Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

« Nodion o'r Ddinas

Herwhelwyr ffyrnig ger Rhiwabon.

Diffyg Arianol Eisteddfod…

[No title]

Eisteddfod Gadeiriol Gorwen.I

News
Cite
Share

Eisteddfod Gadeiriol Gorwen. I [Gan EIN GOHEBYDD ARBENIG.] DIWRNOD mawr Corwen ydyw y dydd hwnagsydd wedi ei gysegru ,.rla blynyddau bellach i Lea, Celf, a Chan, He y mae yr Eisteddfod hon yn enili mewn poblogrwydd y naill flwyddyn ar ol y llall, fel erbyn hyn y hi ydyw yr Eisteddfod leol fwyaf poblogaidd yn Ngwynedd. A phaham llai yn nyffryn tlws Edeyrnion a chartref Owain Glyndwr? A haus meddwl mai mewn heddwch y daethant yn nghyd heddyw,heb arogl gwaed,a'r cledd yn y wain; y i fwynhau diwinod o wledd i'r meddwl a'r yspryd yn awyr iach ac awel dyner Edeyrnion. Yr oedd y dref yn brysur gyda'r wawr yn parotoi yr arlwy. Cyneiid yr Eisteddfod mewn pabell eang mewn cae yn ymyl y ffordd haiarn, ac yr oedd wedi e; haddurno yn ddestlus a chwaethus. Cynaliwyd yr Orsedd am naw o'r gloch ar betryal y farchnad. Yr Archdderwydd yn Uywyddu yn cael ei gynorthwyo gan Rhudd ryn, Llifon, &c. Aed drwy y ddefod arferol, a bu llu o feirdd yn anerch yr Orsedd gyda hwyl. Cyfarfod y Boreu. Llywydd cyfarfod y boreu ydoedd Mr Thomas Jones, Brynmelyn, Corwen, ac arweiniwyd yn ddeheuig fel arfer gan Llifon. Agorwyd y cyfarfod am oddeutu chwarter wedi deg trwy ddetholiad swynol ar danau mAn y delyn gan Telynor Meirion, a rhoddodd gyweirnod rhag- orol i'r E;steddfod. Wedi anerchiadau brwd gan y beirdd galwy 1 am y beirniadaethau ar y gelfjddyd, a dyfarnwyd fel y canlyn (a), Am y Crayon Drawing goreu o unrhyw Floral Design, gwobrau, 5s. ail, 2s 6c. Beirniad. Mr. E. Williams, Broughton. Goreu, S. P. Griffiths, Ffestiniog ail, B. A. Wil"rns, Dinbych. (b), Am yr Inkstand goreu o unr ivw gareg. Gwobr, 10s 6c. Beirniad, Rhuddfry Ni atebodd y buddugwr i'w enw. Y goreu allan o wyth am gyfansoddi darn i Gor Plant ydoedd Peter Hugh Lewis, Dolgellau. Gwobr, gini. Wedi hyn traddododd y Llywydd anerchiad yn bwrw golwg yn ol ar hanes Eisteddfodau Corwen, mewn llawn hyder mai I fynu ydyw arwyddair yr Eisteddfod, a diweddodd trwy anog y bobl ieuainc i fyn'd yn mlaen dan weithio. Yna darllenwyd beirniadaeth yr Athraw J. Morris Jones, ar y traethawd Y Brif Ysgol i Gymru, hanes ei sefydliad, ac awgrymiadau ar y defnydd ellir wneud ohoni, 3 gini. Goreu, Parch. E. K. Jones, Brymbo. Cystadleuaeth Unawd Soprano, 'Adgof' (Dr. Parry), 15s. Yr oreu oedd Miss Jones, Corwen. Beirniadaeth Hwfa Mon ac Alafon ar yr Englyn, 'lng,' 5s. Darllenwyd y feirniadaeth gan yr Archdderwydd; allan o 