Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Y Ddraenog.
Y Ddraenog. MEWN colofn arall, cyfeiria awdwr y llith ar Natur a'i Phlant at anerchiad Miss Cobbe ar ran y creadur difalch ac ysgymunedig hwn. Yr oedd gan ein hynafiaid ryw ragfarn anes- boniadwy yn ei erbyn, a chyhuddid ef o drosedd- au nad oedd modd i'r creadur gwirion eu cyf- lawni. Gelwid dynion anhydrin a blinion yn ddraenogod o ddynion, dysgid own mileinig i'w ladd, a gwelais yn ddiweddar mewn ben lyfr eu bod yn talu dwy geiniog yr un am ei ddyfetha mor ddiweddar a dau can' mlynedd yn ol. Hwyracb nad yw i fynu a'r caritor uchel a roddir iddo gan Miss Cobbe, megys lladd nadroedd a llygod ond y mae'a gwbl sicr na fedr ef ddim sugno gwarbheg, nad yw yn arfer brathu byd yn nod pan ymosodir arno, ac nad yw ei frath yn wenwynig. Ei gastell ydyw ei groen pigog a all saethu rhyw fath o drydan i'w bigau sydd yn rhedeg fel ergyd gwefr trwy holl gorph y sawl a bigir. Rai blynydaau yn ol, cefais ddraenog o Gymru i ddal y chwilod duon oedd yn beigio cegin fy mhreswyl. Ni ddeuai'r creadur bychan yswil byth bron i'r amlwg, llechai mewn congl anhysbys nes bydd- ai'r ystafell yn gwbl wag. Erbyn y bore, yr oedd y Uefrith adewsid iddo mewn cwpan ar yr aelwyd wedi diflanu, a dyna'r unig dystiolaeth oedd genym am fisoedd ei fod yn fyw. Mae lie i gaaglu fod ymrysonfa wedi cymeryd lie rbyngddo a'r gath ar ffiniau y llefrith, ac iddi gael ei thrydanu gan ei bigau, yr byn a barai iddi ffoi rhagddo o byny allan fel pe buasai'r gwr drwg ei hun. Mi a glywais un gwr doeth yn dweyd y gall cath ddal llawer profedigaeth yn ddigryn, ond y mae hithau'n tynu'r llinell hefo pigau draenog. Mae'n werth cadw'r rhywogaeth hwn o fochyn yn fyw, pe ond i roi ofn a dycbryn ar gathau. Pa fodd bynag, yr ysbryd drwg, a dim arall, sy'n rhoi yn ngbalonau creuloniaid anwar i ladd creadur idor ddiniwed ag yw'r ddraenog.
Y Gwres a Gweision Reilttyrdd.
Y Gwres a Gweision Reilttyrdd. Nis gellir gweled yn y gwres mawr yma ddyn- ion hawddach cydymaeimlo a hwy ua gweision reilffyrdd. Rhaid iddynt wisgo yr un dillad yn ngwres y cyhydedd ganol Gorphenaf, ag yn Ionawr pan fyddo'r hin-fesurydd Yil gwegian islaw zero. Tybed nad allai cwmniau cyfoetbog a moethus Prydain efelychu yr un dyngarwch at eu gweiuidogion ag a wna perchenogion reil- ffyrdd y Cyfandir at eu gweision hwy ? Y mae'r ,olaf yn darpar gwisg o lian ysgafn at yr haf i'w dynion. Mae gan bob anifail ac aderyn wisg dewach yn y gauaf nag yn yr haf a chyn y gellir dweyd fod y Mil Blynyddoedd wedi gwawrio, fe wneir darpariaeth go debyg ar gyfer yr haner caethion sydd yn hel arian i logellau gwyr mawr reilftyrdd Prydain.
Lleol.
