Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Cwreichfon.I

News
Cite
Share

Cwreichfon. IF CYNALIWYD y deunawfed cyfarfod perthvnol i'r Gymdeithas Ddiwygiadol Eglwysig yn nglyn a chladdu y meirw yr wythnos ddiweddaf yn y West- minster Palace Hotel, a hysbyswyd fod y cyhoedd wedi cymeryd ei h egwyddorion i fynu, a bod diw- ygiad amlwg wedi cymeryd lie eisoes. Rhai o brif bwyntiau y gymdeithas ydyw ymwrthod a beddau brics,a vaults,ymddadgosiadau costus a rhwysgfawr, gwledda, a'r arferiad o addurniadau blodau, y wreaths a'r crosses. Da iawn. Diwygiad yn yr iawn gyfeiriad ydyw amcan y gymdeithas hon. IF Ffolineb perffaith hefyd ydyw y lol yn nglyn a chladdu milwrol, yn ecwedig pan ei gwein yddir mewn tref wledig ar ddydd yr Arglwydd. Y mae saethu dros fedd y dyn tawelaf yn yr holl wlad trwy ei fywyd yn ymylu ar baganiaeth canibalaidd, a hyny yn mhresenoldeb deiliaid yr Yagal Sab- bothol Yn union wedyn a'r seindorf oedd yn hebrwng y corph dan ganu y Dead March in Saul' yn ol dan chwareu The girl I left behind me,' neu rhyw gerdd nwyfus arall. Nid ydyw yn gweddu yn Nghymru, wir. Dim pomp, ond sym!rwydd difrifol teilwng o'r amgylchiad, os gweluch yn dda, 11 IF Ie, oes wyllt ydyw yr oes hon, 'does dim dadl yn ei chyich hi. Y dydd o'r blaen 'roedd gweinidog poblogaidd (W.) yn myned i gynal cyfarfod mawr, fe'i poenid yn gethin a'r ddanodd, a rhywun yn ei weled mewn trybini oddeutu ei borth llafar, a ofyn- odd iddo yn y tren, Ai'r ddanodd sydd arnoch, Mr Hwn a hwn ?' le wir, y mae just a'm gwir- ioni,' ebe yntau ac yn y fan, gan mai deintydd oedd yr ymholydd, awd ati i dynu cwpl o'i ddm- edd a'r pregethwr a gafodd lonydd, a'r llonydd- weh a esgorodd ar hwyl anarferol yn y cyfarfod. IF Yr oedd gweinidog Cymreig enwog (M.C.) yn trafaelu yn yr un caban, a phan welodd yr oruch- wyliaeth ryfedd, nid rhyfedd iddo arllwys ei deim- lad yn y geiriau Wyddoch chi be, fe fuasai yn well genyf ddyodde'r ddanodd am dragwyddoldeb!' ond yr oedd y dyoddefydd mor llawen i'r gog wedi cael gwared o'r swmbwl. IF Esmwyth cwse potes maip.' Yr oedd y cwn- stabl wedi coleru Philip, hwsmon y Plas, am ddwyn ceiliog, pan oedd y truan yn ei wely, wedi swpera yn ddeintus ar y ceiliog lladrad ond pan glybu Cadwalad ei gymydog, yr hwn oedd wedi swpera ar gawl, am y trybini, sisialai yn nghlust Barbara ei wiaig, Barbara, y ngeneth i, esmwyth cwsg potes maip, ynte V IF Tarawodd fy llygad ar englyn prydferth v diweddar 8arch D. Price,, L)inby(-.h gynt, a gyfan- soddodd ar ei wely yn America, ychydig cyn ymadaw a'r fuchedd hoo, ac onid ydyw yn nod- weddiadol o'r hen batriarch — Digonwyd fi ar deganau—y byd, Boed ei barch ac yntau I ryw ddyn a garo'r ddau, Mynwent a nef i minau. IF I Be ydi node y duwiol, John ?' ebe gwraig y Fronsegur wrth y gwas un noswaith. ar ol dyfod o'r capel, pryd yr atebodd John, yn hynod o hunan- feddianol, Y mae Dafydd, nid y meistr (Dafydd Owen oedd enw y penteulu) yn symio y mater i fvnu, meistres, yn well nag y galla i, ac fel yma mae o'n deyd, Y glan ei ddwylaw, a'r pur ei galon; yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd, tcnithyogoddi dwyllo, 'Rhagorol, John, a dvna asgwrn i'w hel i dy feistr, tae o yn ei gymyd o,' ebe y feistres. Doedd Dafydd Owen, druan, ddi'n yn proffesu, a chyffyriau ei briod a'r gwas oedd yr holi a'r ateb i geisio ei wella. IF Hynod mor groendeneu ydyw cariadon-pan ofynwyd i Charles pam yr oedd wedi tori ei garwr- iaeth i fynu gvda Miss Hughes, fe atebodd yn gig- noeth ryfeddol, Oherwydd i mi glywed y parot yn deyd, Peidiwch George, os cusanwch chi fi eto, mi waedda i ar y mam. Wela i ddim yn hyn yna,' ebe'r cyfaill, pryd yr ychwanegodd y carwr, Ah I tydech chi ddim yn cofio mai nid f'enw fi ydi Charles, ac mae hyny yn profi mai hoeden wyllt ydi hi.' J. IF Mor lednais ydyw cydwybodau dirwestwyr, onide? Cnociodd dau o'r urdd yn ddefosiynol iawn y prydnawn o'r blaen wrth ddrws y dafarn, a phan at-^bwyd gan y forwvn,yr archiad oedd I Dan lasiad o gwrw, os gwelwch yn dda.' Yn wir, y mae rhagrith dirwestwyr yn annyoddefol; yr oedd un o'r ddau lyncwr yn areithio dirwest i'r gobeithlu y noson o'r blaen. v T Twyllodrus ydyw barn y cvhoedd. Pan fu farw yr hen Owen Wynn, fe ddywedai un o'i gymydogioll-er mai efe oedd y cledryn mwyaf anvstyriol yn yr holl wla(I-I Fe fydd yn golled i'r plwy yma ar i ol; fyddai o byth na throai haner coron yn ol wrth dalu tir tatws.' If Trafaeliodd boneddwr manwl y dydd o'r blaen mewn second class carriage rhag eistedd gyda'r ysmygwyr, rhag i'r Esgob, a'r hwn yr ymwelai, arogli baco ar ei ddillad, ond wedi trafaelio felly 30 milldir, daeth gwraig i'r compartment, a chvn pen pum munvd wedi i'r tren adael yr orsaf, gofynai y wraig, Do you object to smoking, sir?' 'Yes I do,' ebe yntau, but I cannot deny a lady of the pleasure.' Ar hyn, taniodd yr hen ysmygyddes. a mygodd fel un ag awdurdod ganddi, nes oedd dillad y boneddwr gwastad yn drwm o fwg baco, a gorfu iddo brynu potelaid o scent i daenellu ei ddillad cyn myned i bresenoldeb ei Arglwyddiaeth, ond ar ol y cwbl, y fath lolyn y mae yr Esgob yn ysmygwr tan gamp ei hunan. IF Fel rheol, dynion fydd yn gofyn i'r boneddig- esau Do you object to smokink V ond y tro hwn yr hen wraig ddaeth fel barn ar yr anti-smoker. CYFARWYDD.

-0-Y Briodas Frenhinol,

YFWYR TE-DALIWCH ( SYLW.

Advertising

Newydciion Cymreig.

Hodion o'r Sdinas.