40, rhanwyd y wobr rhwng Ceinydd, Corwen, a Gwilym Ceiriog, Llangollen. Yma cafwyd can yr Eisteddfod gan Mr Emlyn Davies, a rhoddodd ddatganiad campus o 4 Wlad yr Eisteddfodau.' Beirniadaeth y Parch H, C. Williams a Lewis Davies ar y cyfieithu o'r Gymreg i'r Saesneg 4 Glyn Cysgod Angau' (Elfed), 15s, Mr L. J. Parry, Llansantffraid G.D. Y peth nesaf ydoedd cystadleuaeth ddyddarol corau'r plant am y wobr o 6p ar y Deryn Pur' (Emlyn Evans). Daeth pedwar o gorau i'r ym- gvrch, sef Caledjryn Juvenile Choir (Dinbych), Corwen, a Chefnmawr. Mr W. T. Samuel, v beirniad cerddorol, ar ol canmol Mr Em- lyn Evans am drefnu yr hen alawon Cymreig, a chanmol pwyllgor yr Eisteddfod am ddewis yr hen alawon 1 gystadlu arnynt, a ddywedodd ein bod wedi eel cystadleuaeth ragorol lawn, ac nis gallai ompnd vn well na rhanu y wobr rhwng Caledfryn (arweinvdtL Mr David Hughes) a Chorwen (ar- einydd Mr u. tiugries). B.irRi dleth y myfyrdraith, 'Yr udgorn diwedd- t > w, dros 150 o linellau, lp 10s beirmaid, H'-h M» P.»P wefi oe,Sio, .o Elf,» a Gwaenfab yn gydfuddugol. Cafwvd cvstadleuaeth ragorol lawn ar adrodd Y Gof f TTiraethog), 10s 6c. Beirniaid, Parchn H C. Williams a Lew.s Daves. D. W. Roberts, Bwlchgwvn, a R. H. Hughes, F tzclarence Street, Lerpwl, yn gydfuddugol, Dewiswyd pedwar part! allan o 25 i ddyfod ar y llwyfan i gystadlu ar ddeuawd tenor a bass Y ,'dau delvnor (F. Griffith), lp. Cystadleuaeth ardderchog ydoedd hon, Robt. Jones Llanarmon- yn-Ial, ac Ed. Jone^ Brymbo, yn ^ddagol. Erbyn hyn dyma m wedi cyrhaedd y bnf gys^ tadleuaeth gorawi y babel wedi ei llenwi, a| phawb mewn ysbry^ 1 wrando r corau yn datganu (a) 4 And h? saved them out of distress (Rcdm Bywyd, Jenk1"8) 5 (*>) unrhyw un or alaw- on Cvmreig allan o Ail Ran Alawon Cymru (Em- lyn Evans). 40p. canasant yo y drefn ganlynol Am wyth ig, yn canu 4Codiad yr Ehedydd 2. Cor Undebol Seion, Ffestiniog 4 Morfa Rhuddlan;' 3, Cor Cefnmawr, Morfa Rhuddlan, I Caed dat- ganiad rhagorol iawn gan y tri chor, a chawsant ganmoliaeth uchel gan Mr Samuel. Canodd y cor olaf, dan arweiniad Mr G. W. Hughes, G. & L., yn ardderchog, ac iddynt y rhoed y wobr. Beirniadaeth ar v penillion i'r diweddar Barch Richard Hughes, 10s. Allan o bump, 'Lleddf' yn oreu, ond ni atebodd. Cyfarfod y Prydnawn. Llywydd, Dr Kuno Meyer, Lerpwl, a Llifon yn &r Ydoedd y babell yn orlawn erbyn dechreu y cyfarfod, a phawb yn llawn brwdfrydedd am gyf- arfod bywiog. Agorwyd gan Proff Bryan Warhurst trwy unawd ar y berdoneg. Y buddugwvr ar y cywydd i 4 Nos haf I ydoedd Gwaenfab, Bala, a Gwilym Ceiriog, Llangollen- IP I8* TTT Deuawd