Lleol. Y GYNADLEDD WESLEYAII)D.-Dymunem alw sylw at y cyfarfod mawr a gynelir yn Hope Hall am chwech o'r gloch nos Sadwrn nesaf er budd y Forward Move- ment Cymraeg. Gweler Hysbysiad. GWELIK mewn colofn arall fod Eglwys Dewi Sant yn cael ei hail agor, ac y bydd g-wasanaeth neillduol ynddi ddydd Gwener, nos Sadwrn, a'r Sul nesaf. Diau y bydd cynulliadau lluosog yn gwrando'r doniau dyeithr. GOLRORNE.-Nos Sadwrn a'r Sabboth, cynaliodd yr eglwys Annibynol ei chyfarfod blynyddol. Gwas- anaethwyd gan y Parch O. M. Jenkms, B.D., Llan- gefni, a Mr Thomas Hughes (B.), Lerpwl. Cafwyd cyfarfod rhagorol. YN arholiadau Coleg Cerddorol Llundain am vgradd- au o" Associate and Licentiate," gynaliwyd y.mis hwn yn y Philharmonic Hall, Lerpwl, llwyddodd Miss Lizzie Owen, 98, Oakland Street, Widnes, i basio'n anrhydeddus trwy ei medr i chwareu'r ber- doneg, a bydd ga nddi bellach hawl i'r radd o Asso- ciate A.L.C.M." o——
Amaethyddol,
Amaethyddol, Dechreu ar y Cynhauaf. —Ddydd Llun, Gorph. 20fed, yr oeddynt yn dechreu tori cae o geirch rhwng Fflint a Connab's Quay. Ai dyma'r cyntaf yn Ngogledd Cymru ? Cwynir yn dost oblegyd y sychder maith. Mae cnwd y maes a'r ardd yn dihoeni ac yn gwywo o eisiau gwlaw, y ffrydiau wedi svchu a. ffynonau na fuont yn hespion er's blynyddau wedi pallu.
---0--Marchnadoedd.
0 Marchnadoedd. YD Lerpwl, Gorphenaf 21. Gwenith-Chili, 25s; Walla Walla, 24s lOJc River Plate, 23s Califfornaidd, 25s. lndrawn- River Plate, 12s 10ic mathau eraill heb newid. Blawd yn dawel ffa yn ddifywyd; ceirch yn gadarn, a blawd ceirch yn farwaidd. Xilundain, Gorph 21. Gwemth—Walla Walla, 24s 9c Chili, 25s 3c aliffornaidd, 26s La Plata, 23s 6c. Indrawn— antfbe, 14s lojc Odessa, 15s 9c La Plata, 13s .6c. Ilaidcl-Azoff, 13s 6c; Danube, 12s 6c. Ceirch I*.Kwsiaidd, 10s 6c i 12s 6c; Americanaidd, 12s 6c. a Saidi, 21s 3c Smyrna, 2ls 6c. ANIFEILIAID. Salford, Gorph. 21. 1 *i:, oig oe,'•80 Biff r„ • oi Birmingham, Gorph.. 21. «C v n'w^,1 ™5 ?1<?llfcg'g' 5c i Uc' ciS oen» 74° 1 7s q o oc^ tacwn, 7s 3c i 7s 6c perchyll, i 8s 3c hychod, 4s 6c i 4s 9c y scor.
[No title]
Y Parch D. M. JENKINS, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymreig. YR wythnos hon cynelir cyrdslau blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymreig yn Mhenybont-ar-ogwy. Y llywydd eleni yw y Parch D M. Jenkins, gweinidog eglwys Park Road, Lerpwl. Diau nad annyddorol fydd y bywgraphiad byr a ganlyn o'n cyd-ddinesydd hybarch. Ni raid dweyd wrth neb sydd yn gyfarwydd a Mr Jenkins ei fod yn Annibynwr oddiar argyhoedd- iadau personol cryfion. Mae hefyd yn Annibynwr o waed. Cawn ei dadcu, o du ei dad, yr heu Hopkin Siencyn, yn ddiacon a blaenor y g^n yn Etenezer, Pontypwl, yn nyddiau yr hyawdl Ed- mwnd Jones, rhwng 1795 a 1829. Symudodd ef gydag eraill o gymydogaeth Castellnedd ddechreu y ganrif hon i Blaenafon, ar gychwyniad y gwaith yno. Felly hana teulu Mr Jenkins o du ei dad, o'r wlad hono, a'i fam.oedd yn enedigol o ardal New Inn, Mynwy. Miles oedd ei henw morwynig hi, ac