Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
D. R. JONES & Co., PIANOFORTE. ORGAN, HARMONIUM & MUSIC SELLERS 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL. Tuning & Repairing a Speciality Music sent by Post cannot be exchanged, MASNACHDY CERDDOROL Y CYMRY Cedwir Stock helaeth o bob math 0 offerynau Cerdd. PIANOS o ios. 6ch. y mis ac uchod, Gan y gwneuthurwyr goreu bob amser ar law Broadwood, Brinsmead, Collard, Neumeyer. Ward, Monington & Weston, Justin Brown, &c. AMERICAN ORGANS, 5s. y mis, &c. Mason & Hamlin, Bell & Co., Smith, Story & Clark, &c., &c, HARMONIUMS, 4s. y mis, &c. 0 waith Trayser, Christophe, Alexander, &c., &c. VOICE TRAINING, &c., &c. SCHOOL OF MUSIC. Prospectus on application. NOW IN STOCK FIRSTCLASS SECOND-HAND HARP By the Celebrated Maker, ERARD. telyn WIR D IDA. D, R. JONES & Co., 106, HOLT ROAD, LIVERPQOL, f CONCERT AGENTS, &c. Eto ar y Blaen. -TERW ERI No TE A CHOFFI PUR. Gwerthiant yn cynyddu bob wythnos o gan pwys i dunelli. "PUKE WATER IS ESST,TIAL _To _IIEALTH." THE New Aerated Beverage aqd Buffet Co., Ltd.. frexlpi, Manufacturers and Proprietors of HIGHEST AWARD SILVER MEDAL LONDON, 1881. 4i- ql6m.- ,,i HIGHEST AWARD GOLD MEDAL NEW YORK, 1882. THE RENOWNED N ON-ALCOHOLIC BEVERAGE. Also Manufacturers of High-Class Mineral Waters, Cordials, &c., &c. PRICE LI?!' AND TESTIMONIALS SENT ON APPLICATION. L OND ON-. J GLASLYN HOUSE, EVANS' 1 C% TEMPERANCE HOTEL, | 9, Euston Square, London, N.W. Y mwyaf canolog i bob rhan 0 Lundain. Yn agos i Station Euston (L. & N.W. Ry.). Dwy fynyd o gerdded o Stations St. Pancras (Midland Ry), neu > King's Cross (G.N. Ry). Deg mynyd o dren o Paddinarton (G.W. Ry.) gyda'r Metropolitan Ry. i Station Gower > Street, yna ymofyner am Euston Square. | D. EVANS, Perchenog. ( CO LEG Y GOGLEDD BANGOR (Un o'r Colegau yn y Brifysgol Gymreig). Prifathraw: H. R. REICHEL, M. A., Gydag Un ar ddeg o Broffeswyr, Tri o Ddarlithicyr Phumtheg o Athrawon eraill. DECHREUAy Tymhor nesaf MEDI 29, 1896. D Parotoir ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru ac eiddo Prifysgol Llundain, y cwrs Meddygol yn Mhrifysgolion Edinburgh a Glasgow, ac arholiadau eraill. Rhoir addysg arbenig mewn Amaethydd- iaeth ac Electrical Engineering. Mae yn y Coleg Adran Normalaidd. Cynygir dros 20 o Ysgoloriaethau, yn amrywio mewn :gwerth o 40p i lOp y flwyddyn i'r rha fyddo'n ymaelodi yn y Coleg gyda dechreu y tym- hor nesaf. Bydd HANNER yr YSGOLCRIAETHAU yn gyfyng- edig i Gvmry. Dechreua yr arholiad am danynt MEDI 15. Ceir pob m<#iylion gan JOHN EDWARD LLOYD, M.A., Ysgrifenvdd n Oltofresti-ydd, __m- RICHARD E. EVANS, | 7 House and Estate Agent, la, PRESTON STREET (0ppSrtspolice), LIVERPOOL, And 2, TREGANNA TERRACE, LISCARD ROAD, LISCARD. ESTATES CAREFULLY MANAGED. RENTS COLLECTED PROPERTY BOUGHT, SOLD, OR LET MORTGAGES EFFECTED. THE FINEST & CHEAPEST CYCLES! ,1! WRITE FOR Illustrated List Post Free containing 5.000 Testlmon ials, and particulars of over 1,000 New and secondhand Pneumatic, Cushion, and Solid Tyrel Safeties & Tricycles. Prices from 9,3 to &30- Easy Terms from 108. per month. MACHINES SENT CARRIAGE PAID