ar y crwth, 4 Romance (Warhurst), Ip Is. Buddugol, Ceinydd, Carrog, a Mrs Smith, Llangollen. Machreth Rees, Llundain, oedd yn fuddugol ar y chwe englyn i Elis Wyn o Wyrfai, lp Is. Wedi hyn caed un o'r pethau goreu a mwyaf dy- ddorol yn yr holl Eisteddfod, set anerchiad Proff Kuno Meyer mewn Cymraeg glan gloyw, yn llawn asbri a gwladgarwch y Cymro. Cafodd dderhyn- iad gwresog. Yr oedd ei anerchiad fel y canlyn Mae'n dda annghyffredin genvf fod yn eich plith chwi heddyw, ac yn neillduol felly am (idau reswm. Am un peth caf weled yma nodweddion gwlad ac ardal na welir mohonynt yn yr Eisteddfodau mawr- ion; a pheth arall, mae'n dda dros ben genyf ad- newyddu fy adnabyddiaeth a phobl sir Feirionydd 1 Fe gar. odd Lewis Morus, Mon, gynt yn beraidd I iawn i Feirionydd fel nad rhaid iddi bellach wrth glod oddiar law neb. Afraid i ni ddweyd dim ar ol Llew Mon. Ar yr un pryd mae enwogion Edeyrnion yn dyfod yn fyw i'n cof-enwngion y gan, y gerdd, a'r gad. Pwy o holl feirdd Cvmru benbaladr a ganodd englyn yn dlysach na Dewi Hafhesp? Pwy ddringodd yn uwch yn ei ddydd na'r cerddor mawr hwnw Edward Jones, Brdd y Brenin ? a pha Gymro a welwyd yn gyrtelyb i Owain Glyndwr, yn filwr, yn wladweiuydd, yp ysgolhaig, ac yn foneddwr, yr hwn, bum' can mlynedd yn ol, gycbwynodd y gwaith ardderchog sydd newydd ei gwblhau, sef Prifysgol i Gymru Os na lwyddodd Cymru dan Owain Glyndwr, gyda Ffr >inc a'r Ys gotland yn gefn iddi, i enill ei hannibyniaeth, y mae hi erbyn heddyw yn hoilol ar ben ei hun wedi enill annibyniaeth werthfawroeach fyth mewn cyf eiriad arall. Yn agos iawn bo'r dydd pan fydd cofadail gwych ar gyfer pob un o gewri Cymru yn britho eich pentrefydd o benbwygilydd i'r wlad. Os na wneiff wladgarwch hyny-naw wfft iddo— nid ydyw ef ddim gwerth botwm corn. Yr ydych chwi, bobl Edeyrnion, yn dal lie cyfrifol iawn. Yn nepell oddiwrthoch mae'r llanw Seisnig yn codi ei donau, ac nid oes raid wrth glust fain i'w glywed beunydd, nac wrth lygaid craff i weled fod ambell i foryn wedi tori ei ben dros y mur. Mae ganddoch waith pwysig i'w gytlawni--rhaid i chwi wylio y llanw a'ch holl egni rhag y bydd yr ardal hon yn ail Gantref y Gwaelod. Ond wrth edrych o'n cwmpas a gweled pwy sydd wrth y porth, nid oes genyf fawr bryder am y dyfodol. Peidiwch, mwyn tad, a llacio eich gafael ar y delyn a'r hen gamp ddifyr o ganu gyda'r tanau ond am y Sais difaol a'i ganeuon yn syth o'r Music Halls yn rhincian ac yn rhygnu hyd eich gwlad Aed lie mae'r eang dangnef, Ac aed a'i gerdd gydag ef. Mae yn rhaid i'r Cymro ymyraeth beunydd a'r Sais, ac fe ddwg oddiarno rhywbeth