yr oedd yn disgyn o linach Ymneilldnol yr hen Miles, Olchon, yr hwn sydd yn cael ei ystyried yn sylfaenydd Cyfundeb y Bedyddwyr Caeth- gymunol yn Nghymru- Dechreuodd ei dad breg- ethu pan yn llencyn ieuanc, yr un amser ar di- weddar Barch Herbert Daniel, Cefncrib-yn Eben- ezer, Pontypwl. Ymfudodd ef a bron yr oil o'r teulu yn y flwyddyn 1870 i'r America, ac am y gweddill o'i oes bu yn weinidog ar yr eglwys yn Jermyn, Pennsylvania. Ytnunodd Mr Jenkins a chrefydd pin yn 14eg oed. Cafodd ei dderbyn yn Salem, Trelyn, gan y Parch E. C. Jenkins, gweinidog yr eglwys. Yn y flwyddyn 1856, cymhellwyd ef gan y gweinidog a'r eglwys i arfer ei ddawn yn gyhoeddus jar hyn y cydsyniodd. Yr oedd yn rhaid ymdrechu wedi hyny i gael addysg ar gyfer y weinidogaetb. Nid oedd wedi cael fawr o ddim manteision. Y ewbl mae yn gofio iddo gael oedd ychydig fisoedd mewn ysgol hen ffasiwn gedwid gan Mr Jenkins y gwein- idog yn yr hen gapel—He y dysgodd ddarllen ac vsgrifenu Aeth yn nechreu 1857 i Gastellnewydd Emlynivsgoly Parch John Davies, Llwynrhyd- owen. Yr oedd y Parch W. Emlyn Jones Tre- forris, yno yn llanc ieuanc ar y pryd. Dywed iddo gael lies o gyfeiriad arall tra yn aros yn Nghastell- newydd, sef yr ysbrydiaeth a dderbymodd oddi- wrth vtnddiddanion a gweinidogaeth athrylithgar y diweddar Barch J. Williams, yr hwn oedd yn anterth ei boblogrwydd ar y pryd. Yn Mawrth, 1858, aeth i Goleg v Bala. Yr adeg hono aeth y dysgedig loan Pedr, F.G.S., i fod yn gynorthwywr i'r Parch M. D. Jones, enillodd yn fuan ddylanwad mawr ar v myfyrwyr, ac yr oedd yn ffafryn yn eu mysg. Yr oedd Mr Jenkins, fel eraill, yn edmygydd mawr o Mr Peters, a buont ar delerau tra chyfeillgar hyd oni wahanwyd hwy gan n yi QfQll Yn nechreu y flwyddyn 1861, derbyniodd alwad oddiwrth eglwys Aberhosan, sir Drefaldwyn, a'r hon y cydsyniodd, a chynaliwyd cyfarfodydd ei urddiad yno Mehefin 6ed a'r 7fed. Yn nhymhor ei weinidogaeth yno codwvd ty newydd i'r gweinidog, a ffurfiwyd Eglwys yn Dylife fel canghen o Aberhosan. Llafuriodd Mr Jenkins yma gyda llwyddimt hyd ddiwedd Medi, 1866, pin y symudodd i gymeryd gofal yr eglwys yn Heol Milford, Drefnewy d. Bu yno yn ddedwvdd am yn agos i bum' mlynedd. Yn Tachwedd, 1870, symudodd i Penmienmawr, Yn ngwanwyn 1874 daeth galwad arno i wasanaethu i'r eglwys Saesaeg yn Libanus, Treforis. yr hon a sefydlwyd ddechreu y flwyddyn hono, wedi i'r fam eglwys fyned allan i'w theml newydd orwych y Tabernacl. Hoffwyd ef yn pregethu fel y penderfynwyd yn unfrydol i roddi galwad iddo. Cydsyniodd yntau, a dechreu- odd ar ei weinidogaeth y Sabboth olaf o Fai y flwyddyn hono. Ar ol llafurio yma gyda graddau helaeth o Iwyddiant symudodd yn Hydref, 1876, i Park Road, Lerpwl, i fod yn olynydd i'r gweinidog gofalus a'r pregethwr galluog Parch I Noah Stephens, ac yma y mae yn parhau i lafurio gyda chymeradwyaeth. Y mae ugain mlynedd oddiar pan aeth i Park Road, ac y mae y rhai hyn wedi profi yn flynyddoedd deheulaw y Goruchaf iddo ef a'i bobl. Anhawsderau fu rhan yr eglwys oddiar