Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

CATRIN PRISIARD

News
Cite
Share

CATRIN PRISIARD Gan Miss WINNIE PARRY. PENNOD XXVIL—GWAITH NOSON. AETH yr amser heibio yn araf yn yr ystafell lie gorweddai John Prisiard. Yr oedd Ionawr a'i rew a'i eira wedi rhoddi ffordd i Chwefror a'i wlaw da. Yr oedd tair wythnos er y diwrnod y bu Catrin yu Tanyfoel, ac y cymerwyd ei thad yn wael ar ol ei dychweliad. Yr oedd bron wedi ei Ilethu gan y pryder a'r gofal nos a dydd. Eisteddai ar gadair yn ystafell y claf nid oedd wedi cau ei llygaid er's nosweithiau lawer, cc yr oedd eisiau cysgu bron a' gorchfvgu. Olywai Robin yn dod i fynu'r grisiau yr oedd yn arferiad gatddo fyned yno bob nos wedi; cadw noswyl. Cerwch i'ch gwely heno, Catrin,' meddai gydag awdurdod hen wasanaethwr, mi wna i aros hefo mistar.' Yr oedd Robin wedi dweyd hyn wrthi bob nos, ond ni fynai wneud yr hyn a ddymunai, ond heno rywfodd yr oedd yn teimlo mai ymollwng y buasai os na chawsai ychydig hun. Edrychodd ar ei thad, yr oedd yn cysgu yn fwy tawel nag y gwelsai er's dyddiau. Gan rybuddio Robin i alw arni pan ddeffroai aeth i'w hystafell a thaflodd ei hun ar y gwely heb dynu ei dillad, a syrthiodd i gysgu mor fuan ag y cyffyrddodd ei phen i'r go- benydd. Eisteddodd Robin ar y gadair wrth wely y dyn claf, a syllodd ar y gwyneb oedd yn gorwedd ar y glustog nid oedd wedi colli gronyn o'r ystyfn- igrwydd nodweddiadol ohono, ond yr oedd poen a siomedigaeth wedi ei rychu, ac yr oedd mor deneu fel yr oedd ffurf ei esgyrn i'w gweled trwy y croen. Er y gwyddai Robin holl hanes y dyn oedd yn gorwedd o'i flaers, ac y deallai ei natur anfadd- eugar, eto yr oedd rhyw dosturi mawr yn dod trosto wrth ei weled yn y fan hono, wedi ei dynu i lawr hyd y llwch. Fel y parhai i s.yllu arno symudai y gwefusau aychion, a chlywai yr hwsmon eiriau yn cael eu sibrwd yn doredig oedd yn dangos fod yr hen deimlad elyniaethus yn erbyn yr un oedd wedi myned i lenwi hen gartref y teulu yn dal hyd i'r fan hono ond dystawodd drachefn, a phwysodd Robin ei ben ar gefn y gadair. Yr oedd yr hwsmon wedi gwneud diwrnod caled o waith, ac yr oedd y lluddt'd yn drwrn arno. Bron heb ymwyborl iddo ei hun, cauodd ei amrantau, ac yr oedd yn cysgu. Deffrodd yn sydyn, a rhyw dwrf yr> ei glustiau edrychodd o'i amgvlch yn frysiog, gwelodd v cloc o'i flaeo, a'r bysedd yn pwyntio at haner awr wedi dau trodd i edrych ar y gwely, ac er el fraw cafodd ei fod yn wag. Y r oedd dillad John Pris- iart, y rhai. oedd Catrin wedi eu plygu a'u gosod ar g-adair yn ymyl y ffenestr, wedi myned hefyd. Aeth Robin i lawr y grisiau gan feddw! am Catrin cafodd y drws ar glicied yn unig, a chanfyddodd fod ei feistr wedi gadael y ty. Gyda rhyw reddf trodd Robin ei gamrau at Ty Fry. Nid oedd yn annhebyg fod y ffermwr yn nyrvswch ei feddwl wedi myned at yr hen le y bu yn preswylio ynddo cyhyd. Yr oedd y coson yn dywell gan fod storm auafol o felIt a tharanau wedi tori dros y pentref yn y prydnawn. Fflachiai dreieiau gwynion ar draws y duwch fel y