Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
--0--I Argyfwng y Clo yn Ngogledd…
--0-- Argyfwng y Clo yn Ngogledd Gymru. YN nglyn a'r argyfwng presenol, ysgifena gohebydd i ddweyd ei fod wedi gofyn barn amryw o wyr blaenllaw yn ystod yr wythnos ar v mater hwn, a'r teimlad cvffredinol yw y bydd i berchenogion y glofeydd dvnu yn ol eu cynygion. cvdsyaio a. gofvnion v glowyr, ac felly atal streic. V mae'r golled o 15,000,000p a achoswyd gan y streic fawr ddiweddaf yn cael ei deimlo o hyd ac ofna'r glo- berchenogion fyned trwy brofiad cyffelyb eto. Cred un o berchenogion glo mwvaf ardal Rhiwabon v deuir i gyt'mdeb cyn dydd Sadwrn nesaf. Fel prawf arall nad yw'r glo-berchenogion yn credu v bydd sbreic, gellir nodi na wneir un cais arbenig i co stackio glo ar enau'r pyllau. Ni weithir ond tri neu bedwar diwrnod yn yr wythnos yn y rhan fwyaf o lofeydd ardal Rhiwabon a Gwrecsam a phe disgwylid cload allan, buasai'r meistriaid yn sicr yn gweithio amser llawn ac yn parotoi at y gwaethaf. o: Yn y Wyddgrug ddydd Llun, cyhuddwyd dyn ieuanc o'r enw Edward Lloyd, glowr o Rhydv- mwyn, o deitbio ar y reilffordd heb docyn. Dirwy- wvd ef i 15s. Mewn gwledd roed i gigyddion yn Ngwreesam ddydd Llun, dywedodd amryw fod yn rhaid i'r ffermwyr, os am fagu anifeiliaid a ddygent elw, eu gwneud yn ol galwad y cyhoedd. Nid oedd fawr o alwad am anifeiliaid mawr tewion, ond yn hvtrach rai bychaln wedi eu bwydo'n briodol. Da fyddai porthi perchyll gyda ceirch Seisnig yn lie indrawn a bran, a rhai yn pwyso o wyth scor i ddeg scor deg pwys a werthent oreu.
CWRS Y BYD
CWRS Y BYD Diolch am y gwlaw. WEDl hir gadw draw, a hir fygwth, fe ddaeth y gwlaw, yn gawodydd bieision, trymion, a bar- haodd am oriau ddyddiau Gwener a Sadwrn, ac ychydig mewn manau y Sul. Ond yr oedd y ddaear sychedig yn ei yfed fel y disgynai, ac ychydig allai hi hebgor i'r nentydd a'r afonydd hespion; a'r erfyniad yn rahob man ydyw, rhagor. Mae llawer o flynyddau er pan fu y fath brinder dwfr. Dyoddefodd rhai o dreti Cymru yn erwin, Machynlleth yn arbenig. Yr oedd y pydewan wedi sychu, a'r unig ddwfr a geid yn baner byw. Nid oedd Bliwmaris nemawr gwell, a llawer tref arall ellid nodi, lie y bu'r newyn dwfr yn bygwth. Ond rhanbarth ,dlawd o ddinas fawr, fel y bu am wytbnosau yn nghvr dwyreiniol y Brifddinas-dyma lie yr oedd prinder dwfr yn chwanegol at brinderau eraill yn chwanegu trueni at drueni. Bedd Golyddan. YN mynwent Eglwys Dewi Sant, Dinbych, y anae colofn drom a hardd o ithfaen ar fedd y bardd ieuanc athrylithfawr, ac yn gerfiedig ar ochr ddwyreiniol y golofn JOHN ROBERT PRYS, U.M.U.E., Golyddan. Bu farw Tach. 16, 1862, Oed 22. Cyfodwyd y golofn hon gan ei edmygwyr. Y mae pisgwydden (lime tree) ieuanc iraidd yn tyfu gerllaw, ac yn estyn cangben at frig y gol- ofn, fel pe yn ceisio rhoi ei braich am ei gwddf. Nis gwn a oes rbywun arall wedi ei gladdu yn y bedd hwnw, ynte bedd unig y bardd ydyw. Y mae colofn hardd arall yn ymyl i'r