pan yr ymunodd yr ychydig frodyr i gym- eryd y lloffc yn Watkinson Street, ac yn ei symud- iadau i Greenland Street a Bedford Street, nes iddi godi capel prydferth Park Road, yr hwn sydd wedi ei adeiladu yn y Gothic style. Costiodd y capsl a'r tir sydd dano chwe' mil a haner o bunau. Yr oedd dros dair mil o'r ddyled hono yn aros ar ddyfodiad Mr Jenkins i'r ll". Er ei fod yn wan a llesg ei iechyd ar y prvd adferwyd ef yn fuan, ac ymdafiodd i'w waith o ddifrif,*ac ni bu ei lafur yn ofer. Y mae rhif yr aelodau erbyn hyn dros 400, ac y mae yr eglwys yn Hawn bywyd, gweitbgar- wch, a haelioni. Y mae wedi gwneud gwasanaeth mawr i'r enwad, wedi pregethu llawer yn y gwyliau blynyddol, ac wedi areithio llawer mewn cvfarfodydd dirwestol, a etholiadau seneddol, a'r bvrddau ysgol, &c. Bu yn un o ysgrifenyddion Undeb yr Annibynwyr Cymreig yn 1873 a 1874. Areithiodd ar Ogwydd- iadau Pabyddol vr Oes yn y cyfarfoda gynaliwyd yn Llanelli yn 1884, a bu yn siarad ar bwnc Duwin- yddiaeth yn Undeb Bethesda yn 1889. Yn mis Medi 1894, yn nalyn a'r gymanfa flynyddol, cyflwynwyd tysteb o £ 250 yn nghydag anerchiad i Mr Jenkins. Mae Mr Jenkins yn briod ag unig chwaer y diweddar J. Griffiths (' Y Gohebydd''), a nith i S. R." a J. R." Y mae dau o'i feibion wedi graddio yn B.A. yn Mhrifysgol Llundain, sef ei fab hynaf, Parch S. R. Jenkins, gweinidog yr eglwys Saesneg yn Bangor, a'i ail fab, Mr W. Griffith Jenkins, yr hwn sydd yn y Coleg yn Bangor.
--_----------_-------------_.-----------Undeb…
Undeb Annibynwyr Cyfhru. CYNALIWYD eisteddiad cyntaf yr Undeb nchod, sydd yn cynal ei gyrddau blynyddol yn Mbeny- bont ar Ogwy, ddydd Llun. Daeth tua 450 o gynrychiolwyr yn nghyd. Y llywydd eleni yw'r Parch D. M. Jenkins, Lerpwl; a'r swyddogion ydynt Ysgrifenydd hynaf, Parch Towyn Jones ysgrifenyddion cynorthwyol, Parchn Ivor Jones, Porthmadog, a John Williams, Hafod; ystadegydd, Parch T. G. Jenkyns, Llwvnpia ysgrifenydd arianol, Parch D. A. Griffith trysorydd, Mr Thomas Williams, Merthyr cadeirydd y pwyllgor gweithiol, Mr W. J. Parry, Bethesda. Eisteddodd amryw bwyllgorau ddydd Llun i ystyried eu hadrodd- fiadau a gyflwynir i'r gynadledd. Yn yr hwyr, cynaliwyd cwrdd dirwestol yn nghapel y Taber- nad Mr R. Roberts, Criecieth, yn y gadair. Traddodwyd anerchiadau gan y Parch D.Evans, Tilanbedr ar Dirwest fel atalfa ar ddrygioni yr oes y Parch D. G. Rees, Eglwys Wen, ar Hanes y Mudiad Dirwestol o'i gvchwyniad yn Lerpwl yn 1835 a'r Parch W. Jones, ar Ddirwest a Gwleidyddiaeth." DYDD MAWRTH. Dechreuwyd heddyw trwy gynal odfeuon mewn amryw addoldai. Treuliwyd y gynadledd gyntaf i drafod cynllun y Forward Movement a mabwysiadwyd yr adroddiad, ac addawyd 3 OOOp o'r 20,000p angenrheidiol i gychwyn y mudiad. Yn y prydnawn, dewiswyd Lerpwl fel man cynaliad cyrddau'r Undeb am y flwydd- yn nesaf. Ail etholwyd y trysorydd a r ysgrif- enydd arianol. Etholwyd y Parch R. S. Wil- liams, Dowlais (diweddar o Fethesda) yn llyw- ydd am y flwyddyn, a'r Parch J. S. Jones, Aberdar, yn ysgrifenydd. Pasiwyd