Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Undeb Annibynwyr Cymru.1

-0--Trychineb ar y Ddyfrdwy…

Ffestiniog.

Ein Canedl yn Manoeinion.I

-v-Nodion o'r Rhos.

News
Cite
Share

-v- Nodion o'r Rhos. DERBYNIED Eglwys y Bedyddwyr, Peauel yma, ein llongyfarchiad ar ei Ilwyddiant yn arholiad yr Undeb. Nid oes dim llai na thair gwobr wedi dod i'w rhan. Ni chafodd yr un eglwys yr anrhvdedd hwn o'r blaen, Y Sabboth diweddaf oedd dydd eu casgliad mawr, a chaed dros 25p. Pan ystyriom yr amgylchiadau yr ydym ynddynt fel glowyr ar hyn o bryd, addefir fod y casgliad yn rhagorol. I Canodd y tenor addawol William Jones I Y Ddinas Sanctaidd.' yn dda odiaeth y Sabboth di.- weddaf yn Addoldy yr Annibynwyr. Nos Sabboth diweddaf cynaliwyd cyfarfod dir- westol ar y Groes yma yn yr awyr agored, pryd y caeel anerchiadau g&n y Parchn J. Roberts (A), Dys'^rth; G. Evans (M.C) Rhiwubon ac Evan Davies, Trefriw ac hefyd gan Mrs D. L. Price. Dywenydd genyf ddeall fod y tenor rhagorol, Tom Edwards yma, wedi llwyddo i gael yr hawl- fraint i fynf d i'r coleg yn Llundain. Rhagorol, Tom—llwyddiant a'i dilyno. Nos Lun, cynaliwyd cyfarfod yn nghapel y Wes- leyaid, Stryt Is's i gyflwvno tysteb yn nghydag anerchiad hardd i'r brawd llafurus Robert Jones, ar yr achlysur o'i ymddiswvddiad fel blaenor y gan, swydd a Sanwai er's dros chwarter canrif. Siaradwyd yn ystod y cyfarfod gan y Parch W. B. Jones, Penyeae Henry Pickeripg, W. Evans (Alaw Mabon). Cafwyd amryw ganeuon gan bartioedd y Stryt a'r Rho?, a'r unawdau gan J. S. Roberts, ac mewn araith fer fe ddiolchodd Mr Jones i'r frawdoliaeth yn y lIe am eu teinaladau da tuag ato. Nos Fercher traddododd y Proff T. H. Arthur araith ar Curu, Priodi, a Byw," ac yr oedd yn hynod ddyddorol wrth ddarlunio gwahanol gymer- iadau. Y cadeirydd oedd Mr John Parry. Y mae Cymdeithas 'Mia y Dwr' yma wedi myn'd am bleserdaith i wlad yr Alban. Gobeithio y mwynhant eu hunain yno. Nos Sadwrn. GOMER JONES. -0: Ddydd Mercher, yn Eglwys St. Giles, Amwyth. ig, priodwyd Mr A. E. Evans, Bronwylfa, Gwrec- sam, a Miss Agnes Louisa Stanley, merch y di. weddar Mr St. John Stanley, Court, Gwreesam. Mae'r helynt yn nghylch y llwybr vn Connah's Quay yn myned i lys barn. Hona Rhaith Dos- barth Treffynon ei fod yn llwybr eyhoadus, a myn Mri Ferguson a Baird nad yw. Ceir gweled maes o law. Caed corph Sarah Parry, 71 oed, gynt o Morfa Bach, Rhyl, ddydd Gwener, mewn llyn ar fferm y Ffond Fawr. Yn y trengholiad 'ddydd Sadwrn, dychwelwyd rheithfarn o "Cafwyd wedi boddi."

Llanfrothen.

Advertising