Parch Samuel Davies y laf, un o weinidogion blaenaf y Wes- leyaid yn Nghymru, ac y mae y naill a'r Hall i'w gweled yn hawdd o'r tren wrth fyned tua Rhuthin. Caradog a Meiriadog. MAE bodau digrif weithiau yn ymwthio ar bwyllgorau Eisteddfodau. Mwyaf Seisnig fo'r pwyllgor, mwyaf digrif fydd y bodau. Beth amser yn ol, yr oedd nifer o ddoethion y Tra- llwng wedi ymgynull i ddewis testynau cyfarfod a elwid yn Eisteddfod Powys. What is the Chair subject, Jones?" gofynai un pwyllgorydd i'r llall. Caradog," ebe Jones. Ah Car- adog, who is he V' "I don't know much about him but I believe he keeps a pub. at Llaufair!" ebe Jones, wedi camgymeryd yr arwr fu'n dy- chryn y Rhufeiniaid gynt am yr hen gynghan- ,-eddwr Meiriadog o Lanfair Caereinion. Byddai casgliad o ymfflamychiadaa pwyll- gorau Eisteddfodol yn rhyfeddol o ddyddorol. Mewn pwyllgor heb fod gan' milldir o Rhyl, darllenai'r ysgrifenydd restr o'r beirdd "i fynu ac i lawr ddisgwylid i gyhoeddiad yr Eisteddfod hono, ac yn y dull arferol dywedai pryd y bydd yn erwynebol 'Plenydd, Alawn, a Gwr- on,' a chyn iddo fyn'd ddim pellach torodd pwyllgoryn ar ei draws, "Howld on Plenydd s a adwaenwn, ond pwy ydyw'r dclau arall A'haid. ini beidio hel pob siort yma, chwaith." Cewi D'wysog. "GOBEITHIO'R anwyl fod gan Gymru rhywddarlun- ydd a rydd ar lian a chadw yr olygfa hanes- I yddol Gymreig hono a gymerodd le pan gyflwyn- odd nifer o urddasolion y genedl fodrwy wedi ei gwneud o aur Trawsfynydd yn bwyddion i'r Dywysoges Maud, yr hon a urddwyd yn Eis- teddfod Caernarfon tan yr enw Mallt, ar achly- sur ei phriodas Thywysog Denmarc. Yn rnhlith yr urddasolion hyn, yr oedd yr Arch- dderwydd olaf, Syr John Puleston, Syr Osborne Morgan, ac un neu ddau eraill fyddant yn syr- iaid yn y man. Dyma beth ydyw codi'r hen wlad yn ei hoi, Mbddyliwch am aur Trawsfyn- ydd yn fodrwy ar fys tywysoges o'r had breninol, a meddyliwch am dywysoges (wedi ei hurddo yn Ngorsedd y Beirdd, mae'n wir) yn ddigon di- falch i dderbyn anrheg gan Gymry. Yn ddigon siwr, mae'r byd yn dod i'w le o dipyn i beth. Pobl radlon, nobl, ydyw Tywysog Cymru a'i deulu i gyd. Mewn llythyr at gyfaill dydd- iedig dranoeth i gyflwyniad y rhodd, dywed y Tywysog nad yw yn ddigon o Gymro i aJlu dweyd beth ydyw arch-dderwydd," ond yn ol y geiriadur, casgla mai dyn yn gwneud eirch derw ydyw—nad oes synwyr yn y byd yn hyny, a gobeithia y ceir deongliad i'r enw o hyn i Eisteddfod Casnewydd. Mae ganddo syniadau Uchel iawn am yr Archdderwydd, er na fedr atngyffred natur ei swydd, ac am ei graffder: er engraipht, pan ddywedodd wrtho mai er cof am Dewi Sant yr oedd ei fab Due Yore wedi galw ei blentyn a'i etifedd yn David, cauodd yr Archdderwydd ei lygad lleiaf yn bur dyn, a daeth twtsh sydyn o besyebu ato, nes y bu agos i'w gap newydd syrthio oddiam ei ben. Aw- gryma ei Uchelder Brerhinol mai un o'i weith- redoedd cyntaf ar ol ei goroniad (a pbell fo'r dwthwn hwnw) fydd rhoi Syr o flaen enwau priod dau o ohebwyr