Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
---:o: - - PWLPUDAU CYMREIG,…
:o: PWLPUDAU CYMREIG, Gorphenaf 26. LERPWL. Y METHODISTIAII) C AXFINAIDD Prince's rd—Am 10, W Jones, am 6, J Williams (gweinMog) David street-Am 10..J Williams, am 6, W Jones. <> Fitzdarence st-Am 10 G Ellis, M. A., am 6. H Jones, D.D. Netherfield road-Am 10, II Jones, am 6, G- Ellis Chatham street-A in 10 a 6. J E Hughes, Caernarfon. Crosshall street-Am 10 a 6, W Thomas, Maesteg. Antield road-Am 10 a 6, W Felinheli. Newsham park-Am 10 a 6, D Boskins, Ffestiniog. Bootle-Am 10 a 6, T Gray. Birkenhead-&m 10.30 a 6, W 0 Jones, B.A. Seacombe-Am 10.15 a 6, L Lewis, Garston-Am 10 a 6, <"> Owens. Rock Ferry-Am 10 30 a 6, 0 J Owen. Walton park-Am 10 a 6, G P Hughes, Nefyn. Waterloo-Am 10 a 6, H Ellis, Maentwrog. "uyton Quarry-Am 10 30 a 6 T Jones. Peel road-Am 10 a 6. G Hughes, Penygroes. Holt road-Am 10.30 a 6, J Hughes, M.A Webster road-Am 10 a 6, Josiah Thomas. New Brighton-Am 10 a 6. E J Edwards. West Kirby-Am 11 a 6.30, R C Owen. Yates street-Am 6 15, J Evans. Market street Birkenhead—Am 6, J Evans, Lerpwl. Brassey street, Birkenhead -Am 6, W B Roberts. St. Helens-Am 10 a 6 R Roberts. Siloh Whiston-Am 10 30 a 6 J R Morris. YR ANNIBYNWYR. Tabernacl-Am 10-30, P Price, am 6 .J 0 Williams. Grove Bt-Am 10-30, J 0 Williams, am R. I) Adams. Park rd—Am 10-30, H P Thomas, am 6, Rhys J Huws, Bethel Great Mersey st—Am 10 30, D Adams, am 6, J E Jones, Warrington. KenRington-Am 10-30, R D Jones, am 6.15, Trinity rd Bootle -Am 10-30, am 6. R D Jones. Marsh lane-Am 10.30 a 6. D J Griffiths M.A., Aberhonddu. Clifton ra Birk.enhea'/■—Am 10, D M Jenkins, am 6, J Rich ards, Caerfyrddin. lqeacombe-Ara 10.30. H Parry, am 6, S Roberts. Vittoria st, Birkenhead- Am 10-30 a 6, 0 Pritchard, Llanelian BEDYDDWYR. Everton village-Am 10,11. 6, T Morsjan, Wyddgrug, Windsor street-Am 10-30 a 6, W Samuel. Edge lane-Am 2-30 a 6. 8 Davies, Manceinion. Cavel Seion Bousfield street- A m 10, a6, P Jone;, Brasenose road, Bootie-Am 10 a 6, 17nowsley Road. Bootlt?-Arn 10, a 6, L W Lewis. Womilands, Birkenhead-Am 10.30 a 6. J Davies. i
Advertising
DOSBARTH DEML GYMREIG TEMLWYR DA Swyddi Lancaster a Chaer. CYNELIR -EISTEDDFOD- yn HOPE HALL, HOPE STREET, LERPWL, Dydd Sadwrn, Rhagfyr 26, 1896 (Gwyl y Banc). Reirniaid y GerririorLleth-Mr. J. T. REES ac EOS OGWEN. Beirniaid y Farddoniaeth-ELFED a LLIFON. Ehyddiaeth Parchu .JOHN WILLIAMS, Princes Road; DAYID POWELL, DANIEL ROWLANDS MA a. Dr. JOHN ROBERTS, Caer. PRIF O-YST \I) f PlUAETH GORA WL.-I'r Cor o feibion (heb fod dan 35 na thros 50 mewn nifer) a gano oreu "Rhyfeleau y Myucori" (Or. Parry) Gwobr, ZPO. OR CYMY <G (heb fod dan 20 na thros 30 mewn nifer) a gano oreu Dyddiau dyn sydd fel glassvelltyn (Gwilym Grwent) o'r Ce ddor am lonawr, 1891. Gwobr, £5 5s. DARN 0 FARDDO VIAE H (400 o linellau]: "Dafyddyn ffoi rhap,, Absalom." Gwobr, Cadair Dderw gwerth* £ 5"6s. Am y Llawlyfr Dirwestol (Text Book] goreu at wasanaeth y Tenilau a'r Gobeithluoedd Cymreig, heb fed dros 40 tudal en rrgraptiedig, at faint Y Geninen. Gwobr, £10 10s. Am y Gadair Dderw Eisteddfodol oreu i fod yn eiddo y Pwyllgor. Gwobr, X5 5s. Gellir cwl rhestr gyflawn o'r Testynau gan LLEW WYNNE, Ysgrifenydd. 43, The Woodlands, Birkenhead.
