Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

« Nodion o'r Ddinas

News
Cite
Share

« Nodion o'r Ddinas [Gan CWILSYN]. WELE Wyl y Bane drosodd. Aeth miloedd o'm ydgenedl i dramwy hen lwybrau cynefin eu gwlad, ac i edrych ar olygfeydd IJas gall bywyd prysur a ffwdan dyrys y ddinas fyth eu dileu o'r cof na'r galon. Mae rhyw dynerwch rhyfedd yn dod i fynwes dyn wrth edrych ar fro ei febyd wedi llawer blwyddyn." Cwrddwyd a llawer hen gyfaill, ac yr oedd gwres teimlad y dyddiau gynt yn adgryfhau wrth ysgwyd Haw a hwy. Bendith ar hen Syr John Lubbock am ei ym- drechion i sicrhau'r wyl i ni. Efe yw sant nawddogol y gweitLiwr, ac yr oedd llu yn ei foli yn ystod y dyddiau diweddaf. —o— Fe godais inau gyda'r wawr wedi cwsg ysgafn llawn breuddwydion am Gymru a gwynebau anwyl hen gyfoedion. Hawdd breuddwydio, ond y tro hwn gwelais y breuddwyd yn troi'n ffaith a'r gobaith yn sylwedd. Ar ben y bryniau 'roedd fy mryd, a gwyn fy myd fe'u dringais. Fy lluesty oedd Corwen, ac yr oedd canoedd o blant mawr Lerpwl a Penbedw yuo'n mwynhau'r awelon iach, a'u gruddiau llwydion wedi myned mor wridog a grtig y mynydd fu yn eisteddfa i lu ohonynt. Ad- gyfnerthwyd y corph lluddedig yn y tangnef hudol, ac ysbrydolwyd y galon yn yr wyl lengar gerddorol yn mhen tref Edeyrnion. —o— 4 Nid dydd nid no3 oedd hi ar dalentau glanau'r Merswy ddydd Llun. Da fuasai genyf allu cofnodi iddynt gyfiawni mwy o orcheation, ond ni lwyr anrheithiwyd y cewri chwaith. Gwelais ami ornest galed, ond yn nghanol y frwydr yr oedd gwyr a gwyryfon y ddinas yn dangos eu bod yn fedrus i gadw'u tir a'u tymher, a hyny dan amgylchiadau lied anfanteisiol. Wrth fyned yn y tren, clywais Samwel Jones yn dweyd fod pobl Dyffryn Maelor yn myned i guddio ein disglaerdeb, a phan aethum i Gorwen yr oedd pobl 'Stiniog yn bygwth gwneud difrod buan artom. Ond dychwelodd pawb adref yn ddiangol os nad yn gwisgo llawryfoc. a phe buasai Hwfa yn llefain A oes heddwch,' cawsai ateb mor gadarnhaol gan wyr Maelor, 'Stiniog a Lerpwl, ag a roed iddo wrth gadeirio'r bardd yn y prydnawn. —o— Daeth Mr R. H. Hughes, Fitzclarence Street, allan yn dda fel adroddwr, ac mi gafodd ddigon o wobr i dalu ei dren a chael pum' owns o faco tair. Cadwodd Gutyn Eifion a'r hen arwr o Garn Dolbenmaen eu henwau fel cantorion yn anrhy- deddus ond rhaid i Gutyn gael spectol wir rhag ofn iddo adael tudalen o gan allan eto Fodd bynag, yn y ddeuawd yr oeddynt yn haeddu y gymeradwyaeth wresog a gawsant gan y dorf fawr, ac os na chawsant hwy y wobr fe gafodd y cynull- fa ganu rhagorol ganddynt. _n- Ond cor Padarn haedda'r clod yr wythnos hon. Bechgyn Bootle gan mwyaf oeddynt, ac ni fedd- yliais fod y fath dalentau yn disgleirio yn y Ile myglyd hwnw. Ond a ddiohon dim da ddod o Nazareth—nage Bootle ? Gornest galed, teilwng o gewri, ydoedd hon ac nid yn ami mewn Eistedd. fod Genedlaethol y caed gwell canu na. mwy o frwdfrydedd. Dyfarnwyd hwy yn gyfartal a chor eriwog Cefnmawr, ac o waelod calon yr wyf yn ]l<>ngyfarch Mr Padarn Lewis, yr arweinydd, a phob aelod o'r cor am eu buddugoliaeth ar- dderchog. —o— 'Roedd corau o Birkenhead yno hefyd. Mae rhyw hen air yn dweyd mai talent arian yw siarad ond mai un euraidd yw dystawrwydd. Dinas y dyfodol yw Penbedw, wyddoch, ac hwyrach mai ar feusydd eang y dyfodol y mae corau'r ddinas hono yn myned i wneud gwrhydri. Hei lwc. -0- Fy llongyfarchiad i Mr David Jones (Llanfrothen) ar ei waith yn mvned i gvlch y fodrwy aur. Gwyr llawer yn Lerpwl am dalent y cyfaill a'i frawd Richard fel cantorion. Ac y mae David wedi cael un o ferched cerdd yn briod iddo, a siawns fawr na fydd eu c £ n trwy gydol eu hoes yn hyfryd. Canodd David lawer unawd yn dda odiaetb, ac y mae yn sicr o fedru canu deuawd yn well fyth. Lwc dda i'r deuddyn hapus. -0- Yn y ddinas bon, Medi 23, y cynelir cyfarfod nesaf Llys Prifysgol Cymru. --v--

Herwhelwyr ffyrnig ger Rhiwabon.

Diffyg Arianol Eisteddfod…

[No title]

Eisteddfod Gadeiriol Gorwen.I

Mwngloddiau Cogiedd Cymru.

Dyffryn Clwyd.

Advertising