Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Undeb Annibynwyr Cymru.1

News
Cite
Share

Undeb Annibynwyr Cymru. 1 DDYDD MERCHER. TREULIWYD cwrdd cyntaf y dydd i wrandaw y Parch D. M. Jenkins, Lerpwl, yn traddodi ei an- erchiad o'r gadair, yr hwn ymddangosodd yn ein rhifyn diweddaf. Rhoed gwrandawiad astud iddo, ac amlwg oedd fod ei sylwadau amserol yn cael eu gwerthfawrogi. Dilynwyd ef gan y Parch R. Rowlands, Treflys, yr hwn ddarllenodd bapyr ar Gyfrifoldeb eglwysi wrth godi ymgeiswyr i'r weinidogaeth." Ni ddylai unrhyw eglwys, meddai, argymhell dyn ieuanc i ddechreu pregethu os na fyddai yn foddlawn i'w dderbyn fel ei gweinidog.—Ar gynygiad y Parch T. Johns, Llanelli, a Mr M'Lean, Porthmadog, yn eilio, cadarnhawyd y cymhellion oedd yn y papyr. Y Cadeirydd a gyflwynodd ac a groesawodd i'r gynadledd y ddirprwyaeth benodwyd gan y Gym- anfa Gyffredinol yn Lerpwl, sef y Parchn G. Ellis, M.A., Bootle (llywydd y Gymanfa) Dr Thomas Rees, Cefn W. James, Manceinion a W. James, Aberdar. Dywedodd Mr Ellis mai dymuniad y Gymanfa oedd gweled undeb agosach rhwng yr enwadau. Ceid fod yr Ymneillduwyr yn fwy unol yn awr nag oedd y pleidiau yn Eglwys Loegr. Ymosodid ar Brotestaniaeth gan Eglwys Rhufain, a rhaid oedd i Gymru edrych am amddiffyniad rhag Pabyddiaeth nid oddiwrth yr Eglwys Sefydl- edig ond oddiwrth yr Annghydffurfwyr. Cym- hellai iddynt oil gau'r adwyon, a gwynebu'r gelyn yn unol. Dilynwyd gan y dirprwyon eraill. Cydnabyddwyd ar ran y Gynadledd gan Dr Ro- berts, Gwreesam, a Dr Herber Evans, yr hwn a hyderai na fyddent yn foddlawn ar longyfarchiad- au o'r llwyfan yn unig, ond y byddai cynllun ym- arferol yn cael ei faqwysiadu.—Ar gynygiad Dr 0, Evans, L'undain, yn cae! ei eilio gan Dr Roberts, Gwreesam pasiwyd penderfyniad yn cydvmdeimlo a theuluoedd brodyr ymadawedig a therfynwyd trwy weddi g,-n y Paroh J. Charles, Dinbych. Cynadledd yr Ysgol Sul oedd yn y prydnawn. Cymerwyd y gadair gan Mr D, Morris, Lerpwl, yr hwn a argymhellai fod yr un gwerslyfrau yn cael eu mabwysiadu yn holl Ysgolion Sul yr enwad. Penderfynwyd derbyu yr awgrym, a gosod ar un- debiu Heol i benodi cynrychiolwyr er ffurfio cyn- non gyda'r amcan hwn.-Yn y gynadledd genadol ddilynodd, llywyddwyd gan Mr H. Thomas, Llan- elli. Darllenodd y Parch R. W. Rees. Barry Dock, bapyr ar Genadwri canrif o waith cen- adol." Caed anerchiadau pellach gan y Parchn George Consins, dirprwy Cymdeithas Genadol Llundain W. Owen, cenadwr o China a W. Jones, cenadwr o Ddeheubarth Affrica. Yn yr hwvr, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn addoliy'r Methodistiaid, Mr