neu gilydd beunydd yn sal a gwych. Yn ddios 800 onibai, mae gan y Saeson nodweddion seilion i'w rhyfeddu, ac mae ganddynt ar yr un pryd bethau gwychion iawn. Peidied y Cymro a bod yn wirion-cymered ef y goreu ac nid y salaf, oblegyd ni chyst ond yr un peth am y ddau bydd yn well dyn o gymeryd y goreu ac yn Ddic Shon Dafydd faw wrth gymeryd y salaf. Aed y Cymro rhagddo i enill dysg, a chyn- ydded ei wladgarwch beunydd nes bydd son am hen fechgyn y brutaniaid yn mhob cwr o'r byd. Beirniadaeth ar y traithawd Llywarch Hen fel gwladgarwr, milwr, a bardd,' 2p 2s beirniad, Mr Charles Ashton. Goreu o bump, J. H. Roberts, Bala. Yn nesaf, aed at beth o ddyddordeb neillduol arall i bawb oedd yn bresetiol, sef y eideirio. Dacw'r llwyfan yn cael ei glirio, a'r Archdderwydd yn dywysog y cyfarfod, a dyma Rhuddfryn yn galw rhestr o enwau y beirdd, a Llifon mewu hwyl yn ceisio eu darbwyllo i ddod yn mlaen i'r llwyfan i gymeryd rhan yn y seremoni. A dacw nhw, yn In lluosog. yn leaner cylch ar y llwyfan, a Hwfa yn y canol, wrth ochr y gadair dderw hardd yn dar- llen ei feirniadaeth ef ac Alafon ar yr awdl heb fod dros 400 o linellau i 4 Tlodi6p a chadair dderw gerfiedig. Talfyriad yn unig o'r feirniad- aeth gafwyd gan Hwfa Mon. Yr oedd 13 o'r awdlau wedi dyfod i law, a'r rhai hyny yn dda iawn. Mae y fuddugol yn berl gloyw yn nghoron Eisteddfod Corwen, ac yn dwyn yr enw 4 Gernant.' Galwodd Hwfa yr enw dair gwaith, a dacw Elfyn ar ei draed, a Hwfa yn bloeddio ei enw nes dadsain yn y dyffryn. Arweiniwyd y concwerwr i'r llwy. fan gan ddau o'r beirdd, ac wedi cael sicrwydd fod Heddwch i deyrnaau, a gweinio y oledd, arwisg- wyd ef gan Kuno Moyer yn nghanol brwdfrydedd y dorf. Yna tywalltwyd cawod fras o englynion ar ben y bardd cadeiriol gan nifer o'r beirdd, ac wedi i Hwfa gyhoeddi Elfyn yn fardd cadeiriol Corwen am 1896, canwyd can y cadeirio gan Mr Emlyn Davies, sef 4 Gwlad y Delyn,' mewn dull meistrolgar nes swyno y gynulleidfa. Wedi i'r seremoni ddyddorol hon fyned heibio, cafwyd yr ail gystadleuaeth gorawl i gorau heb fod dros 50 mewn nifer ar Llawenychent pan ddywed- ent wrthyf ( T. Edwards), 12p 12s. Canodd y corau fel y canlyn:-), Parkfield Sunday School Choir. Birkenhead 2, Cor Undebol Glyn Prysor. Cafwyd dau ddatganiad da iawn eto, a dywedai y beirniad ei fod wedi cael ei foddhau yn ddirfawr yn y gys- tadleuaeth hon. Y goreu heb anmheuaeth ydoedd yr olaf dan arweiniad Mr Edwin Lloyd, Traws- fynydd. Cystadleuaeth yr unawd tenor 4 Perl fy nwy- fron' (T. Edwards), 15s. Dewiswyd pedwar i ddyfod ar y llwyfan o'r rhai oedd wedi bod yn y gystadlouaeth