Y Cymro sef Un o'r Gwybodusion, ac awdwr y golofn hon. Santes y Dw'r Oer. FE wyr pawb diragfarn y byddai lawn mor resymol dweyd Sant Elwy a dweyd Santes Gwenfrewy. Afon ydyw un a ffynon ydyw'r Hall, ac y mae wy-dwfr, o angenrheidrwydd, ye y ddwy fel y mae hefyd yn eu henwau. Nid oes achos esbonio Given ychwaith na bre ond fedr neb byth roi deall yn mhenau penybyliaid avrhagfarnllyd. Mynant hwy mai menyw ddiwair oedd Gwen- frewy yn byw rywbryd yn yr oesoedd tywyll, rhy dywyll i neb wybod fawr am dani, a pban oedd brenin o'r enw Caradog" yn byw yn ardal Treffynon Y dadblygiad newydd yn plineb y boblach bsnwan hyn ydyw cael eulun Rv» t'-s.an^es wedi ei wneud o farmor gwyn yn Bwriedir glanio'r eulun yn Nghaer- ydd, a dod ag ef mewn gorymdaith fawreddog a rhwysgfawr ar hyd y wlad yr holl ffordd i Dre- ffynon. Bydd yn rhyfedd os cyrhaedda ben ei daith yn gyfan. Mae'n anhawdd peidio ysmalio wrtb son am Gwenfrewy ac felly yn ddiau y teimlai Nican der pan ganodd yr englyn canlynol At Wenfrewy tan ei friwion-heddyw Daeth Gwyddel ar ddwyffon Ond mendiodd Iluchiodd yn llon Ei ffyn i ben y ffynon. Eisteddfod Gwyr leuainc Gwrecsam. DYMA rywun garediced a'm anrbegu a, rhestr o destynau yr uchod, yr hon a elwir y Seithfed Eisteddfod Gadeiriol Gwyr leuainc Gwrecsam." Paham "gwyr" ieuainc, wys ? P'le mae'r gwyryfon ? Oni fuasai ieuenctyd Gwrecsam yn well. Ond diau fod gan hyrwyddwyr y cyfar fodydd llewyrchus byn resymau digonol iddynt eu hunain am eu gwaith. Mae'r testynau eleni yn dangos gwreiddioldeb canys heblaw y genfaint arferol mewn cyrddau o'r fath cawn gyfieithiad o'r Ffrancaeg, a Mr Darlington yn feirniad, yr byn sydd yn gam i'r iawn gyfeiriad. Mae'r Gwyr lenainc byn beb os nac onibai yn haeddu'r gefnogaeth a gant o flwyddyn i flwyddyn, trwy ddarpar mwyniant buddiol i'w cyd-ieuenctvd ar ddiwrnod gwyl pan y mae cynifer yn cychwyn i lawr y goriwaered.
----__----.......-_------Diffyg…
Diffyg Arianol Eisteddfod Llandudno. YsGRiFENAgohebydd :-Cyflwynir adroddiad annis- gwyliadwy i Bwyllgor Gweithiol Eisteddfod Llan- dudno ddydd Iau nesaf. Yn lie derbyn 600p neu 700p gan gwmni'r reilffordd, fel y disgwylid, ym- ddengys na fydd y swm ond prin 300p. Rhaid i'r pwyllgor felly gyfarfod diffyg arianol o yn a'os i 600p. Mawr ofidir am hyn gan fod y Pwyllgor wedi gweithio yn galed er ceisio gwneud yr wyl yn llwyddianus. Byderir y gwneir y swm i fynu heb fyned ar ofyn y gwarantwyr.
--0-Cymro'n ceisio lladd ei…
--0- Cymro'n ceisio lladd ei hun DAETH achos annghyffredin i sylw heddgeidwaid Lerpwl ddydd Linn. Ymddengys i ddyn tua 40 oed, o'r enw Hugh Jones, brodor o Beau- maris, fyned i laethdy yn EIstow Street, Kirk- dale, a chan gymeryd cyllelldechreuodd niweidio ei hun a hi. Ceisiwyd cymeryd y gyllell oddi- arno, ond llwyddodd i ddianc ymaith. Yn fuan wedi hyny caed ef yn gorwedd yn nghefn un o'r heolydd mewn sefyllfa ddifrifol. Aed ag ef i'r Stanley Hospital, lie yr erys a phrin y mae gobaith am ei fywyd.