Y WKSLEYAID
Y WKSLEYAID Myny&d Seion— 10 30, J Hughes, am 6, R Morgan. Clawjhton rd, Birkenhead-Am 10-30, R Morgan, am 6, J Hug-hes. Price St, t'}irlre<ihe<r,d—Ava 2 a 6, Brodyr o Birkenhead. Widfles-Am 10.30 a. 6, H Tudor. Qarston— Am 2 30, R Morgan, am 6, Brodyr o Mynydd Seion Earlestown— 10 30, J Williams, am 5.30, D G Jones. llermon -Am 10.30, D G Jones, am 5, W Williams. Oolborne—Am 2, D G Jones, am 5.30. J Williams. Seaemnhe-Am 2, J Hughes, am 6, W Evans. Rock t erry —Am 2.30, a 6. G Evans Wigan—Am 10.30 a 6, W Rowlands. Leigh -Am 10 30 a 6 0 0 Evans St Helen's-Am 10.30 a 6, 0 Hughes. Darwen-Am 3.15 a 6, J Evans. Tyldes'ey-Am 2, 0 C Evans, am 6. Cyfarfod Gweddi. YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Sant Dewi— CYF, PREGETHU.—Gweler hysbysiad. ant A saph-Ai-n 10.30 a 6.30, J Davies. Sant y athaniel— Am 10.30 a 8.30, O F Williams. Winifrea, Birkenhead-Am 10.45 a 6.30. R Edwards MAXCEINION. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Moss Side-Am lO-S^W Glynne. B.A., am 6, W James, B.A Pendleton-Am 10, E J Jones, M.A am 6, D T Jones. Heywood street—Am 10-30, D T Jones, am 6, E J Jones. fHither ArdwirJt— Am 10-30, W James, am 6. W Glynne.
Advertising
Wesleyaq Methodist Conference 1696. 'Mount Zion,' Princes Avenue, Liverpool, 0-, FRIDAY EVENING, JULY 24th, An ADDRE-S (under the auspices of the Welsh Philosophical Class) will be delivered at the above Chapel by Prof, G. G. FINDLAY, B.A., SUBJECT: "Basis of Morals." Chair to be taken at 7-30 by PROF. J. G. TASKER, Han-dsworth College, Birmingham. Admission Free. Public cordially invited. WESLEYAN METHODIST CONFERENCE. The South Wales and the Lancashire Welsh Missions. A PUBLIC MEETING In connection with the above Missions, will be held in HOPE HALL, HOPE STREET, on Saturday, July 25th, 1896. Addresses will be given by Rav. HUGH JONES (Chairman North Wales District). Rev. J. EVA.NS (Eglwysbach), (Chairman South Wales District). Mrs EVANS, Pontypridd. R*v. T. MANUEL, South Wales. Rev. G. T A.IJALUN NEWTON. London. Rev. DAVID OWEN JONES, Llanrhaiadr. Rev. OWEN HUGHES, Widnes. Rev. J. HUGHES (Glanystwyth), Liverpool. Chair to be taken at 6 p.m. by THOMAS LEWIS, Esq., J.P., Bangor. A Choir of 300 Voices will sing Selected Welsh Hymns. Conductor, Mr R. WILFRID JONES, R.A.M. Accompanists, Miss DAVIES & Mr C. OWEN. AIL-AGORIAD EGLWYS DEWI SANT BROWNLOW HILL, LERPWL. Mewn cysylltiad a'r uchod, cvnelir Gwasanaethau Neillduol Ddydd Gwener nesaf Nos Sadwrn a Sul 24aiu, 25ain, a'r 26ain cyfisol. DYDD GWE NE R, 24a.in, am 3 o'r gloch, pregethir gan Esgob RYLE, Lerpwl. Am 7.30 p.m., Parch ENOCH THOMAS. NOS SADWRN am 7.30, DYDD SUL am 10.30 a 6.30, Pregethir gan y Parch. THOMAS PRITCHARD, RHOS. Bydd Gwasanaeth Saesneg am 3 prydnawn Sul. Gwneir casgliadau tuag at gronfa adgyweirio yr Eglwys. AFON WEN, CAERWYS. FOR SALE,—FIVE FREEHOLD COTTAGES and a SHOP.