Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Cwreichion.Ii

News
Cite
Share

Cwreichion. If YN unol a'r hen air sy'n dweyd pan fo farw meistr caled 4 mai un gwaeth ddaw ar i ol,' fe gaf- wyd Tom wirion yn cryo yn ddwys ar farwolaeth ei feistr, a phan ofynodd y forwyn iddo 4 Pam 'rwyt ti'n crio, Tom?' Ofni. yr ydw i, Jane, er mor frwnt oedd y gaffar, mai'r diafol ddaw ar i ol o.' Nid mor wirion. IT Anfonodd merch ifanc at(olygyddes i ddweyd fod ei darpar-wr wedi cyfarfod a damwain, yn yr hon y collodd ei goes ac y gorfodwyd ef i wisgo coes bren, ac am y rheswm hwnw fod ei mam yn erbyn iddi ei briodi, er ei bod hi yn ei garu cymaint os nad mwy. Y cynghor roddodd yr olygyddes gall oedd priodwch ef ar bib cyfrif, a bydd eich cydymdeimlad cariadlawn tuag ato yn eich cyfadd- asu o gymaint a hyny yn fwy i fod yn wraig dda idrio.' Debyg iawn-beth allai y dyn fod y wagen wedi myn'd dros ei goes ? IT Rhyfedd iawn—nid yw treigliad amser yn helpu dim ar orthrymder y ffarmwr druan. Pa un bynag ai Rhyddfrydwr ai Ceidwadwr sydd wrth lyw llong fawr y Llywodraeth, steerage passenger ydyw yr amaethwr. Er i'r ffermwyr roddi eu cefn- ogaeth i'r Ceidwadwyr yn yr etholiad diweddaf, er eu gofid y maent yn gweled fod eu cyfeillion gau yn pasio oddeutu miliwn a haner o arian y Llyw- odraeth trwy eu Ilogellau tyllog hwy i bocedau y tirfeddianwyr Fel yn nyddiau Siou Llwyd, 'Does neb yn waeth eu cyflwr na'r ffermwr 'nawr yn wir.' ? Talu yn ol yn ei choin ei hun Fedra i ddim deud wrthoch chi, Jim, mor wirion oeddach chi'n edrych pan ddaru chi gynyg ychv hun i mi,' ebe gwraig leuanc nwyfus y dydd o'r blaen ar frecwest; pryd y cafodd yr atebiad brathog Yr ydych yn rhwym o fod yn lawn-yr oeddvvn i yn wirion mewn gwirionedd.' Cafodd Maria ddigon o destyn myfyr- dod trwy'r boreu. IT 'Sut ydech chi'u sponio y gair hwnw, A duw rhai yw eu bol," John Evans,' gofynai athraw difrifol yn y dosbarth. 4 Wei, mi ddyda'i chi—yr oedd mam Phil Owen wedi rhoi punt iddo i fyn'd i Gaer i brynu jeced, ac ar y ffordd, wrth fod Phil yn un par farus, mi dosiodd rhyngtho fo a fo'i hun prun ai'r cefn ai'r bol gawsai'r sofren a'r cefn nillodd. Yn ei ofid fe ddywedodd, Na diawst i, doedd hyna, ddim yn dos, ohenvydd yr oedd y gwynt VB erbyn try again," ac i fynu a. hi yr ail waith, pryd y disgynodd yn ffafr y bol, ac y croch- lefodd yntau, Yr oeddwn i'n meddwl mai'r bol bach cawsai hi tr wv fair play," "c aeth i'r dref i'w Ilynou Rhywbeth fel ene fydda i'n feddwl, sy'n engraipht pur dda i sponio'r peth,' ebe John Evans, yn ddifrifol. IT Un hynod hofif o amlygrwydd ydyw gwr y siop, fel y gelwir siopwr y pentre ac un diwrnod fe ddywedai cymydog wrtho yn nghyfarfod te yr Ysgol Pul, Mi weles ych enw chi mewn print ddoe, Mr Evans, pryd y gofynodd yntau yn llawen, fel pe buasai yn disgwyl i'r atebiad fod yn nglyn a rhyw orchest o'i eiddo, ond dropiodd ei wep yn annghyffredin pftn ddywedodd y cymydog Yn Lint of persons objected to ar ddrws yr Eglwys.' IT Peidiwch ag ofni gwthio eich ffordd yn mlaen yn y byd,' ebe'r person wrth fachgen y clochydd y dydd o'r blaen, 'oherwydd fe anwyd y dyn cyfoeth. ocaf yn y byd yma, pwy bynag ydyw hwnw, heb yr un ddime yn ei boced.' IT Mor ryfeddol o hurt ydyw llanciau'r wlad weithiau. Yr oedd gwas Ty'nyreithin wedi dyfod i'r Eglwys i briodi; a phan ofynodd y person, A fynwch chwi y ferch,hon,' &c., yn yffion o'i go ysgyrnygai Rolant Wel diaist—ynte i hyny y dois i yma.' IT Os darfu i chwi sylwi, pobl dduwiol ydyw pawb sydd wedi eu claddu yn y mynwentydd, ac nid rhyfedd i Fredi bach ofyn i'w dad pan yn darllen y beddfeiui, 4 Tada, yn mh'Ie mae'r holl bobl ddrwg yn cael eu claddu?' IT Wrth ymdrin ar y temptiad yn y dosbarth, gofynai yr athraw, 0 b'le, tybed, y gallai Satan ddangos yr holl fyd ?' pryd yr atebodd gwas Peny. gartb, 1 0 dop ffridil Maesanod.' 4 Sut wyt ti'n gwneud hyny alJan, Edwin ?' gofynai'r athraw dan wenu, pryd yr atebodd Edwin wed'yn Achos mi allwch weled o Rhyl i Gorwen, Clawddnewydd, a holl fynydd Hiraethog oddlyno a pheth arall, y mae ffynon y Coll yn ngwaelod y ffridd.' OYFARWYDD. o

Caerlleon.

--0----Ar Finion y Odyfrdwy.I

--0---Dyffryn Clwyd.

¡Newyddion Cymreig.

Advertising

[No title]