0-Ceisio Ifofruddio ei briod-
0- Ceisio Ifofruddio ei briod- GERBRON ynadon Gwrecsam ddydd Llun, cy- huddwyd Hugh Edwards, Cernau, o geisio llof- ruddio ei briod trwy dori ei gwddf ag ellyn. Tystiodd yr Heddwas Phoenix iddo fyned i dy'r cyhuddedig ar y 3ydd cyf., a chael y wraig mewn sefyllfa mor ddrwg fel na oddefai'r medd- yg iddi gael ei symud. Cafodd hyd i'r gwr mewn llofft, gyda'i wddf wedi ei dori ac yn or- cbuddiedig a, gwaed. Aed âQ; ef i'r ysbytty, He y bu hyd y boreu hwnw.—Dr Daries a dystiodd na fuasai'r wraig mewn sefyllfa i roddi ei thyst- |, iolaeth am dair wythnos neu fis. Felly gohir- iwyd yr achos.
0 Mesur Rheoleiddiad Clofeydd.!
0 Mesur Rheoleiddiad Clofeydd. YN v ddadl ar y mesur uchod nos Lun, cynygiodd Mr D. Thomas welliant i'r perwyl mai y pleidiau mewn achos o gyflafareddiad fyddant y perchen g, y goruchwvliwr, neu'r rheolwr ar y naill law, a mwvafrif y gweithwyr yn y lofa ar y Ilaw arall. -Ei ddadl oedd y dylai'r gweithwyr mewn cyfryw achosion gael eu rhoddi ar yr un safle a'r meistri.— Syr M. W. Ridley a wrthodai'r gwelliant-vn ol ei fesur ef y pleidiau fyddant yr Ysgrifenydd Car- trefol ar y naill law a'r glo-berchenogion ar v llall. Mabon a gynygiodd welliant yn darpntr mewn achos o gyflafareddiad nad oedd v gweithwyr i roidi sicrwydd am y costau. Tuedd hyny fyddai rhwvstro i fwyafrif mawr v glowyr gael eu cyn- rvchioli yn y cvflafareddiad.—Svr G. Osborne Morgan' a. gefnogai'r gwe!lia.nt. Atalfa ar gwrs cyf- iawnder fyddai gwneud y sicrwydd am v costau yn orfodol. -Cefnogwyd hef d tan Mr A. Thomas, Syr William Harcourt. Mr S. Evans, Mr M'Kenna, Mr Bryn Roberts, Mr Herbert Lewis, Mr Pritcharci Morgan, a Mr D. Thomas.—Gwrthodwyd y gwell iant trwy 150 yn erbyn 87 pleidlais.—Mr P. Morgan a gvnygiodd fod y sicrwydd am gosfcau yn cael ei gyfyngu i 20p. Gwrthodwyd hyn, ond gwnaed cyfaddawd nad oedd y gweithwyr i dalu ond costau eu cynrvchiolwyr yn unig.—Yn ddilynol mabwysiadwyd y Mesur.