—For particulars apply to MR, WM. PARRY, Jessamine House, Caerwys. ADDOLDY Y METHODISTIAID CALFINAIDD NEWSHAM PARK. YN EISIAU ddechreu Hydref, gwr a gwraig— cydmarol ieuaioc—i ofalu am a glanhau yr adrloldy, a'r adeiladau cysylltiedig. Cyflog C15 yn y flwyddyn, yn nghyda thy, nwy, a thanwydd. Y ceisiadau, yn cynwys pob manylion, i'w hanfon i mewn cyn, neu boreu Gwener, y 31ain o'r mis hwn. i C," Swyddfa y Oymro. SEACOMBE Welsh Congregational Churcq t À GRANDE I + BAZAAR Will be held in connection with the above Church IN OCTOBER, 1597. Particulars will be published later. GOREU ARF /[\ ARF DYSG. Chester Christmas EISTEDDFOD DECEMBER 26, 1896, '«* Grand Choral Contests. Musical Adjudicator: D. EMLYN EVANS, Esq. List of Subjects now ready, free by post on receipt of stamped postal wrapper. WILLIAM H. DAVIES, Secretary, 14, Bouverie Street, Chester. LIVERPOOL & N ORTH WALES, s. S. CO., LIMITED. DAILY SAILINGS From PRINCE'S LANDING STAGE (Sundays excepted and circumstances permitting). "ST. TUDNO, Leaves Leaves Liverpool 10.45 a.m. Menai Bridge 3.45 p.m. Llandudno 1.0 p.m. | Bangor 3.45 p.m. Beaumaris 2.0 p.m. Beaumaris 4.15 p.m. Bangor 2.20 p.m. I Llandudno 5.15 p.m. Arrives Arrives Menai Bridge. 2,30 p.m. Liverpool 7.30 p m, ST. ELVIES," FOUR TRIPS PER WEEK To AND FROI LIVERPOOL Every MONDAY, TUKSDA Y, FRIDAY and SATURDAY. Leaves Monday and Friday and Tuesday. Saturday. Menai Bridge 6.30 a.m 8 0 a.m. Bangor 6.30 a.m 8. 0 a.m. Beaumaris 7 0 a.m 8.30 a.m. Llandudno 8 0 a.m 9.30 a.m. Arrives Liverpool 10.15 a.m 11.45 a.m Leaves Mon., Tues, Fri. & Sat. Liverpool. 2.15 p.m. Handudno. 4.30 p.m. Beaumaris. 5.30 p.m. Bangor 5.50 p.m. Arrives Menai Bridge 6 0 p.m. Special reduced fares for parties if previously arranged at Agents or at Office. J For Fares and further particulars apply to- LIVERPOOL A VD NORTH WALES STEAMSHIP Co.,LTI) T, G. BREW. Sec., 20, WArER ST. LIVERPOOL. Telephone 636 6
Family Notices
GENEDIGAETHAU, PRIODASAU MARWOLAETHAU. lprtodaeau. JONES—HUGHES—Gorph. 14, trwy drwydded, yn nghapel Rehoboth, Treffynon, gan y Parch Lewis Ellis, Rhyl, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. J. E. Davies, gweinidog, Dr. John Owen Jones, Bod- owen, Treffynon, a Ellen E. Hughes, Greenfield House, Treffynon. OWENS—HUGHES—Gorph. 14, yn Hebron, Bryn- gwran, gan y Parch John Jones, yn mhresenoldeb y cofrestrydd (y Parch H. Jones, Bryndu), Owen Owens, St. Helens, a Maggie Hughes, Cae'r Brenin Bryngwran. flfcarwolaetbau. EDWARDS—Gorph. 16, yn y Children's Infirmary, yn 3 blwydd a 3 mis oed, William Henry, plentyn hynaf H. P. a G. A. Edwards, 313, Park Road, Dingle. GRIFFITH—Gorph. 17, vn Rheithordy Gaerwen, Mon, anwyl briod y Parch G. W. Griffith, rheithor y plwyf. Merch i'r diweddar Ap Vychan. MORRIS—Gorph. 18, yn 15, Lowwood Street, yn 67 oed, Mary Ann,gweddw y diweddar Robert Morris. PUGHGorph. 18, yn 48, Clarendon Road, Egremont yn 21 oed, Edward, mab y diweddar EphraimPugn. Printed and Published by ISAAC FOULKES, at his Printing Establishment, 8, Paradise,, Street in the Parish of Liverpool, in the County of Lan aster.