cvf- iyrnai Robin yn ei flaen; yr oedd yn ymwybodol ei fod wedi cwrdd a rhywun ar y ffordd, yr hwn oedd. wedi gwaeddi I nos dawcb ariio, ond ni wyddai pwy ydoedd, ac nid oedd wedi ei ateb. Ychydig iawn o amser gymerodd iddo gyrha.edd yr hen ffermdy; aeth trwy y Uidiart ac i fynu y llwybr gydag ochr y berllan ac i'r buarth. Wedi myned i'w phen uchaf gan edrych yn fanwl o'i am- gylcb, er nad oedd yn gweled ond ffurf y tai allan, ambell waich fflachiai mellten ar draws ei lygaid, gan oleuo pob congl o'r buartb, ond ni welodd arwydd fod ei feistr yn unman. Dechreuodd un o'r cwn gvfarth, ond distawodd pan siaradodd Robin vn ddystaw wrtho. Aeth yr hwsmon o amgyieh y ty i'r ochr ogleddol, 11e yr oedd y teisi gwair yn cael eu codi bob amser. Yr oedd ei lwyHr wedi ei oleuo lawer gwaith, fel y crybwyll- wyd, gau fflachiau llaehar y dreigiau, ond gwelai yn awr fflachiad gwahanol gwanach, ond mwy par- haol, ac yn ngoleu hwnw gwelai Robin John Pris- iard yn dal canwyll oleu wrth un o'r rhaffau gwellt oedd yn sicrhau y das yr oedd y fflam yn rhedeg i fyau yn gynym. Gydag un naid yr oedd Robin wrth benelin y ffermwr, ac wedi taraw y goleu o'i lawr tynodd gvllell o'i logell, a thorodd y rbaff losgedig a thaflodd hi i ganol y cae, ac vna gafael- In odd yn mraich ei hen feistr, a dechreuodd ei arwain yn frvsiog o'r lie, drwy y cae i lawr i'r ffordd heb fyned drwy y buarth eilwaith. Yn ei frys, ni sylw- odd Robin druan fod y ganwyll wedi disgyn i ganol cocyn o wellt sych oedd wedi ei adael wrth waelod y das, a bod gwreichionen w3di casglu nerth; trodd yr hwsmon ei gefn heb ei weled, fodd bynag. Ni chafodd yr un anhwylusdod i gael gan John Prisiard ddod gydag ef. yr oedd y nerth flfugiol oedd wedi ei gvnal i wneud y cais ysgeler ar eiddo ei elyn wedi diflanu, a phwysai yn drwm ar Robin gan fwmian wrtho ei hun fel y llusgai hwnw ef yn ei flaen. Gvdag anhawsder mawr y llwyddodd i'w arwain i fynu y grisifiu cul, ond yr oedd calon Robin yn llamu o ddiolchgarwch pan y gwelodd ef yn gorwedd ar y gwely, a Catrin eto heb ddeffro o'i chwsg. Plygodd y dillad drachefn a gosododd hwynt yn eu lie ar y gadair wrth y ffenestr. Yr oedd y ffenestr yn nhalcen y ty ac yn gwvnebu ar Ty Fry. Wrth godi ei ben gwelodd Robin fflachiad dan odreu y gorchudd oedd ar y ffenestr. Meddyliodd mai mellten oedd, ond tyn- odd y lien o'r neilldu, a pheidiodd ei galon a churo bron pan welodd wrid dwfn vn cochi'r ffurfafen tu ol i'r hen ffermdy. Meddyliai y byddai'n well iddo godi Catrin er myned i godi'r pentrefwyr, ond cyn y gallai wneud hyny clywai swn traed yn rhedeg. a'r gwaedd Tan, tan.' Yr oedd y cri fel pe wedi galw yn ol y synwyrau oedd yn suddo i annghofusrwydd agorodd y gwr claf ei lygaid yn llydan, a throdd Robin yn sydyn, a'i waed yn ceri yn ei wythienau wrth glywed chwerthiniad erchyll yn dod o gyfeiriad y gwely. Edrychodd i lygaid disglaer ei hen feistr am eiliad, yna disgynodd yr amrantau dros eu goleu dialgar, a syrthiodd y trwmgwsg hwnw arno sydd yn ragflaenydd i'r hun nad oes deffro