Y Cynadledd Wesleyaidd yn…
Y Cynadledd Wesleyaidd yn Lerpwl CIFARFOD CYMRAFC. YN nglyn a'r gynadledd uchod, cynuliwyd cyfarfod Cymraeg nos Sadwrn yn Hope Hall gyda'r amcan o hyrwyddo y gwaith cenadol yn Neheudir Cymru a sir Lancaster. Rhoed cychwyn i'r genadaeth hon rai blynyddau'n ol, a thrwy ymroddiad y cenadon y mae llwydd amlwg wedi dilyn y mudiad. Cymerwyri y gadair gan Mr. Thomas Lewis, Y. H., Bangor. Dieth cynulliad lluosog yn nghyd, ac yn eu plith yr oedd y Parchn. 0. Hughes (Widnes), E. Lloyd Jones (Rhyl), T. Manuel, J. Evans (Eglwysbach), E. Humphreys, J. Barrett, Evan Evans, W. H. Evans, Hugh Evans, John Evans (Cefnmawr), John Rowlands, R. Jones (Towyn), Caenog Jones, William Jones, R. Jones, (Bangor), Mrs Evans. Mr John Jones, Cyngborydd J. R. Pritchard. Mri John Marsden, E. Gwaenys Jones, E. W. Roberts, R. W. Thomas, a Peter D ivies (ysgrifenydd). Ychwanegwyd llawer at ddyddor- deb y cwrdd trwy i gor o 300 o leisiau ganu dan arweiniad Mr R. Wilfrid Jones, R. A. M. Deuai'r cantorion o eglwysi Shaw Street, Mynydd Seion, Boundary Street, Edge Hill, Birkenhead, Bootle, ac eglwvsi r genadaeth Gymreig. Cyfeiliwvd gan Miss Davies a Mr. Cadwaladr Owen. Wedi i'r Parch J. Barrett offrymu gweddi, caed anerchiad gan y Ilywydd, yn galw sybv at y gwaith mawr a rhagorol a wnelai'r genadaeth, a gofynai yn daer am gefnogaeth pellach er eangu y gwaith a'i wneud yn fwy effeithiol. -Y Parch Owen Hughes, Widnes, yr hwn sy'n gofalu /1m y gwaith cenadol yn sir Lancaster, a roes amlinelliad dvddorol o'r hyn a wneir gan y genadaeth. Dangosodd yn glir fod y gwaith wedi dwyn canlyniadau calonogol a bod y gorphenol yn symbylu ymroddiad eto yn y dyfodol. Y Parch E. Lloyd Jones a ofidiai fod cynifer o Gymry ieuainc ar ol gadael eu cartref yn cefnu ar ffydd a chrefydd eu rhieni. Pan ddeuent i'r dinas- oedd mawrion a phoblog, rhaid yw iddynt wynebu dylanwadau drygionus y diafol. Da fuasai ganddo ef weled mwy yn aros yn hirach garttef yn y wlad, oblegyd credai fod ieuenctyd yn colli llawer o'r irder a'r agosrwydd at Dduw wrth ddod i ddinas- oedd mawrion fel Manceinion a Lerpwl yn hytrach nag aros yn awyrgylch grefyddol bur eu sartrefi rhwng mynyddoedd Cymru. Angen mawr y dyddiau presenol oedd ysbryd cenadol yn mhob cylchdaith; ac yr oedd ef am fynegi fod pregethwyr yn y cyfundeb Wesleyaidd yn awr, y rhai os na allent werthu penwaig yn well nag y gallent breg- ethu, a barhaent i wertfiu penwaig tra byddent byw. Ni raid i ddyn fod yn berson am byth oher- wydd ei fod wedi cychwyn yn berson. Teimlai fod pagtiniaeth yn cynyddu cymaint mewn rhai manau o Gymru ag ydoedd hyd yn nod yn Nwyrein- barth Llundain, ac nis gallai lai na theimlo fod llawer o'r pregethau diweddaraf yn fwy o rwystr nag o help i'r bob]. Yr oedd gormod o bregethu o lawer, ac 11m hyny, argymhellai ar i bawb oedd yn gysylltiedig a'r genadaeth weithio mwy tu allan i'r pwlpud nag a wnaethant yn y gorphenol. Traddodwyd anerchiadau pellach gan y Parchn T. Manuel, J. Evans (Eglwygbach) a Mrs Evans a Jehn Hughes. AGWEDD YR EGLWYS AT Y TORFEYDD. Nawn Sul, yr oedd Hengler's Circus wedi ei gor- lanw o bobl awyddus i wrando'r Parch H. Price Hughes, Llundain. Cymerodd Mr Hughes y wyrth o borthi'r pum mil yn destyn. Wedi egluro'r cysylltiadau, gofvnodd beth oedd y wyrth yn ddat- guddio ? Datguddiad ydoedd o agwedd Crist ei hun at y torfeydd—at dorf o bobl gyffredin-a eglurid mewn dau air-tynerwch a chroesaw, ac agwedd angenrheidiol, anocheladwy, a hanfodol pob gwir Gristion ddylai fod tosturi tyner at y torfeydd. Amlvgid gwir deimlad y pagan, mewn oesau fu ac yn Lloegr yn awr, gan y geiriau adnabyddus hyny o eiddo Horace Cas genyf v bobl gyffredin, a chadwaf hwy hyd braich." Teimlad Crist, fodd bynag, oedd tynerweh anesboniadwy, a