¡Newyddion Cymreig.
(Parhad 0 tudal. 5) Gras Duw. Gwahanol bartion ydynt yn sefyll ar wahanol safleoedd pell i gymeryd arsylliadau o ymddangosiad Tiagwyddol Gariad yn y cnawd Mae yr oil wedi llwyddo i dyriu darluniau ond weithiau fe ymddengys darluniau y naill barti fel yn gwrthddywedyd darluniau partion eraill, ac eto darluniau wedi catchio golwg ar yr un Gwrth- ddrych Dwyfol mewn ocbrau gwahanol ydynt i gyd. Ac os ydyw y gwahanol ddarluniau yn ddiffygiol ar eu penau eu hunain, trwy gymhorth yr oil, mae y byd wedi dod i ddeall Bethlehem a Chalfaria yn fwy perffaith heddyw nag y da.rfu iddo ericed o'r blaen. Fe siaredir llawer yn y dyddian hyn am ddych. welyd yn ol at Grist fel unig ffynonell gwybodaeth awdurdodedig am ystyr yr Efengyl sy'n dwyn ei enw. I Yu ol, heibio i'r duwinyddion a'r creodan glwysjg,' yw y waedd, at Grist ei hun fel y gwel- wyd Ef yn byw ei hanes allan yn mhentrefi a cli- nasoedd ei wlad.' Yn awr, beth bynag arall sy'n gynwysedig yn y waedd hon, mae'n hollol amlwg ei bod yn golygu symudiad mawr yn y aafbwynt i edrych ar y '-iwaredwr golyga fod yr edrychian arco yn cael ei newid o fod yn bynciol a duwmydd- ol i fod yn hanesiol a bywydol. Ac os mai dod a r byd i adaabod Crist yn well trwy adnabod am. gylchiadau ei fywyd Ef yn fwy c-wir yw'r amcan, nis gall na bvdd y symudiad yn un bendithiol iawn. Nid am fod y credoau a'r cyfundraethau duwinydd- ol i'w dirmygu ynddynt eu hunain na, msddyliau mwyaf a goreu'r canrifoedd sydd wedi bod yn ad- eiladu teml ogoneddus yr athrawiaeth Gristionogol. Er hyny nis geilir hawiio fod unrhyw un o'n cyfun- draethau, na'r oil gyda'u gilydd, yn ddim amgen nag yrngais fethiantus i osod allan ystyr cenadwri y Duw-Ddyf fyn Ilawn. Hanes yw'r Efengyl; ae mae'r datgu(Idiad gyfleir mewn hanes i'w astudio'n fwyaf llwyddianus trwy gyfrwng yr amgylchiadau y mae'r hanes wedi ei gorpholi ynddynt. Mae hyn yn fwy gwir, efallai, am Gristionogaeth nag un grefydd arall. Yr hanes mwyaf annghyfundrefnol, o safle ddynol, a geir yn mysg crefyddau yw hanes lesu Grist. Ymddengys fel pe byddai ei genadwri fawr, dosturiol Et wedi cymeryd ffurf bron yn hollol ar ddamwain dan gymhelliad yr amgylchiadau a 1 cylchynent, a bod If eiriaua'i weithredoedd yn cael eu tynu ohono bron yn gwbl fel y digwyddai pethau ar y pryd, heb un cynllun na bwnad rhagllaw. Rywbeth yn debyc yw hi yn natur. Mae r fieithiau, yr egwy oriont a'r galluoedd sy'n myned i Uurfio system fawr y cydfyd materol yma wedi eu gwasgar blith draphUh ar draws eu gilvdd trwy'r bydoedd heb unrhyw drefn na chynllun y gall meddwl meidrol ei gwmpasu yr un pryd, cynwysant ddeinyddiau cyfundrefnau Tirif y gwyddonwyr fel mae r naill ar ol v llall yn liwyddo i olrhain rhagor ohonynt allan. Yn yr un modd y mae ffeithiau ac egwyddorion iachawdwriaeth dragwyddol dynolryw wedi eu ewascar