BRITISH CVC.L,E MANUFACTURING CO., 45, Everton Road Liverpool (and London). C. JONES (Late Jones & Davies), Tailor & Habit Maker, 83, Victoria Street, LIVERPOOL F[T, STYLE and WORKMANSHIP guaranteed for Reasonable Prices. Important to Advertisers. "Y CYMRO" Price One Penny. Every Thursday. A Weekly Newspaper read in every Welsh house- hold in Liverpool, Birkenhead, Manchester, &c., and circulating extensively throughout North Wales. TIFE BEST WELSH ADVERTISING MEDIUM FOR PERSONS WANTED. SITUATIONS WANTED. APARTMENTS TO LET. APARTMENTS WANTED. HOUSES TO LET, SERVANTS WANTED. SERVANTS WANTING PLACES. 12 words 6d., every additional 6 words 3d Three insertions the price of two. Halfpenny Stamps must accompany order. TRADE ADVERTISEMENTS. PROFESSIONAL ADVERTISEMENTS. 3s. per inch in Column. Office: 8, PARADISE STREET, LIVERPOOL. THOS JOKES* Co. Ltd TIME-TESTED TEAS @ 1/3, 1/7, and 2/- per lb. SPECIAL VALUE. Parcels of Tea value 20/- and upwards sent Carriage paid by Rail when remittance is sent with the order. SAMPLES FREE ON APPLICATION. THOS. JONES & Co. Ltd. Tea & Coffee Importers, 9, PARKER STREET, LIVERPOOL. Y CYMRO: Danfonir UN COPI yn ddidraul trwy y Post:— Am 12 mis, 5/6 Am 6 mis, 3/0 Am 3 mis, 1/6 Telerau Hysbysiadau: Yn ol 3/- y fodfedd, neu 13 gwaith am 19/6. --0-- At Ein Cohebwyr. Dylai pob gohebiaeth ein cyrhaedd fan bellaf fore dydd Llun a phob newydd a hysbysiad erbyn bore ddydd Mercher.
CYSONDEB! CYSONDEB!
CYSONDEB! CYSONDEB! DIFUDD erbyn hyn fyddai dweyd geiriau chwerwon am Dr. Jameson a'i gymrodyr rhyfygus yn eu rhuthrgyrch ddigyfraith i wlad y Boeriaid. Cawsant eu dal gan wyr Transvaal a Hid yn eu calonau a'r cleddyf yn eu dwylaw. ni ddialwyd arnynt yn y fan a'r lle, fel y gwnaethid yn ddiau ar y Boer- iaid pe y daliesid hwy yn cynllwyn yn erbyn Llywodraeth Prydain. Mae i fawr- eddigrwydd yr Arlywydd Kruger yn yr amgylchiad hwn rhyw arwedd o ddirmyg, tuag at ddewrion oedd, yn ddiau, yn meddu rhai o nodweddion milwriaethus yr arwr mawr o Yspaen a elwid Don Quixote, yr ymosodydd dewrwych ar felinau gwynt y wlad hono. Hyd yn nod cyn iddynL gyr- haedd Prydain, yr oedd yn hawdd gweled nad oedd Dr. Jim, druan, a'i ruthrwyr, yn ddim ond offerynau, neu bawenau cath, i gynllwynwyr cyfrwysach, a'u bod i rhyw raddau yn teilyngu tosturi yn hytrach na dialedd ac eto mor ehud a hygoelus ydyw gwerin anwar y Brifddinas fel y mynent wneud arwr ohono, a'i orhoian i ac o lys barn fel pe buasai yn arwr o'r dosbarth blaenaf. Y mae annghyfraith o'r natur yma yn boblogaidd gan haenau neillduol o gym- deithas ac yr oedd yn hawdd gweled mai er ei gwethaf y cosbid y dewrion Jameson a'i gyf. gan y Llywodraeth bresenol. Ac y mae hi'n gas ryfeddol ar rai o brif aelodau'r Weinyddiaeth y dyddiau hyn. Flynyddau yn ol, dywedasant bethau chwerwon a llymion annghyffredin am y ■Rhyddfrydwyr pan yr awgryment fod gwa- haniaeth rhwng troseddau politicaidd ac eraill. Yr oedd holl natur foesol yr ar- weinwyr Toriaidd yn cynhyrfu trwyddi wrth feddwl am y fath beth. Llyma ran o araith draddododd Arglwydd Salisbury, ein Prifweinidog hynaws presenol, yn Edin- burgh, Rhag. i, iSSi Nid wyf