Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

--0--I Argyfwng y Clo yn Ngogledd…

CWRS Y BYD

----__----.......-_------Diffyg…

--0-Cymro'n ceisio lladd ei…

0-Ceisio Ifofruddio ei briod-

0 Mesur Rheoleiddiad Clofeydd.!

Y Cynadledd Wesleyaidd yn…

News
Cite
Share

Y Cynadledd Wesleyaidd yn Lerpwl CIFARFOD CYMRAFC. YN nglyn a'r gynadledd uchod, cynuliwyd cyfarfod Cymraeg nos Sadwrn yn Hope Hall gyda'r amcan o hyrwyddo y gwaith cenadol yn Neheudir Cymru a sir Lancaster. Rhoed cychwyn i'r genadaeth hon rai blynyddau'n ol, a thrwy ymroddiad y cenadon y mae llwydd amlwg wedi dilyn y mudiad. Cymerwyri y gadair gan Mr. Thomas Lewis, Y. H., Bangor. Dieth cynulliad lluosog yn nghyd, ac yn eu plith yr oedd y Parchn. 0. Hughes (Widnes), E. Lloyd Jones (Rhyl), T. Manuel, J. Evans (Eglwysbach), E. Humphreys, J. Barrett, Evan Evans, W. H. Evans, Hugh Evans, John Evans (Cefnmawr), John Rowlands, R. Jones (Towyn), Caenog Jones, William Jones, R. Jones, (Bangor), Mrs Evans. Mr John Jones, Cyngborydd J. R. Pritchard. Mri John Marsden, E. Gwaenys Jones, E. W. Roberts, R. W. Thomas, a Peter D ivies (ysgrifenydd). Ychwanegwyd llawer at ddyddor- deb y cwrdd trwy i gor o 300 o leisiau ganu dan arweiniad Mr R. Wilfrid Jones, R. A. M. Deuai'r cantorion o eglwysi Shaw Street, Mynydd Seion, Boundary Street, Edge Hill, Birkenhead, Bootle, ac eglwvsi r genadaeth Gymreig. Cyfeiliwvd gan Miss Davies a Mr. Cadwaladr Owen. Wedi i'r Parch J. Barrett offrymu gweddi, caed anerchiad gan y Ilywydd, yn galw sybv at y gwaith mawr a rhagorol a wnelai'r genadaeth, a gofynai yn daer am gefnogaeth pellach er eangu y gwaith a'i wneud yn fwy effeithiol. -Y Parch Owen Hughes, Widnes, yr hwn sy'n gofalu /1m y gwaith cenadol yn sir Lancaster, a roes amlinelliad dvddorol o'r hyn a wneir gan y genadaeth. Dangosodd yn glir fod y gwaith wedi dwyn canlyniadau calonogol a bod y gorphenol yn symbylu ymroddiad eto yn y dyfodol. Y Parch E. Lloyd Jones a ofidiai fod cynifer o Gymry ieuainc ar ol gadael eu cartref yn cefnu ar ffydd a chrefydd eu rhieni. Pan ddeuent i'r dinas- oedd mawrion a phoblog, rhaid yw iddynt wynebu dylanwadau drygionus y diafol. Da fuasai ganddo ef weled mwy yn aros yn hirach garttef yn y wlad, oblegyd credai fod ieuenctyd yn colli llawer o'r irder a'r agosrwydd at Dduw wrth ddod i ddinas- oedd mawrion fel Manceinion a Lerpwl yn hytrach nag aros yn awyrgylch grefyddol bur eu sartrefi rhwng mynyddoedd Cymru. Angen mawr y dyddiau presenol oedd ysbryd cenadol yn mhob cylchdaith; ac yr oedd ef am fynegi fod pregethwyr yn y cyfundeb Wesleyaidd yn awr, y rhai os na allent werthu penwaig yn well nag y gallent breg- ethu, a barhaent i wertfiu penwaig tra byddent byw. Ni raid i ddyn fod yn berson am byth oher- wydd ei fod wedi cychwyn yn berson. Teimlai fod pagtiniaeth yn cynyddu cymaint mewn rhai manau o Gymru ag ydoedd hyd yn nod yn Nwyrein- barth Llundain, ac nis gallai lai na theimlo fod llawer o'r pregethau diweddaraf yn fwy o rwystr nag o help i'r bob]. Yr oedd gormod o bregethu o lawer, ac 11m hyny, argymhellai ar i bawb oedd yn gysylltiedig a'r genadaeth weithio mwy tu allan i'r pwlpud nag a wnaethant yn y gorphenol. Traddodwyd anerchiadau pellach gan y Parchn T. Manuel, J. Evans (Eglwygbach) a Mrs Evans a Jehn Hughes. AGWEDD YR EGLWYS AT Y TORFEYDD. Nawn Sul, yr oedd Hengler's Circus wedi ei gor- lanw o bobl awyddus i wrando'r Parch H. Price Hughes, Llundain. Cymerodd Mr Hughes y wyrth o borthi'r pum mil yn destyn. Wedi egluro'r cysylltiadau, gofvnodd beth oedd y wyrth yn ddat- guddio ? Datguddiad ydoedd o agwedd Crist ei hun at y torfeydd—at dorf o bobl gyffredin-a eglurid mewn dau air-tynerwch a chroesaw, ac agwedd angenrheidiol, anocheladwy, a hanfodol pob gwir Gristion ddylai fod tosturi tyner at y torfeydd. Amlvgid gwir deimlad y pagan, mewn oesau fu ac yn Lloegr yn awr, gan y geiriau adnabyddus hyny o eiddo Horace Cas genyf v bobl gyffredin, a