megys ar ddamwain ar hyd yr hanes rhy- fedd weithiwyd allan o Fethlebem i Fynydd yr Olewydd. Ond er nas gall dyn heddyw ganfod un system yn nghyflead y digwyddiadau ar eu penau eu hunain, cynwys Vr hanes yn ei gyfanrwydd ystor- fa ddigon goludog o egwyddorion i feddyliau mawr y dyfodol adei adu cyfundraethau duwinyddol ohonynt fydd yn eangach a godidocach na dim a welodd yr oesau hyd yn hyn Ee ffurfiodd yr henbregethwyr eu dirnadaeth am Grist i fesur helaeth ar wahan i r amgylchiadau cymdeithasol a roddasant ffurf i'w genadwri Ef, ond dull un-ochrog o edrych ar y mater ydyw hwnw. Byddai dynion yn arfer dweyd fod ystyr a phosiblrwydd llawn y dderwen yn y fesen pan yn disgyn yn anweledig ar y llawr, ond fe ddengys Bywydeg yn awr nad yw hyny yn cynwys y gwir i gyd. Mae rhywbeth o'r dderwen yn y sail sydd wrth ei gwraidd, a'r awyr sy'n cylchynu ei brigau, a'r goleuni sy'n tywallt ei sirioldeb arni, yn gystal ug yn yr hedyn bywydol sydd yn ei gwthio i fynu ac yn mlaen. Mae hi felly hefyd gyda chenadwri Ddwyfol, dosturiol, Gwaredwr dyn. Ac wrth i ni fvned yn ol heibio i'r dadleuon a r canritoedd i ymdaith gyda'r lesu ei Hunan o bentref i bentref yn ei wlad wrth ei glywed yn llefaru ei einau, a'i wel'd yn cyflawni ei weithredoedd o'r newydd, yn y goleuni ychwanegol ac, y;, mae dysgeidiaeth y ,n y golei ayddiau hyn yn ei daflu arnynt, rhyfedd fel y mae yr hanes yn enill dyddordeb, ac yn chwyddo allan i fawredd mwy yn ein golwg. Pan oedd y paentiwr anfarwol Raphael yn ddyn ieuanc, dywedir fod y syniad a feddai am ysbryd a phosiblrwydd ei gelfyddyd yn lied gyfyng a chre- bachlyd ond un diwrnod, a'r arlunydd ieuanc allan, daeth Michael Angelo-yr hwn oedd yn anterth ei enwogrwydd—1 w studio ef. Ar ol syllu o'i gwmpas yno, a gweled amlmelhad ofnus ac annigonol darlnn newydd oedd wedi ei ddechreu, y mae Angelo yn ymaflyd mewn darn o sxalc, ac yn tynu llinell eang, feiddgar, ar draws y cynfas, gan ysgrifenu y gair Amplius (Llawnach) ar ei waelod, ac yna yn ymadael heb ddweyd dim. Ond wedi i Raphael ddychwelyd a gweled y cynfas, deallodd uad oedd neb llai na Michael Angelo wedi bod yno yn rhoi gwers iddo ac mewn canlymad, newidioad ei arddull, ac ymddadblygodd 1 fod yr arlunydd llawnaf o fawredd a beiddgarwch dwyfol a welodd yr oesau erioed. Y mae Ysbryd lesu wedi bod yn gwneud rhyw- beth tebyg i hynyna gyda'r Pwlpud oristionogol. Syniadau annigonol, a chynlluniau ofnus sydd wedi bod gan ddynion gyda golwg ar Efengyl iachaw- dwriaeth y byd ond y mae Ysbryd holl-gyfoethog v Gwirionedd wedi bod yn ysgrifenu Amplius Llawnach! Eangach! dan eu darluniau yn mhob oes as fel y mae'r Lleferydd Dwyfol yn dod 1 gael ei adnabod yn well, mae yr arddull wedi myned yn fwy llydan a diofn o hyd. Ymddengys yn awr y bydd rhaid 1 bregethwr y ganrif newydd 7 Wirio perthynas ei genadwri