yn gwybocl o b'le daeth yr athrawiaeth ddyeithr, gymysglyd, egwan, parth triniaeth tros- eddwyr politicaidd. Pan ddywedir wrthyf fod rhyw resymau neil!duol tros gvdymdeimlo k thros- eddwyr politicaidd, ac nas gallwn ymddwyn tuag atynt fel at droseddwyr eraill y gyfraith, rhaid i mi edrych i'r amcanion honedig yn fanylach. Gwelais yn rhywie fod Hwn-a. Hwn wedi ei drin fel pe bu- asai ond llsidr cyffredin. Ond pan ddeuwch at amcanion y ddau ydych chwi yn sicr fod y lleidr yn gwbl amddifad o hawl ar ein cydymdeimlad. Beth bynag, yn ol fy marn i, mewn amryw arngylchiadau, y mae'r amcanion sy'n dylanwadu ar droseddwyr cyffredin yn uwch (nobler) na'r am- canion sydd gan droseddwyr politicaidd ar y rhai y gwastreffir cymaint o gydymdeimlad. Ond nid yw'r gyfraith yn edrych ar amcanion. Fe dorai ein cyfra th i iawr pe ceisiem ei gweinyddu hi ar yr egwyddor yna. Rhaid i ni edrych ar weithred- oedd. Ac y mae nai y Prif Weinidog, Mr Balfour wrth ei enw, arweinydd Ty y Cyff- redin, yn llefaru'n gryfach fyth, os oes modd, ar y pwnc. Dyma ddarn o araith draddodwyd ganddo Awst 8, 1888 Yr wyf yn datgan yn y modd mwyaf pendant, ar fy nghyfrifoldeb fel Gweinidog y Goron, mai yr un rheol a roddais i lawr, a rhaid i mi gael ei chario allan, ydyw hon-y dylai pob un gael yr un drin- iaeth, yn gwbl ddiwahaniaeth pa un fyddo ai car- charor politicaidd neu beidio. Yn ol fy ngorchym- yn i, ni ddylai carcharor politicaidd gael ei drin yn well nac yn waeth na rhyw garcharor arall. Ni fydd i mi gydsynio i dynu unrhyw wahaniaeth rhwng un dosbarth o droseddwyr a dosbarth arall. Y mae'n ddigon hawdd deall ymadrodd- ion fel yna ond yn ngwyneb ymddygiad y Llywodraeth bresenol, o'r hon y ddau foneddwr uchod ydyw yr aelodau mwyaf P- blaenllaw. Wrth gwrs, cyfeirio y mae ymadroddion a ddyfynwyd at y Gwyddelod oedd yn ngharchar am dros^ddau politic- aidd pobl annuwiol echryous oedd y rhai hyny o'u cyferbynu a. Jameson a'i frodyr llawruddiog. Cedwir y troseddwyr blaenaf yn ngharchar fel y troseddwyr gwaethaf-- nid cwyno am hyny yr ydym-ond tra yn eu cosbi hwy hyd eithaf y gyfraith, yn mh'le mae cysondeb Gweinyddiaeth Arglwydd Salisbury, yn ffafrio troseddwyr politicaidd y Transvaal trwy eu gosod yn y rhestr gyntaf o gam-ymddygwyr (misdemean- ants)? Y mae'r Llywodraeth yn ofalus na fu erioed y fath beth am roi addysg foesol, neu o leiaf grefyddol fel ei geilw, i'r oes sy'n codi, beth fyddai iddi ddysgu tipyn ar y "Deng Air Deddf?" Dilyn archiad yr olaf ohonynt yn enwedig a chwanegai gryn lawer at lendid a gonest- rwydd ei chymeriad. Dywedwn eto, Cy- sondeb! Cysondeb
Y CYNADLEDD WESLEYAIDD AC…
Y CYNADLEDD WESLEYAIDD AC ESTYNIAD TYMHOR Y CWEINIDOCION. DYMA bwnc mawr y dydd yn y byd Wes- leyaidd ac y mae yr olwyn wedi ei gosod i droi, fel nad ymlonydda pethau hyd nes penderfynu y mater y naill ffordd neu y llall. Y ddeddf ar y mater ydyw, fod pen- odiad gweinidog i gylchdaith i fod yn flyn- yddol, ond nad ellir ei benodi i'r un capelau am yn hwy na thair blynedd yn olynol, Dyna y ddarbodaeth yn y Deed of Declara- tion, yr hon sydd yn rhoddi bodolaeth ac awdurdod i'r Cyfundeb. Mae y cyfyngiad yn yr neg