chadwaf hwy hyd braich." Teimlad Crist, fodd bynag, oedd tynerweh anesboniadwy, a dywedodd Ef eu bod megys defaid heb fugail. Credli Mr Hughes fod nifer y bobl oedd yn wirfocldol ddryg- ionus yn llawer llai nag y tybiai rhai duwinyddion. Tybiai y rhai hyny oedd yn cymysgu gyda dos- barthiadau isaf cymdeithas fod mwy o bechu i'w herbyn nag a bechent hwy eu hunain. Nid oedd llawer o'u drygioni a'u troseddau yn ganlyniad ystvriaeth bwyllog mewn gwaed oer, ond canlyniad cyffroad sydyn y natur ddynol, a thuedd dynion i ddynwared eu gilydd. Tueddent yn fynvch igredu mai am ei ddrygioni personol yr oedd dyn mewn e,rpiau,nei.dvbioeubod hwy yn llawer iawn gwell am fod iddynt daclusach diwyg. Ynfydrwydd oedd hyny. Pe buasent hwy ac yntau wedi eu geni yn nghwterydd Llundain, fe ddichon mai yn y carchar y ceid hwy'n a.wr. Y ffaith am dani oedd fod llawer ohonynt yn harohus oherwydd eu ham- gylchiadau, am eu bod yn blant i rieni duwiol ac wedi eu dwvn i fynu yn vr Ysgol Sul. Felly, na foed iddynt dybio eu bod yn llawer amgenach na'r trueiniaid hyny y dywedodd Charles Kingsley am danynt eu bod wedi eu damnio o'r cryd." Gad- awer iddynt felly efelvchu Crist trwy groesawu'r torfevdd, nirl i'r neuaddau yn gunig, ond i'r eglwys harddaf adeiladwyd erioed. Gofidus ganddo oedd gweled fod y mwvafrif aruthrol o'r dosbarth gweith- iol yn Lerpwl nad elent i un lie c addoliad. Paham? Nid am eu bod wedi cael crefydd yn ddiffygiol nac am eu bod yn cashau, Crist ond oherwydd fod proffeswyr crefydd am resymau nas gallai ef roddi cyfrif am danynt wedi methu argraphu ar galonau y dosbarthiadau hvny fod croesaw calonog iddynt yn Nhy Dduw? Yr oedd angen felly rhoddi ar ddeall i'r do,barth gweithiol fod nystal croesaw iddynt ag i Dywysog Cvmru. Ail ddatguddiad y wyrth oedd adnoddau dihysbvdd Crist ei hun ac os oeddynt yn y dyddiau diweddar hyn eisiau esiampl o'r modd i gael rhywbeth allan o ddim," credai y caent hyny yn Myddin yr Iachawdwriaetb. Nid oedd chwarter canrif wedi myn'd heibio er pan safai Wm Booth yn Whitechapel heb geiniog, gan wynebu y dorf garpiog oedd yn cablu y tuallan i'r eglwysi. Hedclyw yr oedd yn un o uchelwyr eglwysig mwyaf y byd, a pbawb yn foddlawn i'w foli. Credai ef (Mr. Hughes) yn mhob cwrs o efengyleiddia.d Cristionogol er dwyn y bobl at Grist. Tri gallu mawr Ewrop ydynt-cymdeith- asiaeth, sv'n gwylio angenion anianyddol dyn athroniaeth, sy'n gwylio angenion meddyliol; a chrefydd sy'n cvflenwi ei angenion ysbrydol. Yn Nghrist yn unig yr oedd yr hedd i lanw enaid dyn: a phe chwilient i gyfrinachau pob crefydd arall canfvddent amheuaeth ac anhawsderau moesol aruthrol. Y rheswm, gredai ef, droa fod can lleied o gynydd mewn blvnyddau diweddar ydoedd fod eu hanturiaethau wedi bod mor fychain fel nad oedd yn werth gan D3uw eu bendithio na'r diafol eu gwrthwynebu-alr hyn y safent mewn angen am dano yn awr yn yr eglwysi oedd mwy o'r vmenydd a'r synwyr cyffredin a ddangosid gan ddynion i wneud arian. Mewn cyfres ithyglauar rai o snwogion y Gynadledd Wesleyaidd, ymddangosodd yn un o newyddiaduron dyddiol y ddinas, ceir a ganl am y PARCH JOHN EVANS (Eglwysbach):- Un o wyr mwyaf hyawdl Cymru yw'r Parch John Evans (Eglwysbach), yr hwn er s blynyddau lawer sydd wedi bod yn rheng flaenaf pregethwyr y Dywysogaeth. Medda ddylanwad annghyffredin ar ei wrandawyr. Ar y cyntaf, mae pob para- graph o'i eiddo yn creu cyffroad, ac yn cael atebiad; yna pob brawddeg, ac yna pob sylw. Yna daw "hwyl "-pan gyffroir y teimladau dyfnaf. Er mai y pwlpud yw gorsedd Mr Evans, nid yw yn gyfyngedig iddo. Y mae'n ddarllenwr mawr, yn fyfyriwr ctiied, yn ddarlithydd poblog- aidd, ac wedi cyfranu yn helaeth i'r wasg. Cy- hoeddodd gyfrol ar Fywyd a gwaith John Wesley," a phedair cyfrol o bregethau, dan yr enw Pwlpud Cymreig City Road," Efe yn awr sy'n gofalu am Genadieth Deheudir Cymru."

--0 Y diweddar Barch John…

-(0)-Prawf Jameson a'r Ddedfryd.

-0-Marchnadoedd.