Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

« Nodion o'r Ddinas

Herwhelwyr ffyrnig ger Rhiwabon.

Diffyg Arianol Eisteddfod…

[No title]

Eisteddfod Gadeiriol Gorwen.I

Mwngloddiau Cogiedd Cymru.

Dyffryn Clwyd.

News
Cite
Share

Dyffryn Clwyd. CYNHAUAF. MELYN yw'r meusydd gan yd, a llawn yw'r per- llanoedd o ffrwythau. Dyddiau medi sydd wed dod, a gobaith y gwanwyn a gynhtuafir. Ceir cnydau gweddol dda, er fod ambell ffarmwr yn cwyno'n dost. Ran hyny, mae cwyno yn myned yn reddf i lawer ffarmwr, a phtn fydd y ffurfafen yn lied las a'r ddaear yn fendithiol, acen leddf sydd yn nh6n yr amaethwyr hyn. HELYNT GYDA BUWCH. Yn Llys Sirol Dinbych yr wythnos ddiweddaf hawliai Peter Lloyd, Plas Coch, Llannefydd, 9p 15s gan John Roberts, Cefn Llwyd, sef pris buwch, a lp 7s am ei chadw am naw wythnos. Yr amddi- ffyniad. oedd fod y fuwch wedi ei gwaranta i fod yn iach, ac nad oedd felly. Tystiodd yr erlynydd na roed un gwarantiad o gwbl wrth werthu'r fuwch, ac yr oedd y Barnwr o'r un farn, felly rhoddodd ddyfarni.ad yn erbyn yr amddiffynydd. PRINDER DWFR. Hesp yw'r afonydd wedi'r sychder, ac mewn Ilawer lle mae'r sefyllfa'n ddifrifol i'r eithaf. Yn Rhuthin nid yw'r Gorphoraeth yn gallu flbrddio dwfr ond am bedair awr bob dydd at wasanaeth teuluoedd. Mae llu yn liefain am wlaw, a'r unig rai sydd yn edrych yn Ilawen yw'r tafarnwyr. ENWOGRWYDD. Llawer ffordd sydd i gyrhaedd at enwogrwyddt ac y mae uchelgais deilwng yn dda, ond mae am- bell aelod o gynghor neu fwrdd weithiau yn creu llwybr newydd i binacl hynorlrwvdd. Yn nghyf- arfod diweddaf Bwrdd Ysgol Rhuthin hysbyswyd fod eisiau enwi ymgeisydd i gvnrychioli Ysgol Ganolradd Ruthin ar Fwrdd Llywodraethol Addysg y rhanbarth. Cynygiodd y Parch Isaac James fod y Parch Mr Stephens, Llanfwrog, yn cael ei nodi. Ar hyny, cododd y llvwydd (Mr Lumley) a dy- wedodd mai un g\vyn oedd ganddo yn erbyn Mr Stephens, sef 44 ei fod yn Fethodus," a thrwy ei bleidlais derfynol ef gwrthodwyd enwi y gwr parchus hwnw, a rhoed enw Mr Jones, Llanbedr, yn ei le. Methodus yw Mr Lumley ei hun, a thipyn yn anfrawdol oedd iddo warafun yr anrhyd- edd i Mr Stephens, ac am reswm mor ysmala. Ond, ran hyny, vsmaldod oedd y cyfan, achos tydi dyn ddim gwaeth nac yn llai cymhwys i gynrych- ioli bwrdd ysgol am ei tod yn Fethodus, 'does bosibl. CLYWEDOG.

Advertising