dywedodd Ef eu bod megys defaid heb fugail. Credli Mr Hughes fod nifer y bobl oedd yn wirfocldol ddryg- ionus yn llawer llai nag y tybiai rhai duwinyddion. Tybiai y rhai hyny oedd yn cymysgu gyda dos- barthiadau isaf cymdeithas fod mwy o bechu i'w herbyn nag a bechent hwy eu hunain. Nid oedd llawer o'u drygioni a'u troseddau yn ganlyniad ystvriaeth bwyllog mewn gwaed oer, ond canlyniad cyffroad sydyn y natur ddynol, a thuedd dynion i ddynwared eu gilydd. Tueddent yn fynvch igredu mai am ei ddrygioni personol yr oedd dyn mewn e,rpiau,nei.dvbioeubod hwy yn llawer iawn gwell am fod iddynt daclusach diwyg. Ynfydrwydd oedd hyny. Pe buasent hwy ac yntau wedi eu geni yn nghwterydd Llundain, fe ddichon mai yn y carchar y ceid hwy'n a.wr. Y ffaith am dani oedd fod llawer ohonynt yn harohus oherwydd eu ham- gylchiadau, am eu bod yn blant i rieni duwiol ac wedi eu dwvn i fynu yn vr Ysgol Sul. Felly, na foed iddynt dybio eu bod yn llawer amgenach na'r trueiniaid hyny y dywedodd Charles Kingsley am danynt eu bod wedi eu damnio o'r cryd." Gad- awer iddynt felly efelvchu Crist trwy groesawu'r torfevdd, nirl i'r neuaddau yn gunig, ond i'r eglwys harddaf adeiladwyd erioed. Gofidus ganddo oedd gweled fod y mwvafrif aruthrol o'r dosbarth gweith- iol yn Lerpwl nad elent i un lie c addoliad. Paham? Nid am eu bod wedi cael crefydd yn ddiffygiol nac am eu bod yn cashau, Crist ond oherwydd fod proffeswyr crefydd am resymau nas gallai ef roddi cyfrif am danynt wedi methu argraphu ar galonau y dosbarthiadau hvny fod croesaw calonog iddynt yn Nhy Dduw? Yr oedd angen felly rhoddi ar ddeall i'r do,barth gweithiol fod nystal croesaw iddynt ag i Dywysog Cvmru. Ail ddatguddiad y wyrth oedd adnoddau dihysbvdd Crist ei hun ac os oeddynt yn y dyddiau diweddar hyn eisiau esiampl o'r modd i gael rhywbeth allan o ddim," credai y caent hyny yn Myddin yr Iachawdwriaetb. Nid oedd chwarter canrif wedi myn'd heibio er pan safai Wm Booth yn Whitechapel heb geiniog, gan wynebu y dorf garpiog oedd yn cablu y tuallan i'r eglwysi. Hedclyw yr oedd yn un o uchelwyr eglwysig mwyaf y byd, a pbawb yn foddlawn i'w foli. Credai ef (Mr. Hughes) yn mhob cwrs o efengyleiddia.d Cristionogol er dwyn y bobl at Grist. Tri gallu mawr Ewrop ydynt-cymdeith- asiaeth, sv'n gwylio angenion anianyddol dyn athroniaeth, sy'n gwylio angenion meddyliol; a chrefydd sy'n cvflenwi ei angenion ysbrydol. Yn Nghrist yn unig yr oedd yr hedd i lanw enaid dyn: a phe chwilient i gyfrinachau pob crefydd arall canfvddent amheuaeth ac anhawsderau moesol aruthrol. Y rheswm, gredai ef, droa fod can lleied o gynydd mewn blvnyddau diweddar ydoedd fod eu hanturiaethau wedi bod mor fychain fel nad oedd yn werth gan D3uw eu bendithio na'r diafol eu gwrthwynebu-alr hyn y safent mewn angen am dano yn awr yn yr eglwysi oedd mwy o'r vmenydd a'r synwyr cyffredin a ddangosid gan ddynion i wneud arian. Mewn cyfres ithyglauar rai o snwogion y Gynadledd Wesleyaidd, ymddangosodd yn un o newyddiaduron dyddiol y ddinas, ceir a ganl am y PARCH JOHN EVANS (Eglwysbach):- Un o wyr mwyaf hyawdl Cymru yw'r Parch John Evans (Eglwysbach), yr hwn er s blynyddau lawer sydd wedi bod yn rheng flaenaf pregethwyr y Dywysogaeth. Medda ddylanwad annghyffredin ar ei wrandawyr. Ar y cyntaf, mae pob para- graph o'i eiddo yn creu cyffroad, ac yn cael atebiad; yna pob brawddeg, ac yna pob sylw. Yna daw "hwyl "-pan gyffroir y teimladau dyfnaf. Er mai y pwlpud yw gorsedd Mr Evans, nid yw yn gyfyngedig iddo. Y mae'n ddarllenwr mawr, yn fyfyriwr ctiied, yn ddarlithydd poblog- aidd, ac wedi cyfranu yn helaeth i'r wasg. Cy- hoeddodd gyfrol ar Fywyd a gwaith John Wesley," a phedair cyfrol o bregethau, dan yr enw Pwlpud Cymreig City Road," Efe yn awr sy'n gofalu am Genadieth Deheudir Cymru."