as anhwylderau cymdeithas yn holl amrywiaeth y ffurfiau poenus sydd arnynt yn mbob gwlad. Dy- wedodd Arglwydd Rosebery ar agoriad y Senedd dymhor bresenol, fod y byd yn tyfu n v blvnyddoedd hyn. Wrth*gwrs, meddwl hyny ydyw ein bod ni yn d'od i wybod mwy am dano. Mae ei gyfandiroedd a'u poblogaeth, a u cwestiynau gwleidiadol, a'u bangenion cymdeithaaol yn dod i gael eu deall yn fwy llawn. Ond fel y mae y byd yn tyfu yn llai, y mae cenadaeth yr Eglwys at y byd yn tyfu yn fwy ac yn fwy aml ochrog. Gan mlvnedd yn ol, yr oedd un o r dynion duwiolaf a mwyaf goleuedig yn mhlith Ymneinduwyr Prydam yn gallu dweyd wrth William Carey, Pan fydd Duw yn ewyllysio dychwelyd y paganiaid, fe wna hyny heb eich help chwi na mmau. Ond y mae cenadaethau y ganrif wedi gwneud yn anmhosibl 1 unrhyw arweinydd Gristionogol siarad fel yna byth mwvf Efengyl i'r holl fyd sydd gan y pregethwr heddyw, ac i bob sefyllfa o wareiddiad yn yr holl fyd. I Deng mlynedd yn ol, yr oedd un o'r dynion mwyaf goludog ei feddyliau, ac un o'r pregethwyr perffeithiaf a welodd y Pwlpad Cymraeg yn yr haner can mlynedd diweddaf, yn ymson mewn cyfarfod gweinidogion yn Lerpwl rhag i neb ohonom ymyraeth dim a chwestiynau cym ieithasol yn ein pregethau ond prin y ceir neb yn ein plith a gymer y safle yna. yn awr. Cydnabydda bron bawb heddyw fod per thynas hanfodol rhwng Y meddwl yma, yr hwn oedd hefyd yn Nghrist Iesu,' a holl anhwylierau poenus cymdeithas yn mhob gwlad, a chydnabyddant hefyd ei fod yn perthyn l'r pregethwr gyrnhwyso y faddygihiaeth. Fel yna ni a ganfyddwn fod edrychiad y Pwlpud tuag at gymdeithas yn myned yn fwy pell ac yn fwy eang o hyd. Ond pa mor eaog bynag fyddo maes y genadwri, rhaid i'r pregethwr Cristionog 1 ofalu am sefyll 0 dan gysgod y meddwl yma wrth wynebu arno o hyd. Hawdd iawn ydyw cam- synied yn y fan yma. Mae amryw yn myned iiti i geisio gwella a dyrchafu y dyn yn unig trwy ber- ffeithio a meddyginiaethu cymdeithas yn gorphor aet' ol o'i gwmpas ef, ac nid gwella a dyrchafu y gorphoraeth trwy adnewyddu a gwella'r dyn ond Efengyl i ddyn sydd gan y g ir bregethwr, ac nid Efengyl i wlad neu gorph o bobl. Nid wyf yn amheu nad yw teyrngarwch i'r alwedigaeth nefol yn gosod angenrhaid aruo i siarad yn erbyn policy plaid, ac yn erbyn cyd- fwriadau cyfalaf, pAn y mae y cydfwriad, neu y policy heb amheuaeth yn sathru hawliau cyfiawn dosbarthiadau diamddiffyn dan ei draed Un o hynodion arnlwg gwaibh y Ceidwad ydyw, gwared yr angenog pan waeddo, o'r truan hefyd, a'r hwn ni byddo cytioithwywr iddo.' Ac yn sicr perth yna i'r pregethwyr sy'n sefyll dan ysbrydiaeth meddwl lesu heddyw i roddi llais i gwvnion unrhyw ddosbarth sydd yn analluog i amddifFyn ei gam ei hun ond y mae y pwlpud i fod yn deg yn gystal ag yn dosturiol, i lefaru yn erbyn annghyf- iawnder yn y bach yn gystal a gorthrwm yn