E. H. Davies, Pentre, yn y gadair. Cwestiynau y dydd oedd i ga,el sylw, a chaed cyfarfod rhagorol. Traddododd y Parch T. Talwyn Phillips, Bala, anerchiad ar Crefydd sefydledig yn ngoleuni'r Efengyl;" y Parch Elvet Lewis, Llanelli ar Yr eglwys a ieuenctyd yr oes a'r Parch J. Rees, Cwmllynfell, ar CyfFroadau'r oes, a'r modd yr effeithiant ar ysbrydolrwydd yr eglwys." DYDD lAU. Dygwyd y cyfarfodydd i derfyn heddyw. Cyf- arfu y pwyllgor gweithiol yn y bore, a phenodwyd amryw is-bwyllgorau. Nodwyd y rhai canlynol i ynrycioli 7 etholaethau Gogledd Cymru ar y Cyngrair Ynineillduol:-N,Ton, PArch D. Rees Capel Mawr Rhanbarth Gogleddol Arfon, Mr L. D. Jones, Bangor; Deheuol eto, Mr W. G Thomas, Caernarfon; Bwrdeisdrefi, Mr G. B. Evans. Caernarfon Meirionydd, Parch Rhydwen Parry, Ffestiniog Maldwyn, Mr C. R. Jones, L'anfylHn; Bwrdeisdrefi, Parch, Oaradog Jones, Croesoswallt; sir Ddinbych, Dwyrain, Mr T. Jones Gorllewin, Mr Williams, Llanrwst Bwr- deisdrefi, Parch J. Charles, Dinbych sir Ffiint, Parch D. Oliver, Treffynon Bwrdeisdrefi, Mr P. M Williams, Rhyl. Cadarnhawyd y rhestr gan y gynadledd. a phenodwyd Mr B. G. Evans yn gyn- uilvdd.— Treuliwyd y gweddiil o'r dydd i bregethu a gwrando, a gweinyddwyd g\n y rhai canlynol Parchn 0. L. Roberts, Pwllheli; D. S. Jones, Chwilog T. Dennis Jones, Carmel; Dr Roberts, Gwreesam T. Evans, Amlwch; Dr Herber Evans W. J. Nicholson, Porthmadog Dr Cyn- onfardd F-d wards; R. Roberts, iyaneeinion, J. Charles, Dinbych D. Stanley Jones, Caernarfon D Oliver. Treffynon H. Ivor Jones, Porthmadog; a H. P. Thomas. Birkenhead. Yr oedd cyrddau'r Undeb yn neillduol o lwyddianus eleni, ac nid yn ami y caed cynulliadau mor luos)g. YSTADEGAU. CYFLWYNWYD yr ystadegau a ganlvn i gynadledd yr Undeb Cyrmlleidfaol gan y Parch T. G. Jenkyn, Llwynpia Rhif yr eglwysi, 1,037 cymunwyr, 135,777 aelodau Ysgol Sul, 146,690 gwrandawvr a phlant, 134,525; cyfanrif v cynulleidfaoedd, 269,300; eisteddleoedd i. 412,908 vsgoldai ac vs- tafelloedd cenadol, 172; tai gwei ddoiÔon. 469 capelau newyddion adeiladwyd yn ystod y flwydd- YD. 13 vsgoldai newydd, 10; capelau eangwvd ac a ail adeiladwyd, 6 rhif gweinidogion a eofal eg- lwvsi ganddynt, 590; heb ofal eglwysi, 45 casgl. iadau eglwysig am y flwyddyn, 106.880p at gen. adaethau tramor, 7,969p at y colegau, 2,522p talwvd dyledion capelau, 19,631p; cyfanswm y casgliadau, 137.752p gwerth meddianau'r cyfun- deb, 1 ,.315,035p; dyledion eto ar y capelau, 155,085p.

-0--Trychineb ar y Ddyfrdwy…

Ffestiniog.

Ein Canedl yn Manoeinion.I

-v-Nodion o'r Rhos.

Llanfrothen.

Advertising