--0 Y diweddar Barch John…
--0 Y diweddar Barch John Jones, Tuebrook. MAE genym heddyw y gwaith prudd o gofnodi marwoiaeth y gwr parchedig uohoa, yr hyn a gymerodd le am bump o'r gloch.prydnawn Sulyn ei gartref newydd, 13i5, Fellows Road, Hampstead, Llundain, i'r hyn Ie y symudasai ef a'i deulu ych- ydig wythaosau yn ol. Bu Mr Jones yn dyhoeni am tlynyddau. yr hyn a'i gwnai yn agored i fath o bruddglwyf; ond yr oedd ei ymdyddanion bob amser mor siriol, a'i amgyffredion cyn gryfed ag erioed. Tiwustad fu ei fywyd o'r cryd i'w fedd, dystaw a diabsen fu ei rodiad, ac yr oedd yn amlwg i bawb a'i hadwaenent fod ei ymarweddiad yn y nefoedd er yn blentyn. Fel y bu fyw'n dawel, felly hefyd y bu farw. Ganwyd Mr Jones yn Mochdre, ger Conwy, yn 1841. Yr oedd ei dad yn flaenor gyda'r M. C. yno. Dechreuodd bregethu bu yn Bala am bedair biyn- edd, lie'r oedd yn fawr ei barch gan ei gyd-efryd- wyr rhagorai mewn athroniaeth a duwinyddiaeth, ond yr oedd mor yswil fel na ddeuai allan fel y dylasai yn yr arholiadau ar y canehenau hyny. Gwahoddwyd ef i eglwys Gymraeg-Saesneg yr enwad yn Runcorn, ac urddwyd ef i'r gytiawn weinidogaeth yn 1872; nis gwyddom p'run o'r ddwy ffaith hyn ddylasem nodl gyntaf. Yn Ionawr, 1878, ymddangosodd cyhoeddiad misol dyddorol, pris dwy geiniog, o tan olygiaeth y diweddar Barch John Evans, Garston, ac yntau, dan yr enw (Jronicl yr Ysgol Sabbothol, yr hwn a gafodd gylch- rediad helaeth hyd yn mhell i 1879,pryd y cymerodd rhyw annghydfod le rhwng y golygwyr a'r cyhoedd- wr. Yr oedd ysgrifau Mr Jones ar Aohroniaeth yn y Cronicl hwn yn amlygiad o'i feddwl craft a threiddgar. Yn fuan ar oi hyn, gwaethygodd ei iechyd, a chan obeithio y buasai symud yn foddion gwellhad, daeth i fyw i Tuebrook, gerllaw Lerpwl, lie y cadwai ef a Mrs Jones y Post Office. Daliodd i fynu yn lied dda hyd rhyw ddau neu dri gauaf yn ol, pryd y dechreuodd ei nerth ymollwng drachefn. Er mwyn dyddanu ei ysbryd llesg, ymrodd i gyfan- soddi y llyfr ar Elfenau Athroniaeth Foesot, a gyhoeddwyd yn y swyddfa hon yn 1895, ac a gaf- odd dderbyniad mor gynes a chanmoliaeth mor uchel fel y mae'r argraphiad hwnw wedi ei werthu bron yn ilwyr, Bwnadai ddwyn llyfr cyffelyb fel parhad. ond ofnwn i angau ddyrysu ei amcan. Cymer yr angladd le heddyw (ddydd Iau) yn Paddington Cemetery, Llundain. Y mae Mrs Jones, y weddw alarus, yn ferch i'r diweddar Barch John Jones, Runcorn.