y mawr, yn erbyn ffolinebau y werin yn gystal a thrahausder annuwiol yr uchafiaid. Mae y preg- ethwr i geisio edrych ar holl symudiadau y byd hwn yn ngoleuni egwyddorion byd sydd uwch o hyd ond nid hawdd ydyw gwneud hyny weithiau, a gall ymyriad anwybodus a difarn fod yn achlysur i fwy o ddrwg nag o dda lawer pryd. Fe ddywed yr arwyddion yn ddiamwys fod y byd yn cyflym nes1 tuag at rhyw gyfnewidiad rhyfedd yn mlierthynas y dosbarthiadau a'r gwledydd a'u gilydd. Mae y ddaear newydd yn dod, ond annelwig iawn ydyw ffurf y gym- deithas sydd i fod yn meddwl arweinwyr mwyaf llygadog y dyddiau hyn, ac aneglur iawn yw y weledigaeth eto o'r llwybr sy'n arwain yn fwyaf dyogel ati, a geilw hyny am i'r pregethwr fod yn ochelgar iawn wrth daflu ei hunan o Maid unrhyw rai o'r symudiadau newydd sy'n galw am ei help ond y mae un peth uwchlaw amheuaeth i'r credadyn-aralliaeth Calfaria yw y gallu sy'n dal y dyfodol yn ei law. Croes Mab Duw sydd wedi cvchwyc cymdeithas ar yrfa ei dyrchafiad, ac o dan gysgod ei dylanwad hi y pery cymdeithas i symud byth yn mlaen nes ymlonyddu mewn cyd gord brawdol a mwynhad perffaith o Dduw. Y mae hen air yn mysg y Germaniaid hyd lanau y Rhine fod yr Ymerawdwr Charlemagne yn codi o'i fedd bob gwanwyn i fendithio ei wlad. Efe oedd tad y gwelliantau slldd wedi gwneud yr ardaloedd hyny y lleoedd prydferthaf a ffrwythlonaf bron a geir yn Ewrop ac yn y gwanwyn, pan mae'r blod- au'n dechreu tori allan yn y gerddi a'r gwinllan- oedd, a'r ddaear yn llawn twf a bywyd yn mhob- man, mae'r trigolion yn dweyd wrth eu gilydd. 'Dymi'rhen ymerawdwr wedi dod eleni eto i wasgar bendith ar y wlad.' Rywbeth yn debyg i hyna yw hi gydag Ysbryd Testi a dyrchafiad cymdeithasol y byd. Pa welliant bynag sydd wedi bed ar amgylchiadau y trueiniaid mwyaf gorthrymedig, pa engreiphtiau bynag o gir- edigrwydd brawdol sydd wedi hynodi trafodaeth y cyfoethog a'r tlawd o'u gilvdd, aphalfcynaubynag o ffrwythlonrwydd cymdeithasol prydferth sydd yma, mae'r byd yn fwy dyledus i Galfaria am dan- ynt na dim na neb arall. Ac wrth syllu arnynt yn blodeuo ac ynsirioli yn fwy-fwy o'n cwmpas, pri- odol yw i ninau longyfarch ein gilydd, a dywedyd, Mae yr Hwn a hoeliwyd eto yn ein mvs: I Pan osodo Efe ei enaid yn aberth dros bechod, Efe a wêl ei bad; Efe a estyn ei ddyddiau.' Dyddiau sy'n byrhau yw ein dyddiau ni, ond dyddiau sy'n ymestyn, yn myned yn hirach gyda'r oesau, yw ei ddyddiau Ef. A gwaith mawr y pregethwr byth fydd cyfeirio llygaid y byd at Seren ddisglaer ei obaith, fel mae hi'n llewyrchu ar ben gwaedlyd y Gwr sy'n gwisgo'r goron ddrain. Y Haw fu dan yr hoelion sydd wedi llwyddo i agor seliau y Llvfr. Dyma Luniwr hanesiaeth Dyma Ddyn y dyfodoi Dyma Waredwr v byd Hyd oni ymgyfarfydd- om oil yn undeb ffydd a gwybodaeth Mab Duw, yn wr perffaith at fesur oedran cyflawnder Crist."