adran, at yr hyn y cyfeirir mor fynych. Nid yw yr adran yn gymhwysiad- wy ond lie mae eiddo cyfundebol. Er engraipht, panyr oedd yr Eglwysbach" yn gweinidogaethu i'r Cyair3, yn Llundain, treuliodd ddwy flynedd yn hen gapel Wil- son Street, pryd y gwerthwyd ef. a threul- iodd y tair blynedd dilynol i bregethu mewn neuadd ardrethol pryd yr agorwyd capel newydd City Road, a bu yn gweinidog- aethu yno am dair blynedd arall. Nid oedd "rhwystr cyfreithiol iddo lafurio i Gymry Wesleyaidd Llundain am wyth mlynedd yn olynol, a hyny am na bu yn pregethu yn yr un capel am yn hwy na thair blynedd ond ni allai barhau yn hwy heb i anhawsder cyfreithiol sefyll ar y ffor Jd. Y gwaharddiad yw, pregethu yn yr un capelau am yn hwy na thair blynedd pan y mae y capelau yn eiddo cyfundebol. Pan y mae amgylchiadau neillduol yn galw am i weinidog aros ar gylchdaith am yn hwy'na thair blynedd, yr hyn a wneir yn bresenol ydyw rhoddi enw un o'r uwchrif- iaid neu rhywun arall ar y gylchdaith a dweyd fod y gweinidog i lafurio o dan ei arolygiaeth. Mae y trefmad yn amddi- ffvniad rhag myned i wrthdarawiad a llythyren yr adran, ond y mae er hyny yn myned yn erbyn ei hysbryd. Teimlir yn gyffredinol fod y trefniant yn anfoddhaol ac yn mhell o fod yn ffordc1 anrhydeddus i gyfarfod a'r anhawsder. Yn ngwyneb hyn y mae nifer fawr o'r gweinidogion a'rlleyg- wyr yn teimlo awydd i gael cyfnewid yr adran neg. Ar y llaw arall, y mae nifer lluosog yn teimlo y gwrthwynebiad cryfaf. Y mae y rhai sydd yn ffafr y cyfnewidiad yn dadleu na byddai iddo effeithio ond ychydig ar sefydliadau v gweinidogion—y rhaid i'r apwyntiadau fod yn flynvddol fel o'r flaen, ac na wneir ap- wyntiad dros y tymor presenol ond mewn amgylchiadau neillduol, a hyny pan y bydd tair rhan o bedair o aelodau y cyfarfodydd chwarterol yn gofyn am yr estyniad. Yr unig bwynt y dadleuir drosto ydyw y dylai y Gynadledd gael dwylaw rhydd i wneud apwyntiadau am dvmor mwy na thair blynedd, heb ddyfod i wrthdarawiad a'r Weithred sydd yn corphori y cyfundeb. Ar y llaw arall, dadleuir y byddai i'r cyfnewidiad effeithio yn ddwys ar sefydliad- au y gweinidogion,—y ffurfiai ddau ddos- barth o weinidogion, dosbarth uwch a dosbarth is, rhai yn aros ar gylchdeithiau dros dair blynedd, a rhai am ddim ond tair, —rhai yn glynu wrth y cylchdeithiau cryfaf, a rhai yn gorfod aros yn y cylch- deithiau gwanaf. Yr ateb i hyn ydyw, fod dau ddosbarth o weinidogion yn barod. Gwahoddir y gweinidogion a gyfrifir yn oreu i'r cylchdeithiau a gyfrifir yn gryfaf. ac iddynt'y maent yn myned tra ar y llaw arall y mae gweinidogion eraill yn myned i'r cylchdeithiau a gyfrifir wan af, a hyny o angenrheidrwydd, Mae peth arall yn bosibl. Gan nad ellir aros ar gylchdaith am yn hwy na thair blynedd, y mae yn bosibl y cedwir rhai ar gylchdeithiau am y tymhor, pan y byddai i estyniad y tyi-nhor fod yn achlysur i'r cylchdeithiau benderfynu ar newidiad ar derfyn y flwyddyn gyntaf neu yr ail. Dyna y modd y mae y mater yn sefyll. Cyn y gellir gwneud y cyfnewidiad y mae yn rhaid cael deddfwriaeth newydd. Y mae yn eglur hefyd na bydd i'r Senedd symud yn y mater ond trwy gael ar ddeall