pender- fyniadau yn gwrthdystio yn erbyn creulonderau Armenia yn argymhell fod egwyddorion Anni- byniaeth yn cael eu dwyn fwy i'r amlwg o blaid sefydlu Cynghrair Ymneillduo] Cymreig; yn datgan llawenydd fod Mesur Addysg wedi ei dynn'n ol ac yn galw sylw at dueddiadau de- fodol Eglwys Loegr. Penodwyd y rhai canlynol i gyfarfod y cyn- rychiolwyr nodwyd gan Gymanfa Gyffredinol y Methodistiaid yn Lerpwl :—Parchn Dr. Herber Evans, Dr. Lewis Probert, J. Jones, Machyn- lleth R. Thomas, Glandwr J. Miles, Aber- ystwytb, a Towyn Jones. Amcan y penodiad hwn yw ceisio ffurfio cynllun er dwyn yr enwad- au i fwy o undeb a chydweithrediad. Yn yr hwyr, pregethwyd yn Gymraeg gan y Parchn Lewis Jones, Ty'nycoed, a R. Roberts, Rhos ac yn Saesneg gan y Parch Owen Tho- mas, M.A., Dalton. ANERCHIAD LLYWYDD YR UNDEB. Traddodwyd yr anerchiad a ganlyn gan y I Parch D. M. Jenkins, Lerpwl, llywydd yr Undeb, fore Mercher, i gynulleidfa fawr Y PREGETHWR YN NGOLEUNI AMGYLOHIAPAU NEWYDDION EIN CENEDL. Anwyl Frodyr,—Amcanaf gymervd mantais ar y safle uchel y mae eich caredigrwydd chwi wedi fy ngosod ynddi heddyw i ddweyd rhywbeth all fod o fudd yn ngwyneb amgylchiadau y blynyddoedd yr ydym yn gwynebu arnynt. Nid yw sefyllfa fy iechyd wedi caniatau i mi ollwng fy hunan i unrhyw gwrs o feddwl gyda'r angerddold 1b y buaswn yn ei ddymuno, ac nid oes genyf yn awr yr yni gofynol i draddodi fy sylwadau i'r fantais oreu. Ond cofiaf mai yn mysg brodyr yr wyf yn sefyll, a gwn mai nid ofer i mi daflu fy hunan ar eich eydymdeimlad chwi. Mae y deng mlynedd ar hugain diweddaf, mewn rhyw ystyr, wedi bod yn bwysicach i'n gwlad fechan ni na rhai canrifoedd; canys yn y cyfnod yna y mae hadau cyfnewidiad wedi eu planu ac wedi dechreu tyfu yn ein plith a wnant Gymru Fydd yn Gymru wahanol iawn i'r hon a adnabyddid yn mlynyddoedd yr hen bobl; a cheisio eich dwyn i sefyll yn ngwyneb y galluoedd mawrion a dyeithr yna, sydd yn dal y dyfodol yn eu dylanwad, y byddaf fi yn yr anerchiad hwn. Mae y byd crefyddol yn llawn cyffro a symti-li irl yn mhob cyfeiriad, ac addlwa blvnvddoedd cy^.ttf y ganrif newydd sydd wrth y drws esgor ar gyf- newidiadau mwy yn ein gwlad fechan ni nag mewn odid un wlad arall yn y byd Protastmaidd. Y mae mur gw%haniaeth yr iaith, a. gadwai Gymtll hyd yn ddiweddar fel gardd gauedig rhag aflonydd- wch meddyliol a chymdeithaipl cenedloedd eraill, yn cyflym ddod i lawr, ac y mae gwyntoedd y syn- iadau a'r symudiadau estronol yn rhydd i guro arnom o bob cyfeiriad. vVedi oediad poenus o hir, y mae dyheuadau y genedl am gyfleusderau dysg o'r diwedd wedi eu hateb yn Hawn. Mae y goron addurnedig; bellach wedi ei gosod ar ben un o'r cyfundrefnau addysgol perffeithiaf a geir yn mysg unrhyw genedl ac o hyn allan gall meibion llafur yn Nghymru wneud eu ffordd i fynu i ben lleoedd amlwg dysgeidiaeth mor hawdd neu yn haws nag y gallant mewn unrhyw wlad dan yr haul. Y canlyniad o hyn ydyw fod athrawon ac athraw- esau graddedig eisoes yn britho'r siroedd yn nglyn a'r Ysgolion