ragflaenol. Canu rhagorol, a David Ellis, Cefn Mawr, yn oreu. Yn y fan yma cynygiwyd diolchgarwch i'r ddaa lywydd gan Hwfa Mon. Eiliwyd gan Dr. Walker a phasiwyd yn unfrydol. Cydnabyddwydydiolch- garwch cynes gan y Proff. Kuno Meyer mewn ychydig eiriau yn Gymraeg eto. Cystadleuaeth unawd bass, Rhyddid Cymru (E. S. Hughes), 15s. Ar ol cystadleuaeth galed, dyfarnwyd y wobr i John G. Jones, Ffestiniog (Manceinion yn awr). Dyma ni bellach at y gystadleuaeth benaf o bosibl yn yr holl Eisteddfod,—yn sicr y fwyaf poblogaidd, sef y corau meibion ar Martyrs of the arena' (De Rille), lOp 10s. Darn rhagorol ydyw hwn, a chaed cystadleuaeth gampus arno. Canwyd yn y drefn ganlynol:—Cefnmawr Male Voice, Manchester Cambrian, Excelsior (Brgughton), Liv- erpool Welsh Vocalists, Voelygaer (Treffynon), Birkenhead Park, Canmolai y beirniad y corau yn uchel, eu bod wedi rhoddi datganiad campus, ac nis gallai wneud yn well na rhanu y wobr rhvfpg Cor Cefnmawr, dan arweiniad Mr G. W. Hughes, G. & L., a'r Liverpool Welsh, dan arweiniad Mr Padarn Lewis. Y buddugol ar yr hir a thoddaid i Daniel Owen ydoedd Graienyn, Dolgellau. Cyfarfod rhagorol oedd hwn-Ilwyddiant per- ffaith. Y Gyyngherdd. Llywyddwyd gan y Milwriad Parr-Lynes, Garthmeilio. Yr oedd y babell yn orlawn heno yn mhell cyn amser dechreu, a golwg llawen a brwdfrydig ar wynebau pawb. Ac nid rhyfedd pan ystyriom. pwy oedd i gayan-Miss Maggie Davies, Mri Mal. dwyn Humphreys ac Emlyn Davies. Ni raid i'r rhai hyn wrth ganmoliaeth-y mae eu lleisiau yn ddigon adnabyddus trwy Gymru a Lloegr bellach, a'u henwau yn ddigon i dynu y miloedd yn nghyd. Y cwbl allaf ddweyd ydyw fod disgwyliad y dorf yn uchel heno, a chawsant eu boddloni i'r eithaf. Yn ddiamheu ni chlywyd y tri hyn mewn gwell llais erioed. Yr oedd yr encorio yn ddidaw a'r brwdfrydedd yn ddibaU. Y pethau goreu yno oedd yr hen alaw 4 Y deryn pur' gan Maggie Davies, a "Rwy'n myn'd' gan Emlyn Davies. Cymerwyd rhan gan y ddau gor meibion buddugol dan arweiniad Mr Padarn Lewis, a'r prif gorawl (Cefnmawr) dan arweiniad Mr G. W. Hughes. Chwareuwyd y d ieuawd ar y crwth, a chafwyd detholiad ar y delyn. Gallwn alw y cyngherdd hwn yn ardderchog am na chlywyd ei well na'i gystal yn Nyffryn Edeyrnion erioed o'r blaen. Wel, dyma'r Eisteddfod fwyaf llwyddianus a fu. yn Nghorwen eto. Anhawdd fuasai ei churo. Mae rhan helaeth o'r clod hefyd yn ddyledus i'r ysgrifenydd gweithgar, Mr Hugh Morris (Ap Rhuddfryn). Deallwn fod y derbyniadau yn fwy o 70p nag mewn un Eisteddfod flaenorol yn Nghor- wen. -0--

Mwngloddiau Cogiedd Cymru.

Dyffryn Clwyd.

Advertising