ohono hyd udganiad yr udgorn diweddaf. Eisteddai Robin ar y gadair heb awydd cysgu o gwbl yn dod ato gwrandawai ar y trwst oddiallan, y galwad am ddwfr. Clywai swn traed ceffyl yn carlamu yn nghyfeiriad Aberdoldy, a gwyddai mai un o'r gweision oedd yn mynd i gyrchu'r injan.' Ond trwy'r oil cysgai Catrin hun y Iluddedig, a thuhwnt i'r melusder yr oedd gorphwysdra corph yn ei ddwyn yr oedd gorphwysdra i'r galon ddrylliog. Yr oedd gwawr ddu oer yn tori pan agorodd Cat rin ei llygaid yn araf am enyd nid oedd yn syl- weddoli yn mha le yr ydoedd, ond yn fnan daeth yr oil yn ol iddi, a neidiodd i f) na gan geryddu ei hun yn dost am adael ei thad c. hyd o amser, ac yn teimlo yn ddig wrth Robin amaanel iddi gysgu, Trwy y dydd hwnw gorweddai y ffarmwr heb symud nac unwaith agor ei lygaid. Meddyliai Catrin fod hyn yn dd., ond gwyddai Robin, yr hwn oedd wedi aros gyda hi, mai dechreu y diwedd ydoedd, ac yr oedd yn deall edrychiad y meddyg pan y trodd i ffwrdd oddiwrth y gwely heb wneud yr archwidad dyddiol. Ond yn y prydnawn daeth Catrin i wybod ystyr y swn oedd yn dod o rhwng y gwefusau sychion, y rhai a wlychai yn awr ac eilwaith a. phluen, a hiraethai ei chalon am iddo unwaith agor ei lygaid arni. 0 fel y dymunai ei glywed yn dweyd ei fod yn maddeu i Gruffydd, ac hefyd cael rhyw arwydd nad oedd yn marw mewn gelyniaeth a Deb, achos yr oedd yn gwybod y teimlad oedd gan John Prisiart yn erbyn tad Morru; ond ni chafodd ei dymuniad. Ond arbed- wyd un tristweh iddi, ni wybu byth am yr hyn ddigwyddodd tra yr oedd yn huno mor dawel yn y llofft nesaf. Cadwodd Robin y cyfan yn ddirgel, a cheir gweled gyda faint o hunanaberth. Pan oedd cysgodau yr hwyr yn tywyllu, bu farw John Prisiart, o ddwylaw yr hwn yr cedd yr hen ffermdy wedi myned i estroniaid. Nid oedd neb ond ei ferch a'r gwas oedd wedi dod at ei lidiart y boreu melynaidd hwnw yr oedd y byd yn ieuano iddo, nid oedd ond y ddau hyn yn gwylio ei anadl olaf. Yr oedd cymaint o drwst wedi bod gyda'r tan yn Ty Fry, fel yr oedd pawb wedi cyrchu i'r fan,a Catrin wedi ei annghofio. Pan welodd Robin fod pobpeth drosodd aeth i erfyn ar rai o wragedd y gymydegaeth i ddod i geisio rhoddi cysur i'r eneth oedd wedi ei gadael mor amddifad. Wedi iddo ddod yn ei ol gyda dwy gymydoges, ni fu fwy na deng munyd yn y ty pan y curwyd yn y drws yn drwm, a chyn y gallai neb fyned. i agor, codwyd y glicied oddiallan, » daeth heddgeidwad i mewn. Gvaeddodd un o'r gwragedd, yr oedd y Hall yn y llofft gyda Catrin, a goliyngodd y gwpsri oedd yn ei llaw mewn braw. Edrychodd Robin yn syn ar v dyn, gan geisio dyfalu beth oedd ei 'neges. Estyrodd yr hedd- geichvad ddarn o bapur glos, ac meddai Yr ydwyf yn eich cymyd i'r ddalfa ar y cyhuddiad o osod ar dan deisi gwair fferm y Ty Fry.' Cododd Robin heb yr un gair, a chanlynodd ef allan. Meddyliai mai allan fyddai oreu ymreaymu ag ef ar ffolineb y peth, ac nid yn y ty, lie y clywai Catrin, er ei bod i fynu'r grisiau yn ei hystafell. (Ibarh.au).

jYn Nghwmni Natur a'i Phlant.

FFOLINEB MAWR.