Canolraddol, ac yn y dyfodol agos bydd masnachwyr a pheirianwyr graddedig yn yr holl ardaloedd poblog a gweithfaol, a bydd am- aethwyr wedi myned drwy gwrs o addysg wydd- onol yn amaethu yn ein dyffrynoedd ac ar ein bryniau. Wrth gwrs, bydd pob un o'r rhai hyn yn ganolbwynt dylanwad meddyliol grymus yn ei gymydogaeth. Ac os yw y pregethwr i gadw y safle y mae wedi ei chael yn ein cenedl ni hyd yn hyn, bydd yn rhaid iddo yntau hefyd fod yn fyw i'r gwybodau mwyaf diweddar sydd yn gweithredu ar gymdeithas o'i amgylch. Pan yn dweyd hyn, nid wyf yn golygu y bydd galwad am i gwestiynau gwyddonol ac uwch-feirn- ladol gael lie mwy amlwg yn mhwlpud Cymru yn y dyfodol nag y maent wedi ei gael yn nyddiau y pregethwyr nerthol sydd heddyw ar y maes. Gwaith yn galw am ddawn a chvmhwysderau eithriadol ydyw ymornestu a gwyddonwyr ac uwch-feirniaid; ac nid wyf yn tybio y gellir ei wneud i fantais gan neb. ond yn anaml iaWD, mewn cynulleidfa gymysg o bobl gyffredin. Ysbryd ac agwedd meddwl ddaw a'r Pwlpud i'r cyffyiddiad mwyaf manteisiol a chwestiynau dyrys yr oes, a daw y bobl i wybod yn hawdd beth ydyw safiad dyn tuag at Athroniaeth, a Gwyddon, a Beirniad- aeth, heb iddo enwi Mill, a Darwin, a Spencer, a Cheyne, ond yn anaml yn ei bregethau. Er hyny, mae y gwir bregethwr yn sicr o gadw sefyllfa meddwl ei bobl yn fyw iawn o flaen ei lygaid wrth lunio ei genadwri atynt. Ond yn sicr ni wna Y shryd D-vyfol y Gwirionedd osod premium ar anwybodaeth unrhyw blaid. Os bydd pethau eraill yn gyfartal, gallwn fod yn gwbl dawel mai yr enwad a'r pwlpud mwyaf diwylliedig a llawa o gydymdeimlad a bywyd newydd cymdeithas fydd y mwyaf hirhoedlog a Ilwyddianus yn Nghymru Fydd. Dywedir weithiau mai dynion heb gael eu dy- fetha gan yr athrofeydd ydoedd yr hen bregeth- wyr ardderchog a lwyddasant i efengyleiddio Cymru yn y dyddiau gynt, ac mai dynion felly yw y rhai mwyaf cymhwys eto at angenion gwerin sydd yn gnrfod ymladd yn galed am eu hymborth beunyddiol. Ond os ydyw hyny yn golygu mai dynion anwybodus ydoedd brenin-bregethwyr Cymru, nis gall dim fod yn fwy camarweioioL Er na chawsant lawer o fanteision boreuol, llwyddas- anfc i WllünJ eu huuaia yn brif arweinyddion yn mhoh peth dyrchafol ac enillasant feistrolaeth Iwyrach at gwestiynau eu dydd nag odid neb arall oedd yn byw yn eu hardaloedd. Ac os llwydda pregethwyr y dyfodol i gadw eu hunain gymaint ar V blaen i gorph v genedl ag a wnaeth yr hen bre- gethwyr, ni bydd achos pryderu llawer am y dy- fodol. Ond gallwn fod yn berffaith sicr na wna Ysbryd Dwyfol y Gwirionedd osod premium, ar an- wybodaeth unrhyw blaid. A dylai y rhai a wnant ddefnydd o Iwyddiant hen bregethwyr diaddurn y gorphenol i annghefnogi diwylliant yn mysg pre- gethwyr ieuainc y dyddiau hyn, gofio beth gostiodd y safle a enillodd vr hen bregethwyr mewn anhun- edd a llafur, a gofid meddyliol iddynt. Llwyddas- ant i enill buddugoliaeth ardderchog yn eu dydd ond enillasant hi ar waethaf anfanteision ag yr oeddynt hwy eu hunain yn galaru o'u herwydd hyd eu