-(0)-Prawf Jameson a'r Ddedfryd.
-(0)- Prawf Jameson a'r Ddedfryd. WEDI gwrandawiad gofalus am chwe diwrnod, gerbron yr Arglwydd Brif Farnwr Russell a dau farnwr arall (Barwn Pollock a'r Barnwr Haw- kins), daeth prawf Jameson i derfyn ddydd Mawrth. Rhoed nifer o gwestiynau i'r rheith- wyr, ac atebwyd hwy yn y fath fodd fel ag i euogfarnu y cyhuddedigion. Ell trosedd oedd codi arfau yn erbyn talaeth gyfeillgar, a thrwy hyny dori Deddf Gwladlywiaeth Dramor. Wrth grynhoi yr achos, sylwodd y Prif Farnwr nas geilid gwadu fod Gweriniaetb y Transvaal ya gyfeillgar a Phrydaiii fod yr ymgyrch wedi ei ffurfio iddi achosi cynhwrf, a myned i ffiaiau gwaharddedig. Rhybuddiwyd hwy eu bod yn ,troseddu'r ddeddf gan swyddog cyfrifol y Frenhines, ond er gwaethaf y rhybudd, daliwyd yn gyndyn ac aed yn wrthryfelga.r yn erbyn gweriniaeth gyfeillgar y Transvaal. Aniddi- ffynwyd y cyhuddedigion gan Syr Edward Clarke a Syr Frank Lockwood, a gwnaethant areifchiau byawdl ar eu rhan. Eu prif bwynt dros yr amddiffyniad oedd fod yr amgylchiadau yn eyfiawtihau'r cwrs, a'r ffaith fod Prydeinwyr yn dyoddef dan law'r Boeriaid yn cyfreithloni'r ymgyrch yn myned i Transvaal i ddial eu cam. Wedi i'r rheithwyr ddwyn eu barn ac ateb y cwestiynau roed iddynt, dedfrydwyd y cyhudd- edigion fel y canlyti :-Dr. Jameson, 15 mis; Syr John Willonghby, 10 mis Major Wuite, 7 mis Mil. Grey, Anrhyd. Henry White, a Major Coventry, 5 mis-yr oil heb lafur caled.
-0-Marchnadoedd.
-0- Marchnadoedd. YD Lerpw 1. Gorphena.f 28. Gwenith yn tueddu at ostwng—River Plate, 23s 6c; Califfornaidd, 26s 6c-mathau eraill heb newid. Ind- rawn-Americanaidd wedi gostwng ïc y cental- mathau eraill yn dawel ac heb newid. Blawd yn gadarn, ac wedi codi 6ch y sach. Ffa, ceirch, a blawd ceirch heb newid, ac yn gwerthu'n araf. "Llundain, Gorph 28. Gwenith-La Plata, 23s 6c Califfornia, 2Gs 6c Duluth, 24s 10c. Indrawn—Danube, 14s 9c La Plata, 13s 6c Galatz, 15s 6c Cymysg Amencanaidd, 14s He. Haidd, 13s 9c. Ceirch—Rwsiaidd, 10s 6c i 12s6 2; Americanaidd, 12s 10c y 320 pwys. Ffa Saidi, 23s 3c; Smyrna, 23s. ANIFEILIAJD Salford, Gorph. 28. 1 Biff, 51c i 6_ molltgig, 6c i 7c; cig- oen, ,c i -T -2 2 Sic, cig llo, 521c i 64c. Birmingham, Gorph. 28. Biff, 4c i GvjC molltgig. 6c i nc; cig oen, Tie i Sic; 2 2 moch bacwn, 7s 6c i 7s 9c perchyll, 8s; hyebod, 4 s 9c i 5s y scor. «