndno. Dywed rhai mai'r charges sy'n rhy nehel, ond nid ydynt yn uwch eleni na'r llynedd neu'r blynyddau pan nad oedd llettyau i'w cael bron am unrhyw bris. Ond y gwir yw, y mae prinder ymwelwyr yn y manau hyn yn awgrymu dau neu drio bethau. Yn nghyntaf, nad yw masnach yn Lloegr agos mor flodeuog y misoedd hyn ag y myn llawer i ni gredu, ac yn nesaf nad oes gan Lywodraeth y dydd odid ddim i'w wneud a, sefyllfa masnaeh. Masnach y Ddiod. SON am ymwelwyr. Mae un dosbarth y byddai yn fendith, mi gredaf, pe deuai llai ohonynt i Gymrn. Y darllawyr mawrion o Burton, War- rington, a manau eraill, wyf yn feddwl. Maent yn beivio ein gwlad. Os daw rhyw dafarndy neu westty i'r farchnad, bydd haid o'r tra- chwantwyr hyn yn rhuthro am dano. Clywais yr wythnos ddiweddaf nad oes ond pedair neu bump o'r 27 svdd yn Llangollen heb fod yr hyn elwir yn tied hoqtses," sef ai naill ai yn eiddo 1!' _1 _1 darllawvr neu yn rnwym i orynu eu (iiou gan wirodwyr neillduol. Gwelais yn rhywle fod gan. N rai o'r brewers mawrion hyn gynifer a phum cant o dafarnau yn eu bachau. Un waith y syrthia yr hen westtai oyfforddus, cartrefol, hya i feddiant y darllawydd, a'i was cyflog tano, bydd mor ddigysur i'r fforddoiion a model lodging-house, Prif amcan caniatau trwydded i westtv fel yr arwyddoca ei enw ydyw er cyfleusderau i westteion ar daith ond nid cyf- leusdra'r cyhoedd sydd gan y gorfaelwyr hyn mewn golwg wrth brynu trwyddedau mor gyff- redinof hyd y wlad. ond gwerthu eu cwrw a'u gwirod. Ni ddylai'r un dyn na'r un cwmni gael dal ond un drwydded ac fel y moddion mwyaf effeithiol i atal diotta, dylai ein cymdeithasau dirwestol o bob math ymosod yn rymus ar y drpfn bresenol. Y mae ei difFygion a'r peryglon oddiwrthi yn afrifed a bydd y wlad cyn pen ychydig tan y beer- monopolists mewn huahu mor dynion ag oedd caethion y Taleithiau Deheuol cyn en rhyddhad. Wedi ysgrifenu vr uchod, dyma'r si fod un os nad dwy o westtai Edeyrnion wedi cyfarfod yr un dynged. Difrod Corwen. YN ei araith fer a synwyrol yn Eisteddfod Corwen ddydd Llun, dywedai Mr Thomas Jones, Brynmelyn (a mawl i Bwyllgor Corwen am ddewis cymvdog dealing felly yn llywydd), dy- wedai mai haner can' mlynedd i'r diwrnod hwnw y dyfethwyd Corwen bron yn Hwyr gan lifeir- iant. A fydd rhai o'n darllenwyr yn Nyffryn Edeyrnion mor garedig a danfon i ni ychydig o hanes y difrod hwnw. Mae genyf rbyw atgo clywed mai cwmwl a dorodd ar y mynydd sydd uwchben y dref. Ai dyna'r adeg v dy- fethwyd yr eglwys hono yn Llansantffraid 1 Bleddvn." DRWG genyf weled fod yr hen lenor galluog Uchod wedi ei daro'n wael er's tna chwech wyth- nos ond y mae'n gwella yn raddol. Yr oedd Bleddyn. yr hwn a adwaenir yn well yn Llan- gollen a'r ardal fel "William Jones, Maes- more," yn un o obebwyr ftyddlonaf y Brython ddeugain mlynedd yn ol, lie yr ymddangosodd hanes dyddorol o'i waith o "BIwyfBeddgelert." y plwvf y ganwvd ef ynddo tua fchriugain mlyn- yn ol. Enillodd amryw o brif wobrau yr Eisteddfod Genedlaethol flynyddan'n ol, ac yn eu plith yr oedd ei draithawd ar Ddaeareg Sir Caernarfon." Ond prif waith ei fywyd ydoedd easglu a threfnu y Diarhebion Cymreig. Er's Pymtheng mlynedd ar hugain y mae yn ddiwyd gyda'r gwaith hwn, a'r cynulliad erbyn hyn yn rhifo tua 12 mil—tua chymaint ddwywaith a'r ?n casgliad arall. Y mae'r casgliad hwn wedi ei rynu eisoes gan gyhoeddwr Cymreig, a hydaraf ° galon y ca'r awdwr trylen fywyd ac iechvd i'w olygu trwy'r wasg. Cymru Fu a Chyrnru Fydd- cvfY^D yn si op Huw Llwyd v Bala, a un ° hen gyhoe^dwyr llyfrau Cymreig a'rieuengaf fe ddichon ohonynt, sef Ap Owen, yr hwti a "daeth,ii l lawr i'r dref o Lan- uwchllyn, tan ofal ei dad a'i fam dirion. Bu cryn ymgyfarchwel rhwng cyhoeddwr Cymru Fu a chyhoeddwr Cymru Fydd;" ac yn He myn'd i gael llymed o ddiod ht:fo'u gilydd yn ol defod ac arfer beirdd hen a ieuainc pan gyfar- fyddent eu gilydd gynt am y waith gyntaf, cafodd yr hen yn yr amgylchiad hwn gusau gan yr ieuanc, a'r ieuanc y tren goreu oedd yn mhlith teganau dirif ystorfa Mrs Hugh Lloyd ac ymadawsant ar delerau dra chyfeiligar. Dylaswn ddweyd fod Mr Ap Owen yn llencyn propor ei fod yn gwisgo het wellt dlas gantelog a llinyn yn myned tan ei eu i gad w'r het ac yntdoU hefo'u gilydd fod ganddo glos cwta o lian amryliw, a thwll cyfleus ynddo, mae'n dra thebyg cyffelyb i'r un oedd yn nghlos yr hen gy- hoeddwr pan oedd yntau yn oedran Ap Owen. Fel y gwelir, yr oedd yn gyfarfud lied annghyffredin. Ystori Darw- YCHYDIG yn ol, fel yr oedd dyn yn myned ar hyd llwybr maes yu Nyffr.vn Edernion, daeth yn sydyn at darw, a da iddo fod pren canghenog a deiliog gerllaw, i'r hwn y llwyddodd i ddringo cyn i gyrri y tarw ei gyrhaedd. Gwelodd yn I ftian nad oedd y" gwystwil" am adael iddo ddianc ar chwareu bach, a dechreuodd dostur- io'n hyglyw wrtho'i hun. "Taid, anwyl," ebai, be wna'i rwaii ? Hvvyrach by,dda'i yma allan o bob hydoedd." Dyn, dyn, mae hi'n dda iawn arnat ti eto-rydw i yma er bore ddoe," ebe llais o frig y pren. Prin y rhaid chwatiegu na chwanegodd yr ymudrodd fawr at gysur yr ail gaeth was.

Nodion Amaethyddol,

Trychineb ofnadwy mewn Clofa…

! Gynadledd Wesleyaidd yn…

Newyddion Cymreig.

(o) Marchnadoedd.

Y CYNADLEDD WESLEYAIDD AC…