bedd. Yr oedd syniadau dyeithr a Duwinyddiaeth Newydd yn aflonyddu ar fywyd y genedl yn nyddiau yr hen bobl fel yn ein dyddiau ni, a Iluniodd y rhai ohon- ynt oedd yn Ysgrifenyddion wedi eu dysgu i Deyrnas Nefoedd eu gweinidogaeth gyda goiwg arni. Ond y mae Duwinyddiaeth Newydd eu hamser hwy wedi myned yn Hen Dduwinyddiaeth ein hamser ni. Byddai mor anmhosibl deft roi y dyddordeb angerddol a deimlid pan yr oedd rhai ohonom ni yn blant, yn y ddadl am gysondeb ethol- edigaeth ddiamodol a galwad gyffredinol yr Efengyl yn Nghymru heddyw ag a fyddai cyffroi meddwl Ewrop ar ddadl am symudiadau y ddaear a'r haul, fel y gwnaed yn nyddiau Galileo a'r Chwil-lys Rhufeinig. Gwynebai yr hen bregethwyr ar drefn yr Efengy 1 o ochr gyferbyniol i'r hon lie y saif y rhan fwyaf i edrych arni yn awr. Yn ngoleuni arfaethau Duw fel Penllywydd Goruchel yr edrychent hwy ar bob peth eu gweinidogaeth. Ond y mae Eneideg (Psychology) yn wyddor bwysig yn mysg meddyl- wyr heddyw. Cwestiwn mawr gan dduwinvddion diweddar ydyw, Beth ddywed hanesyddiaeth am deimladau a gogwyddiadau cynhenid dynoliaeth ? Ac edrychant ar y cwbl yn ngoleuni Tadolaeth a charedigrwydd anfeidrol Duw. Ac nid teg na doeth fyddai gwadu nad oes i Dduwinyddiaeth y naill gyfnod fel y llall ei lie a'i gwasanaeth yn nadblygiad cyjiawn y gwirionedd. Mae yr am- gylchiadau newyddion yr arweinia Duw gym- deithas drwyddynt, yn galw allan agweddion newyddion i'r gras sydd yn Nghrist ar ei chyfer. ac nis gellir hawlio fod yr ochr i wirionedd ag y mae amgylchiadau un oes yn ei dwyn i amlyg- rwydd yn rhoddi golwg gyflawn a therfynol ar drefn yr Efengyl, mwy na'r ochr a ddygir i ani- lygrwydd mewn pes arall. Pan oedd diffyg cyflawn ar yr haul y tro diwedd- af, fe aeth nifer o brif wyddonwyr y gwledvdd i syllu ar yr amgylchiad mewn gwahanol safleoedd. pell oddiwrth eu gilydd ar gyfandir mawr America. Yr oedd rhai yn y Gogledd a rhai yn y De, rhai ar dueddau Mor y Werydd, a rhai ar dueddau y Mor Tawelog. Fe Iwyddodd pob parti i dynu nifer o wawl-luniau ardderchog o'r amgylch- iad ond y maent oil yn wahanol. Yr un haul, a'r un amgylchiad yn hanes yr haul a bortreadir gan bob parti, ond y mae y darluniau gymerwyd mewn un safle yn ymddangos fel yn annghyson a. darluniau a gymerwyd mewn safleoedd ereill ae eto trwy gymhorth yr oil y mae gwyddonwyr wedi symud cam pwysig yn mlaen yn eu hadnabyddiaeth o garitor brenin y dydd. Rhywbeth yn debyg ydyw hi gyda'r gwabanot .Ysgolion Duwinyddol sydd yn &studio Efengyl (Parhad ar tudal 8)
Bywyd Adar Gwylltion-
dweyd, yn iaith un o gerddi Twm o'r Nant, l "yr hwsmou (lyf tl rtid mewn gofal gynal rhai u igyd." Mae holl adar y wlad yn hel i'w feus- ydd yd y dyddian hyn, ac yn codi toll drom. Ar y dalar, oddeutu'r cae, wiw iddo ddisgwyl dim ond twysenau gweigion ac yn ol Deddf yr Adar Gwylltion, ni wiw iddo chwaith gosbi'r un o'r lladron difrodgar. Pe dyt'ethent hwy y ffarmwr, ni fyddai cosS yn y byd yn eu haros, ond pe dyfethai ef nn ohonynt hwy fyddai bychan gan rai pobl ei grogi.