Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

Yn Nghwmni Natur a'i Phlant.

News
Cite
Share

Yn Nghwmni Natur a'i Phlant. Y GOG HEB EIN GADAEL. BETH all fod y mater eleni, tybed ? Nid Croesor- fab ydyw yr unig un sydd wedi clywed y gog ar ol diwedd Mehefin. Clywais heddyw ar dystiolaeth eicr ei bod yn canu yn y Cwm Bychan, yn agos i Lanbedr, Meirion, mor ddiweddar a'r 8fed o'r mis hwn. Mae eithriad i bob rheol, y mae'n debyg mai rhyw grwydriaid ydyw y rhai hyn, un ai wedi eu hanafu gan y cipar, efallai, neu oherwydd rhyw anhwyldeb yn methu dilyn eu rhywogaeth i wlad arall, ond y rheol ydyw ymadael cyn diwedd Mehefin. APEL AT GYMRY. Yn Wales am y mis yma, gwneir apel gan Mr Warde Fowler, at bawb sydd yn hoff o Natur a'i phlant,' am eu cydweithrediad er rhwystro y difa sydd ar adar gwylltion ein gwlad, yn enwedig felly y barcud a'r hebogiaid eraill, y cigfrain a'r piod, y rhai oherwydd gelyniaeth d, n, yn mheraon y cipar fynychaf, s/dd yn brysur ddiflanu o'r tir. Oherwydd eu bod yn myned yn brin, y maent yn dod yn wrthrychau sylw neillduol dosbarth arall ag sydd yn cynyddu yn ein gwlad, sef y casglydd wyau, a hyny nid o ran hoffder at, natur, ond er gwneud masnach ynddynt. Hyderaf na fydd ei apel yn ofer. Erbyn hyn y mae y gallu yn nwylaw y bobl, trwy gyfrwng y Cynghor Sir, i fabwysiadu y ddeddf er amddiffyn ,w yr adar gwylltion. Y mae amryw fanau yn Lloegr eisoes wedi symud yn y mater, ac y mae yn dda genyf fod un Cynghor Sir yn Nghymru wedi symud yn rhanol yn hyn o beth. Y flwyddyn nesaf bydd Rhanbarth y Bermo yn cel ei cbyhoeddi fel o dan y gyfraith er iiodcl" aclar gwylltion.' Sicrhawvd hyn trwy y Selborne Society, adran o ba un sydd wedi ei sylfaenu yn y Bermo er's tua thair blynedd bellach. Ae nid aclar ein gwlacl yn unig sydd yn cael sylw y gymdeithis weithgar hon; y mae yD gofalu am lanerchau prydferth y gymyd- ogaeth, na fydd iddynt gael eu anharddu, a sicrha hefyd hawliclou y bobl i'r llwybrau lleol. Yn ddi- weddar y maent wedi cymeryd gofal o'r Panorama Walks o dan ardreth oddiar law y Uynghor Dos- barth, a cbeir gwel'd gwell trefn yno o hyn allan. Ar adegau gwelir hysbysleni ar y muriau yn gwahodd cydweithrediad y cyhoedd yn y gwaith da, dyma esiampl i chwi o'r olaf ohonynt a ddaeth allan—gair bach o blaid y draenog, o waith Miss Frances Power Cobbe, aelod o Selborne Society y Bermo. GWAS Y GOG. PA BRYD I LADD Y DRAENOG ? "PAN y dymunech weled eich meusydd a'chgerddi wedi eu goresgyn gan lygod a thyrchod, yaa lledd- I weh y Draenog sydd yn eu difa. Pan y dymunech weled nadroedd yn cyuiwair hyd ddyntyn lluoead yna lleddwch y Draenog sy'n eu lladd, ac yn bwyta eu wyau 1 Pan y dymunech yn arbenig weled ilin- eu wyau 1 Pan y dymunech yn arbenig weled ilin- dys, pryfaid genwair, chwilod, a malwod yn cyn- yddu yn aruthrol, ac yn bwyta eich holl wyrdd- lysiau, yna lleddwch y Draenog sy'n ymborthi arnynt, a'r hwn yw prif bryfed fwytawr y wlad hon, a osodwyd gan Natur i gadw pethau yn wastad. Pan y byddwch yn ddigon o ful i gredu'r hen chwedl ynfyd (ar ben yr hon y chwarddwyd gan rn lynedd yn ol gan Pennant, yr hwn a edrychai arni fel engraipht o ofergoeledd Cym- reig) fod y creadur hwn—gyda'i safn fechan bryd- ferth nad yw yn ddigon mawr i faban allu rhoddi blaen ei fys bach ynddi—yn abl i sugno tethi mawrion gwartheg a thynu llaeth ohonynt, yna, ar bob cyfrif, ewch allan yn wrol, fel dynion a bechgyn dewr, wedi eich arfogi gyda ffyn a cheryg, yn erbyn y creadur bychau diniwed a def- nyddiol bwn, a dyrnwch, ciciwch, a mathrwch ef i farwolaeth. Bydd hyny mor gyfiawn a doeth ag ydyw o ddynol a thrugarog "Os digwyddwch, i'r gwrthwyneb.fod yn dymuno am i'r lluoedd drygionus o Lygod, Tyrchod, Nadr- oedd, Llindys, Pryfaid Genwair, Chwilod, a Mal- wod gael eu difa, ac os nad ydych yn llawn digon o ynfyttyn i gredu y chwedl wirion am y Draenog yn godro'r gwartheg (pan y gallwch weled gyda'ch llygaid eich hun fod yn anmhosibl iddo wneud dim o'r fath—yna erfyniwn PEIDIWCH LLADD Y DRAENOG "A ddarfu i chwi erioed sylwi fod pobl nad ydynt yn godro yn briodol, a'r rhai hyny sy'n lladrata'r llaeth, yn bur hoff o siarad am y Draenog, gan ddweyd y rhaid ei bod wedi sugno y gwartheg y noson cynt. Y GOG HEB YMADAEL. SYR,—Yr oedd y gog yn canu ar ochr mtnydd y Cnicht, Croesor, Llanfrothen, mor ddiweddar a boreu Gwener, Gorphenaf y lOfed, pan oedd y gweithwyr yn myned at eu gwaith yn y boreu i chwarelau y Rhosydd a Chroesor. Hefyd clywais un o weithwyr y Rhosydd yn dweyd iddo ef ei chlywed yn canu yn beraidd ar y mynydd gerllaw y barracks pan oedd yn codi tua haner awr wedi pump yr un boreu. Mae yn wybyddus iddi ganu bob dydd o'r boreu a nodwyd gan Croesorfab, hyd Gorph 10 beth bynag. Gorph. 11. BACHGEN O'R WLAD.

[No title]

Nodion o'r Sdinas

|o jFfestiniog.

--0--Cwasanaeth Cymraeg yn…

[No title]

Cwyddoniaeth.

-:0:--FFOLINEB MAWR.